Araith gan Jerermy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Cyfarfu Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg â phenaethiaid ar 17 Chwefror i ail-ymweld â phwysigrwydd y cwricwlwm newydd, disgrifio cymorth ymarferol ar y gweill, ac ymuno â thrafodaeth gydag Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant, Estyn.
Prynhawn da.
Diolch am ymuno â’r sesiwn hon y prynhawn ‘ma. Rwy’n gwybod nad yw dod o hyd i amser i fod mewn digwyddiad fel hwn, waeth pa mor bwysig, bob amser yn hawdd. Ond gadewch i mi ddechrau y prynhawn ‘ma drwy gydnabod yr arweinyddiaeth yr ydych i gyd wedi’i dangos wrth ymateb i’r pandemig dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae eich cyfraniad wedi bod – ac mae’n dal i fod – yn gwbl hanfodol o ran cadw ein dysgwyr yn dysgu ac wrth gefnogi eu lles, ac wrth gwrs, cefnogi lles eich cymuned ysgol gyfan, yn athrawon a chynorthwywyr a’r gweithlu ehangach. Rydych wedi gorfod llywio, o dan bwysau, ystod newydd o ofynion a heriau newydd.
Ac mae’n amlwg bod y sefyllfa’n parhau i fod yn heriol. Rhwng y mesurau parhaus i amddiffyn dysgwyr a staff, yn ogystal ag effaith gronnol y ddwy flynedd ddiwethaf, rych chi’n arweinwyr mewn system sy’n dal i fod dan straen, er ein bod ni i gyd yn cydnabod ein bod ni am geisio adfer rhywbeth sy’n agosáu at fwy o normalrwydd cyn gynted ag y gallwn. Mae eich ymroddiad yn yr amgylchiadau hynny yn ysbrydoledig, ac ar ran plant a phobl Cymru, hoffwn ddiolch i chi.
Safonau Uchel a dyheadau uchelgeisiol i bawb
Dw i’n ymwybodol, gan fy mod i wedi dechrau ar fy rôl yn ystod y pandemig, nad ydw i wedi cael cyfle naturiol i rannu â chi sut dw i’n gweld ein rhaglen ddiwygio. Wrth wneud penderfyniadau pwysig, dw i wedi ceisio eu gosod yn eu cyd-destun, ond heddiw, er fy mod i am ganolbwyntio ar y camau ymarferol sydd o’n blaenau a sut y gallwn ni eich helpu, dw i am rannu rhywfaint o ‘ngweledigaeth gyda chi, yn fyr iawn.
Fel llawer ohonoch rwy'n dychmygu, newidiodd addysg fy mywyd. Roeddwn i wrth fy modd yn yr ysgol, roedd gen i athrawon ysbrydoledig, gallwn eu henwi nhw nawr, a'm hanogodd i ddarllen yn eang yn y Gymraeg ac yn Saesneg, i ehangu fy ngorwelion, a'm heriodd, a'm helpodd i ddeall sut y gwnaeth fy nghymuned, fy ngwlad, ei hanes, ei diwylliant, ei hiaith, siapio fy myd, a pha ran yr oedd yn rhaid i mi ei chwarae ynddi. A anogodd fy nyheadau, ac a feithrinodd yr hyder ynof i oresgyn y rhwystrau a allai fod o'n blaenau. Deuthum o gefndir dosbarth gweithiol eithaf cyffredin a ges i, mewn sawl ffordd, y math o addysg yr ydym i gyd am ei chael ar gyfer ein pobl ifanc, a dyna sydd wedi fy ysgogi - ac mewn gwirionedd wedi fy ngalluogi - i fod yn aelod o'r senedd heddiw.
A gwn y gall ein Cwricwlwm i Gymru newydd gyflawni hynny ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Dw i am weld system addysg, sy’n cynnig safonau uchel i bawb ac sy’n meithrin dyheadau uchelgeisiol. Rydyn ni i gyd yn hynod ymwybodol bod amgylchiadau economaidd dysgwyr unigol yn chwarae rhan rhy fawr yn eu profiad o’r ysgol, eu hamcanion nhw, a’r hyn y maen nhw’n ei gyflawni. Ac rydyn ni’n sicr yn ymwybodol o effaith y ddwy flynedd ddiwethaf ar ein dysgwyr o ran y bwlch gwahaniaeth, yn hyn o beth, rhwng unigolion a’i gilydd.
