Neidio i'r prif gynnwy

A ydych chi’n gymwys i gael triniaethau COVID-19.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae cleifion y GIG sy’n wynebu risg uwch yn sgil COVID-19 yn gymwys i gael triniaeth gartref.

Brechu yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddiogelu’r rheini sydd fwyaf agored i niwed. Mae brechu yn diogelu pobl rhag salwch yn sgil COVID-19. Golyga hyn bod llai o risg o lawer erbyn hyn y bydd pobl yn dioddef salwch difrifol, ac na fyddant yn elwa o driniaethau gwrthfeirol.

Gall rhai pobl gael triniaethau gwrthfeirol yn rhan o’u gofal os ydynt yn parhau i wynebu risg uchel o gael COVID-19 yn ddifrifol.

Triniaeth COVID-19 i bobl sydd â risg uchel o gael COVID-19 yn ddifrifol

Mae'n bosibl y gall pobl sydd â risg uchel o fod yn ddifrifol sâl yn sgil COVID-19 dderbyn triniaeth gartref.

Mae’r grŵp risg uchaf yn cynnwys pobl sydd â’r cyflyrau canlynol:

  • anhwylderau cromosomaidd sy’n effeithio ar y system imiwnedd, gan gynnwys syndrom Down
  • mathau penodol o ganser, neu wedi cael tynnu canser yn y 12 mis diwethaf
  • wedi cael naill ai radiotherapi neu cemotherapi yn y 12 mis diwethaf
  • clefyd y crymangelloedd
  • cyflyrau penodol sy’n effeithio ar y gwaed, neu wedi cael trawsblaniad bôn-gelloedd haematolegol
  • clefyd cronig yn yr arennau (CKD) cam 4 neu 5
  • clefyd difrifol yr afu
  • wedi cael trawsblaniad organ
  • clefydau awto-imiwn penodol neu gyflyrau llidiol, megis arthritis gwynegol neu glefyd llid y coluddyn ac yn cael meddyginiaethau penodol o bosibl
  • HIV neu AIDS
  • cyflwr niwrolegol prin (megis sglerosis ymledol, clefyd Huntington, clefyd niwronau motor neu myasthenia gravis)
  • system imiwnedd wan naill ai oherwydd cyflwr neu feddyginiaethau penodol

Mae’r grŵp risg uchaf hefyd wedi’i ymestyn i gynnwys pob unigolyn 70 oed a throsodd sy’n byw mewn cartref gofal neu sydd yn yr ysbyty.

Os ydych yn perthyn i’r grwpiau a restrir uchod, ac yn profi’n bositif ar gyfer COVID-19, gallech fod yn gymwys i gael triniaethau. Mae triniaethau’n helpu i reoli eich symptomau a lleihau’r risg o fynd yn sâl oherwydd COVID-19.

Os ydych yn cael canlyniad positif i brawf COVID-19, cewch eich asesu i weld a ydych yn gymwys i gael triniaeth.

Beth sydd angen i chi ei wneud i gael y driniaeth

Os ydych yn perthyn i un o’r grwpiau a restrir uchod, dylech gadw profion llif unffordd yn eich cartref. Mae rhagor o wybodaeth yma am sut y gallwch gael profion llif unffordd COVID-19.

Cymerwch brawf cyn gynted ag y byddwch yn cael symptomau COVID-19. Os yw eich prawf yn negatif ond bod eich symptomau’n parhau, dylech gymryd prawf arall y diwrnod wedyn (diwrnod 2). Os yw’n parhau’n negatif, gwnewch brawf arall ar ddiwrnod 3. Os yw eich profion ar ddiwrnodau 2 a 3 yn negatif, mae’n annhebygol bod COVID-19 arnoch.

Beth ddylech chi ei wneud os byddwch yn profi’n bositif am COVID-19?

Os ydych yn perthyn i un o’r grwpiau sydd wedi’u rhestru uchod ac rydych yn gymwys i gael triniaeth, bydd angen ichi lenwi’r ffurflen hunanatgyfeirio Ffurflen Hunanatgyfeirio am Driniaeth Gwrthfeirysol COVID-19 (GIG 111 Cymru). Os na fyddwch yn gallu defnyddio’r ffurflen hunanatgyfeirio, gallwch ofyn i’ch meddyg teulu neu arbenigwr yn yr ysbyty eich atgyfeirio am asesiad. Gallwch hefyd ffonio GIG 111 Cymru gan ddweud

  • bod gennych symptomau COVID-19
  • rydych wedi profi’n bositif am COVID-19
  • rydych yn credu eich bod yn y grŵp risg uchaf ac yn gymwys am driniaeth

Bydd y person ochr arall y ffôn yn cynnig gwasanaeth nyrs i asesu’ch symptomau. Efallai y bydd yn eich atygyfeirio at wasanaeth gwerthfeirysol eich bwrdd iechyd lleol i gael asesiad i wneud yn siŵr eich bod yn cael y driniaeth fwyaf addas ar eich cyfer chi.

