Daeth yr ymgynghoriad i ben 17 Medi 2015.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 354 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r ymgynghoriad hwn yn holi barn pobl am Gyfarwyddiadau Ymarfer drafft Tribiwnlys y Gymraeg.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Bydd y Tribiwnlys yn gwrando ar achosion sy’n ymwneud â phenderfyniadau Comisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â safonau'r Gymraeg.
Bydd y Cyfarwyddiadau Ymarfer yn cael eu rhoi yn ffurfiol gan Keith Bush CF Llywydd Tribiwnlys y Gymraeg gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru. Mae’r ymgynghoriad hwn yn cael ei drefnu ar y cyd gan y ni a’r Tribiwnlys.
Pwrpas y Cyfarwyddiadau Ymarfer yw rhoi cyngor ymarferol ar sut i ddehongli a gweithredu Rheolau Tribiwnlys y Gymraeg 2015.
Cyfarwyddyd ymarfer 1
Pwrpas y Cyfarwyddyd Ymarfer hwn yw cyhoeddi ffurflen a fydd trwy ei defnyddio gan geisydd yn cynorthwyo’r ceisydd i gydymffurfio â gofynion Rheol 12. Dylid defnyddio’r ffurflen honno ar gyfer cyflwyno hysbysiad cais.
Cyfarwyddyd ymarfer 2
Pwrpas y Cyfarwyddyd Ymarfer hwn yw rhoi cyngor ymarferol ar sut i ddehongli a gweithredu’r Rheolau mewn modd sy’n unol â Rheol 6 sy’n ymwneud ac ieithoedd y Tribiwnlys.