Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r pennawd hwn yn rhoi crynodeb o'r ystadegau allweddol diweddaraf sy'n ymwneud â marchnad lafur Cymru, ac mae'n cynnwys ystadegau arbrofol Gwybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill gan adran Gyllid a Thollau EF (CThEF) ac o'r Arolwg o'r Llafurlu (LFS).

Enillion misol gweithwyr cyflogedig o Wybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) a Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) yn cyhoeddi data ar gyfer Cymru am weithwyr sydd ar gyflogres, tâl cymedrig, tâl yn ei grynswth ac amcangyfrifon un mis ar gyfer tâl canolrifol.

Gweithwyr cyflogedig

Ffigur 1: Cyflogeion cyflogedig, Cymru, mis Chwefror 2020 i fis Chwefror 2025

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart llinell sy'n dangos fod tuedd yn y nifer o weithwyr cyflogedig wedi bod yn weddol sefydlog dros y flwyddyn ddiwethaf yn dilyn cynnydd cyson ers 2021. 

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o PAYE RTI, SYG a CThEF.

Mae amcangyfrifon cynnar ar gyfer mis Chwefror 2025 yn dangos bod nifer y gweithwyr cyflogedig yng Nghymru wedi cynyddu gan 700 (0.1%) dros y mis i 1.32 miliwn. 

Ar lefel y Deyrnas Unedig (DU), dangosodd amcangyfrifon cynnar ar gyfer mis Chwefror 2025 gynnydd misol o 20,500 (0.1%).

Mae dadansoddiadau manwl eraill o weithwyr cyflogedig gan gynnwys yn ôl awdurdod lleol, yn ôl oedran ac yn ôl sector gan y SYG.

Prif ddangosyddion y farchnad lafur, y 3 mis hyd at fis Ionawr 2025

Mae cyfyngau hyder ar gyfer y prif gyfraddau marchnad lafur ar gael ar wefan y SYG. Mae'r data diweddaraf yn dangos nad oedd unrhyw newidiadau ystadegol arwyddocaol ar gyfer prif ddangosyddion y farchnad lafur yn y tri mis hyd at fis Ionawr 2025. Mae hyn yn awgrymu nad yw'r newidiadau chwarterol a blynyddol ar gyfer y dangosyddion hyn yn debygol o adlewyrchu newid gwirioneddol yn y data.

Cyfradd cyflogaeth

Ffigur 2: Cyfradd cyflogaeth, y 3 mis hyd at fis Ionawr 2015 i’r 3 mis hyd at fis Ionawr 2025

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart llinell sy'n dangos bod y gyfradd cyflogaeth yn y DU yn gyffredinol yn uwch nag yng Nghymru dros y 10 blynedd diwethaf. 

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r LFS

Cymru

Roedd y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn 69.9%. Mae hyn i lawr 0.7 pwynt canran ar y chwarter ac i lawr 0.1 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU

Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y DU yn 75.0%. Mae hyn i fyny 0.1 pwynt canran ar y chwarter ac i fyny 0.3 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Cyfradd diweithdra

Ffigur 3: Cyfradd diweithdra, y 3 mis hyd at fis Ionawr 2015 i’r 3 mis hyd at fis Ionawr 2025

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart llinell sy'n dangos bod y gyfradd diweithdra wedi gostwng ar y cyfan yng Nghymru ac yn y DU dros y 10 blynedd diwethaf.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r LFS

Cymru

Roedd y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn 5.4%. Mae hyn i lawr 0.1 pwynt canran ar y chwarter ac i fyny 1.2 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU

Roedd cyfradd diweithdra y DU yn 4.4%. Mae hyn i fyny 0.1 pwynt canran ar y chwarter ac i fyny 0.3 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Cyfradd anweithgarwch economaidd

Ffigur 4: Cyfradd anweithgarwch economaidd, y 3 mis hyd at fis Ionawr 2015 i’r 3 mis hyd at fis Ionawr 2025

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart llinell sy'n dangos bod y gyfradd anweithgarwch economaidd wedi gostwng yn gyffredinol yn y DU dros y 10 blynedd diwethaf ond mae wedi cynyddu ar y cyfan ers y misoedd cynnar yn 2020. Yng Nghymru, mae'r gyfradd wedi amrywio dros y cyfnod hwn ond yn gyffredinol mae'n parhau i fod yn uwch na chyfradd y DU.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r LFS

Cymru

Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn 26.0%. Mae hyn i fyny 0.8 pwynt canran ar y chwarter ac i lawr 1.0 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU

Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y DU yn 21.5%. Mae hyn i lawr 0.2 pwynt canran ar y chwarter ac i lawr 0.6 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Gwybodaeth bellach

Mae'r SYG wedi cyhoeddi amcangyfrifon Arolwg o’r Llafurlu wedi'u hail-bwysoli ar gyfer Cymru ym mis Mawrth 2025 am y cyfnod o Ionawr i Fawrth 2019 oherwydd adolygiad addasiad tymhorol.

Mae'r SYG wedi cyhoeddi amcangyfrifon LFS wedi'u hail-bwysoli ar gyfer Cymru ym mis Rhagfyr am y cyfnod o Ionawr i Fawrth 2019, sydd wedi achosi newid sylweddol yn y data. Manylir ar effaith lawn yr ail-bwysoliad hwn yn yr erthygl 'Effaith ail-bwysoli ar ddangosyddion allweddol Arolwg o’r Llafurlu yng Nghymru: Rhagfyr 2024', sydd ar gael ochr yn ochr â'r Trosolwg o’r Farchnad Lafur Rhagfyr 2024.

Mae'r SYG wedi nodi bod heriau o ran cynnal cyfraddau ymateb ar gyfer yr Arolwg o’r Llafurlu yn parhau i effeithio ar ansawdd data, er gwaethaf yr ail-bwysoliad o’r amcangyfrifon ym mis Rhagfyr 2024 (SYG). Bydd ystadegau'r farchnad lafur sy'n seiliedig ar Arolwg o’r Llafurlu yn parhau i gael eu labelu fel ystadegau swyddogol sy'n cael eu datblygu (Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau) nes bydd adolygiad pellach ac rydym yn parhau i argymell gofal wrth ddehongli'r data hwn.

Byddem yn argymell defnyddio data’r LFS ochr yn ochr â’r tueddiadau mewn mesurau eraill yn y farchnad lafur, yn enwedig Swyddi’r Gweithlu (mesur chwarterol o swyddi), nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau sy’n gysylltiedig â diweithdra) a’r data RTI gan CThEF (nifer y gweithwyr ar y gyflogres) i gael darlun cliriach o’r farchnad lafur yng Nghymru.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Joe Davies
E-bost: ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru 

Cyfryngau: 0300 025 8099