Daeth yr ymgynghoriad i ben 1 Mawrth 2024.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae’r crynodeb o ymatebion bellach ar gael.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn gofyn am eich barn ar gynigion i drwyddedu sefydliadau, gweithgareddau ac arddangosion lles anifeiliaid.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Dyma’r cam cyntaf ar gyfer datblygu Model Cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles Anifeiliaid. Byddai’r cynllun trwyddedu yn cynnwys gweithgareddau cysylltiedig ag anifeiliaid didrwydded neu prin yn cael ei reoleiddi. Mae'r rhain yn perthyn i’r pedwar categori canlynol:
- sefydliadau lles anifeiliaid
- gweithgareddau sy’n ymwneud ag anifeiliaid
- arddangosfeydd anifeiliaid
- milgwn
Dogfennau ymgynghori
Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 378 KB
crynodeb o ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 747 KB
Gwybodaeth ychwanegol
Derbyniwyd dros 1,100 o ymatebion i’r ymgynghoriad hwn a hoffem ddiolch i bawb a gyflwynodd sylwadau, gwybodaeth a thystiolaeth. Rydym wrthi’n dadansoddi’r adborth. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebion a dderbyniwyd yn unigryw i bob pwrpas ac yn cynnwys llawer o fanylion. O’r herwydd mae angen mwy na 12 wythnos arnom i werthuso’r dystiolaeth ac ystyried yn briodol yr holl ymatebion fel y gallwn ddod i’r casgliadau cywir. Ein nod yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion yn nes ymlaen eleni.