Rydyn ni’n gwybod hefyd, er bod rhai o’r atebion yn ein dwylo ni ym myd addysg, bod gwreiddyn y broblem y tu allan i fywyd ysgol.
Fel llywodraeth, rydyn ni wedi ceisio cefnogi ein dysgwyr mwyaf difreintiedig drwy brydau ysgol am ddim, y grant datblygu disgyblion, y grant datblygu disgyblion – mynediad, ehangu cyfleoedd digidol mewn ysgolion, yn ogystal â ffocws clir ar gyrraedd y disgyblion hynny allai fod angen mwy o gefnogaeth wrth gynllunio mentrau fel seren, taith; a gwarant pobl ifanc.
Fel llywodraeth, felly, rydyn ni’n dangos yn glir ein hymrwymiad cadarn fel gwlad i godi lefel uchelgais ein holl ddysgwyr a’u cefnogi. Ond mae angen inni wneud mwy na lliniaru problemau yn unig.
Dros y misoedd i ddod, fe fydda’ i’n cyflwyno cyfres o fentrau pellach i wella’r cydbwysedd o fewn addysg, i fynd i’r afael ag effeithiau anfantais economaidd-gymdeithasol yn ein hysgolion - gan sicrhau ffocws di-ildio ar godi lefel uchelgais a chyrhaeddiad ein holl ddysgwyr. Gan ei wneud yn rhan gliriach o raglen cenhadaeth ein cenedl.
Rydyn ni’n gwybod mai un o’r prif ffactorau sy’n gallu gwneud gwahaniaeth o ran dyheadau plant sy’n wynebu rhwystrau mwy nag eraill yw addysgu o ansawdd, athrawon sy’n gwrando arnyn nhw wrth siarad am eu profiadau, ac sy’n gweithio gyda nhw i godi lefel eu huchelgais a’u dyheadau.
Ac mae hyn yn dod â ni’n ôl at bwrpas y digwyddiad yma heddiw. Potensial y cwricwlwm newydd i drawsnewid sefyllfa ein holl bobl ifanc - achos, yn y bôn, ei ffocws yw beth rydyn ni fel gwlad eisiau ei weld ar gyfer ein dysgwyr, beth maen nhw eisiau ei weld ar eu cyfer nhw eu hunain, a beth y gallwn ni fel system ei wneud i gael gwared ar y rhwystrau sy’n eu hwynebu.
A’r ffyrdd newydd o weithio gyda’n dysgwyr y mae’r cwricwlwm newydd yn eu cynnig, sydd wedi’u teilwra’n fwy i’w hanghenion, sy’n meithrin y dychymyg, y chwilfrydedd a’r gallu i gysylltu ag i gwestiynu. Dw i’n meddwl bod hwn yn adnodd pwysig i sicrhau safonau uchel i bawb a meithrin dyheadau uchelgeisiol.
Pam Cwricwlwm newydd?
Dw i eisiau diolch ichi am eich ymrwymiad parhaus i ddiwygio’r cwricwlwm. Os ydw i wedi dysgu unrhyw beth o brofiad y ddwy flynedd ddiwethaf, dyma fe – eich bod chi, arweinwyr ac athrawon y wlad yma, yn deall beth sydd ei angen ar ein dysgwyr i gyflawni eu potensial.
Wrth inni ymbaratoi ar gyfer y newid sydd ar droed ar gyfer y genhedlaeth yma, ac wrth inni edrych ar y misoedd sydd o’n blaenau, dw i’n siŵr ein bod ni i gyd wedi cyrraedd pwyntiau gwahanol ar y daith. Dw i’n gwybod bod rhai ohonoch chi yn methu aros i gael bwrw iddi nawr, ond efallai bod eraill yn edrych ar fis medi ac yn meddwl, “dw i ddim wir yn teimlo mor barod ag yr hoffwn i fod; dw i’n ei chael yn anodd cael amser i wneud popeth, ac mae llawer ar fy mhlât yn barod”. Ac mae yna bobl ar bob pwynt rhwng y ddau begwn yna.
