Neidio i'r prif gynnwy

Nodau a methodoleg yr ymchwil

Cyflwyniad

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau adolygiad cwmpasu cyflym (ACC) yn ymwneud â throchi hwyr, trefniadau dysgu iaith dwys a darpariaeth iaith i ddisgyblion sydd wedi cael toriad neu fwlch yn eu profiad trochi.

Mae'r adolygiad yn darparu gwybodaeth am gyfanswm y dystiolaeth a ganfuwyd a nodweddion y dystiolaeth honno, yn ogystal â throsolwg o'r hyn y mae'r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym.

Nodau'r ymchwil

Nod yr adolygiad oedd nodi ymchwil sy'n trafod dulliau neu ymyriadau sy'n ymwneud â throchi hwyr a dysgu iaith dwys, ac sy'n berthnasol i gyd-destun presennol y Gymraeg mewn addysg yng Nghymru. Mae'n cyfeirio at dystiolaeth sy'n ymwneud â'r Gymraeg yng Nghymru a hefyd at gyd-destunau ac ieithoedd sy'n cynnig pwyntiau cyfeirio ystyrlon ar gyfer y Gymraeg mewn addysg.

Defnyddiwyd y cwestiwn ymchwil sylfaenol canlynol i lywio'r astudiaeth:

‘Beth yw'r dystiolaeth ynghylch darpariaeth iaith i ddisgyblion a gaiff eu haddysgu mewn iaith sy'n wahanol i iaith y cartref, ac a gaiff eu cyflwyno i'r iaith honno am y tro cyntaf ar ôl dechrau addysg ffurfiol?’

Y cwestiynau ymchwil eilaidd oedd:

Beth yw’r dystiolaeth sy’n ymwneud â darpariaeth ar gyfer:

  1. Disgyblion sydd â phrofiad o ddysgu bylchog, a
  2. Disgyblion mewn lleoliadau trochi iaith?’

Cafodd yr adolygiad ei gynnal yn fewnol yn y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru, gyda chymorth gan Wasanaethau Llyfrgell Llywodraeth Cymru.

Cyd-destun polisi

Mae pwyntiau mynediad hwyr i addysg Gymraeg wedi bod ar waith yng Nghymru ers sawl blwyddyn. Mae nifer o ganolfannau trochi hwyr ledled Cymru sy'n cynnig rhaglen caffael iaith ddwys i hwyrddyfodiaid i'r Gymraeg. Mae amrywiaeth o raglenni trochi hwyr hefyd wedi cael eu treialu a'u cyflwyno mewn ysgolion. Mae darparu pwyntiau mynediad i addysg Gymraeg ar gamau y tu hwnt i'r blynyddoedd cynnar wedi bod yn nodwedd mewn darpariaeth drochi yng Nghymru ers nifer o flynyddoedd. Caiff y ddarpariaeth hon ei chyflwyno mewn canolfannau trochi hwyr mewn sawl awdurdod lleol, ac mae rhaglenni trochi hwyr wedi cael eu treialu a'u cyflwyno mewn ysgolion hefyd.

Mae datblygiadau cyfredol mewn perthynas â chynllunio a chyflwyno darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn tynnu sylw at yr angen parhaus am ddealltwriaeth lawnach o gyfraniad pwyntiau mynediad hwyr at ddatblygiad strategol y ddarpariaeth honno. Bwriedir i drefniadau newydd arfaethedig gynorthwyo awdurdodau lleol ac ysgolion i gynllunio eu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg mewn ffordd sy'n cefnogi'r Cwricwlwm newydd i Gymru a'r nod cenedlaethol o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yng nghyd-destun cefnogi awdurdodau lleol ac ysgolion i gynllunio ar gyfer cynyddu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg, mae'n bwysig cyfeirio at dystiolaeth sy'n ymwneud â throchi dysgwyr mewn iaith ar gamau y tu hwnt i'r blynyddoedd cynnar.

