Data misol ar gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Trosolwg o'r farchnad lafur
Prif ddangosyddion y farchnad lafur, y 3 mis hyd at fis Ionawr 2023
Mae'r penawd hwn yn rhoi crynodeb o'r ystadegau allweddol diweddaraf sy'n ymwneud â marchnad lafur Cymru, ac mae'n cynnwys data o'r Arolwg o'r Llafurlu ac ystadegau arbrofol Gwybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill gan adran Gyllid a Thollau EM.
Cyfradd cyflogaeth
Cymru
Roedd y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn 72.3%. Mae hyn i fyny ychydig ar y chwarter ac i lawr 2.0 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
DU
Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y DU yn 75.7%. Mae hyn i fyny ychydig ar y chwarter ac i fyny 0.3 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Cyfradd diweithdra
Cymru
Roedd y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn 3.5%. Mae hyn i lawr ychydig ar y chwarter ac i fyny 0.5 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
DU
Roedd cyfradd diweithdra’r DU yn 3.7%. Does dim newid ers y chwarter blaenorol ac i lawr 0.3 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Cyfradd anweithgarwch economaidd
Cymru
Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn 24.9%. Mae hyn i lawr ychydig ar y chwarter ac i fyny 1.7 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
DU
Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y DU yn 21.3%. Mae hyn i lawr 0.2 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr ychydig ar yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Enillion misol gweithwyr cyflogedig o Wybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cyhoeddi data ar gyfer Cymru am weithwyr sydd ar gyflogres, tâl cymedrig, tâl yn ei grynswth ac amcangyfrifon un mis ar gyfer tâl canolrifol.
Gweithwyr cyflogedig
Mae nifer y gweithwyr cyflogedig wedi cynyddu ar y cyfan yn y blynyddoedd ddiweddar, ond wedi gostwng yn ystod y pandemig. Fe wnaeth nifer y gweithwyr cyflogedig dychwelyd nôl at lefelau cyn y pandemig ym mis Gorffennaf 2021, ac mae bellach wedi aros yn uwch na’r lefel cyn y pandemig.
Mae amcangyfrifon cynnar ar gyfer Chwefror 2023 yn dangos bod nifer y gweithwyr cyflogedig yng Nghymru wedi cynyddu 3,300 (0.3%) dros y mis i 1.31 miliwn.
Ar lefel y DU, dangosodd amcangyfrifon cynnar ar gyfer Chwefror 2023 gynnydd misol o 97,900 (0.3%).
Cyhoeddir dadansoddiadau manwl eraill o weithwyr cyflogedig gan gynnwys yn ôl awdurdod lleol, yn ôl oedran ac yn ôl sector gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Adroddiadau
Trosolwg o'r farchnad lafur: Mawrth 2023 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 717 KB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.