Ar ôl y ddwy flynedd sydd wedi mynd heibio – mae hynny’n gwbl naturiol. Ond fy neges i ichi i gyd heddiw yw hyn: dyw hi ddim yn rhy hwyr; ac yn bwysicaf oll, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Dw i ddim yn diystyru’r her yma, ond dw i ddim chwaith yn diystyru eich gallu chi i wneud i’r peth weithio. A’r hyn dw i am siarad amdano y prynhawn ‘ma yw sut rydyn ni am wneud hyn.
1) Gwneud y gwahaniaeth ar gyfer pob dysgwr (Pam mae hyn yn bwysig?)
Yn gyntaf, dw i am inni ddod yn ôl, dro ar ôl tro, at yr egwyddorion allweddol sy’n gwneud y cwricwlwm yma yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth. Yn greiddiol i hynny mae pedwar diben y cwricwlwm wrth gwrs.
Mae’r dibenion hynny yn ganolog i’ch grymuso chi fel gweithwyr proffesiynol ac i roi’r hyblygrwydd ichi wneud yr hyn sydd orau dros eich dysgwyr. A gadewch inni atgoffa ein hunain pam mae’r dibenion hyn a’r cwricwlwm mor bwysig:
Yn gyntaf maent yn cefnogi dyhead ac uchelgais
Rydych chi i gyd yn gwybod mor bwysig yw codi lefel uchelgais, mae’n gwbl ganolog i ‘ngweledigaeth i o ran mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, a gosod safonau uchel i bawb. Mae’n rhaid i hwn fod yn Gwricwlwm sy’n berthnasol ac yn gweithio i bob un o’n dysgwyr yn ddieithriad, gan eu cefnogi i feithrin dyheadau uchelgeisiol ar gyfer eu haddysg a’u gyrfa i’r dyfodol. Mae’r Cwricwlwm newydd yn gyfle gwych i’w cefnogi i gyflawni hyn.
Yn ail mae'n ymwneud â her a chefnogaeth, rydyn ni eisiau codi’r safon ar gyfer dysgwyr: gyda chwricwlwm sydd mor drwyadl a heriol â phosibl. Drwy ganolbwyntio ar yr hyn sydd wir yn bwysig wrth ddysgu, pam mae’n bwysig, a beth mae cynnydd yn ei olygu, fe godwn safonau yng Nghymru. Mae hyn yn sylfaenol: mae’n rhaid inni herio pob dysgwr lle maen nhw’n gryf, a’u cefnogi lle mae angen eu datblygu.
Yn drydydd, mae’n ymwneud â hunanhyder a lles. Dim ond pan fydd dysgwyr a staff yn hapus a hyderus, a phan fydd ysgogiad iddyn nhw addysgu a dysgu, y gallan nhw gyflawni i’r eithaf. Mae ein pobl ifanc wedi wynebu heriau enfawr, does dim angen dweud hynny wrthoch chi, a bydd effeithiau hyn gyda ni am gryn amser. Eisoes mae’r gofynion y mae cymdeithas wedi’u rhoi arnyn nhw yn fwy heriol o ran eu lles na’r hyn oedd yn fy wynebu i yn yr ysgol. Mae creu cyd-destun i fynd i’r afael â hynny yn elfen hanfodol o’r cwricwlwm newydd.
Yn bedwerydd, mae’n ymwneud â sgiliau i wneud y mwyaf o fywyd. Rydyn ni’n gwybod bod dysgu gydol oes yn rhan annatod o economi fodern a llwyddiannus, ac mae angen paratoi dysgwyr nawr at y newid hwnnw a’r patrwm o ddysgu parhaus. Mae angen inni roi’r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr i ffynnu, meddwl yn feirniadol, datrys problemau a chymhwysedd digidol – dyma rai o’r sgiliau y mae’n rhaid iddyn nhw eu dysgu.
