Canllawiau ynglŷn â chymhwyso Treth Trafodiadau Tir mewn perthynas ag rhyddhad grŵp.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

DTTT/7061Rhyddhad grŵp: Golwg gyffredinol

(Atodlen 16)

Mae’r atodlen hon yn darparu ar gyfer rhyddhad rhag y dreth trafodiadau tir pan ymrwymir i drafodiad tir rhwng cwmnïau mewn grŵp (neu gyrff corfforaethol) pan fodlonir rhai amodau.

Mae’r rhyddhad hwn yn caniatáu i grwpiau symud eiddo am resymau masnachol heb wynebu taliadau dan y dreth trafodiadau tir os bodlonir yr amodau ar gyfer y rhyddhad.

Os yw prynwr a gwerthwr buddiant trethadwy’n gwmnïau (neu’n gyrff corfforaethol) a’u bod, ar y dyddiad y bydd y trafodiad tir yn cael effaith, ill dau yn aelodau o’r un grŵp, gall y prynwr hawlio rhyddhad rhag y dreth trafodiadau tir. Nid oes raid i'r prynwr hawlio rhyddhad ac, yn hytrach, gall ddewis talu'r dreth drwy beidio â hawlio'r rhyddhad. Felly, nid oes rhyddhad ar gael os na chaiff ei hawlio mewn ffurflen dreth.

Mae rhai cyfyngiadau o ran cael y rhyddhad.

Pan fydd rhyddhad grŵp rhag y dreth trafodiadau tir wedi’i hawlio ar drafodiad tir (y trafodiad perthnasol), rhaid rhoi gwybod am unrhyw ryddhad a fydd yn cael ei dynnu’n ôl ar ôl hynny ar ffurflen dreth trafodiad tir newydd.

Hefyd, dylid cyflwyno ffurflen dreth trafodiad tir newydd, yn adlewyrchu’r ffaith bod rhyddhad wedi’i dynnu’n ôl:

  • os bydd y prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr:
    • cyn diwedd cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad tir perthnasol yn cael effaith, neu, 
    • yn unol â, neu mewn cysylltiad â, threfniadau a wnaed cyn diwedd cyfnod o dair blynedd, sy’n dechrau â'r dyddiad y mae'r trafodiad tir perthnasol yn cael effaith.

neu

  • lle mae rheolaeth dros y prynwr yn newid mewn rhai achosion sy’n ymwneud ag achosion o drafodiadau olynol.

DTTT/7062 Diffiniadau

Mae’r diffiniadau allweddol a ddefnyddir yn y canllaw hwn fel a ganlyn:

  • mae ‘trefniadau’ yn cynnwys unrhyw gynllun, unrhyw gytundeb neu unrhyw ddealltwriaeth, pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio.
  • mae ‘cwmni’ yn golygu corff corfforaethol (bydd hwn yn cynnwys partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ond y rheolau rhyddhad grŵp yn berthnasol i bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig mewn ffyrdd penodol iawn).
  • mae cwmnïau yn aelodau o’r un grŵp os yw un yn is-gwmni 75% i’r llall neu os yw’r ddau yn is-gwmnïau 75% i drydydd cwmni. Mae cwmni (B Cyf) yn is-gwmni 75% i gwmni arall (A Cyf) os yw A Cyf yn bodloni’r amodau a ganlyn:
    • ei fod yn berchennog llesiannol ar ddim llai na 75% o gyfalaf cyfranddaliadau cyffredin (un ai’n uniongyrchol neu drwy gwmni neu gwmnïau eraill fel y pennir drwy gymhwyso’r rheolau yn adrannau 155, 1156 a 1157 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010) cwmni B Cyf
    • bod ganddo hawl llesiannol i ddim llai na 75% o’r elw sydd ar gael i’w ddosbarthu i ddeiliaid ecwiti (un ai’n uniongyrchol neu drwy gwmni neu gwmnïau eraill) cwmni B Cyf, neu
    • pe bai ganddo hawl llesiannol i ddim llai na 75% o unrhyw rai o asedau cwmni B (un ai’n uniongyrchol neu drwy gwmni neu gwmnïau eraill) sydd ar gael i’w dosbarthu i’w ddeiliaid ecwiti mewn achos o ddirwyn i ben
    • at ddibenion sefydlu a oes gan gyfranddaliwr hawl i elw sydd ar gael i’w ddosbarthu neu i unrhyw asedau mewn achos o ddirwyn i ben, bydd y rheolau ym Mhennod 6 o Ran 5 Deddf Treth Gorfforaeth 2010 yn berthnasol. Ond, mae adrannau 171(1)(b) a (3), 173, 174, 176, 177 a 178 i'w trin fel petaent wedi’u hepgor.
  • ystyr ‘dogfen gyfansoddiadol’ yw memorandwm cymdeithasu, erthyglau cymdeithasu neu ddogfen debyg sy’n rheoleiddio materion cwmni cyd-fenter.
  • mae i'r gair 'rheoli/rheolaeth’ yr un ystyr â’r ystyr a roddir gan adrannau 450, 451 ac 1124 Deddf Treth Gorfforaeth 2010. Golyga hyn fod pŵer person i wneud yn siŵr fod materion cwmni’n cael eu cynnal yn unol â’u dymuniadau:
    • drwy ddal cyfranddaliadau yn y cwmni neu fod â phŵer pleidleisio yn y cwmni neu mewn perthynas â'r cwmni
    • yn rhinwedd pwerau a roddir gan erthyglau cymdeithasu’r cwmni neu yn rhinwedd unrhyw ddogfen arall sy’n rheoleiddio’r cwmni.
  • Mewn perthynas â chyfyngiadau ar argaeledd rhyddhad grŵp (paragraff 4) nodir ystyr rheoli/rheolaeth yn adran 1124 Deddf Treth Gorfforaeth 2010.
  • Mewn sefyllfaoedd lle nad yw rhyddhad grŵp yn cael ei dynnu’n ôl pan mae’r gwerthwr yn gadael y grŵp (paragraff 10) mae rheolaeth yn cael ei sefydlu yn unol ag adrannau 450 a 451 Deddf Treth Gorfforaeth 2010.
  • ystyr ‘un o gwmnïau’r grŵp’ yw cwmni sydd, ar y dyddiad y mae’r  trafodiad tir yn cael effaith, yn aelod o’r un grŵp â’r prynwr neu'r gwerthwr.
  • ystyr ‘cwmni cyd-fenter’ yw cwmni sydd â dau neu ragor o aelod-gwmnïau a'r cwmni cyd-fenter yn ymgymryd â gweithgarwch masnachol a lywodraethir gan gytundeb sy’n rheoleiddio materion yr aelodau.
  • ystyr 'aelod’ mewn perthynas â chwmni yw cwmni sydd mewn grŵp o gwmnïau. Mewn perthynas â chwmni cyd-fenter, ystyr 'aelod’ yw rhywun sy’n dal cyfranddaliadau neu warannau mewn cwmni cyd-fenter.
  • ystyr ‘morgais’ yng Nghymru a Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon yw unrhyw arwystl cyfreithiol neu ecwitïol a’i ystyr yn yr Alban yw unrhyw hawl sicrhad.
  • ystyr ‘cwmni heb fod yn aelod o grŵp’ yw cwmni nad yw’n un o gwmnïau’r grŵp.
  • ystyr ‘cyfalaf cyfranddaliadau cyffredin’ yw holl gyfalaf cyfranddaliadau dyroddedig, o ba enw bynnag, y cwmni, ac eithrio’r cyfalaf cyfranddaliadau sydd ond yn rhoi hawliau i ddifidend ar gyfradd benodedig, heb unrhyw hawl arall i rannu yn elw’r cwmni.
  • ystyr ‘cwmni cyswllt perthnasol’ yw cwmni sydd yn aelod o’r un grŵp â'r prynwr yn union cyn i’r prynwr beidio â bod yn aelod o’r un grŵp â'r gwerthwr, a hefyd, sy’n peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr o ganlyniad i'r ffaith fod y prynwr yn peidio â bod yn aelod yn y grŵp hwnnw. Mewn perthynas ag achosion pan nad yw rhyddhad grŵp yn cael ei dynnu’n ôl (paragraff 9) mae’r diffiniad hwn ychydig yn wahanol ac mewn perthynas â'r prynwr mae’n golygu cwmni sydd yn yr un grŵp â’r prynwr sy’n peidio â bod yn aelod o'r un grŵp â'r cwmni caffael o ganlyniad i'r ffaith fod y prynwr yn peidio â bod yn aelod o'r grŵp.
  • ystyr ‘trosglwyddiad perthnasol o fusnes neu ymrwymiad’ yw’r trafodiadau a ganlyn sy’n cael eu disgrifio:
    • trosglwyddiad busnes ac ati y byddai rhyddhad cymdeithasau adeiladu’n berthnasol iddo (paragraff 10(1)(a) a (b) Atodlen 22)
    • trosglwyddiad busnes ac ati y byddai rhyddhad cymdeithasau cyfeillgar yn berthnasol iddo (paragraff 11(1) Atodlen 22), a
    • trosglwyddiad busnes ac ati y byddai rhyddhad cymdeithasau cydweithredol a chymdeithasau budd cymunedol a rhyddhad undebau credyd yn berthnasol iddo (paragraff 12(1) Atodlen 22.
  • ystyr ‘trafodiad a ryddheir’ yw trafodiad sydd wedi’i ryddhau rhag y dreth trafodiadau tir o ganlyniad i hawliad am ryddhad grŵp rhag y dreth trafodiadau tir.