Mae'r angen i ddatblygu ein dealltwriaeth o'r sylfaen dystiolaeth mewn perthynas â throchi hwyr, a'r dulliau dwys o gaffael iaith, wedi datblygu dimensiwn ychwanegol yn ystod y deuddeg mis diwethaf yng ngoleuni pandemig COVID-19. Wrth i'r system addysg barhau i ddiwallu anghenion dysgwyr a chefnogi eu cynnydd, rhagwelir y bydd rhai o'r dulliau a'r technegau a ddefnyddir mewn cyd-destunau trochi hwyr a dysgu iaith dwys yn berthnasol; yn enwedig yn achos dysgwyr y mae eu prif neu eu hunig gysylltiad â'r Gymraeg drwy ryngweithiadau yn yr ysgol, ac y mae eu cysylltiad â'r iaith wedi cael ei rwystro gan gyfyngiadau sy'n gysylltiedig â'r pandemig.

Methodoleg

Roedd tri cham i'r ACC: Datblygu Protocol, Chwiliadau a Synthesis. Arweiniodd y chwiliadau llenyddiaeth, a gynhaliwyd gan Wasanaethau Llyfrgell Llywodraeth Cymru, at gyfanswm o 270 o eitemau ymchwil. Ar ôl tri cham sgrinio, cafodd 46 o eitemau ymchwil eu cynnwys yn y synthesis. Mae'r synthesis yn cynnig naratif o'r hyn y mae'r dystiolaeth yn ei ddangos mewn perthynas â'r cwestiynau ymchwil, ac mae'n awgrymu meysydd posibl lle gallai ymchwil a thystiolaeth bellach fod yn fuddiol.

Nid oedd yr adolygiad yn cynnwys asesiad o ansawdd a chadernid y dystiolaeth a gafodd ei nodi. Rhaid cadw hynny mewn cof wrth edrych ar ganfyddiadau'r ymchwil, ac nid oes argymhellion mewn perthynas â rhoi polisïau ar waith wedi cael eu cynnwys. Fodd bynnag, mae casgliad yr adolygiad hwn yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer meysydd lle gellid ystyried gwneud rhagor o waith mwy manwl. Mae'r ystyriaethau hyn yn nodi bylchau posibl yn y dystiolaeth ac maent wedi cael eu categoreiddio yn ôl ‘meysydd lle mae tystiolaeth ar gael’, ‘meysydd lle mae llai o dystiolaeth ar gael’ a ‘senarios sy'n dod i'r amlwg’.

Cynhaliwyd yr adolygiad rhwng mis Mehefin 2020 a mis Chwefror 2021, a chwblhawyd y mwyafrif o'r gwaith rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2020, a rhwng mis Ionawr a mis Chwefror 2021.

Canfyddiadau allweddol

Pwyntiau mynediad optimaidd: addysg drochi

Nododd astudiaethau mai trochi cynnar yw'r opsiwn a ffefrir ar gyfer dysgu ieithoedd, ond mae rhai ymchwilwyr yn dadlau nad oes oedran optimaidd i unigolyn ddechrau ar ei daith drochi.  Yn hytrach, mae'r ‘amser optimaidd’ yn adlewyrchu blaenoriaethau unigol rhieni a phlant.

Mae'r ymchwil yn nodi amodau optimaidd ar gyfer dysgu ail iaith (I2). Mae'r amodau hyn yn cynnwys cael arferion llythrennedd cryf yn y cartref a chael digon o amser ar gyfer arferion llythrennedd I2 yn yr ysgol. Maent hefyd yn cynnwys cael arferion trochi sydd wedi'u cynllunio'n dda ac sy'n cael eu rhoi ar waith yn effeithiol, a chyfleoedd i blant ddefnyddio eu hail iaith yn anffurfiol.