Yn bumed, mae am brofiad dysgu sy’n gweithio i bob unigolyn, rydyn ni i gyd yn gwybod bod yna bobl ifanc sydd, am ba reswm bynnag, wedi ymddieithrio o addysg. Rydyn ni eisiau cwricwlwm sy’n bodloni anghenion pob dysgwr unigol: sy’n teimlo’n berthnasol i’r disgybl sy’n ei chael hi’n anodd ymgysylltu, sy’n cydnabod eu cynnydd a’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau sydd eu hangen arnyn nhw.
Wrth gwrs, mae hyn yn ganolog i’r hyblygrwydd a’r cyfleoedd y mae cwricwlwm i Gymru yn eu cynnig: gan ofalu bod pob ysgol yn perchnogi eu cwricwlwm, o fewn cyd-destun cenedlaethol sy’n sicrhau cysondeb ledled y wlad. Cynnal dyheadau uchelgeisiol, herio, edrych i’r dyfodol a chanolbwyntio ar y dysgwr unigol: dyna beth rydyn ni eisiau ei weld. A dyna addewid cwricwlwm i Gymru.
2) Ymrwymiad Llywodraeth Cymru i chi
Ond dim ond drwy gydweithio i wneud i hyn ddigwydd y gallwn ni gyflawni’r addewid yna. Felly dw i am danlinellu ein hymrwymiad ni fel llywodraeth i’ch cefnogi chi i wneud hyn yn llwyddiant. P’un a ydych chi’n teimlo’n hollol barod, neu’n teimlo bod angen llawer mwy o gefnogaeth, fe fyddwn ni yno i’ch helpu.
Mae hynny’n golygu: yn gyntaf, rhoi’r adnoddau iawn ichi wneud y gwaith; yn ail, gwneud yn siŵr bod y system yn gweithio gyda chi; ac yn olaf, hyrwyddo’r ysbryd o gydweithredu sydd ei angen arnon ni i helpu’n gilydd ar hyd y daith.
Felly...rhoi’r adnoddau ichi wneud y gwaith
Yn gyntaf, dw i’n gwneud fy ngorau glas i ofalu bod gyda chi’r gefnogaeth sydd ei hangen i wneud i hyn ddigwydd. Dw i wedi bod yn siarad yn rheolaidd â phrifathrawon ers dechrau yn fy swydd, a gwn mai un o’r prif feysydd sy’n achos pryder yw cynnydd ac asesu.
Mae’r drefn newydd yn newid diwylliannol sylweddol i’r ffordd y mae pethau wedi bod yn cael eu gwneud yn y gorffennol. Rydyn ni’n gwybod bod yn rhaid i asesu fod yn seiliedig ar gynnydd: gan fod yn glir ynghylch beth mae angen ei ddysgu, pam a sut mae cynnydd dysgwyr yn penderfynu, sut y dylai hynny gael ei asesu. Ond, yn allweddol, nid dechrau o’r dechrau ydyn ni fan hyn. Ydyn, rydyn ni’n tynnu elfennau o’r trefniadau presennol i ffwrdd, elfennau rydyn ni’n gwybod nad ydyn nhw’n helpu dysgwyr i wneud cynnydd – er enghraifft, asesiadau diwedd cyfnod – ond rydyn ni am adeiladu ar arferion dosbarth effeithiol sydd eisoes ar waith – yn enwedig dulliau o gefnogi lles a chynnydd dw i wedi’u gweld drwy gydol y pandemig.
I’ch helpu chi, felly, fe fydda’ i hefyd yn trefnu bod cefnogaeth genedlaethol ar gael o ran datblygu cynnydd ac asesu o fewn y Cwricwlwm newydd.
Mae hynny’n cynnwys “assessing for the future” – cyfres o weithdai datblygu proffesiynol dan arweiniad camau – i ddyfnhau dealltwriaeth o asesu, datblygu arferion asesu yn y dosbarth, a chefnogi ymarferwyr i ystyried sut i roi canllawiau asesu Cwricwlwm i Gymru ar waith er budd eu dysgwyr.