DTTT/7063 Partneriaethau ac endidau eraill mewn strwythurau corfforaethol

Pan fo'r strwythur grŵp yn cynnwys partneriaeth, mae enghreifftiau o effaith mathau gwahanol o bartneriaethau ar argaeledd rhyddhad grŵp ar gyfer amrywiaeth o drafodiadau.

Pan fo strwythur grŵp yn cynnwys endidau nad ydynt wedi’u creu gan ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig (er enghraifft, partneriaethau cyfyngedig yn Lloegr, partneriaethau yn yr Alban a phartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig) bydd yn rhaid i'r trethdalwr sefydlu pa driniaeth fydd yn briodol ar gyfer yr endid hwnnw nad yw’n endid yn y DU. Ar gyfer endidau a all gael eu trin fel un math o endid neu un arall ar sail pleidlais gan y personau sydd â rheolaeth, bydd angen i’r ffordd yr ymdrinnir â’r endid adlewyrchu'r math o endid y pleidleisiwyd drosto ar y dyddiad y bydd y trafodiad yn cael effaith.

DTTT/7064 Rhyddhad grŵp: Cyfyngiadau ar argaeledd

(paragraff 4)

Os yw’r cwmni sy'n prynu (prynwr) a’r cwmni sy’n gwerthu (gwerthwr) yn yr un grŵp, nid oes rhyddhad grŵp ar gael i’r prynwr yn y sefyllfaoedd a ganlyn:

  • trefniadau i drosglwyddo rheolaeth dros y prynwr ond nid dros y gwerthwr)
  • trefniadau sy’n ymwneud â'r gydnabyddiaeth am y trafodiad
  • trefniadau lle mae'r gwerthwr a’r prynwr yn peidio â bod yn aelodau o’r un grŵp.

Trefniadau i gael rheolaeth dros y prynwr ond nid dros y gwerthwr

Nid oes rhyddhad ar gael pan fo trefniadau yn eu lle a fyddai'n golygu y gallai person, neu bersonau, gael rheolaeth dros y prynwr ond nid dros y gwerthwr.

Mae'r cyfyngiad hwn yn weithredol pan fo’r trefniadau yn eu lle ar y dyddiad y mae'r trafodiad tir yn cael effaith, neu fod opsiynau ac ati yn eu lle ar y dyddiad y mae'r trafodiad yn cael effaith, i sefydlu trefniadau o'r fath.

Rhaid i’r trefniadau fod o’r math sy’n golygu y gallai person, neu bersonau, gael rheolaeth dros y prynwr ar neu ar ôl y dyddiad y mae'r trafodiad yn cael effaith. Nid oes ots a yw’r trefniadau’n cael eu defnyddio mewn gwirionedd i drosglwyddo rheolaeth.

Enghraifft

Mae A Cyf (y gwerthwr) yn berchen ar eiddo ac yn ei werthu i B Cyf (y prynwr).

1 Ebrill 2020 yw’r dyddiad y bydd y trafodiad tir hwn yn cael effaith.

Ar 1 Ebrill 2020, mae A Cyf a B Cyf yn bodloni'r gofynion am ryddhad grŵp gan fod B Cyf yn is-gwmni 100% o A Cyf ac mae’r holl brofion eraill wedi’u cyflawni.

Ond, ar 1 Ebrill 2020, mae cytundeb yn cael ei wneud i A Cyf werthu’r cyfranddaliadau yn B Cyf i drydydd parti digyswllt, C Cyf. Nid yw rhyddhad grŵp ar gael i B Cyf oherwydd byddai'r trefniant hwn yn golygu y byddai C Cyf yn cael rheolaeth dros B Cyf (y prynwr) ond nid dros A Cyf (y gwerthwr).

Bydd yn rhaid i B Cyf lenwi ffurflen dreth trafodiad tir, ni fydd yn gallu hawlio rhyddhad ar y ffurflen dreth honno a bydd yn rhaid iddo dalu unrhyw dreth trafodiadau tir.

Trefniadau pan fydd y prynwr yn peidio â bod yn yr un grŵp â'r gwerthwr

Nid yw rhyddhad grŵp ar gael pan fo’r prynwr, yn unol â threfniant neu drefniadau, neu mewn cysylltiad â hwy, yn peidio â bod (neu y gallai beidio â bod) yn yr un grŵp â'r gwerthwr.

Mae hyn yn berthnasol pan fo'r trefniadau'n golygu bod y prynwr yn peidio â bod (neu y gallai beidio â bod) yn is-gwmni 75% i’r gwerthwr neu drydydd cwmni ac felly’n peidio â bod (neu y gallai beidio â bod) yn yr un grŵp â’r gwerthwr.

Gweler y canllaw hefyd mewn perthynas â rheolau sy’n ymwneud â thynnu rhyddhad grŵp yn ôl pan fo’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr yn dilyn dyddiad y trafodiad tir. 

Trefniadau’n ymwneud â'r gydnabyddiaeth am y trafodiad

Nid yw rhyddhad grŵp ar gael pan fydd cwmni nad yw’n rhan o grŵp (neu berson arall), ar y dyddiad y mae'r trafodiad yn cael effaith, yn darparu neu’n derbyn y gydnabyddiaeth am y trafodiad, neu ran ohoni, a hyn yn cael ei wneud yn unol â threfniant neu mewn cysylltiad â threfniant.

Nid yw’r rhyddhad ar gael pa un a yw’r gydnabyddiaeth yn cael ei darparu neu ei derbyn yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Mae hyn yn berthnasol:

  • pa un a yw’r gwerthwr, y prynwr neu un arall o gwmnïau’r grŵp yn barti i’r trefniadau
  • pan fo’r trefniadau’n golygu bod rhan o’r gydnabyddiaeth yn cael ei darparu neu ei derbyn o ganlyniad i gyflawni trafodiad (neu drafodiadau) sy’n cynnwys taliad (neu daliadau) neu dderbyniad (neu dderbyniadau) gan berson ac eithrio un o gwmnïau’r grŵp.

Nid yw’r darpariaethau hyn yn ymestyn i dynnu rhyddhad grŵp yn ôl yn y sefyllfa lle bydd cwmni grŵp yn trefnu morgais gan fenthyciwr er mwyn cyllido’r broses o symud eiddo o fewn grŵp.

