Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ynglŷn â chymhwyso Treth Trafodiadau Tir mewn perthynas ag ymddiriedolaethau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhowch adborth i ni ar y canllawiau hyn

Er mwyn ein helpu i wella'r canllawiau hyn, rhowch adborth i ni (mae’n cymryd 30 eiliad).

DTTT/5250 Ymddiriedolaethau

(adran 42 ac Atodlen 8)

Mae rheolau penodol yn pennu cyfrifoldebau ymddiriedolwyr a sut mae'r Dreth Trafodiadau Tir yn berthnasol yng nghyswllt buddiannau mewn ymddiriedolaethau ac yng nghyswllt caffael buddiant trethadwy drwy arfer pŵer penodi neu ddisgresiwn.

Mae cyfrifoldebau’r ymddiriedolwyr a'r buddiolwyr yn y Dreth Trafodiadau Tir yn dibynnu ar y math o ymddiriedolaeth y mae'r tir wedi’i gynnwys ynddi.

Mae dau fath sylfaenol o ymddiriedolaeth at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir:

  • ymddiriedolaethau noeth sy’n cynnwys trefniant enwebai
  • ymddiriedolaethau ar gyfer setliad

DTTT/5260 Ymddiriedolaethau noeth

(paragraff 3)

Ystyr ymddiriedolaeth noeth yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, neu ymddiriedolaeth syml yn yr Alban, yw un lle mae gan bob buddiolwr hawl absoliwt i’r eiddo sydd wedi’i gynnwys yn yr ymddiriedolaeth, mewn perthynas â’r ymddiriedolwyr.

Yn gyffredinol mae ‘hawl absoliwt’ yn golygu:

  • y gall y buddiolwr gaffael neu dderbyn eiddo'r ymddiriedolaeth naill ai ar unwaith neu drwy roi hysbysiad gofynnol i’r ymddiriedolwyr yn unol â thelerau'r ymddiriedolaeth
  • nid oes gan yr ymddiriedolwyr unrhyw bŵer dros eiddo'r ymddiriedolaeth na hawl i ddelio ag ef heb ganiatâd y buddiolwr sydd â hawl absoliwt

Os:

  • bydd gofyn i’r ymddiriedolwyr fodloni rhai o alldaliadau neu gostau’r ymddiriedolaeth
  • a’u bod yn gwrthod gwneud yn siŵr bod yr eiddo ar gael i'r buddiolwr nes bod yr alldaliadau neu’r costau hyn wedi’u bodloni

ni effeithir ar y penderfyniad ynglŷn ag a oes gan y buddiolwr hawl absoliwt i eiddo'r ymddiriedolaeth mewn perthynas â’r ymddiriedolwyr.

Gall dau neu fwy o bobl fod â hawl absoliwt mewn perthynas ag ymddiriedolwyr ar gyfer eiddo ymddiriedolaeth, ar yr amod bod gan y naill a’r llall hawliau i eiddo'r ymddiriedolaeth yn unol â'r disgrifiad uchod.

Lle bo angen buddiant trethadwy ar unigolyn sy’n ymddiriedolwr noeth, mae’r Dreth Trafodiadau Tir yn berthnasol yn yr un modd â phe bai’r buddiant wedi'i freinio ac mai gweithredoedd yr ymddiriedolwr mewn perthynas â hynny fyddai gweithredoedd yr unigolyn neu'r unigolion y maent yn ymddiriedolwyr ar eu rhan.

Yn unol â hynny, os bydd ymddiriedolwr noeth neu enwebai yn caffael eiddo ar ran y buddiolwr, bydd hynny’n cael ei drin fel caffaeliad gan y buddiolwr. Y buddiolwr sy’n gyfrifol am gyflwyno’r ffurflen dreth ac yn gyfrifol am dalu’r Dreth Trafodiadau Tir. Felly, dylai'r ffurflen dreth gael ei llenwi yn enw’r buddiolwr, nid yr ymddiriedolwr.

Mae rhagor o arweiniad ar ystyr hawl absoliwt ar gael yn Llawlyfr Enillion Cyfalaf Cyllid a Thollau EM yn CG34320-34352.