Mewn partneriaeth ag ysgolion, fe fyddwn ni’n datblygu adnoddau ar gyfer pob ysgol a lleoliad, ar sail gwaith ymchwil academaidd. Bydd y rhain ar gael yn hwylus drwy hwb i unrhyw athro, fe fyddan nhw’n cynnwys astudiaethau achos ymarferol ac adnoddau eraill, ac fe fydd y rhai cyntaf ar gael o dymor yr haf, gan gynyddu dros amser.
Ond dim ond y dechrau yw hynny, dw i hefyd yn lansio camau i’r dyfodol heddiw. Nawr mae hwn yn brosiect tymor hirach a fydd yn cael ei weithredu gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glasgow i helpu i ddeall y cysyniad o gynnydd wrth ddysgu a’i roi ar waith yng nghyd-destun cwricwlwm i Gymru.
Bydd camau i’r dyfodol yn tynnu ynghyd arbenigedd a phrofiad ymarferwyr a phartneriaid addysg er mwyn dod i gyd -ddealltwriaeth o sut y gall y cysyniad o gynnydd wrth ddysgu gael ei ddatblygu ar gyfer pob dysgwr yng Nghymru. Bydd hyn yn cwmpasu pob rhan o’r system – gan ofalu bod y newid yn un ystyrlon, realistig a chynaliadwy.
Y rhwydwaith cenedlaethol fydd yn gweithredu hyn, ac fe gaiff pob ysgol y cyfle i ddatblygu ymhellach eu dealltwriaeth o gynnydd wrth ddysgu, a chyfrannu at gyd-ddealltwriaeth genedlaethol o’r hyn sy’n bwysig.
Yn ymarferol, mae hynny’n golygu y bydd ysgolion, ymarferwyr a phartneriaid addysg yn cyfrannu at gorff cynyddol o dystiolaeth, deunyddiau ategol, a gweithgareddau. Bydd hefyd yn dwyn ynghyd arbenigedd gan ein prifysgolion, a thystiolaeth ryngwladol. Bydd y rhain ar gael er mwyn bwydo’n uniongyrchol i’r system a chefnogi’r gwaith o ddatblygu cwricwla seiliedig ar gynnydd yn lleol.
Mae hwn yn ymrwymiad hirdymor i gefnogi cynaliadwyedd y gwaith o weithredu Cwricwlwm. Mae’n gyfle i ymgysylltu ledled cymru dros y tair blynedd nesaf wrth inni barhau ar y daith hon. Ond bydd llawer ohonoch chi’n meddwl, “dw i’n dechrau cyflwyno’r Cwricwlwm newydd mewn chwe mis?”
Felly, yn y cyfamser, o ddiwedd y tymor hwn ymlaen, byddwn yn cyhoeddi astudiaethau achos, allbynnau o'r rhwydwaith cenedlaethol a deunydd ategol arall, i helpu ysgolion i ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o ddilyniant - ac i gydweithio fel clystyrau i wneud hynny.
Wedyn, wrth gwrs, rhaid cyfeirio at ddysgu proffesiynol.
Mae’r sefydliad ar gyfer cydweithrediad a datblygiad economaidd wedi dweud bod ymrwymiad cymru a’i ffocws ar ddysgu proffesiynol yn rhagorol o gymharu â llawer o awdurdodaethau eraill y sefydliad. Mae hynny i’w groesawu. A byddwn ni’n parhau i fuddsoddi mwy o gyllid nag erioed.
Ond, ers dod yn weinidog addysg dw i wedi bod yn awyddus i siarad â chynifer ohonoch chi â phosib, i gael gwell syniad o’r hyn sy’n digwydd go iawn ar lawr gwlad.
A dw i ddim wedi fy argyhoeddi eto bod ein cynnig dysgu proffesiynol mor hygyrch a defnyddiol ag y gallai fod. Mae llawer ohono, ond a ydych chi’n gwybod beth sydd ar gael ac am beth ddylech chi fod yn chwilio? ble i chwilio? Yw hi’n rhwydd dod o hyd i’r hyn sydd ar gael? Dw i’n credu bod gormod o amrywiad o hyd mewn gwirionedd – gormod o fylchau. Felly byddwn ni’n newid hynny.
