Daeth yr ymgynghoriad i ben 19 Ionawr 2015.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 314 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r ymgynghoriad hwn yn holi barn pobl am Reolau drafft Tribiwnlys y Gymraeg.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Bydd y Tribiwnlys yn gwrando ar achosion sy’n ymwneud â phenderfyniadau Comisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â safonau'r Gymraeg.
Bydd y Rheolau’n cael eu gwneud yn ffurfiol gan Keith Bush CF Llywydd Tribiwnlys y Gymraeg gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru. Mae’r ymgynghoriad hwn yn cael ei drefnu ar y cyd gan y ni a’r Tribiwnlys.
Pwrpas cael Rheolau gweithdrefnol yw sicrhau bod yr holl achosion sy’n dod o flaen y Tribiwnlys yn cael eu trin yn deg ac yn gyson. Mae angen i bawb sy’n dod ag achos o flaen y Tribiwnlys ddeall yn union pa gamau sydd rhaid iddynt eu cymryd er mwyn i ffeithiau’r anghydfod a’u dadleuon fedru cael eu cyflwyno’n effeithiol i’r Tribiwnlys. Rhaid iddynt hwy ac unrhyw barti arall i’r achos wybod pa ddadleuon eraill y bydd y Tribiwnlys yn ystyried.
Fel rhan o’r broses ymgynghori mae’r seminarau canlynol wedi eu trefnu:
- 28 Tachwedd 2014 – 14:00 – Prifysgol Aberystwyth
- 2 Rhagfyr 2014 – 14:00 – Prifysgol Bangor
- 10 Rhagfyr 2014 – 17:00 – Swyddfa Cymdeithas y Cyfreithwyr Caerdydd.