Ymyriadau trochi hwyr

Daw'r rhan fwyaf o'r ymchwil a gaiff ei chynnwys yn yr adroddiad i'r casgliad nad yw cymryd rhan mewn ymyriadau trochi hwyr yn effeithio'n negyddol ar ddeilliannau addysgol disgyblion mewn unrhyw ffordd. Fodd bynnag, canfu astudiaeth â siaradwyr Tsieinëeg a oedd yn cymryd rhan mewn ymyriad trochi hwyr yn Hong Kong effeithiau negyddol wrth ystyried pynciau nad oeddent yn ieithoedd a gaiff eu hastudio drwy gyfrwng y Saesneg. Mae'r awduron yn awgrymu y dylid dechrau'r daith drochi yn gynharach, gan ddarparu cymorth parhaus ar gyfer pynciau nad ydynt yn ieithoedd, a darparu cyfnod pontio sy'n ddigon hir rhwng addysg gynradd ac addysg uwchradd.

Canfu astudiaeth yn cymharu cyfranogwyr trochi cynnar a throchi hwyr yn Iwerddon, ar ôl tair blynedd o drochi, fod y myfyrwyr trochi hwyr wedi cyflawni graddau tebyg i'w cymheiriaid trochi cynnar. Roedd y cyfranogwyr trochi cynnar wedi cael oddeutu 10,000 o oriau o drochi yn y Wyddeleg, tra bo'r cyfranogwyr trochi hwyr wedi cael oddeutu 3,600 o oriau (ers dechrau'r ysgol uwchradd). Nododd yr holl gyfranogwyr mai Saesneg oedd eu hiaith gyntaf.

Canfu ymchwil yn cymharu rhaglenni trochi hwyr ag opsiynau amgen, megis astudio dramor ac arferion dysgu iaith rheolaidd yn yr ystafell ddosbarth, ar gyfer gwersi Ffrangeg yn yr UD fod rhuglder llafar y myfyrwyr yn y rhaglen drochi hwyr yn gwella mwy na'r rhai a oedd yn astudio dramor. Noda'r ymchwilwyr fod defnyddio I2 wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau y tu allan i'r ystafell ddosbarth yn gysylltiedig â gwella rhuglder llafar a bod natur ac ansawdd rhyngweithiadau yn I2, yn hytrach na'r cyd-destun, yn hyrwyddo amrywiaeth o ffyrdd o ddysgu I2.

Darpariaeth iaith ddwys

O'r dystiolaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad, roedd cytundeb cyffredinol bod darpariaeth iaith ddwys yn cynhyrchu sgiliau cyfathrebu gwell yn I2 na'r un nifer o oriau o ddarpariaeth iaith wedi'u rhannu dros gyfnod hwy. Mae canfyddiadau ymchwil o Ganada yn awgrymu bod angen o leiaf 250 o oriau er mwyn i blant sy'n dysgu Ffrangeg fel eu hail iaith ddechrau cyfathrebu ar lafar yn ddigymell.

Gwnaeth astudiaeth yng Nghanada gymharu myfyrwyr a oedd yn cymryd rhan mewn rhaglen iaith ddwys ar gyfer dysgu Ffrangeg â'u cyfoedion nad oeddent yn cymryd rhan yn y rhaglen, o ran eu perfformiad wrth ddarllen ac ysgrifennu yn Saesneg ac mewn Gwyddoniaeth. Canfu'r astudiaeth fod y myfyrwyr a oedd yn cymryd rhan yn y rhaglen ‘Ffrangeg ddwys’ yn perfformio'n well na'u cyfoedion yn y rhaglen arferol. Daeth yr astudiaeth i'r casgliad nad oedd yr amser ychwanegol a oedd yn cael ei dreulio ar ddarpariaeth Ffrangeg ddwys yn cael unrhyw effaith ar gyflawniad myfyrwyr yn Saesneg. Unwaith y bydd cyfnod o ddysgu iaith dwys wedi'i gwblhau, mae'r ymchwil yn awgrymu y dylid rhoi pwyslais ar strategaeth parhad dysgu. Mae gwerthusiad o gynlluniau peilot trochi Cymraeg ac addysgu iaith dwys yn nodi bod angen darparu cymorth parhaus ym Mlwyddyn 7, ar ôl i ddisgyblion gymryd rhan mewn darpariaeth iaith ddwys ym Mlwyddyn 6. Roedd awgrymiadau ar gyfer cymorth parhaus yn cynnwys darparu gweithgareddau allgyrsiol i ddisgyblion allu defnyddio'r sgiliau iaith y maent newydd eu datblygu y tu allan i'r ystafell ddosbarth.

