Canllawiau ar ryddhad Treth Trafodiadau Tir amrywiol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Helpwch ni i wella'r canllawiau hyn

Cwblhewch ein harolwg byr er mwyn helpu i wella'r canllawiau hyn.

DTTT/7102 Rhyddhad goleudai

(paragraffau 1 a 2 o Atodlen 22)

Mae trafodiad tir sy’n ymwneud â goleudy a wneir drwy neu o dan gyfarwyddyd yr Ysgrifennydd Gwladol, at y diben o roi effaith i Ran 8 o Ddeddf Llongau Masnach 1995, yn cael ei ryddhau rhag treth.

Mae trafodiad tir a wneir drwy neu o dan gyfarwyddyd Trinity House, at y diben o gyflawni’r gwasanaethau y cyfeirir atynt yn adran 221(1) o Ddeddf Llongau Masnach 1995, yn cael ei ryddhau rhag treth.

Mae i ‘Trinity House’ yr ystyr a roddir iddo yn adran 223 o Ddeddf Llongau Masnach 1995.

DTTT/7103 Rhyddhad lluoedd arfog sy’n ymweld a rhyddhad pencadlysoedd milwrol rhyngwladol

(paragraffau 3, 4 a 5 o Atodlen 22)

Mae’r rhyddhad hwn yn gymwys i gaffaeliadau penodol o dir i’w ddefnyddio gan:

  • luoedd arfog sy’n ymweld o wledydd ‘dynodedig’, sy’n bresennol yng Nghymru ar wahoddiad Llywodraeth EM, neu
  • bencadlysoedd milwrol rhyngwladol dynodedig.

Mae trafodiad tir yn cael ei ryddhau rhag treth os yw’n cael ei wneud gyda’r nod o:

  • adeiladu neu ehangu barics neu wersylloedd ar gyfer y llu arfog sy’n ymweld o wlad ddynodedig
  • hwyluso hyfforddi llu arfog o’r fath, neu
  • hyrwyddo iechyd neu effeithlonrwydd llu arfog o’r fath.

At y diben hwn, mae pencadlys milwrol rhyngwladol dynodedig i’w drin fel pe bai:

  • yn llu arfog sy’n ymweld o wlad ddynodedig;
  • aelodau’r llu arfog hwnnw’n bersonau sy’n gwasanaethu yn y pencadlys neu’n gysylltiedig ag ef sy’n aelodau o luoedd arfog gwlad ddynodedig.

Er mwyn i’r rhyddhad fod yn gymwys, rhaid i’r wlad neu bencadlys fod wedi’i ‘ddynodi’ at y diben hwn drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor i roi effaith i gytundeb rhyngwladol.

Mae cyfeiriadau at ‘lu arfog sy’n ymweld’ yn cynnwys unrhyw gorff, mintai etc. o luoedd arfog y gwledydd sy’n bresennol, neu a fydd yn bresennol, ar wahoddiad Llywodraeth y DU.

DTTT/7104 Rhyddhad ar gyfer eiddo a dderbynnir i dalu treth

(paragraff 6 o Atodlen 22)

Mae trafodiad tir a wneir o dan adran 9 o Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 (gwaredu eiddo a dderbynnir i dalu treth) yn cael ei ryddhau rhag treth lle mae’r prynwr yn:

  • amgueddfa, oriel gelf, llyfrgell neu sefydliad tebyg arall y mae ei ddiben neu un o’i ddibenion yn ymwneud â chadw casgliad o ddiddordeb hanesyddol, artistig neu wyddonol er budd y cyhoedd 
  • unrhyw gorff y mae ei ddiben neu un o’i ddibenion yn ymwneud â darparu, gwella neu gadw amwynderau a fwynheir neu sydd i’w mwynhau gan y cyhoedd neu gaffael tir i’w ddefnyddio gan y cyhoedd
  • unrhyw gorff y mae ei ddiben neu un o’i ddibenion yn ymwneud â gwarchod bywyd gwyllt
  • y Gronfa Casgliadau Celf Cenedlaethol neu Gyfeillion y Llyfrgelloedd Cenedlaethol
  • yr Ysgrifennydd Gwladol, neu
  • Adran yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon.