Enghraifft

Mae A Cyf a B Cyf yn ffurfio grŵp o gwmnïau sy’n bodloni’r holl ofynion ar gyfer rhyddhad grŵp. Mae A Cyf yn berchen ar bloc o swyddfeydd, y mae’n awyddus i’w drosglwyddo i B Cyf. Mae B Cyf yn trefnu morgais wedi’i ddiogelu yn erbyn yr eiddo ac mae’n defnyddio hwn fel cydnabyddiaeth i gyllido’r broses o drosglwyddo’r eiddo. Mae rhyddhad grŵp ar gael yn y senario yma.

DTTT/7065 Eithriadau i gyfyngiadau ar argaeledd rhyddhad grŵp

(paragraffau 4(2), 5 a 6)

Trefniadau i drosglwyddo rheolaeth dros y prynwr ond nid dros y gwerthwr; adran 75 Deddf Cyllid 1986 - cynllun ar gyfer atgyfansoddi

(paragraff 4(2))

Nid yw’r rheol gyffredinol sy’n gwahardd hawliad am ryddhad grŵp yn berthnasol pan ymrwymir i drefniadau gyda’r nod o gaffael cyfranddaliadau gan gwmni (y cwmni caffael) nad yw’n brynwr nac yn werthwr yn y trafodiad tir.

Rhaid i'r trafodiad cyfranddaliadau fod yn drafodiad y bydd adran 75 Deddf Cyllid 1986 (caffael ymgymeriad, neu ran ohono, yn unol â chynllun ar gyfer atgyfansoddi’r cwmni targed) yn berthnasol iddo, yr holl amodau ar gyfer y rhyddhad hwnnw’n cael eu bodloni, a bydd y prynwr yn y trafodiad tir yn yr un grŵp â’r cwmni caffael yn y trafodiad cyfranddaliadau.

Bydd rhyddhad grŵp mewn perthynas â thrafodiadau a wneir i baratoi ar gyfer caffaeliad y mae adran 75 Deddf Cyllid 1986 yn berthnasol iddo, ac os ydynt yn y ddwy sefyllfa a ganlyn, yn dal yn gallu bod yn destun hawliad dilys am ryddhad grŵp (cyhyd â bod yr holl amodau perthnasol eraill yn cael eu bodloni):

  • Trefniadau lle gallai rhywun gael rheolaeth dros y trosglwyddai ond nid dros y trosglwyddwr (trefniadau ‘rheolaeth’) (paragraff 4(1) Atodlen 16)
  • Trefniadau lle bydd y trosglwyddwr a'r trosglwyddai yn peidio â bod yn aelodau o’r un grŵp am fod y trosglwyddai wedi peidio â bod yn is-gwmni 75% i’r trosglwyddwr neu i drydydd cwmni (trefniadau ‘dadgrwpio’) (paragraff 4(3)(b) Atodlen 16).

Felly, bydd unrhyw gaffaeliadau y mae adran 75 Deddf Cyllid 1986 yn berthnasol iddynt yn cynnwys trefniant dadgrwpio a newid rheolaeth.

Fodd bynnag, mae rhyddhad grŵp yn dal ar gael oherwydd mae paragraff 4(2)(c) yn golygu nad yw’r trefniadau yr ymrwymir iddynt mewn perthynas â chaffaeliad y mae adran 75 Deddf Cyllid 1986 yn berthnasol iddo yn drefniadau 'rheolaeth’ sy’n gwrthod rhyddhad grŵp. Er nad yw paragraff 4(3)(b) yn cynnwys amod tebyg, rhaid darllen paragraff 4 fel un ac felly rhaid i'r amod fod yn berthnasol i baragraff 4(3)(b) hefyd, fel arall ni fyddai dim effaith iddo. Felly, mae ACC yn derbyn nad yw trefniadau yr ymrwymir iddynt mewn perthynas â chaffaeliad y mae adran 75 Deddf Cyllid 1986 yn berthnasol iddo, yn drefniadau ‘dadgrwpio’ sy’n gwrthod rhyddhad grŵp.

Trefniadau yr ymrwymir iddynt gan gwmnïau cyd-fenter

(paragraff 5)

Pan fydd cwmni cyd-fenter yn ymrwymo i drefniadau a fyddai’n cael eu hystyried yn drefniadau a fyddai’n golygu nad oes rhyddhad grŵp ar gael, efallai y bydd y rhyddhad yn dal ar gael pan mai cwmni cyd-fenter sydd wedi ymrwymo i'r trefniadau.

Rhaid i’r trefniadau naill ai:

  • fod yn gytundeb sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo cyfranddaliadau neu warannau yn y cwmni cyd-fenter i un aelod neu ragor o’r cwmni hwnnw pan geir un neu ragor o ddigwyddiadau dibynnol a enwir neu o ganlyniad i hynny, neu
  • yn ddarpariaeth yn un o ddogfennau cyfansoddiadol y cwmni cyd-fenter sy’n darparu ar gyfer atal dros dro hawliau pleidleisio aelod pan geir un neu ragor o ddigwyddiadau dibynnol a enwir, neu o ganlyniad i hynny.

Y digwyddiadau dibynnol a enwir yw:

  • ymadawiad aelod yn wirfoddol
  • cychwyn trafodiadau datod, gweinyddu, derbynyddiad gweinyddol neu dderbynyddiad ar gyfer aelod, neu aelod yn ymrwymo i drefniant gwirfoddol, o dan Ddeddf Ansolfedd 1986 (p. 45) neu Orchymyn Ansolfedd (Gogledd Iwerddon) 1989 (O.S.1989/2405 (G.I.19)) neu gychwyn, neu ymrwymo i, achos neu drefniadau cyfatebol o dan gyfraith unrhyw wlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig
  • dirywiad difrifol yng nghyflwr ariannol aelod
  • rheolaeth dros aelod yn newid
  • methiant ar ran aelod i gyflawni ei rwymedigaethau o dan unrhyw gytundeb rhwng yr aelodau neu â’r cwmni cyd-fenter (sydd, at y diben hwn, yn cynnwys unrhyw un o ddogfennau cyfansoddiadol y cwmni cyd-fenter)
  • newid allanol yn yr amgylchiadau masnachol y mae’r cwmni cyd-fenter yn gweithredu oddi tanynt i’r graddau bod bygythiad i’w hyfywedd
  • anghytundeb heb ei ddatrys rhwng yr aelodau, ac
  • unrhyw ddigwyddiad dibynnol tebyg i’r rhai a grybwyllir yn unrhyw un o’r pwyntiau bwled uchod y darperir ar ei gyfer, ond na fwriadwyd iddo ddigwydd, pan ymrwymwyd i’r trefniadau o dan sylw. 

Fodd bynnag, nid yw'r eithriad hwn yn berthnasol i achosion lle gall aelod (ar ei ben ei hun neu gyda phersonau cysylltiedig), cyn i ddigwyddiad dibynnol a enwir ddigwydd, bennu amseriad y broses o drosglwyddo cyfranddaliadau neu warannau, neu atal hawliau pleidleisio aelod. At ddibenion y rheol benodol hon, nid yw aelodau’n gysylltiedig â’i gilydd oherwydd eu bod yn aelodau o’r cwmni cyd-fenter.

Trefniadau yr ymrwymir iddynt mewn perthynas â morgeisi

(paragraff 6)

Yn y sefyllfa lle na fyddai rhyddhad grŵp ar gael yn achos trefniant morgais a fyddai’n golygu nad yw’r gwerthwr a’r prynwr yn aelodau o’r un grŵp mwyach, gallai’r rhyddhad fod ar gael o hyd os:

  • yw'r morgais wedi’i ddiogelu gan gyfranddaliadau neu warannau yn y cwmni sydd yn achos drwgdaliad neu ddigwyddiad arall, yn caniatáu i’r morgeisai (y person sy’n rhoi benthyg yr arian) arfer ei hawliau (fel rheol mae hyn yn golygu’r hawl i bechenogi’r eiddo a forgeisiwyd, neu’r pŵer prynu) yn erbyn y morgeisiwr (y person sy’n benthyg arian), ac os
  • yw’r morgeisai heb arfer ei hawliau yn erbyn y morgeisiwr.