Darpariaeth trochi hwyr

Dulliau gweithredu yn yr ystafell ddosbarth

Mae cytundeb cyffredinol yn y dystiolaeth a gyflwynwyd fod strategaethau addysgu penodol yn annog gallu cyfathrebol myfyrwyr. Mae addysgu iaith gyfathrebol yn un dull sy'n ceisio annog dysgwyr mewn rhaglenni trochi Ffrangeg hwyr yng Nghanada i gyfathrebu ar lafar yn ddigymell. Casgliad o egwyddorion yw'r dull gweithredu hwn sy'n gymwys i drochi hwyr. Mae mabwysiadu dulliau cyfathrebol o addysgu iaith yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan gan ddefnyddio ‘tasgau o'r byd go iawn’ a defnyddio'r ail iaith mewn ffordd ddilys; mae hyn yn hyrwyddo cydweithredu sydd, yn ei dro, yn datblygu cywirdeb a rhuglder myfyrwyr.

Mae canfyddiadau sydd wedi'u cynnwys yn yr adolygiad yn nodi bod arferion addysgu sy'n annog dysgwyr i gyfathrebu ar lafar yn ddigymell yn cynnwys ail-greu sefyllfaoedd cyfathrebu gwirioneddol, gwneud y cwricwlwm yn un a arweinir gan y disgybl, a chael disgwyliadau uchel ar gyfer pob myfyriwr. 

Ymarferwyr

Ystyrir bod hyfforddi addysgwyr a datblygu eu sgiliau yn elfen hanfodol o raglenni trochi hwyr. Noda canfyddiadau fod angen hyfforddiant ar ymarferwyr ar addysgu iaith dwys ac ymgorffori iaith gyntaf y plentyn yn yr ystafell ddosbarth er mwyn cefnogi datblygiad yr ail iaith. Mae'r ymchwil hefyd yn nodi bod methodolegau addysgu ar gyfer ymyriadau trochi a'r ffordd y cânt eu hymgorffori yn yr ystafell ddosbarth yn rhywbeth a ddylai gael ei gynnwys mewn rhaglenni hyfforddiant cychwynnol athrawon.

Amgylchedda

Mae tystiolaeth yn awgrymu yr ystyrir bod rhwydweithiau cymorth allanol yn elfen bwysig o ddarpariaeth addysgu iaith ddwys. Er enghraifft, roedd cael cymorth a chanllawiau wedi'u targedu gan yr awdurdod lleol yn ffactor allweddol i blant ddysgu Cymraeg yn llwyddiannus drwy gynllun peilot addysgu iaith dwys.

Mae cael cefnogaeth gan rieni yn bwysig er mwyn cyfleu negeseuon allweddol am drochi hwyr i rieni, fel y gwelir mewn deunyddiau enghreifftiol o leoliadau trochi Ffrangeg yng Nghanada.

Amser

Mae cytundeb cyffredinol bod amser yn ffactor allweddol mewn darpariaeth trochi hwyr. Mae ymchwil sydd wedi'i chynnwys yn y synthesis yn nodi bod angen amser ac ymdrech er mwyn rhoi rhaglenni trochi hwyr ar waith, ond eu bod yn arwain yn y pen draw at ddeilliannau dysgu gwell o gymharu â rhaglenni lle treulir llai o amser yn dysgu iaith. Mae un astudiaeth yn nodi bod cael digon o amser i gyflwyno llythrennedd I2 yn helpu i gefnogi trochi hwyr.

