Enghreifftiau o sut i drosi tablau sy'n cynnwys testun yn unig yn ffurfiau eraill sy’n cynnwys testun yn unig ac sy’n fwy hygyrch a hawdd eu defnyddio.
Cynnwys
Trosolwg
Dim ond er mwyn cyflwyno data y dylech ddefnyddio tablau, dylai’r data yma fod yn rhifol fel arfer.
Yn aml, ceir dulliau gwahanol o drosi'r un tabl i ffurf arall sy’n cynnwys testun yn unig. Yn ddelfrydol bydd yr arbenigwr pwnc yn gwneud y trosi hwn yn gynnar yn y broses o greu cynnwys. Yn aml mae trosi tabl yn golygu newidiadau bach i'r testun hefyd, er enghraifft:
- ysgrifennu is-bennawd byr am fod y testun yng nghelloedd y tabl yn rhy hir
- ychwanegu testun ychwanegol i gysylltu is-bennawd yn glir â’r cynnwys cysylltiedig
Mae pob un o'r enghreifftiau canlynol yn cynnwys y tabl gwreiddiol a dewis arall ar ffurf testun.
Enghraifft o dabl 2 golofn syml
Enw | Yn cynrychioli |
---|---|
Enw cyntaf, ail enw (cadeirydd) | CBI Cymru |
Enw cyntaf, ail enw (dirprwy gadeirydd) | Unite |
Enw cyntaf, ail enw | Iechyd a Gofal Digidol Cymru |
Enw cyntaf, ail enw | Iechyd Cyhoeddus Cymru |
Enw cyntaf, ail enw | Iechyd Cyhoeddus Cymru |
Enw cyntaf, ail enw | Prifysgol Caerdydd |
Enw cyntaf, ail enw | Llywodraeth Cymru |
Enw cyntaf, ail enw | Llywodraeth Cymru |
Enghraifft o dabl 2 golofn cymhleth
- Enw cyntaf, ail enw (cadeirydd), CBI Cymru
- Enw cyntaf, ail enw (dirprwy gadeirydd), Unite
- Enw cyntaf, ail enw, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
- Enw cyntaf, ail enw, Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Enw cyntaf, ail enw, Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Enw cyntaf, ail enw, Prifysgol Caerdydd
- Enw cyntaf, ail enw, Llywodraeth Cymru
- Enw cyntaf, ail enw, Llywodraeth Cymru
Enghraifft o dabl 2 golofn cymhleth
Camau gweithredu | Crynodeb o’r hyn a gyflawnwyd |
---|---|
Byddwn yn creu templed cynllunio clinigol ac yn rhoi cyngor i gartrefi gofal ar sut i’w gwblhau. |
Buom yn gweithio gyda'r Grŵp Trosglwyddo i ddatblygu rhestr wirio atal heintiau ar gyfer cartrefi gofal. Cyhoeddwyd fideo hyfforddi. |
Byddwn yn parhau i weithio gyda'r Grŵp Trosglwyddo, dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol. |
Buom yn gweithio gyda'r Grŵp Trosglwyddo i ddarparu hyfforddiant, arweiniad a chymorth i gartrefi gofal. Cyhoeddwyd safonau glendid ar gyfer cartrefi gofal. |
Byddwn yn adolygu'r trefniadau ar gyfer profi preswylwyr a staff cartrefi gofal yn rheolaidd. |
Darparwyd rhaglen brofi ar gyfer cartrefi gofal:
Ers dechrau Ionawr mae’r profion â chanlyniad positif mewn cartrefi gofal wedi parhau i ostwng. |
Atal a rheoli heintiau
Cam gweithredu 1: templed trefniadau clinigol wrth gefn
Byddwn yn creu templed cynllunio clinigol ac yn rhoi cyngor i gartrefi gofal ar sut i’w gwblhau.
Cam gweithredu 1: crynodeb o’r hyn a gyflawnwyd
Buom yn gweithio gyda'r Grŵp Trosglwyddo i ddatblygu rhestr wirio atal heintiau ar gyfer cartrefi gofal.
Cyhoeddwyd fideo hyfforddi.
Cam gweithredu 2: gweithio gyda’r Grŵp Trosglwyddo
Byddwn yn parhau i weithio gyda'r Grŵp Trosglwyddo, dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol.
Cam gweithredu 2: crynodeb o’r hyn a gyflawnwyd
Buom yn gweithio gyda'r Grŵp Trosglwyddo i ddarparu hyfforddiant, arweiniad a chymorth i gartrefi gofal.
