Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r data yn cyflwyno gwybodaeth am nifer y cyfleoedd swyddi a grëwyd ac a lenwyd, a gwybodaeth reoli arall o gynllun Twf Swyddi Cymru ar gyfer Medi 2015 i 10 Medi 2018.

Mae Twf Swyddi Cymru yn rhaglen a gynlluniwyd i gael pobl di-waith 16-24 oed sy'n byw yng Nghymru i gyflogaeth am chwe mis mewn swydd sy'n talu o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Dechreuodd y cynllun Twf Swyddi Cymru cyntaf ym mis Ebrill 2012 a daeth i ben ym mis Ebrill 2015. Dechreuodd yr ail gynllun ym Medi 2015.

O ganlyniad i ganfyddiadau'r gwerthusiad cychwynnol Twf Swyddi Cymru 1, mae nifer o newidiadau wedi eu gwneud i'r rhaglen i atgyfnerthu'r meysydd hynny a oedd fwyaf effeithiol a chael gwared ar unrhyw feysydd nad oedd yn perfformio mor dda. Er bod y rhaglen ganlyniadol Twf Swyddi Cymru 2 yn llai na'r rhaglen wreiddiol, mae targedu cefnogaeth yn anelu at fod yn fwy effeithiol i helpu pobl ifanc i ddychwelyd i'r gwaith.

Nid yw’r tablau data a gyflwynwyd ar gyfer y cynllun cyntaf wedi newid ers mis Rhagfyr 2015.

Twf Swyddi Cymru 2

Cyhoeddwyd y rhaglen Twf Swyddi Cymru 2 ar 13 Mai 2015. Cafodd y swyddi cyntaf eu hysbysebu yng nghanol mis Mehefin 2015 a dechreuodd gyflwyno ym Medi 2015.

Pwyntiau allweddol ers i gynllun 2 ddechrau tan 10 Medi 2018:

  • crëwyd a chymeradwywyd(1) 6,427 o gyfleoedd swyddi
  • llenwyd 3,536 o gyfleoedd swyddi
  • derbyniwyd 46,626 o geisiadau tra oedd 16,273 o ymgeiswyr.

Data am y cyrchfannau

  • 2,189 o gyfranogwyr wedi cyflawni cyfle chwe mis, ac o'r rhain roedd 1,895 mewn cyflogaeth, hunangyflogaeth, prentisiaeth neu ddysgu pellach.
  • 376 o gyfranogwyr wedi gadael y cynllun yn gynnar, ac o'r rhain roedd 158 mewn cyflogaeth, hunangyflogaeth, prentisiaeth neu ddysgu pellach.

Twf Swyddi Cymru 1

Daeth y cynllun Twf Swyddi Cymru cyntaf i ben ym mis Ebrill 2015.

Pwyntiau allweddol ar gyfer y cynllun 1 yn unig, ers iddo ddechrau tan 10 Medi 2016

O ddiwedd Ebrill 2015:

  • roedd nifer y cyfleoedd swyddi a grëwyd ac a gymeradwywyd(2) yn 17,195
  • roedd nifer y cyfleodd swyddi a lenwyd yn 14,989
  • cyfanswm nifer y ceisiadau a ddaeth i law oedd 268,467, a nifer yr ymgeiswyr oedd 48,916.

Mae'r data am y cyrchfannau(3) yn dangos ers dechrau’r cynllun tan fis Medi’r 10fed (4) bod:

  • 12,113 o gyfranogwyr wedi cwblhau cyfle 6 mis
  • 3,537 o gyfranogwyr wedi gadael y cynllun yn gynnar. 

Nodiadau

(1) Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd am waith a gafodd eu creu a'u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Bydd y ffigur hwn yn cynnwys cyfleoedd am waith sydd wedi'u tynnu'n ôl cyn i ymgeisydd gael ei recriwtio.

(2) Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd am waith a gafodd eu creu a'u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Bydd y ffigur hwn yn cynnwys cyfleoedd am waith sydd wedi'u tynnu'n ôl cyn i ymgeisydd gael ei recriwtio. Hwn yw'r mesur y caiff y 16,000 o gyfleoedd dros 4 blynedd eu cymharu ag ef, a'r mesur yr adroddir arno yn y Rhaglen Lywodraethu.

(3) Mae hwn yn cynnwys swyddi a ailgylchwyd. Er enghraifft gallai un cyfle am swydd gynnwys rhywun sydd wedi gadael yn gynnar a rhywun sydd wedi cwblhau cyfle o 6 mis.  Mae'r data am y cyrchfannau yn seiliedig ar y gyrchfan yn syth ar ôl cwblhau cyfle am waith neu ar ôl gadael y cynllun yn gynnar.

(4) Oherwydd bod rhai'n gadael yn gynnar a bod rhai cyfleoedd wedi'u tynnu'n ôl, mae'n anodd cymharu cyfleoedd am swyddi, swyddi a grëwyd a chyfranogwyr. Er enghraifft, lle mae rhywun yn gadael cyfle am waith, gellir rhoi'r cyfle hwnnw i rywun arall - mae hyn yn rhywbeth sy'n digwydd fel rheol pan fydd y person yn gadael y cyfle a roddwyd iddo o fewn y 4 wythnos gyntaf.

Tablau Twf Swyddi Cymru 1

Mae Tabl 1 yn dangos dadansoddiad o’r gwahanol feysydd. Mae Tablau 2 a 3 yn y daenlen yn dangos data manwl am gyrchfannau ar gyfer y maes sector preifat. Mae'n bwysig cofio bod y ffigurau am yr ymadawyr cynnar yn cynnwys pob un sydd wedi gadael ers i'r rhaglen ddechrau, ond bydd y ffigurau gorffenedig ond yn cynnwys y rhai sydd wedi cwblhau cyfle o 6 mis (hynny yw mae'r rhai sydd eisoes yn cymryd rhan mewn cyfle 6 mis wedi'u heithrio). Felly, ni ddylid cymharu'r ddau ffigur hyn (hynny yw crynhoi'r ffigurau i gael canran cwblhau). Dylai cymariaethau gael eu gwneud mewn perthynas â'r cyfleoedd swyddi a lenwyd (gan ystyried troednodyn (3) uchod). Mae Tablau 4 i 7 yn dangos data manwl am gyrchfannau ar gyfer y meysydd trydydd sector a graddedig, tra bod Tabl 8 yn dangos data fesul awdurdod lleol.

Ansawdd

Daw'r data a ddefnyddir yn y datganiad hwn o'r System Gwybodaeth Reoli a gaiff ei chynnal gan Lywodraeth Cymru, ac mae'n cael ei lunio o ddarparwyr Twf Swyddi Cymru a Gyrfa Cymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Tablau - Twf Swyddi Cymru 1 - hyd at Dachwedd 2015 , Saesneg yn unig, math o ffeil: XLS, maint ffeil: 117 KB

XLS
Saesneg yn unig
117 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 9016

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.