Ymddiriedolaethau noeth: lesoedd

Yn wahanol i'r sefyllfa a nodir uchod, lle caiff les ei rhoi i unigolyn sy’n ymddiriedolwr noeth, yr unigolyn hwnnw, yn hytrach na’r buddiolwr, fyddai’n cael ei drin fel prynwr y les. Yn yr un modd, lle caiff y les ei dyfarnu gan unigolyn sy’n ymddiriedolwr noeth, yr unigolyn hwnnw, yn hytrach na’r buddiolwr, fyddai’n cael ei drin fel gwerthwr/grantwr y les.

Yn unol â hynny, yr ymddiriedolwr noeth sy’n gyfrifol am gyflwyno unrhyw ffurflenni treth a thalu unrhyw dreth.

DTTT/5270 Setliadau

Caiff unrhyw drefniant ymddiriedolaeth sy’n wahanol i ymddiriedolaeth noeth ei ystyried yn setliad ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir. Mae sawl math o drefniant ar gyfer ymddiriedolaethau. Mae enghreifftiau cyffredin yn cynnwys:

Ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant

Y math hwn o ymddiriedolaeth a geir lle mae gan fuddiolwr, a elwir yn fuddiolwr incwm, hawl i incwm yr ymddiriedolaeth wrth iddo ddod i law. Rhaid i'r ymddiriedolwyr basio'r holl incwm sydd wedi’i adfer ymlaen, heb gynnwys treuliau a threthi unrhyw ymddiriedolwyr, i’r buddiolwr (neu'r buddiolwyr, yn ddibynnol ar yr achos).

Caiff buddiolwr sydd â hawl i incwm yr ymddiriedolaeth am oes ei alw’n denant am oes o dan ymddiriedolaeth a sefydlwyd yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, neu’n rhentwr am oes dan ymddiriedolaeth a sefydlwyd yn yr Alban.

Yn aml, nid oes gan y buddiolwr unrhyw hawliau dros gyfalaf y math hwn o ymddiriedolaeth. Fel arfer, bydd y cyfalaf yn cael ei basio ymlaen i fuddiolwr neu fuddiolwyr eraill ar adeg benodol yn y dyfodol neu ar ôl digwyddiad penodol yn y dyfodol.

Ymddiriedolaethau yn ôl disgresiwn

Yn gyffredinol mewn ymddiriedolaethau yn ôl disgresiwn, mae gan ymddiriedolwyr ddisgresiwn o ran sut mae defnyddio cyfalaf ac incwm yr ymddiriedolaeth. Efallai y bydd gofyn iddynt ddefnyddio incwm at fudd buddiolwyr penodol, ond gallant ddewis faint sy’n cael ei dalu a pha fuddiolwyr sy’n cael eu talu. 

Nid oes gan fuddiolwr mewn ymddiriedolaeth yn ôl disgresiwn hawl dros gyfalaf nac incwm yr ymddiriedolaeth, na buddiant yn y rheini.

Ymddiriedolaethau eraill

Mae mathau eraill o ymddiriedolaethau nad ydynt yn ymddiriedolaethau noeth ac felly byddant yn cael eu hystyried yn setliadau at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir. Mae’r rhain yn cynnwys ymddiriedolaethau cronnus ac ymddiriedolaethau chynnal a chadw, yn ogystal ag ymddiriedolaethau cymysg (sef cymysgedd o fwy nag un math o ymddiriedolaeth) ac ymddiriedolaethau sydd wedi’u sefydlu o dan gyfreithiau awdurdodaethau tramor.

DTTT/5280 Ymddiriedolaethau ar gyfer Setliad: caffaeliadau ymddiriedolwyr

(paragraff 4)

Pan fydd ymddiriedolwyr setliad yn caffael tir neu fuddiant mewn partneriaeth, bydd yr ymddiriedolwyr yn cael eu hystyried yn brynwyr ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir, ac felly bydd yr holl reoliadau ynglŷn â hysbysu a thalu yn berthnasol i'r ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol. Yr ymddiriedolwyr yn hytrach na’r buddiolwyr sy’n gyfrifol am lenwi'r ffurflen dreth a thalu unrhyw dreth sy’n ddyledus.

Mae darpariaethau penodol at ddibenion gweithredu’r rheolau trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch ar gyfer caffael buddiant mewn annedd gan ymddiriedolwyr setliad.

DTTT 5290 Ymddiriedolaeth ar gyfer Setliad: cyfrifoldebau ymddiriedolwyr

(paragraff 7)

Lle bo ymddiriedolaeth ar gyfer setliad yn gymwys i dalu treth, llog neu gosbau, gellir casglu'r swm sy’n ddyledus gan unrhyw un o'r ymddiriedolwyr cyfrifol. 