Rydyn ni wrthi’n datblygu hawl genedlaethol sy’n cyflwyno pecyn cymorth dysgu proffesiynol y bydd gan bawb hawl iddo ac yn gallu elwa arno. Cynnig gwirioneddol genedlaethol a fydd yn haws ei ddefnyddio.
Ac mae’r gair ‘hawl’ yn bwysig yma – bydd gan bob gweithiwr proffesiynol sy’n addysgu hawl i ddysgu proffesiynol o’r radd flaenaf. Rhaid i’r hawl hon weithio i chi – ac ymateb i’ch anghenion – felly byddwn yn gweithio gyda chi i wneud yn siŵr bod hynny’n digwydd.
Yn ymarferol, bydd gennych chi becyn craidd o ddeunyddiau dysgu proffesiynol, ynghyd ag ystod o adnoddau ychwanegol a fydd ar gael drwy hwb a’r gwasanaethau gwella ysgolion. Erbyn diwedd y tymor hwn, byddwn wedi nodi sut y bydd yr hawl hon yn edrych ac yn manylu ar ble i ddod o hyd i’r pethau sy'n bwysig.
A bydd yr hawl ei hun ar gael i chi ar gyfer mis medi fan bellaf. Felly bydd pob adnodd a dysgu sy’n bodoli eisoes, a’r rhai a fydd yn cael eu comisiynu yn y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, mewn un lle a bydd hi’n hawdd cael gafael arnyn nhw.
Mae adnoddau Cwricwlwm yn bwysig hefyd. Mae angen adnoddau a deunyddiau addysgol dwyieithog arnom, sy'n cyd-fynd ag ysbryd ac ethos y cwricwlwm newydd. Byddwn yn sefydlu cwmni yng Nghymru yn benodol fel y gallwn ddatblygu'r rhain – byddaf yn dweud mwy am hyn yn yr wythnosau nesaf. Fodd bynnag, ni fyddwn yn aros am y cwmni hwnnw, a byddwn yn bwrw ymlaen yn awr gyda chomisiynu a datblygu deunyddiau ac adnoddau a fydd yn eich cefnogi.
Dw i hefyd am ichi gael cyfle i elwa ar yr adnoddau gorau ledled cymru. Dyma Gwricwlwm Cymru wedi'r cyfan. Felly dw i wedi ymrwymo i sicrhau bod deunyddiau sy’n cael eu datblygu mewn unrhyw wasanaeth gwella ysgolion ar gael i bob ysgol yng Nghymru drwy hwb, dim ots ym mha ardal ydych chi. Bydd hynny ar gael ichi o fis Medi.
Ond dw i’n pwysleisio fy mod yn cydnabod y bydd llawer o ymarferwyr hyd yn oed yn awr yn teimlo nad ydyn nhw’n barod; yn poeni ei bod hi’n rhy hwyr neu’n ansicr pa gamau i’w cymryd nesaf; yn poeni sut mae dod o hyd i gymorth neu sut i ddechrau’r sgwrs honno gyda phennaeth neu gyd-weithiwr. Felly, ar ddiwedd y gynhadledd heddiw, bydd fy swyddogion yn rhannu deunyddiau wedi’u teilwra i’ch helpu chi i gymryd y camau nesaf, i nodi pa wybodaeth, canllawiau ac adnoddau y mae angen ichi ddod o hyd iddyn nhw, a lle maen nhw i’w cael.
Felly dyna oedd yr offer ar gyfer y swydd...mae angen i ni hefyd i wneud yn siŵr bod y system yn gweithio gyda chi a ddim yn eich erbyn chi
Dw i wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod y system gyfan yn helpu eich ysgol i symud tuag at ddiwygio.
Mae hyn yn golygu un set o egwyddorion cyffredin ar draws y system: yn rhoi disgwyliadau clir i chi o’r meysydd y dylid canolbwyntio arnyn nhw, ac yn rhoi un fframwaith ac iaith i bartneriaid ategol er mwyn canolbwyntio ar eich cefnogi chi.
