Data am hysbysiadau cosb benodedig, achosion llys, troseddau cyffuriau ac yfed a gyrru, a phrofion anadl ar gyfer 2018.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Troseddau moduro
Gwybodaeth am y gyfres:
Hysbysiadau cosb benodedig
- Yn 2018, rhoddodd yr heddlu a wardeiniaid traffig 74,500 o hysbysiadau cosb benodedig yng Nghymru, sef cynnydd o 13% o’i gymharu â 2017. Troseddau terfynau cyflymder oedd 73% (54,500) o’r rhain.
- Yn y blynyddoedd diwethaf, mae hysbysiadau cosb benodedig wedi gostwng yn gyson o dros 112,000 yn 2012.
Achosion llys
- Erlynwyd 56,300 o droseddau moduro yng Nghymru yn 2018.
- Y grwpiau troseddau mwyaf cyffredin oedd 'troseddau terfynau cyflymder' (17,300), 'troseddau cofrestru a threth cerbyd' (10,700) a 'troseddau yswiriant cerbydau' (10,400).
Damweiniau yn ymwneud â yfed a gyrru
- Yn 2017, bu tua 5% o ddamweiniau ffyrdd wedi’u cofnodi yng Nghymru yn cynnwys un neu fwy o yrwyr wedi’u amharu gan alcohol. Bu’r cyfran yn fwy am ddamweiniau a arweiniodd at farwolaeth neu anaf difrifol, at 8%.
- Canfuwyd bod gan 13% o yrwyr cerbydau modur a laddwyd yng Nghymru lefel alcohol y gwaed dros y terfyn cyfreithiol, o gymharu â 15% ym Mhrydain Fawr.
Profion anadl
- Yn 2018, cynhaliwyd 37,000 o brofion anadl yng Nghymru. Roedd canlyniad 4,500 o’r rhain (12%) yn bositif, sef gostyngiad o 1.6% o’i gymharu â 2017.
Rhagor o wybodaeth
Cyfunwyd adroddiadau ‘Troseddwyr moduro’ ac ‘Yfed a gyrru’ yn un adroddiad i symleiddio profiad y defnyddiwr.
Adroddiadau
Troseddau moduro, 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 700 KB
PDF
Saesneg yn unig
700 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.