Mae'r dystiolaeth hefyd yn nodi bod angen digon o amser ar addysgwyr er mwyn cynllunio eu darpariaeth trochi hwyr wrth ystyried nod deublyg addysg drochi, sef addysgu iaith a chynnwys ar yr un pryd. Mae canfyddiadau'r ymchwil yn nodi bod angen mwy o gymorth seiliedig ar raglenni ar athrawon trochi, sy'n cynnwys amser ychwanegol i gynllunio oherwydd bod angen cydbwyso deunydd iaith a chynnwys.

Disgyblion sydd â phrofiad o ddysgu bylchog

Daw plant sydd â phrofiad o ddysgu bylchog o amrywiaeth o gefndiroedd ieithyddol gwahanol, ac efallai y byddant wedi bod mewn sefyllfaoedd gofidus ac emosiynol, megis gwrthdaro neu drychinebau naturiol, yn ogystal â pheidio â chael eu haddysg. Canfu ymchwil i integreiddio plant sydd â phrofiad o ddysgu bylchog dair arfer sy'n annog hwyrddyfodiaid i gaffael iaith yn llwyddiannus. Yn gyntaf, mae ystyried profiad addysgol blaenorol ac addasu rhaglenni yn ôl anghenion y myfyriwr yn hollbwysig. Yn ail, roedd defnyddio deunyddiau ‘a grëwyd gan yr athro’, yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu arferion ieithyddol. Yn olaf, rhoddodd ‘dosbarthiadau cymorth dwyieithog’ gyda chynorthwywyr addysgu gyfleoedd ar gyfer trafodaethau estynedig. Daeth y cynorthwywyr addysgu yn eiriolwyr ar gyfer y myfyrwyr, yn gymdeithasol ac yn academaidd, a wnaeth helpu eu trosglwyddiad academaidd.

Mewn sefyllfaoedd lle mae dysgwyr wedi cael bwlch yn eu haddysg, gall ymyriadau megis trawsieithu neu integreiddio iaith y cartref yn y cwricwlwm drwy ddulliau eraill gefnogi'r dysgwr i ddatblygu ei hyfedredd yn I2.

Ymhlith y dystiolaeth sydd wedi'i chynnwys yn yr adolygiad mae enghraifft o'r gwersi iaith ychwanegol a ddarparwyd i fyfyrwyr newydd yn Awstralia a oedd yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Roedd yr enghraifft yn cynnwys cynnal gwersi dros y ffôn neu ar lwyfannau megis Skype neu Moodle ym mamiaith y plentyn. Rhoddwyd darpariaeth ar waith hefyd ar gyfer plant na allent fynd i ysgol neu ganolfan cyfrwng Saesneg. Yn hytrach, gallai'r plant hyn gael mynediad i ‘Raglen Rithwir Saesneg fel Iaith Ychwanegol i Fyfyrwyr Newydd’ lle roedd athrawon Saesneg fel iaith ychwanegol arbenigol yn darparu deunyddiau a oedd yn ymwneud â'r cwricwlwm prif ffrwd.

Meysydd ac ystyriaethau i'w datblygu ymhellach

Meysydd lle mae tystiolaeth ar gael

Mae'r synthesis yn darparu tystiolaeth sy'n awgrymu y gall trochi hwyr fod yn bwynt mynediad ychwanegol llwyddiannus i hwyrddyfodiaid i addysg mewn ail iaith. Trafododd y dystiolaeth a gyflwynwyd bwysigrwydd darparu cymorth parhaus ar gyfer disgyblion trochi hwyr sy'n trosglwyddo o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd. Nododd y dystiolaeth arferion gorau penodol hefyd, er enghraifft mabwysiadu dull cyfathrebol, darparu cyfleoedd datblygu proffesiynol parhaus i ymarferwyr, a phwysigrwydd dulliau cefnogi megis uwch-reolwyr, awdurdodau lleol a rhieni a gofalwyr.

Mae canfyddiadau ymchwil o'r ACC yn nodi bod darpariaeth iaith ddwys yn fwy effeithiol na'r un faint o oriau o ddarpariaeth iaith dros gyfnod hwy. Mae tystiolaeth o'r synthesis hefyd yn pwysleisio pa mor bwysig yw cael digon o amser i roi darpariaeth iaith ddwys ar waith, a rhoi digon o amser i ymarferwyr allu cynllunio a datblygu adnoddau. 