Bydd y rhain yn cael eu hadlewyrchu yn y canllaw ar wella ysgolion a fydd yn cael ei gyhoeddi yn nhymor yr haf, gan eu gosod yn glir mewn cyd-destun yn ein fframwaith ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd. Bydd y canllawiau hefyd yn glir sut mae gwaith gwerthuso a gwella yn wahanol i atebolrwydd. Mae defnyddio gwybodaeth asesu dysgwyr yn y dyfodol yn enghraifft dda o hyn. Ei brif ddiben yw cefnogi cynnydd dysgwyr unigol, a dylai hefyd lywio hunanarfarnu ysgolion ac arwain gwelliant mewn addysgu a dysgu. Ond rhaid ei gadw'n glir ar wahân i fecanweithiau atebolrwydd os yw am gyflawni ei brif ddiben. Rhaid inni osgoi dulliau sy'n cyfuno'r ddau yn llwyr. Ac i helpu arweinwyr ysgolion yn benodol, byddwn ni hefyd yn lansio’r adnodd cenedlaethol ar gyfer gweithredu a gwella, ar ôl ei dreialu ar hwb yn nhymor yr haf.
Dw i hefyd yn gwybod bod llawer o ansicrwydd o ran cymwysterau mewn ysgolion uwchradd o hyd. Gwn fod llawer ohonoch chi yn aros am y cymwysterau newydd er mwyn llywio eich dull asesu a’r cwricwlwm at ei gilydd - yn enwedig i ddysgwyr rhwng 14 ac 16 oed. Fel y gwyddoch, mae cymwysterau cymru wrthi’n gweithio i gyd-lunio dewis cydlynol a chynhwysol o gymwysterau dwyieithog i ysgolion. Mae angen i hyn gyd-fynd â’r cwricwlwm i Gymru a diwallu anghenion pob dysgwr.
Dw i wedi nodi’n glir bod rhaid i’r gwaith hwn fod yn radical ac yn uchelgeisiol – nid yw’n golygu ailgyflwyno neu ail-lunio ein cymwysterau presennol – dw i am inni edrych o’r newydd ar y nodau, y cynnwys a’r dulliau asesu ar gyfer gwahanol gymwysterau.
O wneud hyn, mae cynifer o bethau y gallwn fanteisio arnyn nhw a dysgu oddi wrthyn nhw wrth ymateb i’r pandemig – yn enwedig o ran arloesi digidol a rôl yr athro wrth asesu.
Mae cyfle nawr i weithio gyda Cymwysterau Cymru i helpu i lunio manylion y cymwysterau newydd hyn. Dw i’n eich annog chi i gyd i ymwneud â’r gwaith hwn a’i gefnogi gorau gallwch chi. Ond gadewch imi fod yn glir, ategu’r Cwricwlwm i Gymru fydd y cymwysterau: os ydych chi’n paratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, rydych chi’n paratoi ar gyfer y cymwysterau.
Ac yn drydydd... gwneud hyn gyda’n gilydd
Ond mae hyn yn ymwneud â mwy na dim ond beth rydyn ni’n wneud: mae sut rydyn ni’n cefnogi ein gilydd yr un mor bwysig. Mae’r broses o gydlunio wedi bod wrth wraidd y gwaith o ddatblygu’r Cwricwlwm i Gymru a rhaid iddi barhau i fod wrth wraidd y gwaith o’i wireddu. Rydyn ni i gyd yn arweinwyr yn y newid hwn. Mae hyn yn golygu gweithio gyda’n gilydd: ar draws gwahanol ffiniau a rhwng gwahanol sefydliadau. Mae’n golygu rhannu problemau a llunio datrysiadau ar y cyd. Mae’n golygu y bydd pob llais yn y broses yn cyfrannu ati, nid un llais yn rhoi cyfarwyddiadau a phawb arall yn dilyn.
