Data misol ar gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Trosolwg o'r farchnad lafur
Prif ddangosyddion y farchnad lafur, y 3 mis hyd at fis Ebrill 2022
Mae'r penawd hwn yn rhoi crynodeb o'r ystadegau allweddol diweddaraf sy'n ymwneud â marchnad lafur Cymru, ac mae'n cynnwys data o'r Arolwg o'r Llafurlu ac ystadegau arbrofol Gwybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill gan adran Gyllid a Thollau EM.
Cyfradd cyflogaeth
![Mae'r gyfradd cyflogaeth yn y DU yn gyffredinol yn uwch nag yng Nghymru dros y 10 blynedd diwethaf.](/sites/default/files/2022-06/cyfradd-cyflogaeth-chwefror-i-ebrill-2022_0.png)
Cymru
Roedd y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn 74.0%. Mae hyn i lawr 0.4 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny ychydig ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
DU
Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y DU yn 75.6%. Mae hyn i fyny 0.2 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 1.0 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Dyma’r gyfradd cyflogaeth uchaf ar y cyd ers Ebrill i Fehefin 2020 a’r cynnydd blynyddol mwyaf ar y cyd ers Medi i Dachwedd 2015.
Cyfradd diweithdra
![Mae'r gyfradd diweithdra wedi gostwng yng Nghymru ac yn y DU dros y 4 blynedd diwethaf. Cynyddodd y gyfradd yn dilyn dechrau'r pandemig coronafeirws, ond mae wedi bod yn gostwng ers dechrau 2021.](/sites/default/files/2022-06/cyfradd-diweithdra-chwefror-i-ebrill-2022_0.png)
Cymru
Roedd y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn 3.5%. Mae hyn i fyny 0.5 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 0.7 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
DU
Roedd cyfradd diweithdra’r DU yn 3.8%, i lawr 0.2 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 1.1 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Cyfradd anweithgarwch economaidd
![Mae’r gyfradd anweithgarwch economaidd wedi gostwng yn y DU dros y 10 blynedd diwethaf ond mae wedi cynyddu ar y cyfan ers diwedd 2020. Mae'r gyfradd amrywio yng Nghymru.](/sites/default/files/2022-06/cyfradd-anweithgarwch-economaidd-chwefror-i-ebrill-2022_0.png)
Cymru
Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn 23.3%. Mae hyn i fyny ychydig ers y chwarter blaenorol ac i fyny 0.5 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
DU
Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y DU yn 21.3%. Mae hyn i fyny ychydig ar y chwarter ac ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Enillion misol gweithwyr cyflogedig o Wybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cyhoeddi data ar gyfer Cymru am weithwyr sydd ar gyflogres, tâl cymedrig, tâl yn ei grynswth ac amcangyfrifon un mis ar gyfer tâl canolrifol.
Gweithwyr cyflogedig
![Mae’r siart yn dangos tuedd gyffredinol ar i fyny o weithwyr cyflogedig dros y blynyddoedd diwethaf ac yna gostyngiad serth o fis Mawrth 2020 tan fis Gorffennaf 2020. Ers diwedd 2020, mae nifer y cyflogeion cyflogedig wedi bod yn cynyddu ar y cyfan.](/sites/default/files/2022-06/cyflogeion-cyflogedig-mai-2022.png)
Mae nifer y gweithwyr cyflogedig wedi cynyddu ar y cyfan yn y blynyddoedd ddiweddar, ond wedi gostwng yn ystod y pandemig. Dechreuodd nifer y gweithwyr cyflogedig gynyddu eto ar ddiwedd 2020 ac mae bellach yn uwch na’r lefel cyn y pandemig.
Mae amcangyfrifon cynnar ar gyfer Mai 2022 yn dangos bod nifer y gweithwyr cyflogedig yng Nghymru wedi cynyddu 6,400 (0.5%) dros y mis i 1.30 miliwn. Mae hyn yn uwch na’r amcangyfrifon cyn y pandemig (ar gyfer Chwefror 2020) a chynnydd o 73,800 o gymharu â’r pwynt isaf yn ystod y pandemig ym mis Tachwedd 2020.
Dangosodd amcangyfrifon cynnar ar gyfer Mai 2022 ar lefel y DU gynnydd misol o 90,000 (0.3%). (diwygiwyd ar 14 Mehefin ar ôl 9.30am)
Cyhoeddir dadansoddiadau manwl eraill o weithwyr cyflogedig gan gynnwys yn ôl awdurdod lleol, yn ôl oedran ac yn ôl sector gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Adroddiadau
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/statistics-and-research-thumbs/Trosolwg_o_r_farchnad_lafur__Mehefin_2022.jpg?itok=Rm-4n7rk)
Trosolwg o'r farchnad lafur: Mehefin 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 911 KB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.