Fodd bynnag, ni fydd cosb na llog ar gosb o'r fath yn cael eu hadfer gan unigolyn nad oedd yn ‘ymddiriedolwyr cyfrifol’ tan ar ôl yr ‘adeg berthnasol’.

Yr ‘ymddiriedolwyr cyfrifol’ mewn perthynas â thrafodiad tir yw’r unigolion sy’n ymddiriedolwyr ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn dod i rym ac unrhyw unigolyn sy’n dod yn ymddiriedolwr wedi hynny.

Yr ‘adeg berthnasol’ yw:

  • mewn perthynas â chosb sy’n codi ar ddiwrnod penodol (er enghraifft, cosb am ffeilio’n hwyr) neu log ar y gosb honno, dechrau'r diwrnod hwnnw, a
  • mewn perthynas ag unrhyw gosb neu log arall ar y gosb honno, yr adeg y digwyddodd y weithred neu'r anweithred wnaeth beri i’r gosb fod yn daladwy (er enghraifft, mewn perthynas â chosb sy’n ymwneud â gwall mewn ffurflen dreth, yr adeg berthnasol fyddai'r diwrnod y cafodd y ffurflen ei ffeilio)

DTTT/5300 Ymddiriedolaethau ar gyfer Setliad: ymddiriedolwyr perthnasol at ddibenion ffurflenni treth

(paragraff 8)

Gall unrhyw un neu ragor o’r ymddiriedolwyr sy’n ymddiriedolwyr cyfrifol mewn perthynas â thrafodiad tir ddychwelyd ffurflen dreth yng nghyswllt trafodiad. Dyma’r ymddiriedolwyr perthnasol. Er bod modd i unrhyw un o'r rhain lenwi'r ffurflen dreth, rhaid i’r datganiad gael ei wneud gan bob un o'r ymddiriedolwyr perthnasol.

DTTT/5310 Ymddiriedolaethau ar gyfer Setliad: ymddiriedolwyr perthnasol at ddibenion ymholiadau ac asesiadau

(paragraff 9)

Os bydd ACC yn cyflwyno hysbysiad ymholiad ynglŷn â ffurflen dreth mewn perthynas â thrafodiad tir yr ymrwymwyd iddo mewn ymddiriedolaeth ar gyfer setliad:

  • rhaid dyroddi’r hysbysiad sy’n agor ymchwiliad i bob un o’r ymddiriedolwyr perthnasol sy’n hysbys i ACC
  • mae modd arfer y pwerau gwybodaeth sydd ar gael i ACC ar wahân ac mewn modd gwahanol ar gyfer pob un o'r ymddiriedolwyr perthnasol lle bo hynny’n briodol
  • gall unrhyw ymddiriedolwr perthnasol wneud cais am hysbysiad cau ac mae gan bob un o’r ymddiriedolwyr perthnasol hawl i fod yn bartïon i’r cais hwnnw
  • rhaid dyroddi unrhyw hysbysiad cau i bob un o’r ymddiriedolwyr perthnasol sy’n hysbys i ACC

Rhaid gwneud penderfyniad mewn perthynas â’r holl ymddiriedolwyr perthnasol sy’n hysbys i ACC. Ni fydd y penderfyniad yn ddilys oni roddir hysbysiad i bob un o’r ymddiriedolwyr perthnasol sy’n hysbys i ACC.

Rhaid gwneud asesiad yn enwau pob un o’r ymddiriedolwyr perthnasol sy’n hysbys i ACC. Ni fydd yr asesiad yn ddilys oni roddir hysbysiad i bob un o’r ymddiriedolwyr perthnasol sy’n hysbys i ACC.

DTTT/5320 Ymddiriedolaethau ar gyfer Setliad: ymddiriedolwyr perthnasol at ddibenion apeliadau ac adolygiadau

(paragraff 10)

Lle bo angen setlo ymholiad drwy gytundeb setlo rhaid i’r holl ymddiriedolwyr fod yn barti i’r cytundeb hwnnw.

Gall unrhyw ymddiriedolwr perthnasol gyflwyno hysbysiad i wneud cais am adolygu penderfyniad apeliadwy.

