Araith gan Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Cyflwyniad

Diolch yn fawr.

Roeddwn i'n falch o gyhoeddi Cenhadaeth ein cenedl, sef ein cynllun gweithredu newydd ar gyfer addysg, ym mis Medi.

Roeddwn i'n falch am nad oedd yn ddogfen a oedd wedi cael ei llunio yn un o swyddfeydd cefn y llywodraeth.

Yn lle hynny, roedd yn ffrwyth ystyriaeth ofalus gydag athrawon, arbenigwyr rhyngwladol a llawer o bobl eraill.

Gyda'n gilydd rydym yn berchen ar y cynllun gweithredu hwnnw.

Mae amcan cyffredinol y genhadaeth yn un syml, clir ac uchelgeisiol.

Gyda'n gilydd, byddwn yn codi safonau, yn lleihau'r bwlch cyrhaeddiad ac yn cyflwyno system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol ac y mae'r cyhoedd yn ymddiried ynddi.

Rydym yn gwybod i ble rydym yn mynd.

Rydym yn rhannu cenhadaeth.

Credwn ym mhwysigrwydd a phŵer addysg i newid bywydau, gwneud gwahaniaeth a chynrychioli pwy ydym ni fel cenedl.

Er mwyn cyflawni’r addewidion hynny, mae gennym ni yng Nghymru, ni sydd yn yr ystafell hon, ac mewn ystafelloedd dosbarth ledled y wlad, gyfle unigryw i lunio hanfodion ein system addysg.

Cwricwlwm

Drwy gyflwyno cwricwlwm gweddnewidiol newydd gyda'n gilydd, rydym wedi pennu tasg fawr i ni ein hunain.

Nid wy'n ymddiheuro am hynny.

Bydd ein cwricwlwm newydd yn cynrychioli'r hyn yr hoffem - ac y disgwyliwn - i ddinasyddion y dyfodol fod, gwybod a chael gan eu hathrawon.

Ond mae'r broses o gydweithio i lywio'r cwricwlwm hwnnw hefyd yn cynrychioli'r hyn rydym am ei gael o'r system addysg yng Nghymru.

Proffesiwn sy'n cydweithio; sy'n agored i syniadau newydd; sydd bob amser yn dysgu ac sy'n ceisio codi safonau ar gyfer pob disgybl.

Bûm yn ddigon ffodus yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i gyfarfod â Gweinidogion ac Addysgwyr o Ogledd America, o bob rhan o Ewrop ac ymhellach i ffwrdd.

Mae pob un ohonynt yn gwybod bod y ffordd rydym yn mynd ati i gyflawni'r diwygiadau hyn – sef y Ffordd Gymreig – yn seiliedig ar gydweithio, creadigrwydd a hyder.

Maent yn ein gwylio â diddordeb mawr ac yn awyddus i ddysgu o'n dull gweithredu.

Wrth lunio'r cwricwlwm gyda'n gilydd, rydym ni - pob un ohonom - wedi buddsoddi mewn cenhadaeth genedlaethol a rennir i ysbrydoli pobl ifanc iach, mentrus a hyderus sy'n meddu ar y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt nawr ac yn y dyfodol.

Gwn fod y llwybr hwn rydym wedi'i gymryd wedi profi dygnwch rhai ond teitl y gynhadledd hon yw ‘Troi'r gornel’ - ac, yn fy marn i, dyna'n union beth rydym yn ei wneud - gyda'n gilydd.

Dull cydweithredol

Ers fy niwrnod cyntaf yn y swydd hon, rwyf wedi ymrwymo i wrando ar bob safbwynt, yn enwedig pobl sy'n gweithio yn y rheng flaen.

Fel y gŵyr fy swyddogion, rwyf bob amser am glywed pob cyngor a barn ac mae angen i mi eu clywed. Nid dim ond y rhai sy'n cynnig atebion hawdd a syml.

Mae'n rhaid i chi ymddiried ynof yn hyn o beth, nid yw Democrat Rhyddfrydol sy'n diwygio ffioedd dysgu yn Weinidog sy'n dewis yr opsiwn hawdd!