Fodd bynnag, ni fydd y rhyddhad grŵp ar gael hyd yn oed os yw’r amodau uchod yn cael eu bodloni os bydd y trefniadau’n golygu bod y morgeisai:

  • yn meddu ar fwy o hawliau mewn cysylltiad â’r cyfranddaliadau neu’r gwarannau y mae’r morgais yn ymwneud â hwy nag y bo’n ofynnol ganddo er mwyn gwarchod ei fuddiant fel morgeisai, neu
  • pe gallai’r morgeisai, ar ei ben ei hun neu ynghyd â phersonau cysylltiedig, bennu telerau neu amseriad y drwgdaliad neu ddigwyddiad arall a fyddai'n caniatáu i’r morgeisai arfer ei hawliau yn erbyn y morgeisiwr.

At ddibenion y rheol arbennig hon, nid yw’r morgeisai’n gysylltiedig â chwmni y mae’r morgais yn ymwneud â’i gyfranddaliadau neu ei warannau.

DTTT/7066 Tynnu rhyddhad grŵp yn ôl

(paragraff 8)

Rhaid tynnu rhyddhad grŵp yn ôl os bydd y prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr:

  • cyn diwedd cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad tir perthnasol yn cael effaith, neu 
  • yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau â'r dyddiad y mae'r trafodiad tir perthnasol yn cael effaith, neu mewn cysylltiad â’r trefniadau hynny.

Bydd tynnu rhyddhad grŵp yn ôl yn digwydd os bydd y prynwr (neu gwmni cysylltiedig perthnasol) ar yr adeg y mae'r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â'r gwerthwr, yn dal:

  • y buddiant trethadwy a gaffaelwyd dan y trafodiad perthnasol, neu 
  • buddiant trethadwy sy’n deillio o'r buddiant trethadwy a gaffaelwyd dan y trafodiad perthnasol (er enghraifft, petai prif les o dan y trafodiad tir perthnasol yn cael ei chaffael, byddai’r rifersiwn ar is-les a roddir dan y brif les honno yn fuddiant trethadwy yn deillio o'r buddiant trethadwy gwreiddiol, a
  • nid yw’r buddiant trethadwy wedi’i gaffael wedi hynny am ei werth ar y farchnad drwy drafodiad trethadwy yr oedd rhyddhad grŵp ar gael mewn perthynas ag ef, ond nas hawliwyd.

Tynnu rhyddhad grŵp yn ôl: swm sy’n daladwy

(paragraff 8)

Os oes angen tynnu rhyddhad grŵp yn ôl, mae swm y rhyddhad a dynnir yn ôl yn dibynnu ar:

  • y buddiant trethadwy a sicrhawyd gan y prynwr ar ddyddiad y trafodiad tir gwreiddiol
  • y buddiant trethadwy sy’n cael ei ddal gan y prynwr (ac unrhyw gwmni cysylltiedig perthnasol) ar adeg tynnu’r rhyddhad grŵp yn ôl.

Effaith tynnu’r rhyddhad yn ôl yw trethu’r buddiant trethadwy sy’n weddill gan y prynwr (ac unrhyw gwmni cysylltiedig perthnasol) fel petai dim hawliad am ryddhad grŵp wedi’i wneud.

Y dreth trafodiadau tir sy’n daladwy yw'r dreth fyddai wedi bod yn daladwy mewn perthynas â’r trafodiad tir gwreiddiol yr hawliwyd y rhyddhad grŵp ar ei gyfer. Caiff y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad ei chyfrif yn unol â gwerth y farchnad o’r buddiant trethadwy a drosglwyddwyd gan y trafodiad tir gwreiddiol, ac os oedd y caffael yn dyfarnu les am rent, swm y rhent hwnnw.

Addasir y rheol hon os nad yw'r buddiant trethadwy sy’n cael ei ddal gan y prynwr (ac unrhyw gwmni cysylltiedig perthnasol) adeg tynnu’r rhyddhad grŵp yn ôl yr un fath â’r buddiant trethadwy a drosglwyddwyd gan y trafodiad tir gwreiddiol.

Mewn achos o’r fath, y dreth trafodiadau tir sy’n daladwy yw’r dreth a fyddai wedi bod yn daladwy mewn perthynas ag unrhyw gyfran briodol o’r trafodiad tir gwreiddiol yr hawliwyd rhyddhad ar ei gyfer.

Y gyfran briodol yw’r ffracsiwn o werthoedd marchnad y buddiannau trethadwy sy’n cael eu dal gan y prynwr ac unrhyw gwmnïau cysylltiedig perthnasol adeg tynnu’r rhyddhad grŵp yn ôl.  Caiff y gyfran briodol ei chyfrif drwy gyfeirio at ddyddiad y trafodiad tir perthnasol o gymharu â gwerth marchnad y buddiant trethadwy a sicrhawyd gan y prynwr ar ddyddiad y trafodiad tir perthnasol.

Tynnu rhyddhad grŵp yn ôl mewn achosion penodol sy’n ymwneud â thrafodiadau olynol

(paragraff 12)

Os bodlonir y pedwar amod canlynol, mae'r rheolau am dynnu rhyddhad grŵp yn ôl yn ymwneud â thrafodiad perthnasol (h.y. trafodiad yr hawliwyd rhyddhad grŵp ar ei gyfer) fel pe bai’r gwerthwr mewn perthynas â’r trafodiad blaenorol cynharaf yr un â’r gwerthwr mewn perthynas â’r trafodiad perthnasol:

  • mae newid yn y rheolaeth ar y prynwr
  • mae’r newid yn digwydd:
    • cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad sydd wedi’i eithrio o dreth yn unol â’r atodlen hon (‘y trafodiad perthnasol’), neu
    • yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â hwy
  • ni fyddai'r rhyddhad mewn perthynas â’r trafodiad perthnasol yn cael ei dynnu’n ôl ar y trafodiad blaenorol gan y prynwr sy’n peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr, ac,
  • mewn perthynas ag unrhyw drafodiad blaenorol:
    • mae’r trafodiad blaenorol yn cael ei ryddhau o dreth yn rhinwedd y ffaith ei fod yn drafodiad a ryddhawyd at ddibenion rhyddhad grŵp y dreth trafodiadau tir, neu ryddhad atgyfansoddi neu ar gyfer rhyddhad atgyfansoddi
    • mae’r dyddiad pryd mae’r trafodiad blaenorol yn cael effaith lai na thair blynedd cyn dyddiad y newid a grybwyllwyd yn yr amod cyntaf
    • mae’r buddiant trethadwy a gaffaelir o dan y trafodiad perthnasol gan y prynwr mewn perthynas â’r trafodiad hwnnw yr un fath â’r buddiant trethadwy a gaffaelwyd o dan y trafodiad blaenorol gan y prynwr mewn perthynas â’r trafodiad blaenorol, neu’n ei ffurfio, yn ffurfio rhan ohono, neu’n deillio ohono, ac
    • ers y trafodiad blaenorol, nid yw’r buddiant trethadwy a gaffaelwyd o dan y trafodiad hwnnw wedi cael ei gaffael gan unrhyw berson o dan drafodiad nad yw wedi’i ryddhau o dreth yn rhinwedd rhyddhad grŵp, rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael.

Os mai dau neu fwy o drafodion a weithredwyd ar yr un pryd yw’r trafodion blaenorol cynharaf mae’r cyfeiriad uchod at y gwerthwr mewn perthynas â’r trafodiad blaenorol cynharaf yn golygu unrhyw rai o’r gwerthwyr yn y trafodion cynharaf hynny.

