Neidio i'r prif gynnwy

Data misol ar gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd.

Prif ddangosyddion y farchnad lafur, y 3 mis hyd at fis Mai 2022

Mae'r penawd hwn yn rhoi crynodeb o'r ystadegau allweddol diweddaraf sy'n ymwneud â marchnad lafur Cymru, ac mae'n cynnwys data o'r Arolwg o'r Llafurlu ac ystadegau arbrofol Gwybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill gan adran Gyllid a Thollau EM.

Cyfradd cyflogaeth

Image
Mae'r gyfradd cyflogaeth yn y DU yn gyffredinol yn uwch nag yng Nghymru dros y 10 blynedd diwethaf.

Cymru

Roedd y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn 73.7%. Mae hyn i  lawr 0.5 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny ychydig ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU

Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y DU yn 75.9%, y gyfradd uchaf ers Chwefror i Ebrill 2020. Mae hyn i fyny 0.4 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 1.1 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Dyma’r cynnydd blynyddol mwyaf ar y cyd ers Tachwedd i Ionawr 2015.

Cyfradd diweithdra

Image
Mae'r gyfradd diweithdra wedi gostwng yng Nghymru ac yn y DU dros y 4 blynedd diwethaf. Cynyddodd y gyfradd yn dilyn dechrau'r pandemig coronafeirws, ond mae wedi bod yn gostwng ers dechrau 2021.

Cymru

Roedd y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn 3.8%. Mae hyn i fyny 0.8 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr ychydig ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Dyma’r cynnydd chwarterol mwyaf ers Medi i Dachwedd 2020.

DU

Roedd cyfradd diweithdra’r DU yn 3.8%, i lawr ychydig ers y chwarter blaenorol ac i lawr 1.1 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Cyfradd anweithgarwch economaidd

Image
Mae’r gyfradd anweithgarwch economaidd wedi gostwng yn y DU dros y 10 blynedd diwethaf ond mae wedi cynyddu ar y cyfan ers diwedd 2020. Mae'r gyfradd amrywio yng Nghymru.

Cymru

Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn 23.4%. Mae hyn i lawr ychydig ers y chwarter blaenorol ac i fyny ychydig ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU

Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y DU yn 21.1%, y gyfradd isaf ers Medi i Dachwedd 2020. Mae hyn i lawr 0.4 pwynt canran ar y chwarter ac i lawr 0.3 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Dyma’r gostyngiad blynyddol mwyaf ers Ionawr i Fawrth 2020 a’r gostyngiad chwarterol mwyaf ar y cyd ers Mai i Orffennaf 2012.

Enillion misol gweithwyr cyflogedig o Wybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cyhoeddi data ar gyfer Cymru am weithwyr sydd ar gyflogres, tâl cymedrig, tâl yn ei grynswth ac amcangyfrifon un mis ar gyfer tâl canolrifol.

Gweithwyr cyflogedig

Image
Mae’r siart yn dangos tuedd gyffredinol ar i fyny o weithwyr cyflogedig dros y blynyddoedd diwethaf ac yna gostyngiad serth o fis Mawrth 2020 tan fis Gorffennaf 2020. Ers diwedd 2020, mae nifer y cyflogeion cyflogedig wedi bod yn cynyddu ar y cyfan.

Mae nifer y gweithwyr cyflogedig wedi cynyddu ar y cyfan yn y blynyddoedd ddiweddar, ond wedi gostwng yn ystod y pandemig. Dechreuodd nifer y gweithwyr cyflogedig gynyddu eto ar ddiwedd 2020 ac mae bellach yn uwch na’r lefel cyn y pandemig.

Mae amcangyfrifon cynnar ar gyfer Mehefin 2022 yn dangos bod nifer y gweithwyr cyflogedig yng Nghymru wedi cynyddu 1,000 (0.1%) dros y mis i 1.30 miliwn. Mae hyn yn uwch na’r amcangyfrifon cyn y pandemig (ar gyfer Chwefror 2020) a chynnydd o 70,600 o gymharu â’r pwynt isaf yn ystod y pandemig ym mis Tachwedd 2020. 

Dangosodd amcangyfrifon cynnar ar gyfer Mehefin 2022 ar lefel y DU gynnydd misol o 30,700 (0.1%).

Cyhoeddir dadansoddiadau manwl eraill o weithwyr cyflogedig gan gynnwys yn ôl awdurdod lleol, yn ôl oedran ac yn ôl sector gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Adroddiadau

Trosolwg o'r farchnad lafur: Gorffennaf 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 944 KB

PDF
Saesneg yn unig
944 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Alexandra Fitzpatrick

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.