Ac mewn perthynas â'r cwricwlwm, gwrandawais ar bob safbwynt a phryder a'u parchu.

Nid oes ofn arna' i wneud y penderfyniadau anodd, os mai nhw yw'r penderfyniadau cywir.

Drwy gyflwyno'r cwricwlwm yn ofalus ac mewn cydweithrediad ag eraill rydym bellach yn sicrhau bod gan ysgolion ac athrawon ddigon o amser i baratoi. Dylai hyn hefyd ennyn mwy o hyder yn y dull gweithredu a fabwysiedir gennym dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Mae'r cwricwlwm newydd yn gyfle sydd ond yn codi unwaith mewn cenhedlaeth. Gyda'n gilydd, mae'n rhaid i ni ei wneud yn iawn.
Yn aml gall fod perygl, wrth roi rhywbeth mor weddnewidiol â hwn ar waith, y byddwn yn colli momentwm.

Ond gyda'r dull gweithredu rydym wedi'i fabwysiadu yng Nghymru - sy'n seiliedig ar gydweithredu gwirioneddol – byddwn yn gwneud hyn yn iawn. 
Ni allwn, ac ni ddylem, laesu dwylo. Mae'n rhaid i ni barhau i weithredu'n gyflym.

Enghreifftiau o ysgolion

Ac felly mae'n galonogol gweld y gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud gyda chonsortia ac ysgolion.

Er enghraifft, rwy'n dal i glywed - ac rwyf wedi gweld - pethau gwych gan Ysgol Gynradd Tregatwg, ysgol arloesol yn y Barri sy'n gweithio gyda chlwstwr o ysgolion nad ydynt yn rhai arloesol ar wneud synnwyr a pharatoi ymarferwyr ar gyfer y cwricwlwm newydd.

Wedyn mae ysgol gynradd Treffilip yn Nhredegar Newydd, sy'n gweithio gyda'i hysgolion clwstwr i'w helpu i baratoi a meithrin eu dealltwriaeth o'r broses o ddiwygio'r cwricwlwm, ochr yn ochr â'i goblygiadau i ymarferwyr.

Ac Ysgol Gyfun Basaleg yng Nghasnewydd – mae'n gweithio gyda'i chlwstwr ar brosiect datblygu llythrennedd, sy'n seiliedig ar y Maes Dysgu a Phrofiad sy'n ymwneud ag iaith, llythrennedd a chyfathrebu.

Felly, mae digon o waith da yn mynd rhagddo, a gwn fod llawer o enghreifftiau eraill.

Y gwaith cydgysylltiedig hwn fydd yn gwneud y gwahaniaeth wrth i ni fynd ati, o ddifrif, i wireddu ein gweledigaeth ar y cyd.

Cofrestru'n gynnar

Nawr, ar y daith hon, ni fyddwn, wrth reswm, yn cytuno ar bopeth.  Mae hynny i'w ddisgwyl.

Rwy'n deall y pryderon y mae rhai ohonoch wedi'u codi o ran Cofrestru'n Gynnar. Wir i chi.

Ond, unwaith eto, byddaf yn cadw at fy egwyddor y byddaf bob amser yn barod i wneud y penderfyniadau anodd, os wyf o'r farn mai dyna'r peth cywir i'w wneud.

Bwriedir i arholiadau TGAU gael eu sefyll ar ôl dwy flynedd o addysgu, nid un.  Rwyf am i bobl ifanc allu manteisio ar gwricwlwm eang a chytbwys.

Yn fy marn i, mae llawer gormod o ddisgyblion nad ydynt yn cael cyfle i wireddu eu potensial llawn.

Dros y blynyddoedd diwethaf, yn rhy aml, rydym wedi gweld disgyblion yn ennill gradd C ar ôl cael eu cofrestru'n gynnar ar gyfer arholiadau ond nid ydynt yn cael eu hailgofrestru.