Mae newid i reolaeth cwmni os bydd:       

  • person sydd â rheolaeth dros y cwmni (ar ei ben ei hun neu ynghyd ag eraill) yn peidio â bod â rheolaeth drosto
  • person yn cael rheolaeth dros y cwmni (ar ei ben ei hun neu ynghyd ag eraill), neu,
  • y cwmni’n cael ei ddirwyn i ben.

Mae rheolaeth i’w sefydlu yn unol ag adrannau 450 a 451 Deddf Treth Gorfforaeth 2010.

Achosion pan na fo rhyddhad grŵp yn cael ei dynnu’n ôl

(paragraff 9)

Nid yw rhyddhad grŵp yn cael ei dynnu’n ôl pan fo’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr oherwydd y canlynol:

  • unrhyw beth a wneir at ddibenion, neu yng nghwrs, dirwyn i ben y gwerthwr neu gwmni arall sydd uwchlaw’r gwerthwr yn strwythur y grŵp; neu,
  • y gwerthwr neu gwmni arall sydd uwchlaw’r gwerthwr yn strwythur y grŵp yn peidio â bodoli.

Mae cwmni uwchlaw y gwerthwr yn strwythur y grŵp os yw’r gwerthwr (neu gwmni arall sydd uwchlaw’r gwerthwr yn strwythur y grŵp) yn is-gwmni 75% o’r cwmni hwnnw.

Hefyd, nid yw rhyddhad grŵp yn cael ei dynnu’n ôl os yw’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr o ganlyniad i’r ffaith bod cwmni arall (y cwmni caffael) wedi caffael cyfranddaliadau, a bod, mewn perthynas â’r caffaeliad:

  • adran 75 Deddf Cyllid 1986 yn berthnasol (rhyddhad ar gyfer caffael ymgymeriad yn llawn neu’n rhannol yn unol â chynllun ar gyfer atgyfansoddi cwmni targed);
  • yr amodau ar gyfer rhyddhad o dan adran 75 Deddf Cyllid 1986 wedi eu bodloni, ac
  • yn union ar ôl y caffaeliad hwnnw, bod y prynwr yn yr un grŵp â’r cwmni caffael.

Fodd bynnag, os na fydd rhyddhad yn cael ei dynnu’n ôl oherwydd caffael cyfranddaliadau o dan drefniant sy’n cydymffurfio â’r gofynion yn adran 75 Deddf Cyllid 1986, gellir tynnu rhyddhad yn ôl o hyd os bydd y prynwr yn peidio â bod yn yr un grŵp â’r cwmni caffael:

  • cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad tir perthnasol yn cael effaith, neu
  • yn unol â, neu mewn cysylltiad â threfniadau a wnaed cyn diwedd cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad tir perthnasol yn cael effaith; ac
  • y buddiant trethadwy a gaffaelwyd gan y prynwr yn y trafodiad tir perthnasol, neu
  • buddiant trethadwy yn deillio o’r buddiant trethadwy a gaffaelwyd yn y trafodiad tir perthnasol (er enghraifft, os caffaelwyd prif les o dan y trafodiad tir perthnasol, byddai rifersiwn is-les a ddyfarnwyd allan o’r brif les honno’n fuddiant trethadwy’n deillio o’r buddiant trethadwy gwreiddiol), ac 
  • nid yw’r buddiant trethadwy wedi’i gaffael wedi hynny am ei werth ar y farchnad drwy drafodiad trethadwy yr oedd rhyddhad grŵp ar gael mewn perthynas ag ef, ond nas hawliwyd.

Gwerthwr yn gadael y grŵp: ni thynnir rhyddhad grŵp yn ôl

(paragraff 10)

Ni fydd rhyddhad grŵp yn cael ei dynnu’n ôl os nad yw’r prynwr yn yr un grŵp â’r gwerthwr o ganlyniad i’r gwerthwr yn gadael y grŵp. Mae’r gwerthwr yn cael ei ystyried fel ei fod wedi gadael y grŵp os bydd yn peidio â bod yn yr un grŵp â’r prynwr o ganlyniad i drafodiad perthnasol i gyfranddaliadau. Rhaid i’r trafodiad mewn cyfranddaliadau fod wedi bod yn y gwerthwr ei hun neu mewn cwmni arall sydd uwchlaw’r gwerthwr, sydd, o ganlyniad i’r trafodiad cyfranddaliadau yn y cwmni hwnnw, yn golygu bod y gwerthwr wedi peidio â bod yn yr un grŵp â’r gwerthwr.

Mae cwmni uwchlaw y gwerthwr yn strwythur y grŵp os yw’r gwerthwr (neu gwmni arall sydd uwchlaw’r gwerthwr yn strwythur y grŵp) yn is-gwmni 75% o’r cwmni hwnnw.

Fodd bynnag, os oes newid dilynol yn y rheolaeth ar y prynwr o fewn tair blynedd i ddyddiad effeithiol y trosglwyddiad grŵp mewnol o ryddhad grŵp, neu ar unrhyw adeg yn unol â neu mewn cysylltiad â’r trefniadau a wnaed cyn diwedd y cyfnod hwnnw, bydd y rhyddhad yn dal i gael ei dynnu’n ôl.

Enghraifft

Yng ngrŵp P Cyf (rhiant i ddau chwaer-gwmni), B Cyf (prynwr) ac S Cyf (gwerthwr), mae S Cyf yn trosglwyddo eiddo oddi mewn i’r grŵp i B Cyf a hawlir rhyddhad grŵp (mae’r amodau cymhwyso’n cael eu bodloni). Wedyn mae S Cyf yn gadael y grŵp.  Er nad yw B Cyf yn rhan o’r un grŵp bellach ag S Cyf, nid yw rhyddhad grŵp yn cael ei dynnu’n ôl yn y cam hwn.

Ddwy flynedd ar ôl y prynu gan B Cyf, mae P Cyf yn gwerthu ei gyfranddaliadau yn B Cyf i drydydd parti digyswllt. Bydd y newid mewn rheolaeth ar B Cyf yn sbarduno tynnu’r rhyddhad grŵp gwreiddiol yn ôl yn awr.

Bydd tynnu rhyddhad grŵp yn ôl yn cael ei sbarduno yn yr un modd os oes newid yn y rheolaeth ar P Cyf oherwydd mae hyn yn newid y rheolaeth ar B Cyf mewn gwirionedd.

DTTT/7067 Newid mewn rheolaeth

Mae newid mewn rheolaeth ar y prynwr os bydd:

  • person sydd â rheolaeth dros y prynwr (ar ei ben ei hun neu ynghyd ag eraill) yn peidio â bod â rheolaeth drosto,
  • person yn cael rheolaeth dros y prynwr (ar ei ben ei hun neu ynghyd ag eraill) neu,
  • y prynwr yn cael ei ddirwyn i ben.

Dylai unrhyw gyfeiriadau at reolaeth gael eu dehongli yn unol ag adrannau 450 a 451 Deddf Treth Gorfforaeth 2010.

Mae hyn yn diffinio rheolaeth fel:

  • rheolaeth dros faterion y cwmni
  • rheolaeth drwy bŵer pleidleisio
  • rheolaeth drwy rannu cyfalaf neu drwy gyfalaf cyfranddaliadau dyroddedig 
  • rheolaeth dros incwm y cwmni
  • rheolaeth dros asedau’r cwmni.

Mae rhagor o wybodaeth am reolaeth ar gael yng nghanllawiau CThEM.

At ddibenion y rheol hon, ni chredir fod newid mewn rheolaeth ar y prynwr oherwydd bod credydwr benthyciadau’n sicrhau rheolaeth neu’n peidio â rheoli’r prynwr, ar yr amod bod y personau eraill a oedd yn rheoli’r prynwr cyn i’r newid godi o reolaeth y credydwyr benthyciadau’n parhau i reoli’r prynwr. Diffinnir credydwr benthyciadau at y dibenion hyn yn adran 453 y Ddeddf Treth Gorfforaeth.