Bydd y rhwydwaith cenedlaethol yn nodwedd barhaol: i roi llais i’r proffesiwn ac i helpu i ddatblygu polisïau llywodraeth yn y dyfodol. Yn hollbwysig hefyd, bydd yn llywio dysgu proffesiynol yn y dyfodol.
Y nod yw darparu lle ac amser i weithwyr proffesiynol er mwyn meddwl ac ymgysylltu ag ymarferwyr eraill yn genedlaethol. Fydd hyn ddim yn cynnig yr atebion i gyd, ond mae’n gyfle i rannu arbenigedd, gan ddysgu gan ein gilydd, ac mae’n amgylchedd diogel ar gyfer gofyn cwestiynau allweddol.
Mae’r rhwydwaith ar agor i bob ysgol a bydd modd dechrau cadw llefydd mewn sesiynau ar gyfer tymhorau’r gwanwyn a’r haf yn fuan: gan roi’r cyfle ichi ofyn eich cwestiynau am y gwaith o ddylunio’r cwricwlwm, cymwysterau a chynnydd ac asesu. Os yw eich ysgol ddim yn siŵr sut i gyfrannu at y gwaith o baratoi at sesiynau’r rhwydwaith, a sut i gael gafael ar y deunyddiau sy’n deillio ohonynt, yna gallwch weld y rhain drwy dudalen y cwricwlwm ar hwb ac mae'r deunyddiau y byddwch yn eu derbyn heddiw yn cynnwys dolen i hynny.
Mae un math arall o gymorth sy’n hanfodol i ddatblygu Cwricwlwm pob ysgol, sef eich cyd-weithwyr. Rydyn ni i gyd yn gwneud hyn am y tro cyntaf, felly does neb yn gwybod yr atebion i gyd. Dw i’n eich annog i gyd i weithio gyda’ch gilydd, i ddeall beth sy’n gweithio’n dda a pham, a rhannu pethau sydd ddim yn gweithio’n dda hefyd.
Mae pŵer gwirioneddol i rannu dysgu: profi a gwella eich gwaith eich hun, cyfrannu at drafodaeth genedlaethol yn ogystal ag ymgysylltu ag eraill a dysgu oddi wrthynt. Gall dulliau gweithredu fod yn wahanol ond mae egwyddorion sylfaenol arferion effeithiol y gallwn i gyd ddysgu ohonynt.
Mae eich rhwydweithiau, y rhwydwaith cenedlaethol yn ogystal ag hwb wrth gwrs, yn sianeli allweddol ar gyfer rhannu.
Ac mae’r rhwydweithiau hyn yn fath hollbwysig o gymorth. Dylai pob ysgol fod mewn clwstwr gydag ysgolion eraill erbyn hyn. Ond mae’n hanfodol bod y rhain yn gweithio mewn ffordd sy’n darparu cymorth ynghyd â her wrth inni symud tuag at y cwricwlwm newydd. Bydd angen ichi helpu i lywio gwaith y clwstwr rydych chi’n rhan ohono. Dylai hyn gael ei gefnogi gan wasanaethau gwella ysgolion. Ond os oes gennych bryderon ynghylch sut mae trefniadau’r ysgol i ysgol yn gweithio, mae'n bwysig eich bod yn trafod hyn gyda'ch gwasanaeth gwella ysgolion.
I gloi, gyfeillion: nid y diwedd yw mis Medi - mae’n ddechrau cam nesaf ein taith. Rydyn ni wedi dechrau ar daith o ddiwygio parhaus. Fydd hwn ddim yn llwybr rhwydd bob amser - bydd llawer o heriau ar hyd y ffordd. Ond bydd y cyfan yn werth y drafferth.
A chofiwch, nid ydych ar eich pen eich hun ar y daith hon, mae’r gefnogaeth yma i chi. Rydym i gyd am i bob un ohonom lwyddo ar yr ymdrech hon - er mwyn ein dysgwyr.
Gyda’n gilydd mae gennym ni'r fraint a’r cyfle i ail-lunio dyfodol ein plant a’n pobl ifanc. Rhaid inni fanteisio i’r eithaf ar y cyfle hwn.
Diolch yn fawr.