Mae tri busnes gweithgynhyrchu bach yng Nghymru yn ymuno â’r frwydr yn erbyn coronafeirws (COVID-19), drwy wneud sgrybs ar gyfer arwyr gofal iechyd Cymru, mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters wedi cyhoeddi.
Bydd cwmni bach yng Nghlydach sy’n arbenigo mewn gwneud baneri ar gyfer ffilmiau, gwyliau teledu a chestyll, ymhlith cwsmeriaid eraill, a dwy wniadwraig annibynnol o Abertawe a Chaerfyrddin yn gwneud nwyddau hanfodol i gefnogi’r GIG yng Nghymru.
Mae gwaith yn mynd rhagddo yn Red Dragon Flagmakers, sydd eisoes wedi derbyn ffabrig, a bydd y gwniadwragedd Tesni Owen a Bethan Jones yn dechrau gwneud sgrybs yr wythnos hon.
Gwnaeth Llywodraeth Cymru eu rhoi mewn cysylltiad ag Alexandra, cwmni yn y DU sy’n gwneud sgrybs ar gyfer y GIG ond sy’n dibynnu yn drwm ar farchnadoedd dramor ar gyfer deunyddiau a chynhyrchu, ar ôl sicrhau cyflenwad mawr o ffabrig o’r farchnad yn y DU pan ddywedwyd wrthi y byddai’r Dwyrain Pell a’r Isgyfandir yn cau gweithrediadau cynhyrchu yn rhannol o ganlyniad i goronafeirws.
Mae hefyd yn rheoli’r logisteg ar gyfer cludo ffabrig o Alexandra i’r tri chwmni i gyflymu’r proses gynhyrchu a chefnogi’r gadwyn gyflenwi.
Gyda’i gilydd bydd y busnesau’n cynhyrchu 1,000 set o sgrybs yr wythnos.
Dywedodd Bethan Jones o Bethan Jones Boutique:
fel perchennog bwticau yn ne Cymru, mae’n fraint gen i a fy nhîm o staff medrus weithio ar y cyd â’r GIG yn yr adeg anodd hon. Wrth inni frwydro yn erbyn COVID-19, mae’n hanfodol bod pob gweithiwr rheng flaen yn cael ei amddiffyn. Drwy gynhyrchu’r cyfarpar diogelu personol sydd ei angen, rhoddir sicrwydd y bydd popeth yn cael ei wneud i ddiogelu’r bobl wych sy’n peryglu eu bywydau wrth iddyn nhw frwydro yn erbyn y feirws.
Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters:
Mae ateb cwmnïau yng Nghymru i alwad y Prif Weinidog am gymorth i wneud cyfarpar diogelu personol wedi bod yn wych.
O ganlyniad, ar hyn o bryd rydyn ni’n annibynnol o ran gwneud sgrybs yng Nghymru am y tro cyntaf, a bydd ymdrechion y tri busnes hyn yn atgyfnerthu’r annibyniaeth honno ymhellach.
Prin yw’r hanesion cadarnhaol o ganlyniad i’r pandemig hwn, ond heb os nac oni bai mae dod â swyddi yn gwneud offer meddygol hanfodol yn ôl i Gymru a’u sefydlu ein heconomi yn un ohonyn nhw.
Mae ein harwyr gofal iechyd yn gwneud gwaith gwych yn achub bywydau drwy roi gofal iechyd o’r radd flaenaf i bobl sydd â choronafeirws, a byddwn ni’n parhau i wneud popeth yn ein gallu i’w helpu a’u diogelu.