Yn ogystal ag achub bywydau, bydd arafu’r traffig yn cryfhau cymunedau ac yn eu gwneud yn fwy diogel, dywedodd y Dirprwy Weinidog Lee Waters dri mis cyn y daw’r terfyn cyflymder 20mya diofyn i rym.
Bydd y rhan fwyaf o strydoedd yng Nghymru sydd â therfyn cyflymder o 30mya yn newid i 20mya ddydd Sul, 17 Medi a disgrifiwyd y newid hwnnw fel y newid mwyaf i fesurau diogelu cymunedol mewn cenhedlaeth.
Daw’r newid ar ôl pedair blynedd o waith gydag awdurdodau lleol, yr heddlu ac arbenigwyr diogelwch ar y ffyrdd i baratoi’r gyfraith newydd, gan wneud Cymru’r wlad gyntaf yn y DU i newid y terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd lleol.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog sy’n gyfrifol am drafnidiaeth:
Rydyn ni brin tri mis o’r newid mwyaf rydym wedi’i weld yn maes diogelwch y gymuned yng Nghymru mewn cenhedlaeth.
Yng Nghymru, rydym yn gwneud pethau’n wahanol. Rydym yn gofalu am ein gilydd ac yn ymddiried yn y wyddoniaeth.
Mae’r dystiolaeth yn dangos bod cerbyd sy’n teithio 30mya yn dal i fynd 24mya yn yr amser y daw car sy’n teithio 20mya i stop.
Yn ogystal ag achub bywydau, mae gyrru’n arafach yn helpu i greu cymunedau cryfach a mwy diogel – llefydd gwell i fyw ein bywydau ynddyn nhw.
Mae’r newid hwn yn dilyn cam tebyg yn Sbaen lle cafodd y terfyn cyflymder ar y rhan fwyaf o ffyrdd ei newid i 30km/a yn 2019.
Ers hynny, mae 20% yn llai o farwolaethau wedi’u cofnodi ar ffyrdd trefol yn Sbaen, gyda 34 y cant yn llai o feicwyr a 24 y cant yn llai o gerddwyr yn cael eu lladd.
Ychwanegodd y Prif Weinidog:
Bydd ein strydoedd yn dawelach, gyda llai o lygredd sŵn a bydd cerbydau arafach yn rhoi’r hyder i bobl feicio a cherdded a phlant i chwarae yn yr awyr agored.
Mae’r dystiolaeth o bob cwr o’r byd yn glir – mae gostwng terfynau cyflymder yn gostwng gwrthdrawiadau ac yn achub bywydau.
Rwy’n hyderus, trwy weithio gyda’n gilydd, y gallwn wneud y newidiadau sydd eu hangen ddaw â budd i ni nawr ac yn y dyfodol.
Dengys ymchwil y gallai terfyn cyflymder o 20mya arbed £92m y flwyddyn i ni wrth i lai gael eu lladd a’u hanafu. Gallai hefyd leihau’r pwysau ar y GIG wrth i’r nifer sy’n cael eu hanafu mewn gwrthdrawiadau ostwng.
Dros y degawd cyntaf, amcangyfrifir y bydd y terfyn cyflymder is yn achub hyd at 100 o fywydau, gydag 20,000 yn llai yn cael eu hanafu.
Dywedodd Joshua James, Rheolwr Materion Cyhoeddus, Living Streets Cymru:
Bydd gostwng y terfyn cyflymder i 20mya ar ein strydoedd yn gwella’r llefydd rydym yn byw, yn gweithio ac yn mynd i’r ysgol ynddyn nhw – ac yn bwysicach na dim, bydd yn achub bywydau.
Yn Living Streets, rydym am i bawb yn ein cymunedau elwa ar fanteision cerdded a beicio – nawr ac am flynyddoedd i ddod. Mae ymchwil yn dangos bod mwyafrif pobl Cymru’n cefnogi 20mya ac rydym yn falch o gael gweithio gyda Llywodraeth Cymru i wneud ein strydoedd a phalmentydd yn lleoedd diogel a hygyrch i bawb.
Dywedodd y Dr Sarah Jones, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn bleidiol iawn i’r rheol 20mya, a fydd yn gweddnewid y lleoedd rydym yn byw, gweithio ac yn teithio ynddyn nhw. Mae’r dystiolaeth yn glir bod arafu’r traffig yn esgor ar lawer o fanteision o ran iechyd a lles. Mae’n gwneud y ffyrdd yn fwy diogel, yn lleihau llygredd sŵn a thros amser, bydd yn lleihau llygredd aer. Bydd yr amgylchedd mwy diogel a ddaw yn sgil traffig arafach yn annog mwy o bobl i deithio’n egnïol er enghraifft trwy gerdded a beicio i’r gwaith a’r ysgol.
Mae teithio egnïol yn cynnig pob math o fanteision i bob rhan o gymdeithas, trwy wella iechyd corfforol a meddyliol a lleihau’r galw ar ein gwasanaethau iechyd i drin llawer o afiechydon y gellir eu hosgoi.