Lle bo adolygiad o’r fath yn cael ei gynnal gan ACC ar ôl derbyn cais gan rai, ond dim pob un, o'r ymddiriedolwyr perthnasol:

  • rhaid i ACC roi hysbysiad am yr adolygiad i bob un o'r ymddiriedolwyr eraill nad oeddent yn barti i’r cais
  • gall unrhyw un o’r ymddiriedolwyr perthnasol nad oeddent yn barti i'r cais fod yn barti i’r cais os byddant yn hysbysu ACC yn ysgrifenedig eu bod yn dymuno gwneud hynny
  • rhaid cyflwyno hysbysiad ACC o gasgliadau'r adolygiad i bob ymddiriedolwr perthnasol sy’n hysbys i ACC
  • mae effaith casgliadau’r adolygiad yn berthnasol i'r holl ymddiriedolwyr perthnasol

Mewn perthynas ag apêl:

  • caiff unrhyw un neu ragor o’r ymddiriedolwyr perthnasol wneud yr apêl
  • rhaid rhoi hysbysiad am apêl i bob un o’r ymddiriedolwyr perthnasol nad oeddent yn rhan o wneud yr apêl ac sy’n hysbys i ACC
  • mae gan unrhyw ymddiriedolwr perthnasol hawl i fod yn barti i’r apêl
  • mae penderfyniad y tribiwnlys yn rhwymo'r holl ymddiriedolwyr perthnasol

DTTT/5330 Buddiannau buddiolwyr o dan ymddiriedolaethau penodol

(paragraff 11)

Lle bo eiddo wedi'i gadw mewn ymddiriedolaeth o dan gyfraith yr Alban neu gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig, a hynny ar delerau y byddai cyfreithiau Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn rhoi buddiant ecwitïol i fuddiolwr yn eiddo’r ymddiriedolaeth, dylid trin unrhyw fuddiolwr fel pe bai ganddo fuddiant o’r fath, hyd yn oed os nad yw cyfraith yr Alban nac unrhyw wlad arall yn cydnabod y buddiant hwnnw.

Hefyd, bydd caffael buddiant buddiolwr o dan yr ymddiriedolaeth yn cael ei drin fel pe bai’n ymwneud â chaffael buddiant yn eiddo’r ymddiriedolaeth.

DTTT/5340 Newid yr ymddiriedolwyr mewn setliad parhaus

Caiff ymddiriedolwyr setliad eu trin fel corff unigol a pharhaus o unigolion.

Yn unol â hynny, nid yw newid cyfansoddiad yr ymddiriedolwyr yn cael ei ystyried yn drafodiad tir mewn perthynas â setliad parhaus. Yn benodol, mae hyn yn golygu na chodir tâl ar achlysur lle mae eiddo ymddiriedolaeth ynghlwm wrth forgais neu fenthyciad arall.

Oherwydd na cheir trafodiad tir at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir pan newidir cyfansoddiad yr ymddiriedolwyr mewn ymddiriedolaeth barhaus, ni ddylid llenwi ffurflen trafodiad tir.

Lle bo newid o’r fath yn arwain at wneud cais i Gofrestrfa Tir EM, dylid cyflwyno llythyr eglurhaol i gyd-fynd â'r cais oni bai ei bod yn amlwg o'r dogfennau bod y cais yn ymwneud â newid o'r fath.

DTTT/5350 Cydnabyddiaeth am arfer pŵer penodi neu ddisgresiwn

(paragraff 5)

Pan gaffaelir buddiant trethadwy yn rhinwedd:

  • arfer pŵer penodi
  • arfer disgresiwn a freinir yn ymddiriedolwyr setliad

caiff unrhyw gydnabyddiaeth a roddir gan y sawl y caiff y pŵer neu'r disgresiwn eu defnyddio o’i blaid, ei thrin fel cydnabyddiaeth ar gyfer y derbyniadau.

Bydd y rheolau hyn yn sicrhau y codir tâl am y Dreth Trafodiadau Tir yn yr achos anarferol bod unigolyn y talu ymddiriedolwyr, neu rywun arall, er mwyn i'r pŵer neu'r disgresiwn gael eu defnyddio o’i blaid. Er enghraifft, lle bo unigolyn un talu buddiolwr er mwyn iddo gael budd o'r tir sydd wedi'i gynnwys yn yr ymddiriedolaeth ar gyfer setliad.

