Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cyhoeddi ei fod yn penodi tri aelod newydd i Fwrdd Dewis Gyrfa, sy’n masnachu fel Gyrfa Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Gyrfa Cymru, is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru, yn darparu gwasanaeth, cyngor a chanllawiau ar yrfaoedd sy’n ddi-duedd, dwyieithiog ac ar gyfer pob oedran.  

Aelodau newydd y bwrdd yw:

  • Dr Taslima Begum
  • Mr David Hagendyk 
  • Mr Richard Thomas

Cânt eu penodi o’r 1 Chwefror 2020 am gyfnod o dair mlynedd.  

Mae swydd Aelod o Fwrdd Dewis Gyrfa yn swydd wirfoddol ddi-dâl gydag ymrwymiad blynyddol o 10 diwrnod o leiaf.   

Mae’r tri penodiad wedi’i wneud yn unol â’r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus.  

Aelodau Newydd Bwrdd Dewis Gyrfa:

Mae gan Dr Taslima Begum gefndir eang mewn Dylunio, Cyfrifiaduro, y Cyfryngau a’r Celfyddydau. Mae ar hyn o bryd yn Uwch-ddarlithydd Cyfrifiadurol yn Ysgol Dechnoleg Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac yn Ymchwilydd Dylunio yn canolbwyntio ar y defnyddiwr gyda PDR (sefydliad ymchwil o fewn Prifysgol Metropolitan Caerdydd). Mae Taslima wedi gweithio yn y gorffennol fel darlithydd ar ymweliad ym Mhrifysgol De Cymru, gan ddysgu nifer o bynciau ar raglenni is-raddedig ac ôl-raddedig.  

Mae David Hagendyk yn Gyfarwyddwr Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru – yn darparu’r rhaglen ymchwil a datblygu, gan drafod gyda rhanddeiliaid o fewn llywodraeth a’r sector ehangach ôl-16, a sicrhau cyllid a datblygu staff. Mae gan David dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda bywyd cyhoeddus Cymru, ac mae ganddo gefndir cryf mewn gwleidyddiaeth a phrofiad o ddatblygu polisïau.  

Mae gan Richard Thomas yrfa eang ym maes addysg bellach ac uwch, yn dilyn deng mlynedd yn y diwydiant gweithgynhyrchu. Bu mewn swyddi megis peirianydd, rheolwr prosiect, uwch-ddarlithydd, Deon Cyfadran, Profost coleg ac Is-ganghellor cynorthwyol prifysgol. Bu yn rhan o amrywiol brosiectau ymchwil diwydiannol cydweithredol a chyrff addysg cenedlaethol, gan gynnwys aelodaeth o fwrdd y Fframwaith Rhagoriaeth Dysgu. Bu Richard hefyd yn brysur yn cyhoeddi papurau ar beirianneg, gweithgynhyrchu ac addysg STEM ers 2001.