Dylid nodi nad oedd yr adolygiad yn cynnwys asesu cryfder na chadernid y dystiolaeth a gyflwynwyd, a byddai angen cadw hyn mewn golwg fel rhywbeth i'w ystyried pe byddai gwaith yn cael ei wneud yn y dyfodol mewn perthynas â'r maes hwn.

Meysydd lle mae llai o dystiolaeth ar gael

Roedd llai o dystiolaeth ar gael mewn perthynas â pha fethodolegau neu ymyriadau sy'n ymwneud ag arferion trochi hwyr effeithiol mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Gallai ymchwil yn y maes hwn ddarparu gwybodaeth werthfawr am y ddarpariaeth trochi hwyr bresennol sydd ar gael yng Nghymru, ynghyd â pha mor effeithiol yw'r ddarpariaeth bresennol, a sut y gellid cynyddu'r ddarpariaeth hon dros amser, sef un o nodau Cymraeg 2050.

Senarios sy'n dod i'r amlwg

Gallai ystyried y ffyrdd y gallai pandemig COVID-19 effeithio ar ddatblygiad iaith plant mewn addysg drochi Gymraeg fod yn faes i ymchwilio iddo ar gyfer prosiectau yn y dyfodol. Ymddengys fod angen mwy o wybodaeth er mwyn deall yn well pa elfennau o brofiad dysgu iaith plentyn sydd angen eu cefnogi ymhellach wrth iddynt ddatblygu drwy'r system addysg.

Gwnaeth rhai o'r eitemau ymchwil a gafodd eu cynnwys yn yr ACC drafod defnyddio technoleg i hwyluso darpariaeth trochi hwyr ar gyfer plant sydd â phrofiad o ddysgu bylchog. Cyhoeddwyd yr eitemau hyn cyn pandemig COVID-19 ac mae mwy o ymwybyddiaeth erbyn hyn o'r potensial i ehangu'r defnydd o dechnoleg yn y sector addysg. Gallai archwilio'r defnydd o dechnoleg mewn rhaglenni trochi hwyr fod yn faes i'w ystyried mewn gwaith yn y dyfodol.

Mae'r adolygiad yn cyfeirio at brofiadau plant sydd â phrofiad o ddysgu bylchog. Roedd y cyfeiriad at hyn yn gyfyngedig i brofiadau trochi hwyr plant a oedd hefyd wedi profi sefyllfaoedd megis trychinebau naturiol, gwrthdaro a mewnfudo, a beth y gallai hyn ei olygu iddynt o ran eu datblygiad iaith. Ymchwiliwyd i'r pwnc hwn gan ei fod yn cynnig rhai cymariaethau â phandemig COVID-19 a'r newidiadau i addysg plant oherwydd cyfyngiadau a bylchau mewn dysgu wyneb yn wyneb (er bod angen cydnabod gwahaniaethau pwysig rhwng y ddau gyd-destun hefyd).

Cafodd profiadau myfyrwyr ag addysg ffurfiol gyfyngedig neu fylchog eu cynnwys yn yr adolygiad mewn perthynas â phandemig COVID-19 a'r tarfu ar ddysgu wyneb yn wyneb. Ymddengys y gellid ymchwilio ymhellach i brofiadau ffoaduriaid a mewnfudwyr sy'n ymgartrefu yng Nghymru ac sy'n mynychu lleoliadau addysg drochi hwyr cyfrwng Cymraeg gan na chafodd hyn ei ystyried fel rhan o'r ACC.

Manylion cyswllt

Awdur: Dr Mirain Rhys

Barn yr ymchwilwyr a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r:
Catrin Redknap
Email: ymcwhil.cymraeg@llyw.cymru

Rhif ymchwil gymdeithasol: 39/2021
ISBN digidol: 978-1-80195-423-5

Image
GSR logo