Rydym wedi cyhoeddi Nodiadau Polisi Caffael Cymru (WPPN) gymalau gwerth cymdeithasol / buddion cymunedol trwy gaffael cyhoeddus; caffael cyhoeddus ar ôl cyfnod pontio’r UE gan gynnwys y Gwasanaeth Canfod Tendr (FTS); a gweithio mewn partneriaeth ar gyfer awdurdodau tai.
WPPN 01/20: Cymalau gwerth cymdeithasol/buddion cymunedol drwy gaffael cyhoeddus
Mae WPPN 01/20 yn darparu cyngor i gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru ar amcanion polisi trosfwaol Llywodraeth Cymru ac adrodd ar ganlyniadau mewn perthynas â gwerth cymdeithasol / buddion cymunedol.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r WPPN yma, anfonwch e-bost at PolisiMasnachol@llyw.cymru
WPPN 02/20: Gweithio mewn partneriaeth a chaffael: nodyn ymarfer ar gyfer awdurdodau tai lleol
Mae WPPN 02/20 yn rhoi gwybodaeth i awdurdodau tai lleol i gefnogi'r broses o wneud penderfyniadau am weithio mewn partneriaeth â landlordiaid cofrestredig i gyflawni rhaglenni datblygu Cyfrifon Refeniw Tai.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r WPPN yma, anfonwch e-bost at PolisiMasnachol@llyw.cymru
WPPN 03/20: Caffael cyhoeddus ar ôl cyfnod pontio’r UE gan gynnwys Gwasanaeth Canfod Tendr (FTS)
Mae WPPN 03/20 yn rhoi gwybodaeth i awdurdodau contractio sector cyhoeddus Cymru am gaffael cyhoeddus, ac ar ddefnyddio GwerthwchiGymru a gwasanaeth e-hysbysu newydd y DU, y Gwasanaeth Canfod Tendr, ar ôl diwedd cyfnod pontio'r UE.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r WPPN yma, anfonwch e-bost at Caffael.TrefniadauPontiorUE@llyw.cymru