DTTT/7105 Rhyddhad cefnffyrdd

(paragraff 7 o Atodlen 22)

Mae trafodiad tir y mae Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol yn barti iddo’n cael ei ryddhau rhag treth:

  • os yw’n ymwneud â phriffordd neu briffordd arfaethedig sydd neu a fydd yn gefnffordd, ac
  • y byddai TTT yn daladwy mewn perthynas ag ef fel arall fel traul y mae Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol yn mynd iddo o dan Ddeddf Priffyrdd 1980.

Hwn, ynghyd â rhyddhad elusennau, yw un o’r ychydig leoedd lle gellir hawlio rhyddhad gan brynwyr ar y cyd, y byddai un ohonynt heb hawl fel arfer i gael rhyddhad. Mewn sefyllfaoedd o’r fath, mae rhyddhad cefnffyrdd ar gael yn llawn, yn hytrach nag fel rhyddhad rhannol.

DTTT/7106 Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau gan gyrff a sefydlwyd at ddibenion cenedlaethol

(paragraff 8 o Atodlen 22)

Mae’r rhyddhad hwn yn gymwys i gaffaeliadau tir a wneir gan y cyrff sydd wedi’u rhestru isod fel prynwr:

  • Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig
  • Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol
  • Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Astudiaethau Natur.

DTTT/7107 Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau o ganlyniad i ad-drefnu etholaethau seneddol

(paragraff 9 o Atodlen 22)

Mae cymdeithas etholaeth leol newydd yn gallu hawlio rhyddhad lle mae trafodiad tir yn cael ei wneud o ganlyniad i Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor a wnaed o dan Ddeddf Etholaethau Seneddol 1986 (gorchmynion sy’n pennu etholaethau seneddol newydd) a bydd y buddiant trethadwy yn cael ei drosglwyddo iddi gan gymdeithas etholaeth leol flaenorol. Os nad yw gorchymyn o’r fath wedi’i wneud, ni fydd rhyddhad ar gael.

Mae’r rhyddhad yn caniatáu i etholaethau seneddol newid ac, o ganlyniad i’r newid hwnnw, i’r gymdeithas etholaeth leol flaenorol drosglwyddo buddiant trethadwy i gymdeithas etholaeth leol newydd heb godi TTT.
 
Byddai’n bosibl i TTT gael ei chodi fel arall, er enghraifft, os yw hen etholaeth yn cael ei rhannu’n ddwy a dwy gymdeithas newydd yn cael eu ffurfio, neu os yw dwy etholaeth flaenorol yn cyfuno ac un gymdeithas yn cael ei ffurfio.

Bydd unrhyw fuddiant trethadwy a drosglwyddir i’r naill gymdeithas newydd neu’r llall yn gymwys am ryddhad. Mae’r rhyddhad yn darparu hefyd ar gyfer yr achlysuron hynny lle mae’r buddiant trethadwy yn cael ei drosglwyddo dros dro i gorff perthynol cyn ei drosglwyddo yn y diwedd i’r gymdeithas newydd.

DTTT/7108 Dehongli

  • Ystyr ‘cymdeithas etholaeth leol sy’n bodoli eisoes’ yw cymdeithas etholaeth leol yr oedd ei hardal, ar y dyddiad perthnasol, yr un ardal (neu’r un ardal i raddau helaeth) ag ardal yr etholaeth seneddol flaenorol neu ddwy neu ragor o etholaethau seneddol blaenorol 
  • ystyr ‘etholaeth seneddol flaenorol’ yw ardal a oedd, at ddibenion etholiadau seneddol, yn etholaeth yn union cyn y dyddiad perthnasol ond nad yw bellach yn etholaeth ar ôl y dyddiad hwnnw
  • ystyr ‘cymdeithas etholaeth leol’ yw cymdeithas anghorfforedig sydd â’r prif nod o hybu amcanion plaid wleidyddol mewn ardal sydd neu a oedd yr un neu’r un i raddau helaeth ag un neu ragor o etholaethau seneddol
  • ystyr ‘cymdeithas newydd’ yw cymdeithas etholaeth leol y mae ei hardal, ar y dyddiad perthnasol, yr un (neu’r un i raddau helaeth) ag ardal etholaeth seneddol newydd neu ddwy neu ragor o etholaethau seneddol newydd
  • ystyr ‘etholaeth seneddol newydd’ yw ardal sydd, at ddibenion etholaethau seneddol, yn etholaeth ar ôl y dyddiad perthnasol ond nad oedd yn etholaeth cyn y dyddiad hwnnw
  • ystyr ‘corff perthynol’ yw corff sy’n gweithredu ar ran y blaid wleidyddol dan sylw
  • ystyr ‘dyddiad perthnasol’ yw’r dyddiad y mae’r Gorchymyn yn dod i rym.

