Canllawiau ar ryddhad Treth Trafodiadau Tir cwmni buddsoddi penagored.
Cynnwys
Rhowch adborth i ni ar y canllawiau hyn
Er mwyn ein helpu i wella'r canllawiau hyn, rhowch adborth i ni (mae’n cymryd 30 eiliad).
DTTT/7089 Rhyddhad rhag treth trafodiadau tir: trosi ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig yn gwmni buddsoddi penagored
(paragraff 1 o Atodlen 19)
Mae trafodiad tir sy’n trosglwyddo unrhyw eiddo sy’n ddarostyngedig i ymddiriedolaethau ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig i gwmni buddsoddi penagored yn cael ei ryddhau rhag treth os yw’r amodau gofynnol wedi’u bodloni.
Mae’r ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig yn cael ei galw’n ‘ymddiriedolaeth darged’ a’r cwmni buddsoddi penagored yn cael ei alw’n ‘gwmni caffael’.
Yr amodau perthnasol yw:
- bod y trosglwyddo’n rhan o drefniant ar gyfer trosi ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig yn gwmni buddsoddi penagored, lle mae’r holl eiddo sydd ar gael gan yr ymddiriedolaeth darged yn dod yn holl eiddo i’r cwmni caffael
- bod yr holl unedau yn yr ymddiriedolaeth darged yn cael eu diddymu o dan y trefniant
- bod y gydnabyddiaeth o dan y trefniant ar ffurf dyroddi cyfranddaliadau neu’n cynnwys dyroddi cyfranddaliadau (‘cyfranddaliadau’r gydnabyddiaeth’) yn y cwmni caffael i’r personau a oedd yn dal yr unedau a ddiddymwyd
- bod cyfranddaliadau’r gydnabyddiaeth yn cael eu dyroddi i’r personau hynny yn ôl y gyfran o’r unedau a ddiddymwyd yr oeddent yn eu dal
- nad yw’r gydnabyddiaeth o dan y trefniant yn cynnwys unrhyw beth arall, ar wahân i ysgwyddo neu gyflawni rhwymedigaethau ymddiriedolwyr yr ymddiriedolaeth darged gan y cwmni caffael
DTTT/7090 Rhyddhad rhag treth trafodiadau tir: cyfuno ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig gyda chwmni buddsoddi penagored
(paragraff 2 o Atodlen 19)
Mae trafodiad tir sy’n trosglwyddo unrhyw eiddo sy’n ddarostyngedig i ymddiriedolaethau ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig i gwmni buddsoddi penagored yn cael ei ryddhau rhag treth os yw’r amodau gofynnol wedi’u bodloni.
Mae’r ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig yn cael ei galw’n ‘ymddiriedolaeth darged’ a’r cwmni buddsoddi penagored yn cael ei alw’n ‘gwmni caffael’.
Yr amodau perthnasol yw:
- bod y trosglwyddiad yn rhan o drefniant ar gyfer cyfuno ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig gyda chwmni buddsoddi penagored, lle mae’r holl eiddo sydd ar gael gan yr ymddiriedolaeth darged yn dod yn rhan o eiddo’r cwmni caffael (ond nid ei holl eiddo)
- bod yr holl unedau yn yr ymddiriedolaeth darged yn cael eu diddymu o dan y trefniant
- bod y gydnabyddiaeth o dan y trefniant ar ffurf dyroddi cyfranddaliadau neu’n cynnwys dyroddi cyfranddaliadau (‘cyfranddaliadau’r gydnabyddiaeth’) yn y cwmni caffael i’r personau a oedd yn dal yr unedau a ddiddymwyd
- bod cyfranddaliadau’r gydnabyddiaeth yn cael eu dyroddi i’r personau hynny yn ôl y gyfran o’r unedau a ddiddymwyd yr oeddent yn eu dal
- nad yw’r gydnabyddiaeth o dan y trefniant yn cynnwys unrhyw beth arall, ar wahân i ysgwyddo neu gyflawni rhwymedigaethau ymddiriedolwyr yr ymddiriedolaeth darged gan y cwmni caffael
DTTT/7091 Dehongli
(paragraff 3 o Atodlen 19)
At ddibenion y rhyddhad hwn:
- ystyr ‘yr holl eiddo sydd ar gael gan yr ymddiriedolaeth darged’ yw’r holl eiddo sy’n ddarostyngedig i ymddiriedolaethau’r ymddiriedolaeth darged heb gynnwys unrhyw rai a gadwyd i gyflawni rhwymedigaethau ymddiriedolwyr yr ymddiriedolaeth darged
- mae pob un o’r rhannau o gynllun ambarél i’w hystyried yn ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig
- mae i ‘cynllun ambarél’ (‘umbrella scheme’) yr un ystyr ag a roddir iddo yn adran 619 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010
- ystyr ‘ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig’ (‘authorised unit trust’) yw cynllun ymddiriedolaethau unedau y mae gorchymyn o dan adran 243 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 mewn grym ar ei gyfer