Yn yr un modd, nid yw newid mewn rheolaeth yn codi os yw cwmni daliannol newydd yn cael ei gynnwys naill ai rhwng y rhiant gwmni gwreiddiol a’i gyfranddalwyr, neu rhwng y prynwr a’r rhiant gwmni ar yr amod nad oes newid ym mherchnogaeth economaidd cyffredinol y grŵp.

Fodd bynnag, os yw hwn yn werthiant grŵp cyfan a bod hyn wedi digwydd o fewn tair blynedd i'r trafodiad, bydd tynnu rhyddhad grŵp yn ôl yn cael ei sbarduno gan fod newid mewn rheolaeth wedi bod yn y cwmni prynu, oni bai fod y gwerthwr yn parhau yn yr un grŵp â’r prynwr.

Hefyd, bydd prawf ‘cyfuniadau rheoli gofynnol’ yn cael ei roi ar waith er mwyn sefydlu a fu newid ‘gwirioneddol’ ym mherchnogaeth yr ased. Er enghraifft, os oes gan dri pherson, A, B ac C, draean yr un o gyfranddaliadau mewn cwmni, ac os nad ydynt yn gysylltiedig mewn unrhyw ffordd, a fyddai’n galluogi i hawliau a phwerau un gael eu priodoli i un arall, mae’r rheolaeth felly ym meddiant A a B, B ac C, neu A ac C, ond nid A, B ac C gyda’i gilydd. Y rheswm am hyn yw oherwydd at ddibenion y cyfuniadau rheoli gofynnol, mae’r cyfuniadau sy’n cynnwys personau diangen yn cael eu diystyru.

Os bydd A yn gadael, mae’r prawf cyfuniadau rheoli gofynnol yn sicrhau na fydd newid mewn rheolaeth yn cael ei sbarduno. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith bod B ac C yn 'rheoli’r' cwmni cyn ac ar ôl i A adael.

Fodd bynnag, os bydd A a B yn gadael ac os bydd cyfranddalwyr newydd - D ac E - yn dod yn eu lle (a phob un yn berchen ar draean o’r cyfranddaliadau), ni fydd y prawf cyfuniadau rheoli gofynnol yn cael ei fodloni mwyach. Yn y sefyllfa hon, mae newid mewn rheolaeth wedi digwydd.

Mae rhagor o wybodaeth am gyfuniadau rheoli gofynnol.

Opsiynau cyfranddaliadau

Mae posib i opsiwn dros gyfranddaliadau arwain at ddau barti digyswllt yn cael eu trin ill dau fel partïon â rheolaeth ar gwmni. Y rheswm am hyn yw oherwydd credir fod gan berson reolaeth dros gwmni os yw’n ymarfer, neu os oes ganddo hawl i gaffael, rheolaeth uniongyrchol neu anuniongyrchol dros faterion y cwmni.

Ni fydd opsiwn dros gyfranddaliadau’n cael ei ystyried wrth benderfynu a fu newid yn y rheolaeth ar y prynwr. Y dyddiad dyfarnu neu hawl i gyfranddaliadau fydd y pwynt lle bydd yr hawl ‘ddiymwad’ i’r cyfranddaliadau’n cael ei sbarduno. Dyma pryd ystyrir bod unrhyw amodau cysylltiedig ag opsiynau cyfranddaliadau’n cael eu hystyried wedi’u bodloni a dyma pryd fydd newid yn rheolaeth y prynwr yn digwydd efallai.

Os nad yw defnyddio prawf cyfuniadau rheoli gofynnol yn y pwynt hwn yn arwain at newid mewn rheolaeth, ni fydd rhyddhad grŵp yn cael ei dynnu’n ôl.

Fodd bynnag, os bydd newid mewn rheolaeth yn digwydd o ganlyniad i ddyfarnu’r cyfranddaliadau, bydd y rhyddhad grŵp yn cael ei dynnu’n ôl.

Rheolaeth a sefydlir drwy wahanol brofion

Mae’n bosib i fwy nag un person neu un grŵp o bersonau ‘reoli’ cwmni. Er enghraifft, efallai bod gan un person fwy o ran o’r pŵer pleidleisio, a pherson arall â mwy o ran o’r asedau wrth ddirwyn i ben neu hawl i incwm. Gall y tri chyfuniad o bobl gael eu hystyried fel pobl â rheolaeth dros y cwmni ar yr un pryd. 

Os oedd newid yn un o’r tri chyfuniad yma, byddai newid mewn rheolaeth yn cael ei sbarduno, a allai arwain at dynnu rhyddhad yn ôl. 

Fodd bynnag, yn y sefyllfa hon, ni fydd y rhyddhad yn cael ei dynnu’n ôl os yw un o’r cyfuniadau rheoli gofynnol a sefydlwyd o dan y profion ar gyfer rheolaeth yn bresennol a bod hynny’n arwain at reolaeth o’r prynwr neu’r gwerthwr yn parhau â’r un personau.

Amgylchiadau nad ydynt yn creu newid mewn rheolaeth

Datodiad

Mae penodi datodwr ac unrhyw ddatodiad dilynol yn arwain at gwmni’n colli ei fuddiant llesiannol yn ei asedau, gan gynnwys unrhyw gyfranddaliadau mae’n berchen arnynt mewn cwmnïau eraill. Byddai dechrau dirwyn cwmni daliannol i ben mewn grŵp yn arwain at chwalu’r grŵp. Gall hyn greu anawsterau i grwpiau sy’n ymgymryd ag ad-drefnu didwyll.

Ni fydd ACC, yn wyneb bwriad datganedig Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn ystod taith Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi (Cymru) 2016 drwy’r Cynulliad, i ddarparu cysondeb yn y driniaeth cyn ac ar ac ar ôl 1 Ebrill 2018, yn gweld penodi datodwr fel cam sy’n arwain at newid yn rheolaeth cwmni at ddibenion is-baragraff 10(5)(b), ar yr amod bod modd dangos y datodiad fel rhan o gynllun o atgyfansoddi sy’n cynnwys hawliad llwyddiannus am ryddhad atgyfansoddi neu grŵp neu os bydd y berchnogaeth economaidd ar yr asedau perthnasol yn parhau yn y grŵp. Yn yr un modd, ni fydd datodiad y cwmni hwnnw yn y pen draw yn cael ei ystyried fel rhywbeth sy’n arwain at newid yn y rheolaeth ar ei is-gwmnïau (os oes rhai) lle mae trosglwyddo'r cyfranddaliadau hynny yn y datodiad yn ymwneud â hawliad llwyddiannus am ryddhad o dreth stamp neu os yw’r berchnogaeth economaidd ar y cyfranddaliadau hynny’n parhau yn y grŵp.

Trafodiadau Cyfranddaliadau mewn cwmniau a ddyfynnwyd

Ni fydd ACC, yn wyneb bwriad datganedig Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn ystod taith Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi (Cymru) 2016 drwy’r Cynulliad, i ddarparu cysondeb yn y driniaeth cyn ac ar ac ar ôl 1 Ebrill 2018, yn dehongli ystyr newid mewn rheolaeth mor eang fel bod trafodiadau syml o ddydd i ddydd rhwng cyfranddalwyr lleiafrifol digyswllt mewn cwmni a ddyfynnwyd yn cael ei weld fel newid mewn rheolaeth.

Partneriaethau

Os yw cyfranddaliwr mwyafrifol grŵp prynu yn bartneriaeth, efallai y bydd tynnu rhyddhad grŵp yn ôl yn codi os bydd partner yn gadael y bartneriaeth neu bartner newydd yn ymuno, dim ots pa mor fach yw buddiant y bartneriaeth berthnasol.

Ni fydd ACC, yn wyneb bwriad datganedig Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn ystod taith Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi (Cymru) 2016 drwy’r Cynulliad, i ddarparu cysondeb yn y driniaeth cyn ac ar ac ar ôl 1 Ebrill 2018, yn priodoli hawliau neu bwerau o eiddo partneriaid at ddibenion rhyddhad grŵp. Hefyd, bydd unrhyw newidiadau i’r partner cyffredinol yn cael eu diystyru at ddibenion sefydlu a fu newid mewn rheolaeth.

