Neidio i'r prif gynnwy

Wrth ymweld â'r cwmni, mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wedi dweud bod buddsoddiad Llywodraeth Cymru wedi helpu DMM Engineering o Lanberis i dyfu ac wedi rhoi hwb i'r economi leol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Sefydlwyd DMM Engineering ym 1981 i weithgynhyrchu cynhyrchion diogelwch ar gyfer gweithgareddau mynydda a diwydiannol, ac ar yr adeg honno roedd 4 o bobl yn gweithio iddo. Ers hynny, mae'r cwmni wedi tyfu gan bwyll ac mae bellach yn cyflogi dros 190 o bobl. Mae ganddo drosiant o dros £12.5 miliwn ac allforion yw mwy na 60% o werthiannau'r cwmni. 

Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet â DMM ddoe i ddathlu bod y buddsoddiad wedi arwain at gyfleuster peiriannu CNC o'r radd flaenaf sy'n rhan allweddol o gynyddu a gwella ei allu i weithgynhyrchu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi galluogi DMM i fuddsoddi dros £2.5 miliwn mewn safle ac adeiladau yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf ac i gynyddu nifer ei weithwyr o 150 i 195.

Dywedodd Richard Rust, Prif Weithredwr DMM:

"Hyd yn oed yn y cyfnod ansicr hwn, rydym yn parhau fel Grŵp i fuddsoddi mewn ehangu capasiti a gallu ein ffatri. Mae'r cymorth gwych a gawsom gan y Llywodraeth wedi ein galluogi i sicrhau mwy na 25% o gynnydd yn ein trosiant ac yn bwysicach oll, i gynyddu lefelau a sgiliau ein gweithlu."

Mae DMM yn parhau i dyfu a bob blwyddyn mae canran y nwyddau sy'n cael eu gweithgynhyrchu yn ei ffatri yn Llanberis yn cynyddu. Ddeng mlynedd yn ôl, roedd y cwmni yn allforio tua 50% o'i werthiannau i 41 o wledydd. Heddiw, mae'n gwerthu i 55 o wledydd.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:

"Mae DMM Engineering yn stori lwyddiant go iawn ac rwyf wrth fy modd bod cymorth Llywodraeth Cymru wedi helpu'r cwmni i dyfu, i gyfrannu'n sylweddol at yr economi leol ac i barhau i gyrraedd marchnadoedd ledled y byd.

"Mae ein Cynllun Gweithredu newydd ar yr Economi yn sicrhau y byddwn yn helpu cwmnïau gweithgynhyrchu uchel eu gwerth, fel DMM, sy'n ymrwymedig i ddatblygu, i sicrhau gwaith teg ac i wella sgiliau eu gweithlu. Mae'n cynnig pecyn cymorth syml, cytûn a chystadleuol i gwmnïau sy'n ymrwymo i'n contract economaidd er mwyn iddynt fod yn barod i oresgyn heriau'r dyfodol.

"Rhan allweddol o'r cynllun yw'r dull o ddatblygu economïau rhanbarthol fel y Gogledd-orllewin i sicrhau bod ffyniant i'w weld yn fwy cyfartal ledled Cymru.

"Rwy'n llongyfarch DMM ar ei lwyddiant hyd yma ac yn dymuno'n dda iddo barhau i ffynnu yn y dyfodol."