Sut y byddwch yn cael gwybod os ydych yn gymwys i gael triniaeth

Os ydych yn gymwys i gael triniaeth, bydd rhywun fel arfer yn cysylltu â chi o fewn 48 awr o pan wnaethoch chi lenwi’r ffurflen hunanatgyfeirio neu gysylltu â GIG 111 Cymru. Efallai y byddwch yn derbyn neges destun neu alwad ffôn yn cynnig triniaeth. Mae’n bwysig eich bod yn ateb y neges destun.

Naill ai atebwch y neges drwy roi: “ADVICE” - i siarad ag aelod o staff i gael rhagor o wybodaeth am yr opsiynau o ran triniaethau posibl sydd ar gael i chi.

Neu atebwch “DECLINE” – i wrthod triniaeth.

Ar ôl i chi ateb, bydd rhywun yn cysylltu â chi i asesu a yw triniaeth yn iawn i chi a pha driniaeth sydd fwyaf addas.

Beth i wneud os nad oes rhywun wedi cysylltu â chi, ond rydych yn credu eich bod yn gymwys am driniaeth

Os oes symptomau gennych, ac rydych wedi llenwi ffurflen hunanatgyfeirio ond nid oes rhywun wedi cysylltu â chi o fewn 48 awr o gofnodi canlyniad positif i brawf llif unffordd.

Ffoniwch GIG 111 gan ddweud:

  • bod gennych symptomau COVID-19
  • rydych wedi profi’n bositif ar gyfer COVID-19
  • rydych yn credu eich bod yn y grŵp risg uchaf ac yn gymwys am driniaeth

Bydd y person ochr arall y ffôn yn cynnig gwasanaeth nyrs i asesu’ch symptomau. Efallai y bydd yn eich cyfeirio at y wasanaeth gwerthfeirysol eich bwrdd iechyd lleol i gael asesiad i wneud yn siŵr eich bod yn cael y driniaeth fwyaf addas ar eich cyfer chi.

Pa driniaethau sydd ar gael?

Triniaethau gwrthfeirysol

  • Paxlovid (nirmatrelvir a ritonavir) 3 tabled, ddwywaith y dydd am 5 diwrnod. Gall y dos amrywio ar gyfer rhai unigolion, felly cofiwch ofyn i weithiwr iechyd proffesiynol os nad ydych yn siŵr.
  • Efallai y bydd rhai pobl nad yw Paxlovid yn addas ar eu cyfer yn cael cynnig triniaeth gyda Xevudy (sotrovimab). Drip sy'n cael ei roi drwy’r fraich (trwytho) mewn un apwyntiad, fel arfer yn yr ysbyty.

Rhagor o wybodaeth

Rhagor o wybodaeth am driniaethau COVID-19.

Gwasanaethau Gwrthfeirysol ledled Cymru – Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru

Cael cymorth a chyngor wrth dderbyn triniaeth

Dylech gysylltu â’ch meddygfa, clinig arbenigol neu GIG 111 os ydych yn:

  • parhau i deimlo’n sâl
  • teimlo bod eich symptomau’n gwaethygu

Beth ddylech chi ei wneud os ydych wedi gwrthod triniaeth, ond bellach yn dymuno cael triniaeth ar gyfer COVID-19?

Os hoffech gael triniaeth COVID-19 nawr, ffoniwch GIG 111 a byddant yn gallu rhoi’r arweiniad addas i chi.

Os ydych yn byw mewn cartref gofal

Os ydych yn byw mewn cartref gofal a bod gennych symptomau COVID-19, dylai aelod o staff drefnu bod eich bwrdd iechyd yn gwneud math arall o brawf i weld a oes gennych COVID-19 neu salwch anadlol arall fel y ffliw. Bydd staff y bwrdd iechyd a fydd yn cynnal y prawf yn trefnu ichi gael eich asesu am driniaeth os byddwch yn profi’n bositif.