Cyhoeddwyd safonau glendid ar gyfer cartrefi gofal
Cam gweithredu 3: profi preswylwyr a staff
Byddwn yn adolygu'r trefniadau ar gyfer profi preswylwyr a staff cartrefi gofal yn rheolaidd.
Cam gweithredu 3: crynodeb o’r hyn a gyflawnwyd
Darparwyd rhaglen brofi ar gyfer cartrefi gofal:
- profi ymwelwyr â chartrefi gofal gan gynnwys gweithwyr proffesiynol
- cynnal profion ddwywaith yr wythnos i staff cartrefi gofal
Ers dechrau Ionawr mae’r profion â chanlyniad positif mewn cartrefi gofal wedi parhau i ostwng.
Enghraifft o dabl cymhleth 4 colofn
Maen prawf ansawdd | Tystiolaeth o gydymffurfio |
Maen prawf ar gyfer boddhaol neu dda |
Maen prawf ar gyfer eithriadol |
---|---|---|---|
2.1. Mae gan y gwasanaeth gylch gwaith clir, yn seiliedig ar angen, sy’n nodi manylion:
|
Mae cylch gwaith ysgrifenedig ar gael ar gyfer y Gwasanaeth. Mae’r deunyddiau hyrwyddo yn cynnwys y mathau o gyngor a ddarperir gan y gwasanaeth. |
Asesiad anghenion wedi'i gwblhau. Cylch gwaith ysgrifenedig clir wedi’i gyhoeddi. |
Tystiolaeth o gynllunio ac adolygu'r cylch gwaith mewn partneriaeth â sefydliadau perthnasol eraill. Tystiolaeth o ymgynghori cyhoeddus ar y cylch gwaith. |
2.2 Strwythur rheoli clir gyda rolau a chyfrifoldebau wedi’u diffinio. |
Disgrifiad ysgrifenedig o’r strwythur rheoli. Rolau a chyfrifoldebau ysgrifenedig i bawb sy'n rhan o ddarparu'r gwasanaeth. |
Disgrifiad ysgrifenedig o’r strwythur rheoli wedi’i adolygu o fewn y 12 mis blaenorol. Tystiolaeth o gynnwys strwythurau rheoli o fewn cynlluniau sefydlu staff. |
Rhaid i bob aelod o staff gael cyfleoedd i ddatblygu eu gyrfa. Cynllun olyniaeth ar gyfer rolau rheoli a llywodraethiant pwysig. |
Maes ansawdd 2: wedi’i gynllunio’n dda
2.1 Maen prawf ansawdd: cylch gwaith clir
Mae gan y gwasanaeth gylch gwaith clir, yn seiliedig ar angen, sy’n nodi manylion:
- y math o wasanaeth mae’r gwasanaeth yn ei ddarparu
- sut bydd y cyngor yn cael ei rannu
Cylch gwaith clir: tystiolaeth o gydymffurfio
Mae cylch gwaith ysgrifenedig ar gael ar gyfer y Gwasanaeth.
Mae’r deunyddiau hyrwyddo yn cynnwys y mathau o gyngor a ddarperir gan y gwasanaeth.
Cylch gwaith clir: maen prawf ar gyfer boddhaol neu dda
Asesiad anghenion wedi'i gwblhau.
Cylch gwaith ysgrifenedig clir wedi’i gyhoeddi.
Cylch gwaith clir: maen prawf ar gyfer eithriadol
Tystiolaeth o gynllunio ac adolygu'r cylch gwaith mewn partneriaeth â sefydliadau perthnasol eraill.
Tystiolaeth o ymgynghori cyhoeddus ar y cylch gwaith.
2.2 Maen prawf ansawdd: strwythur rheoli clir
Strwythur rheoli clir gyda rolau a chyfrifoldebau wedi’u diffinio
Strwythur rheoli clir: tystiolaeth o gydymffurfio
Disgrifiad ysgrifenedig o’r strwythur rheoli.
Rolau a chyfrifoldebau ysgrifenedig i bawb sy'n rhan o ddarparu'r gwasanaeth.
Strwythur rheoli clir: maen prawf ar gyfer boddhaol neu dda
Disgrifiad ysgrifenedig o’r strwythur rheoli wedi’i adolygu o fewn y 12 mis blaenorol.
Tystiolaeth o gynnwys strwythurau rheoli o fewn cynlluniau sefydlu staff.
Strwythur rheoli clir: maen prawf ar gyfer eithriadol
Rhaid i bob aelod o staff gael cyfleoedd i ddatblygu eu gyrfa.
Cynllun olyniaeth ar gyfer rolau rheoli a llywodraethiant pwysig