Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am y niferoedd a nodweddion y cerbydau sydd wedi'u trwyddedu i'w defnyddio ar y ffyrdd am y tro cyntaf ar gyfer 2013.

Prif bwyntiau

  • Yn ystod 2013 roedd dros 104 mil o gofrestriadau newydd yng Nghymru, ac roedd phedwar allan o bump o’r rhain, 85 mil, yn geir.
  • Ar ddiwedd 2013 roedd stoc o 1.774 miliwn o gerbydau wedi’u trwyddedu i’w defnyddio ar y ffyrdd yng Nghymru. Roedd ychydig dros dri chwarter, 1.347 miliwn, o’r rhain yn geir. Roedd y cerbydau a drwyddedwyd yng Nghymru yn cyfrif am tua 5% o’r holl gerbydau a drwyddedwyd ym Mhrydain Fawr gyfan.
  • Mae’r lefel o stoc cerbydau yng Nghymru yn golygu bod 475 o geir trwyddedig ar gyfer pob mil o bobl yng Nghymru ar ddiwedd 2013; yn ogystal roedd 18 beic modur, 58 cerbyd nwyddau ysgafn a 7 cerbyd nwyddau trwm ar gyfer pob mil o bobl.
  • Yn ystod 2013, roedd cyfartaledd yr allyriad CO2 o gar a drwyddedwyd yn ystod y flwyddyn 18% yn is o’i gymharu â chyfartaledd yr allyriad CO2 o geir a drwyddedwyd pum mlynedd yn gynharach, yn 2008. Mae cymharu’r holl geir a drwyddedwyd ar ddiwedd 2013 gyda’r holl geir wedi’u cofrestru ar ddiwedd 2008 yn dangos bod cyfartaledd allyriad CO2 ar draws y stoc o geir ar y cyfan wedi disgyn 7%.
  • Ar ddiwedd 2013 roedd 787 mil o gerbydau yn cael eu pweru â disel yng Nghymru, 44.3% o’r cyfanswm. Roedd 977 mil o gerbydau yn cael eu pweru â phetrol, 55.0% o’r cyfanswm. Roedd y 0.6% sy’n weddill o’r cerbydau yng Nghymru, 11 mil o gerbydau, yn cael eu pweru â thanwyddau eraill (hynny yw â thrydan, hybrid, nwy naturiol ac yn y blaen). O’r rhain roedd 4,300 yn cael eu pweru â thrydan, sef 400 yn uwch nag ar ddiwedd 2012.

Adroddiadau

Trwyddedu a pherchenogaeth cerbydau, 2013 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 388 KB

PDF
Saesneg yn unig
388 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Trwyddedu a pherchenogaeth cerbydau, 2013: tablau , Saesneg yn unig, math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 460 KB

XLSX
Saesneg yn unig
460 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.