Enghreifftiau

Mae Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor yn darparu i ddwy etholaeth gael eu huno i wneud un etholaeth newydd. Mae’r ddwy gymdeithas etholaeth leol sy’n bodoli eisoes yn dal buddiant mewn tir. Mae cymdeithas etholaeth 1 (‘CE1’) yn berchen yn llwyr ar adeilad, mae cymdeithas etholaeth 2 (‘CE2’) yn berchen ar adeilad sydd o dan forgais o £200,000.

Mae’r sefyllfaoedd canlynol o ran trethiant yn codi o’r ffeithiau canlynol:

  • Bydd y gymdeithas newydd (CE3) yn defnyddio eiddo CE1 ac mae eiddo CE2 i gael ei werthu. Os caiff eiddo CE1 ei drosglwyddo heb gydnabyddiaeth, yna bydd y trafodiad yn esempt. Ni fydd trydydd parti sy’n caffael adeilad CE2 yn gallu hawlio rhyddhad am gaffaeliadau sy’n digwydd o ganlyniad i ad-drefnu etholaethau seneddol
  • Bydd y gymdeithas newydd (CE3) yn defnyddio eiddo CE2 ac mae eiddo CE1 i gael ei werthu. Os caiff eiddo CE2 ei drosglwyddo heb gydnabyddiaeth heblaw ysgwyddo’r ddyled, yna y gydnabyddiaeth drethadwy fydd swm y ddyled honno. Ni fydd trydydd parti sy’n caffael adeilad CE1 yn gallu hawlio rhyddhad am gaffaeliadau sy’n digwydd o ganlyniad i ad-drefnu etholaethau seneddol
  • Bydd y gymdeithas newydd (CE3) yn defnyddio eiddo CE2 ac mae eiddo CE1 i gael ei werthu. Nid yw’r gymdeithas newydd yn barod i dderbyn yr eiddo ar ddyddiad diddymu’r hen gymdeithas.  Felly mae’r eiddo’n cael ei drosglwyddo i gwmni dal eiddo y blaid ganolog. Y bwriad yw trosglwyddo’r eiddo i’r gymdeithas newydd cyn gynted â phosibl. Mae’r ail drosglwyddiad yn digwydd dri mis yn ddiweddarach ar ôl sefydlu’r gymdeithas newydd yn llawn a phenodi’r holl swyddogion perthnasol. Mae’r trosglwyddiad o CE2 i gwmni dal eiddo y blaid ganolog a’r trosglwyddiad o’r cwmni hwnnw i’r gymdeithas newydd yn gymwys am ryddhad. Ni fydd trydydd parti sy’n caffael adeilad CE1 yn gallu hawlio rhyddhad am gaffaeliadau sy’n digwydd o ganlyniad i ad-drefnu etholaethau seneddol.

DTTT/7109 Rhyddhad cymdeithasau adeiladu

(paragraff 10 o Atodlen 22)

Ni fydd trafodiad tir yn drethadwy os yw’n cael ei gyflawni drwy neu o ganlyniad i:

  • gyfuno dwy neu ragor o gymdeithasau adeiladu o dan adran 93 o Ddeddf Cymdeithasau Adeiladu 1986, neu
  • drosglwyddo ymrwymiadau rhwng cymdeithasau adeiladu o dan adran 94 o Ddeddf Cymdeithasau Adeiladu 1986.

DTTT/7110 Rhyddhad cymdeithasau cyfeillgar

(paragraff 11 o Atodlen 22)

Ni fydd trafodiad tir yn drethadwy os yw’n cael ei gyflawni drwy neu o ganlyniad i:

  • gyfuno dwy neu ragor o gymdeithasau cyfeillgar cofrestredig o dan adran 82 o Ddeddf Cymdeithasau Cyfeillgar 1974
  • trosglwyddo ymrwymiadau cymdeithas gyfeillgar gofrestredig i gymdeithas gyfeillgar gofrestredig arall o dan adran 82 o Ddeddf Cymdeithasau Cyfeillgar 1974
  • cyfuno dwy neu ragor o gymdeithasau cyfeillgar o dan adran 85 o Ddeddf Cymdeithasau Cyfeillgar 1992
  • trosglwyddo ymrwymiadau cymdeithas gyfeillgar o dan adran 86 o Ddeddf Cymdeithasau Cyfeillgar 1992, neu
  • drosglwyddo ymrwymiadau cymdeithas gyfeillgar yn unol â chyfarwyddyd a roddwyd gan yr awdurdod priodol o dan adran 90 o Ddeddf Cymdeithasau Cyfeillgar 1992.