Yn syml, rydym yn bodloni ar y canlyniad yn hytrach na herio disgyblion.  Mae'n dal ein pobl ifanc yn ôl. Ac, yn fy marn i, mae hynny'n dangos diffyg hyder.
Diffyg hyder yn ein myfyrwyr a diffyg hyder ynom ni ein hunain.

Roedd canfyddiadau Cymwysterau Cymru yn glir. Canfu fod y defnydd eang o ddarpariaeth cofrestru'n gynnar yn peri risg sylweddol i ddysgwyr a'n system arholi.

Rwyf wedi gweithredu ar ei ganfyddiadau annibynnol a argymhellodd y dylem fabwysiadu dull gweithredu 'y cofrestriad cyntaf sy'n cyfrif'. Ond rwyf hefyd wedi gwrando ar bryderon ysgolion.

Pan gyhoeddwyd penderfyniad tebyg yn Lloegr, yn hollol fympwyol, gorfodwyd ysgolion i ymateb i'r newidiadau mewn ychydig ddiwrnodau, a hynny hanner ffordd drwy'r flwyddyn. Ychydig ddiwrnodau.

Rydym yn gwneud pethau'n wahanol yma. Rydym yn gwrando. Rydym yn gweithio gyda'r proffesiwn.

Rwy'n cydnabod bod angen amser ar ysgolion i gynllunio eu haddysgu, eu dysgu a'u dulliau gweithredu o ran TGAU.

Felly, daw'r newidiadau i fesurau perfformiad yn weithredol ar gyfer adroddiadau haf 2019.  Penderfyniad y rheoleiddiwr fydd caniatáu i ddisgyblion sefyll arholiadau Cymraeg a Saesneg am y tro cyntaf yng nghyfres arholiadau mis Tachwedd, ond rwy’n disgwyl i'r opsiwn hwn fod ar gael i ysgolion yn y flwyddyn academaidd nesaf.

Gadewch i mi fod yn glir: nid yw hwn yn waharddiad ar gofrestru disgyblion yn gynnar.

Mae a wnelo'r newid hwn â'r ffordd y byddwn yn ystyried perfformiad ysgolion yn unig; gan annog ysgolion i gofrestru dysgwyr pan fyddant yn barod i gael y canlyniad gorau posibl.

Os ydym bob amser yn ymrwymo i roi buddiannau dysgwyr yn gyntaf a sicrhau eu bod yn gwireddu eu potensial llawn, yna gallwn fod yn hyderus y byddwn ni, gyda'n gilydd, yn parhau i godi safonau a lleihau'r bwlch cyrhaeddiad.

Maint dosbarthiadau

Nawr, rwyf wedi bod ar daith bersonol hefyd.

Fel y gwyddoch efallai, fel Aelod Cynulliad o'r Democratiaid Rhyddfrydol, gwneuthum negodi Cytundeb Blaengar gyda'r Prif Weinidog ar ôl cael fy mhenodi'n Ysgrifennydd y Cabinet.

Fe wnes i gytuno ar flaenoriaethau a rennir ar gyfer nifer o bortffolios.

Hoffwn dreulio ychydig funudau yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am rywfaint o'r cynnydd sydd wedi'i wneud yn y flwyddyn gyntaf mewn rhai o feysydd â blaenoriaeth ysgolion, sy'n cynnwys ysgolion cynradd ac uwchradd.

Yn gyntaf, roedd yn amlwg drwy gydol etholiadau'r Cynulliad fy mod yn rhannu pryderon rhieni ac athrawon ynghylch maint dosbarthiadau babanod.

Dengys tystiolaeth ryngwladol mai'r grwpiau oedran ieuaf a disgyblion o gefndiroedd tlotach sy'n teimlo effeithiau lleihad ym maint dosbarthiadau fwyaf.

Trafodais y mater hwn â Llywodraeth Ontario yn ddiweddar.

Mae Ontario – sydd â system addysg o'r radd flaenaf - wedi buddsoddi mewn lleihau maint dosbarthiadau ac wedi gweld effaith gadarnhaol o ran eu sgoriau asesu taleithiol a rhyngwladol.