Enghreifftiau: tynnu rhyddhad grŵp yn ôl

Enghraifft 1 - Prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr o fewn 3 blynedd

Mae B Cyf yn eiddo i A Cyf 100%. Mae’r ddau gwmni yma’n ffurfio grŵp at ddibenion y dreth trafodiadau tir.

Mae A Cyf (y gwerthwr) yn trosglwyddo buddiant rhydd-ddaliad i B Cyf (y prynwr) heb unrhyw gydnabyddiaeth ar 1 Mehefin 2024. Dyma’r trafodiad perthnasol. Gwerth y buddiant rhydd-ddaliad ar y farchnad yw £1,000,000 ar y dyddiad hwnnw. Mae B Cyf yn hawlio rhyddhad grŵp mewn perthynas â’r trosglwyddiad.

Mae A Cyf yn gwerthu’r cyfranddaliadau yn B Cyf i drydydd parti digyswllt ar 1 Gorffennaf 2026. Gwerth y buddiant rhydd-ddaliad ar y farchnad yw £1,750,000 ar 1 Gorffennaf 2026. O ganlyniad i werthu’r cyfranddaliadau hyn, mae B Cyf yn gadael y grŵp ar 1 Gorffennaf 2026.

Gan fod y prynwr (B Cyf) wedi gadael yr un grŵp â’r gwerthwr (A Cyf) cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd o ddyddiad y trafodiad perthnasol (gyda’r cyfnod yn dod i ben ar 31 Mai 2027), mae’r rhyddhad grŵp yn cael ei dynnu’n ôl am nad oes unrhyw eithriadau’n berthnasol.

B Cyf sydd â’r buddiant rhydd-ddaliad o hyd o ran y buddiant oedd yn destun y trafodiad perthnasol (trosglwyddo’r buddiant o A Cyf i B Cyf).
Y dreth trafodiadau tir sy’n daladwy yw’r dreth a fyddai wedi bod yn daladwy ar y trafodiad tir gwreiddiol h.y. ar werth y farchnad ar ddyddiad y trafodiad tir gwreiddiol, sef £1,000,000.

Ni roddir ystyriaeth i’r cynnydd yng ngwerth y buddiant rhydd-ddaliad oherwydd y rhyddhad sy’n cael ei hawlio adeg y trafodiad perthnasol sy’n cael ei dynnu’n ôl. Yn yr un modd, ni fyddai unrhyw ostyngiad mewn gwerth yn cael ei ystyried.

Rhaid i ffurflen treth trafodiadau tir gael ei chyflwyno erbyn 31 Gorffennaf 2026.

Enghraifft 2 - Prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr o fewn 3 blynedd, trosglwyddo eiddo i gwmni grŵp arall

Mae D Cyf yn berchen ar E Cyf 100%. Mae C Cyf yn berchen ar D Cyf 100%. Mae’r tri chwmni’n ffurfio grŵp at ddibenion y dreth trafodiadau tir.

Mae C Cyf (y gwerthwr) yn trosglwyddo buddiant rhydd-ddaliad i D Cyf (y prynwr) heb unrhyw gydnabyddiaeth ar 1 Mehefin 2024. Dyma’r trafodiad perthnasol. Gwerth y buddiant rhydd-ddaliad ar y farchnad yw £1,000,000 ar 1 Mehefin 2024. Mae D Cyf yn hawlio rhyddhad grŵp mewn perthynas â’r trosglwyddiad.

Wedyn mae D Cyf yn trosglwyddo’r buddiant rhydd-ddaliad i E Cyf am £250,000 ar 1 Hydref 2024. Gwerth y buddiant rhydd-ddaliad ar y farchnad yw £1,100,000 ar 1 Hydref 2024. Mae E Cyf yn hawlio rhyddhad grŵp mewn perthynas â’r trosglwyddiad.

Mae C Cyf yn gwerthu’r cyfranddaliadau yn D Cyf i drydydd parti digyswllt ar 1 Gorffennaf 2026. Gwerth y buddiant rhydd-ddaliad ar y farchnad yw £1,750,000 ar 1 Gorffennaf 2026. O ganlyniad i werthu’r cyfranddaliadau hyn, mae D Cyf yn gadael y grŵp ar 1 Gorffennaf 2026 (ac mae E Cyf yn mynd gydag ef gan ei fod yn is-gwmni 100% o D Cyf).

Gan fod y prynwr (D Cyf) wedi gadael yr un grŵp ag C Cyf (y gwerthwr) cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd o ddyddiad y trafodiad perthnasol (gyda’r cyfnod yn dod i ben ar 31 Mai 2027), mae’r rhyddhad grŵp yn cael ei dynnu’n ôl am nad oes unrhyw eithriadau’n berthnasol.

D Cyf a’i gwmni cysylltiedig perthnasol (E Cyf) sydd â’r buddiant rhydd-ddaliad o hyd o ran y buddiant oedd yn destun y trafodiad perthnasol (trosglwyddo’r buddiant o C Cyf i D Cyf).

Y dreth trafodiadau tir sy’n daladwy yw’r dreth a fyddai wedi bod yn daladwy ar y trafodiad gwreiddiol, felly bydd y dreth trafodiadau tir yn daladwy ar werth y farchnad o £1,000,000 (h.y. gwerth ar y farchnad ar ddyddiad y trafodiad tir gwreiddiol).

Ni roddir ystyriaeth i’r cynnydd yng ngwerth y buddiant rhydd-ddaliad oherwydd y rhyddhad sy’n cael ei hawlio adeg y trafodiad perthnasol sy’n cael ei dynnu’n ôl.

Nid yw rhyddhad grŵp yn cael ei dynnu’n ôl ar drosglwyddo’r buddiant trethadwy o D Cyf i E Cyf gan fod D Cyf ac E Cyf dal yn yr un grŵp ag yr oeddent pan drosglwyddwyd y buddiant trethadwy i E Cyf.

Rhaid i ffurflen treth trafodiadau tir gael ei chyflwyno erbyn 31 Gorffennaf 2026.

Enghraifft 3 - Prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr o fewn tair blynedd, trosglwyddo eiddo i gwmni grŵp arall

Mae G Cyf yn berchen ar H Cyf 100%. Mae F Cyf yn berchen ar G Cyf 100%. Mae’r tri chwmni’n ffurfio grŵp at ddibenion y dreth trafodiadau tir.

Mae F Cyf (y gwerthwr) yn trosglwyddo’r buddiant rhydd-ddaliad mewn llain o dir i G Cyf (y prynwr) heb unrhyw gydnabyddiaeth ar 1 Mehefin 2024. Dyma’r ‘trafodiad perthnasol’. Gwerth y buddiant rhydd-ddaliad ar y farchnad yw £1,000,000 ar 1 Mehefin 2024. Mae G Cyf yn hawlio rhyddhad grŵp mewn perthynas â’r trosglwyddiad.

Wedyn mae G Cyf yn trosglwyddo’r buddiant rhydd-ddaliad i H Cyf am £1,100,000 ar 1 Hydref 2024. Gwerth y buddiant rhydd-ddaliad ar y farchnad ar y dyddiad hwnnw yw £1,100,000. Gallai H Cyf hawlio rhyddhad grŵp mewn perthynas â’r trosglwyddiad ond nid yw’n gwneud hynny. Telir treth trafodiadau tir ar y trafodiad tir hwn ar sail y gydnabyddiaeth a roddwyd o £1,100,000.

Mae F Cyf yn gwerthu’r cyfranddaliadau yn G Cyf i drydydd parti digyswllt ar 1 Gorffennaf 2026. Gwerth y buddiant rhydd-ddaliad ar y farchnad yw £1,750,000 ar 1 Gorffennaf 2026. O ganlyniad i werthu’r cyfranddaliadau hyn, mae G Cyf yn gadael y grŵp ar 1 Gorffennaf 2026 (ac mae H Cyf yn mynd gydag ef gan ei fod yn is-gwmni 100% o G Cyf).

