Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet sy’n gyfrifol am ddiwylliant wedi cyhoeddi bod tri ymddiriedolwr newydd wedi’u penodi i Fwrdd Ymddiriedolwyr Amgueddfa Cymru – National Museum Wales.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cadarnhaodd Ken Skates ei fod wedi penodi Mr Michael Prior, Mr Hywel John a Dr Catherine Duigan i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr am gyfnod cychwynnol o bedair blynedd.

O dan Siarter Frenhinol yr Amgueddfa, a roddwyd yn 2006, mae gan Amgueddfa Cymru 16 o Ymddiriedolwyr.

Caiff naw ohonynt, gan gynnwys y Llywydd a’r Is-lywydd, eu penodi gan Weinidogion Cymru, ac mae saith, gan gynnwys y Trysorydd, yn cael eu penodi gan yr Amgueddfa ei hun.  

Penodir pob aelod o’r Bwrdd Ymddiriedolwyr ar ôl cystadleuaeth deg ac agored.

Disgwylir i’r tri Ymddiriedolwr newydd ddechrau yn eu swyddi ar 1 Ionawr 2017.

Dywedodd Ken Skates: 

“Dw i’n falch o gael cadarnhau bod Mr Michael Prior, Mr Hywel John a Dr Catherine Duigan wedi cael eu penodi’n aelodau o Fwrdd Ymddiriedolwyr Amgueddfa Cymru – National Museum Wales.

“Gwn y bydd pob un ohonyn nhw’n dod â phrofiad ac arbenigedd amhrisiadwy i’r Bwrdd, a dw i’n croesawu eu hymrwymiad i werthoedd a dyheadau’r  Amgueddfa.

“Gwn y bydd yr ymddiriedolwyr eraill yn ymuno â mi i ddymuno pob llwyddiant iddyn nhw yn eu swyddi newydd.”  

Ychwanegodd Elisabeth Elias, Llywydd Amgueddfa Cymru:

“Mae gennym dîm cryf o Ymddiriedolwyr yn Amgueddfa Cymru, ac mae gan bob un ohonyn nhw rywbeth gwahanol i’w gynnig.

“Fel Ymddiriedolwyr, ni sy’n gyfrifol am strategaeth gyffredinol yr Amgueddfa Genedlaethol, ac am ei datblygu,  ac mae hynny’n cynnwys nifer o brosiectau newydd, gan gynnwys y gwaith ailddatblygu cyffrous sy’n mynd yn ei flaen ar hyn o bryd yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan.

“Dw i’n croesawu penodiad Hywel John, Michael Prior a Dr Catherine Duigan. Dw i’n siŵr y byddan nhw’n cryfhau gwaith y Bwrdd ymhellach.”