Felly, lle rhoddir cydnabyddiaeth i’r ymddiriedolwyr yn gyfnewid am ddefnyddio’u pŵer penodi er mwyn i fuddiant mewn tir basio drwy'r ymddiriedolaeth i unigolyn, caiff y gydnabyddiaeth a roddir ei thrin fel cydnabyddiaeth am gaffael y buddiant mewn tir perthnasol.

DTTT/5360 Ailddyrannu eiddo ymddiriedolaeth rhwng buddiolwyr

(paragraff 6)

Lle bo ymddiriedolwyr setliad yn dyrannu buddiannau trethadwy sy’n rhan o’r ymddiriedolaeth honno er mwyn sicrhau:

  • bod buddiolwr yn caffael buddiant mewn un eiddo sy’n rhan o ymddiriedolaeth ac yn rhoi’r gorau i fod â buddiant mewn eiddo sy’n rhan o ymddiriedolaeth arall a
  • bod y buddiolwr yn cydsynio i beidio â bod â buddiant yn yr eiddo ymddiriedolaeth hwnnw

nid yw’r ffaith bod y buddiolwr wedi cydsynio yn cael ei ystyried yn gydnabyddiaeth drethadwy. Felly, mewn achosion o’r fath ni cheir trafodiad tir. Mae hyn yn debyg i'r rheolau mewn perthynas â'r rhaniadau.

Fodd bynnag, os bydd un buddiolwr yn rhoi cydnabyddiaeth fel arall i fuddiolwr arall yng nghyswllt yr ailddyraniad, bydd honno’n cael ei hystyried yn gydnabyddiaeth drethadwy drwy arfer pwerau disgresiwn.

DTTT/5370 Cronfeydd pensiwn

Trafodiadau sy’n ymwneud â chronfeydd pensiwn

Bydd unrhyw drafodiad lle mai cronfa bensiwn yw’r prynwr yn agored i dalu’r Dreth Trafodiadau Tir yn yr un modd ag unrhyw drafodiad arall. Does dim rheolau arbennig ar gyfer cronfeydd pensiwn, oherwydd bydd unrhyw Dreth Trafodiadau Tir yn daladwy lle mae cydnabyddiaeth drethadwy ynghlwm wrth y trafodiad.

Felly, bydd cronfa bensiwn sy’n caffael eiddo ac yn talu cydnabyddiaeth yn gymwys i lenwi ffurflen dreth a thalu unrhyw rwymedigaeth treth sy’n codi os bydd y trafodiad yn hysbysadwy.

Trosglwyddo arian rhwng cronfeydd pensiwn

Bydd hyn yn digwydd pan fydd asedau a rhwymedigaethau yn cael eu trosglwyddo o un gronfa bensiwn i un arall, er enghraifft, wrth dalu gwerthoedd trosglwyddo sy'n gyfwerth ag arian parod, neu wrth gyfuno cronfeydd.

Mae trosglwyddo tir o ddwylo ymddiriedolwyr un gronfa bensiwn i ymddiriedolwyr un arall yn fath o gaffael buddiant trethadwy. Mae hyn yn golygu ei fod o fewn cwmpas y Dreth Trafodiadau Tir.

Codir tâl trethadwy arferol o dan y Dreth Trafodiadau Tir ar y gydnabyddiaeth a roddir mewn cysylltiad â’r trafodiad tir.

Does dim rheolau arbennig ar gyfer cronfeydd pensiwn. Ni fydd y Dreth Trafodiadau Tir ond yn ddyledus lle bo cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad.

Ni ystyrir tybiaeth gan gronfa’r trosglwyddai, neu gan ymddiriedolwyr cronfa'r trosglwyddai, o ran rhwymedigaethu i ddarparu buddiannau, yn gydnabyddiaeth drethadwy (gweler trosglwyddiadau yn eu ffurf wirioneddol (in specie) yn.

Os rhoddir cydnabyddiaeth arall gan gronfa'r trosglwyddai, neu ymddiriedolwyr cronfa’r trosglwyddai, ar ffurf arian neu gyfwerth ariannol, bydd hynny’n cael ei ystyried yn gydnabyddiaeth drethadwy.

Hefyd, byddai cydnabyddiaeth drethadwy yn berthnasol pe bai’r broses o drosglwyddo rhwymedigaethau yn cydnabod swm ariannol penodol i’w fodloni drwy ryddhau rhwymedigaethau gan yr ymddiriedolwyr blaenorol.

DTTT/5380 Benthyca a morgeisi

Gall cronfa bensiwn fenthyca arian ac fe all ddyfarnu morgais neu daliad arall am y tir fel gwarant.

At ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir, mae angen ystyried y benthyca a'r morgais ar wahân yng nghyd-destun trosglwyddiad fel yr un a ddisgrifir uchod.

Benthyca

Os yw cronfa'r trosglwyddai, neu ymddiriedolwyr cronfa’r trosglwyddai:

  • yn tybio bod gan gronfa’r trosglwyddwr neu ymddiriedolwyr cronfa'r trosglwyddwr eisoes rwymedigaeth i ad-dalu benthyciad, neu
  • eu bod fel arall yn rhyddhau cronfa'r trosglwyddwr neu gronfa ymddiriedolwyr y gronfa o’r ddyled
  • a’u bod yn gwneud hynny fel rhan annatod o drosglwyddiad o'r fath

ni fydd ACC yn ystyried bod paragraff 8, Atodlen 4 DTTT (‘dyled a chydnabyddiaeth’) yn golygu bod cydnabyddiaeth drethadwy wedi'i rhoi ar gyfer y trafodiad tir.

Morgeisi

Mae morgeisi a phridiannau cyfreithiol eraill yn fuddiannau sicrhad ac mae’r broses o ddelio â’r rhain, gan gynnwys eu creu a’u rhyddhau, yn benodol wedi’i heithrio rhag y Dreth Trafodiadau Tir.

Hysbysiad

Mae trafodiad tir heb gydnabyddiaeth wedi'i eithrio rhag hysbysiad. Lle ceir trafodiadau cysylltiedig a bod un elfen yn agored i'r Dreth Trafodiadau Tir er nad yw’n hysbysadwy, ond bod trafodiadau eraill yn hysbysadwy, bydd ACC yn disgwyl i’r elfennau o dreth nad ydynt yn hysbysadwy yn cael eu hychwanegu at y dreth a dalwyd yn y ffurflen trafodiad tir ar gyfer yr elfen hysbysadwy.

Enghraifft

Mae Cronfa bensiwn A yn trosglwyddo ei holl asedau i Gronfa bensiwn B; mae’r asedau hyn yn cynnwys tir ac eiddo yng Nghymru, yn ogystal â thir yn Lloegr a phortffolio o stociau a chyfranddaliadau. Mae morgais o £500,000 ynghlwm wrth yr eiddo yng Nghymru ac mae’r trosglwyddiad yn ddarostyngedig i’r tâl hwn yn ogystal â swm o £2.3 miliwn. Mae trosglwyddiad y tir yng Nghymru yn drafodiad tir ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir. Bydd y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad y Dreth Trafodiadau Tir yn gyfran gyfiawn a theg o’r £2.3m (h.y. y swm perthnasol i'r eiddo yng Nghymru) yn ogystal â'r ddyled o £500,000. Nid yw’r rhwymedigaeth i ddarparu buddiannau i ddeiliaid pensiwn A yn cael ei hystyried yn gydnabyddiaeth drethadwy.

DTTT/5390 Ymddiriedolwyr cronfeydd pensiwn yn caffael tir

Lle bo ymddiriedolwyr cronfa bensiwn yn caffael tir, ac eithrio pan wneir hynny fel rhan o drosglwyddiad a ddisgrifir uchod, p’un ai a yw o gronfa bensiwn arall neu beidio, bydd y Dreth Trafodiadau Tir yn ddyledus mewn perthynas â'r gydnabyddiaeth a roddir yn y ffordd arferol.

DTTT/5400 Trosglwyddo arian rhwng cronfeydd pensiwn: trosglwyddiadau yn eu ffurf wirioneddol (in specie)

Trafodiad yw hwn lle mae cronfa bensiwn yn prynu eiddo sy’n ddarostyngedig i'r Dreth Trafodiadau Tir a lle ceir cydnabyddiaeth yn yr un modd ag unrhyw drafodiad arall.

Fodd bynnag, ni fydd y dybiaeth o'r rhwymedigaeth i wneud taliadau pensiwn i fuddiolwyr y gronfa bensiwn yn y dyfodol drwy gaffael cronfa bensiwn (a’r gwaith cysylltiedig o ddiddymu’r rhwymedigaethau hynny drwy gael gwared â'r gronfa bensiwn) yn cael ei hystyried ar gyfer cydnabyddiaeth drethadwy mewn perthynas â thrafodiadau o’r fath.