At y dibenion hyn yr awdurdod priodol yw’r Awdurdod Rheoleiddio Darbodus.

DTTT/7111 Rhyddhad cymdeithasau cydweithredol a chymdeithasau budd cymunedol a rhyddhad undebau credyd

(paragraff 12 o Atodlen 22)

Ni fydd trafodiad tir yn drethadwy os yw’n cael ei gyflawni drwy neu o ganlyniad i:

  • drosglwyddo ymrwymiadau cymdeithas gofrestredig i gymdeithas gofrestredig arall o dan adran 110 o Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014
  • trosi cymdeithas gofrestredig yn gwmni o dan adran 112 o Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014
  • cyfuno cymdeithas gofrestredig â chwmni o dan adran 112 o Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014
  • trosglwyddo’r cyfan o ymrwymiadau cymdeithas gofrestredig i gwmni o dan adran 112 o Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014.

Mae i ‘cymdeithas gofrestredig’ (‘registered society’) yr ystyr a roddir iddi yn adran 1(1) o Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014. Fodd bynnag, ar gyfer trafodiadau a gyflawnir o dan adran 112 o Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014, mae iddi’r diffiniad a roddir iddi yn adran 1(1) o Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 ond nid yw’n cynnwys undeb credyd a gofrestrwyd o dan adran 1 o Ddeddf Undebau Credyd 1979.

Fodd bynnag, mewn perthynas â throsglwyddiad a gyflawnir o dan adran 110 o Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014, gellir hawlio rhyddhad am drosglwyddo ymrwymiadau o un undeb credyd cofrestredig i un arall ar yr amod bod y trosglwyddiad yn unol â’r rheolau yn adran 21 o Ddeddf Undebau Credyd 1979.

DTTT/7112 Rhyddhad rhag TTT sydd wedi’i ddarparu gan ddeddfwriaeth y DU mewn perthynas â sefydliadau llysgenhadol a rhyngwladol

Rhyddhad llysgenhadol

Mae rhyddhad rhag TTT ar gael ar gyfer caffaeliadau o fangreoedd llysgenhadol a chonsylaidd penodol o dan y darpariaethau canlynol: 

  • Prynu neu lesio mangre llysgenhadaeth neu breswylfa swyddogol pennaeth llysgenhadaeth (Erthyglau 23 a 34 o Gonfensiwn Fienna ar Gysylltiadau Llysgenhadol, wedi’u hymgorffori yn Atodlen 1 i Ddeddf Breintiau Llysgenhadol 1964);
  • Prynu neu lesio mangre gonsylaidd neu breswylfa swyddogol y pennaeth consylaidd (Erthygl 32 o Gonfensiwn Fienna ar Gysylltiadau Consylaidd, wedi’i hymgorffori yn Atodlen 1 i Ddeddf Cysylltiadau Consylaidd 1968). 

Cyn gwneud hynny, rhaid i’r llysgenhadaeth neu swyddfa is-lysgennad dan sylw fod wedi cael cadarnhad o statws llysgenhadol y fangre, yn unol â Deddf Mangreoedd Llysgenhadol a Chonsylaidd 1987, gan yr Uned Llysgenadaethau a Sefydliadau Rhyngwladol, Cyfarwyddiaeth Protocolau’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad.

Nid yw’r rhyddhadau hyn yn gymwys i drafodiadau ar gyfer prynu neu lesio preswylfa breifat swyddog llysgenhadol neu gonsylaidd.

Cyrff Sofran a Sefydliadau Rhyngwladol

Yn gyffredinol, nid yw Penaethiaid Gwladwriaethau neu Lywodraethau tramor neu gyrff Sofran eraill wedi’u hesemptio neu eu rhyddhau rhag atebolrwydd i dalu TTT.

Fodd bynnag, rhoddir rhyddhad ar drafodiadau ar gyfer prynu neu lesio mangre pencadlys sefydliad rhyngwladol lle mae’r Offeryn Statudol sy’n rhoi imiwneddau a breintiau i’r sefydliad yn esemptio ei Gyfarwyddwr neu Uchel Swyddog rhag trethiant y DU ar yr un telerau ag a roddir i asiant llysgenhadol.