Yn seiliedig ar y dystiolaeth, bydd ein buddsoddiad yn targedu ysgolion â'r dosbarthiadau babanod mwyaf, lle mae angen i addysgu a dysgu wella, a lle y ceir lefelau uchel o amddifadedd.

Rydym wedi rhoi'r arian i awdurdodau lleol sydd wedi gorfod cyflwyno achos busnes yn nodi cynigion i ddangos sut y bydd eu hysgolion yn cael budd o'r buddsoddiad sylweddol hwn.

A dweud y gwir bu cryn wrthwynebiad i'r polisi hwn yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Ond rwyf wedi gwrando ar rieni, wedi gwrando ar athrawon ac wedi gwrando ar dystiolaeth ryngwladol.

Ysgolion gwledig/Band eang

Mae'r heriau sy'n wynebu ysgolion gwledig yn cael eu codi'n gyson gyda mi – rwy'n eu gweld yn fy ardal fy hun.

Mae hyn yn cynnwys niferoedd disgyblion sy'n gostwng, cael gafael ar adnoddau ac anawsterau o ran recriwtio.

Mewn ymateb, rydym wedi cyflwyno grant newydd i ysgolion gwledig a bach er mwyn hyrwyddo arloesi, cefnogi cydweithio rhwng ysgolion a chodi safonau.

Mae eich Awdurdodau Lleol wedi cyflwyno eu cynlluniau ar gyfer gwariant, mae'r rhain wedi'u hasesu ac maent wedi'u hysbysu am eu dyraniadau.

Telir tranche cyntaf y grant ym mis Rhagfyr.

Rwyf am sicrhau bod pob ysgol a chymuned yn cael gwrandawiad teg.

Dyma pam rwyf wedi ymgynghori ynghylch atgyfnerthu Cod Trefniadaeth Ysgolion mewn perthynas â rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig.

Nid yw hyn yn golygu na fydd ysgolion gwledig byth yn cau, ond mae'n rhaid i'r achos dros gau ysgol fod yn un cryf ac ni ddylid gwneud y penderfyniad hwnnw nes i bob opsiwn ymarferol arall gael ei ystyried yn briodol.

Daeth yr ymgynghoriad i ben ddiwedd mis Medi ac rydym wrthi'n dadansoddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad.  Caiff crynodeb ohonynt eu cyhoeddi ar ddiwedd y flwyddyn.

Weithiau mae ysgolion gwledig yn arbennig wedi colli'r cyfle i fanteisio ar fynediad i fand eang, ond nid dim ond ysgolion gwledig.

Felly, roedd blaenoriaethu mynediad ysgolion i fand eang cyflym iawn yn rhan allweddol o'r cytundeb â'r Prif Weinidog.  Ers hynny rydym wedi cyhoeddi buddsoddiad ychwanegol gwerth £5 miliwn i gefnogi'r maes hwn.

Iechyd meddwl

Nodwedd arall ar y cytundeb oedd gwell gwasanaethau iechyd meddwl.

Dro ar ôl tro rwy'n siarad â Phenaethiaid ac athrawon sy'n sôn wrthyf am y ffaith eu bod yn treulio llawer gormod o amser yn mynd ar ôl gwasanaethau cymdeithasol er mwyn sicrhau bod disgyblion yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Mae'n amlwg bod angen system fwy cydgysylltiedig arnom.  Felly, mae'r Ysgrifennydd Iechyd a minnau wedi cyhoeddi cynlluniau peilot, sy'n cwmpasu Gogledd-ddwyrain, De-ddwyrain a Gorllewin Cymru, a fydd yn gweithredu mewn ysgolion uwchradd, ysgolion canol ac ysgolion cynradd sy'n bwydo.

Bydd hyn yn darparu ymarferwyr CAMHS penodol sy'n gweithio mewn ysgolion i roi cymorth a chyngor ar y safle i athrawon, gan sicrhau bod disgyblion sy'n cael anawsterau yn cael cymorth yn gynnar.

