Data misol ar gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Trosolwg o'r farchnad lafur
Prif ddangosyddion y farchnad lafur, y 3 mis hyd at fis Hydref 2021
Mae’r prif ddangosyddion llafurlu sydd wedi’u hamcangyfrif o’r Arolwg o’r Llafurlu (LFS) yn rhoi arwydd o sut mae’r pandemig coronafeirws (COVID-19) yn effeithio’r llafurlu. Gellir hefyd defnyddio’r ffynonellau data eraill, megis nifer y gweithwyr cyflogedig a gyflwynir yn nes ymlaen yn y pennawd hwn, i roi darlun mwy amserol a chyflawn.
Cyfradd cyflogaeth
Cymru
Roedd y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn 74.0%. Mae hyn i lawr 0.6 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 1.7 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
DU
Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y DU yn 75.5%. Mae hyn i fyny 0.2 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 0.5 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Cyfradd diweithdra
Cymru
Roedd y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn 3.7%, i lawr 0.5 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 0.9 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Dyma’r gyfradd diweithdra isaf ers Mai i Orffennaf 2020.
DU
Roedd cyfradd diweithdra’r DU yn 4.2%, i lawr 0.4 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 0.9 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Cyfradd anweithgarwch economaidd
Cymru
Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn 23.2%. Mae hyn i fyny 1.2 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 1.1 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
DU
Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y DU yn 21.2%. Mae hyn i fyny ychydig ar y chwarter ac i fyny 0.2 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Noder
Mae cymariaethau â'r flwyddyn flaenorol yn cwmpasu cyfnod cynnar y pandemig coronafeirws (Awst i Hydref 2020).
Enillion misol gweithwyr cyflogedig o Wybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cyhoeddi data ar gyfer Cymru am weithwyr sydd ar gyflogres, tâl cymedrig, tâl yn ei grynswth ac amcangyfrifon un mis ar gyfer tâl canolrifol.
Gweithwyr cyflogedig
Mae nifer y gweithwyr cyflogedig wedi cynyddu ar y cyfan yn y blynyddoedd ddiweddar, ond wedi gostwng yn ystod y pandemig. Dechreuodd nifer y gweithwyr cyflogedig gynyddu eto ar ddiwedd 2020 ac mae bellach yn uwch na’r lefel cyn y pandemig.
Mae amcangyfrifon cynnar ar gyfer Tachwedd 2021 yn dangos bod nifer y gweithwyr cyflogedig yng Nghymru wedi cynyddu 7,300 (0.6%) dros y mis i 1.28 miliwn. Mae hyn yn uwch na’r amcangyfrifon cyn y pandemig (Chwefror 2020) a chynnydd o 58,300 o gymharu â’r pwynt isaf ym mis Tachwedd 2020.
Dangosodd amcangyfrifon cynnar ar gyfer Tachwedd 2021 ar lefel y DU gynnydd misol o 257,300, y cynnydd misol mwyaf er i’r gyfres ddechrau yng Ngorffennaf 2014.
Cyhoeddir dadansoddiadau manwl eraill o weithwyr cyflogedig gan gynnwys yn ôl awdurdod lleol, yn ôl oedran ac yn ôl sector gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Adroddiadau
Trosolwg o'r farchnad lafur: Rhagfyr 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.