Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu tri chwarter miliwn o bunnoedd er mwyn helpu i leihau'r perygl o lifogydd i gartrefi a busnesau yn Little Haven.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae pentref Little Haven yn Sir Benfro wedi cael ei effeithio'n rheolaidd gan lifogydd afonydd a'r môr. Digwyddodd y llifogydd diweddaraf ym mis Ionawr 2015.

Mae'r llifogydd yn cael eu hachosi gan gerrig mân sy'n casglu ac sy'n cau’r nant o dan y bont ffordd i'r traeth. Gall stormydd gwael hefyd achosi llifogydd pan fydd dŵr yn llifo dros yr amddiffynfeydd môr presennol.

Bydd y cyllid sy'n cael ei gyhoeddi heddiw gan Lywodraeth Cymru yn cyfrannu tuag at 85% o gostau adeiladu'r cynllun lliniaru llifogydd. Gwerth y grant yw £729,384 tuag at gyfanswm y gost o £858,057.

Bydd cynllun lliniaru llifogydd Little Haven yn cynnwys:

  • gosod cerrig mân o flaen yr amddiffynfeydd presennol i leihau unrhyw orlifo,
  • gosod cwlfert bocs byr i estyn yr ollyngfa i lawr y traeth y tu hwnt i'r banc cerrig mân,
  • codi'r amddiffynfeydd môr presennol,
  • gosod mwy o gerrig mân ac adfer proffil y traeth.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

"Rwy'n falch i gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu bron tri chwarter miliwn o bunnoedd o gyllid i helpu i ddiogelu Little Haven rhag llifogydd. Bydd hyn yn rhoi cysur i'r bobl hynny sy'n byw ac yn gweithio yn y pentref poblogaidd hwn neu sy'n ymweld â hi.

"Y flwyddyn ariannol hon, rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi bron £55 miliwn i reoli perygl llifogydd er mwyn lleihau'r risg i dai a busnesau ledled Cymru, ac rydym yn cadw'r addewid hwn."

Mae Cyngor Sir Benfro yn darparu'r 15 y cant o gyllid sydd ar ôl.

Gwnaeth ei Aelod Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd a Rheoleiddio, Huw George, groesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru. Ychwanegodd:

"Rydym yn falch y byddwn nawr yn gallu symud ymlaen â'r cynllun er mwyn mynd i'r afael â phryderon nifer o breswylwyr Little Haven ynghylch llifogydd."