Os bydd y cynlluniau peilot yn llwyddiannus, ac rydym yn hyderus y byddant, yna mae hwn yn fodel yr hoffwn ei ymestyn ledled y wlad.

Academi arweinyddiaeth

Yn olaf, a byddwch yn gwybod hyn yn well nag unrhyw un, mae'n amlwg i mi, er mwyn llwyddo, fod angen arweinwyr ysbrydoledig ar bob ysgol, sy'n pennu cyfeiriad ac yn arwain y ffordd yng nghymuned eu hysgol eu hunain.

Yn fy marn i, mae sefydlu ein Hacademi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn gam pwysig ymlaen.

Ochr yn ochr â safonau proffesiynol newydd, diwygio Addysg Gychwynnol i Athrawon a diwygio'r cwricwlwm, mae'n rhan o ddull cydlynol a chydweithredol o ddatblygu arweinwyr.

Bydd yr Academi yn datblygu doniau arweinyddol nawr ac yn y dyfodol er budd Cymru ac yn sicrhau y gall pob ysgol gyflwyno ein cwricwlwm newydd.

Ers cyhoeddi'r penderfyniad i sefydlu Bwrdd Cysgodol yr Academi fis Tachwedd diwethaf, rwyf wedi fy nghalonogi'n fawr gan y cynnydd cyson sydd wedi'i wneud mewn amser byr.  Rwy'n disgwyl i'r momentwm hwn barhau fel y bydd yr Academi wedi'i sefydlu'n llawn erbyn haf 2018.

Casgliad

Nawr, dechreuais yr araith hon drwy sôn am sut rydym ni, gyda'n gilydd, ar daith. Hirdaith.

I gloi, hoffwn fyfyrio ar daith Lewis a Clark, ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Arweiniodd Meriwether Lewis, Americanwr o dras Gymreig, daith yn 1804 drwy ardaloedd anhysbys i ranbarth gogledd-orllewinol y Môr Tawel.

Dechreuodd Lewis, Clark a gweddill eu tîm eu taith ym Missouri – lle sy'n agos at fy nghalon ar ôl i mi astudio yno, pan oeddwn yn ifanc ac yn ddiofal. Ar hyn o bryd, dim ond brithgof sydd gen i o'r cyfnod hwnnw!

Wynebodd y grŵp hwn o fforwyr – a elwir yn aml yn Gorfflu Darganfod – bron pob rhwystr a chaledi y gellid eu dychmygu ar eu taith, ond ni allwn ddechrau gwerthuso dylanwad y daith honno.

Gwnaethant lwyddo i fapio'r diriogaeth newydd a dod o hyd i lwybr ymarferol ar draws hanner gorllewinol y cyfandir, gan ei hawlio i'r Unol Daleithiau.

Yn ddiau, newidiodd taith Lewis a Clark hanes America am byth.

Ac rydych ar daith sydd yr un mor bwysig, yma, nawr.

Mae gennych gyfle i fapio dyfodol, gan gyflwyno'r achos dros ffordd well o ddarparu addysg.

Rhywbeth a fydd yn cyflawni nid yn unig ar gyfer y presennol a dinasyddion heddiw, ond a fydd yn adeiladu rhywbeth ar gyfer Cymru yn y dyfodol.

Nid oes unrhyw fap sefydledig wedi'i guddio mewn drâr yn un o swyddfeydd cefn y llywodraeth i chi ei ddilyn ar ein taith gwricwlaidd, a bydd heriau i'w goresgyn yn y diriogaeth newydd hon.

Ond… Chi yw'r mapwyr.

Rydym yn troi'r gornel. Gyda'n gilydd  byddwn yn mapio'r daith.

Ond y modd rydych yn ymrwymo i arwain y ffordd sy'n hollbwysig er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd ein cyrchfan.

Chi – fel unigolion, gyda'ch gilydd, fel arweinwyr – sy'n newid cwrs ein stori addysg. Gan droi'r gornel honno tuag at ddyfodol disglair, hyderus.

Diolch yn fawr iawn.