Gan fod y prynwr (G Cyf) wedi gadael yr un grŵp ag F Cyf (y gwerthwr) cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd o ddyddiad y trafodiad perthnasol (gyda’r cyfnod yn dod i ben ar 31 Mai 2027), mae’r rhyddhad grŵp yn cael ei dynnu’n ôl.

Fodd bynnag, mae’r trafodiad perthnasol (y buddiant rhydd-ddaliad) wedi bod yn destun caffaeliad dilynol yn ôl y gwerth ar y farchnad (gan H Cyf). Talwyd treth trafodiadau tir ar y trafodiad hwn (ar y pryd) ac felly nid oes treth trafodiadau tir bellach i’w thalu. Pe na bai H Cyf wedi talu treth trafodiadau tir yn ôl y gwerth ar y farchnad pan gaffaelodd y buddiant rhydd-ddaliad ar 1 Hydref 2024, byddai rhyddhad grŵp wedi cael ei dynnu’n ôl ar 1 Gorffennaf 2026 pan adawodd H Cyf y grŵp.

Enghraifft 4 - Prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr o fewn tair blynedd, newid yn y buddiant trethadwy sy’n cael ei ddal

Mae M Cyf yn berchen ar N Cyf 100%. Mae’r ddau gwmni yma’n ffurfio grŵp at ddibenion y dreth trafodiadau tir.

Mae M Cyf (y gwerthwr) yn trosglwyddo buddiant rhydd-ddaliad i N Cyf (y prynwr) heb unrhyw gydnabyddiaeth ar 1 Mehefin 2024. Dyma’r trafodiad perthnasol. Gwerth y buddiant rhydd-ddaliad ar y farchnad yw £1,000,000 ar 1 Mehefin 2024. Mae N Cyf yn hawlio rhyddhad grŵp mewn perthynas â’r trosglwyddiad.

Mae N Cyf yn dyfarnu les i drydydd parti digyswllt yn unol â’r gwerth ar y farchnad ar 1 Hydref 2024. Byddai'r dreth trafodiadau tir yn daladwy gan y trydydd parti digyswllt (ac eithrio unrhyw ryddhad y mae ganddo hawl iddo ar y trafodiad) ar y rhenti a’r gydnabyddiaeth ar wahân i renti sy’n cael eu talu ganddynt.

Mae M Cyf yn gwerthu’r cyfranddaliadau yn N Cyf i drydydd parti digyswllt ar 1 Gorffennaf 2026. Gwerth ar y farchnad y buddiant rifersiwn rhydd-ddaliad a’r hawl i dderbyn rhent yw £900,000 ar 1 Gorffennaf 2026. O ganlyniad i werthu’r cyfranddaliadau hyn, mae N Cyf yn gadael y grŵp ar 1 Gorffennaf 2026.

Gan fod y prynwr (N Cyf) wedi gadael yr un grŵp ag M Cyf (y gwerthwr) cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd o ddyddiad y trafodiad perthnasol (gyda’r cyfnod yn dod i ben ar 31 Mai 2027), mae’r rhyddhad grŵp yn cael ei dynnu’n ôl am nad oes unrhyw eithriadau’n berthnasol.

N Cyf sydd â’r buddiant rifersiwn rhydd-ddaliad yn awr o ran y rhydd-ddaliad oedd yn destun y trafodiad perthnasol (trosglwyddo’r buddiant o M Cyf i N Cyf).

Y dreth trafodiadau tir sy’n daladwy yw’r dreth a fyddai wedi bod yn daladwy ar y gyfran briodol o’r trafodiad gwreiddiol, gan ystyried y buddiant trethadwy a drosglwyddwyd gan y trafodiad gwreiddiol a’r buddiant trethadwy sy’n cael ei ddal yn awr.

Rhaid i werth ar y farchnad y buddiant trethadwy sy’n cael ei ddal yn awr gael ei sicrhau fel yr oedd ar ddyddiad y trafodiad perthnasol, sef 1 Mehefin 2024.

Pe bai hwn yn £850,000, mae’r dreth trafodiadau tir sy’n daladwy’n cael ei chyfrif yn unol â gwerth y trafodiad perthnasol ar y farchnad, hynny yw, gwerth y buddiant rhydd-ddaliad ar y farchnad (£1,000,000) a’i leihau yn ôl y gyfran briodol h.y. 850,000/1,000,000. Felly byddai’n ofynnol i N Cyf anfon ffurflen i mewn erbyn 31 Gorffennaf 2026 yn dangos cydnabyddiaeth o £150,000.

Enghreifftiau: dim tynnu rhyddhad grŵp yn ôl

Enghraifft 5a - Gwerthwr yn gadael y grŵp

Mae O Cyf yn berchen ar P Cyf 100%. Hefyd mae O Cyf yn berchen ar R Cyf 100%. Mae’r tri chwmni yma’n ffurfio grŵp at ddibenion y dreth trafodiadau tir.

Mae P Cyf (y gwerthwr) yn trosglwyddo buddiant rhydd-ddaliad i R Cyf (y prynwr) heb unrhyw gydnabyddiaeth ar 1 Mehefin 2024. Dyma’r trafodiad perthnasol. Gwerth y buddiant rhydd-ddaliad ar y farchnad yw £1,000,000 ar 1 Mehefin 2024. Mae R Cyf yn hawlio rhyddhad grŵp mewn perthynas â’r trosglwyddiad.

Wedyn mae O Cyf yn gwerthu’r cyfranddaliadau yn P Cyf i drydydd parti digyswllt ar 1 Gorffennaf 2026. Gwerth y buddiant rhydd-ddaliad ar y farchnad yw £1,750,000 ar 1 Gorffennaf 2026. O ganlyniad i werthu’r cyfranddaliadau, mae P Cyf yn gadael y grŵp ar 1 Gorffennaf 2026.

Nid yw rhyddhad grŵp yn cael ei dynnu’n ôl. Y rheswm am hyn yw mai’r unig reswm mae’r prynwr (R Cyf) wedi peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr (P Cyf) yw am fod y gwerthwr wedi gadael y grŵp ac ni fu unrhyw newid mewn rheolaeth ar R Cyf (y prynwr) gan ei riant gwmni, O Cyf.

Enghraifft 5b - Gwerthwr yn gadael y grŵp

Mae S Cyf yn berchen ar T Cyf 100%. Hefyd mae S Cyf yn berchen ar U Cyf 100%. Mae T Cyf yn berchen ar W Cyf 100%. Mae’r pedwar cwmni yma’n ffurfio grŵp at ddibenion y dreth trafodiadau tir.

Mae W Cyf (y gwerthwr) yn trosglwyddo buddiant rhydd-ddaliad i U Cyf (y prynwr) heb unrhyw gydnabyddiaeth ar 1 Mehefin 2024. Dyma’r trafodiad perthnasol. Gwerth y buddiant rhydd-ddaliad ar y farchnad yw £1,000,000 ar y dyddiad hwnnw.  Mae U Cyf yn hawlio rhyddhad grŵp mewn perthynas â’r trosglwyddiad.

Wedyn mae S Cyf yn gwerthu’r cyfranddaliadau yn T Cyf i drydydd parti digyswllt ar 1 Gorffennaf 2026. Gwerth y buddiant rhydd-ddaliad ar y farchnad yw £1,750,000 ar y dyddiad hwnnw. O ganlyniad i werthu’r cyfranddaliadau, mae T Cyf yn gadael y grŵp ar 1 Gorffennaf 2026 (ac mae W Cyf yn mynd gydag ef am ei fod yn is-gwmni 100% o T Cyf).

Nid yw rhyddhad grŵp yn cael ei dynnu’n ôl. Y rheswm am hyn yw mai’r unig reswm mae’r prynwr (U Cyf) wedi peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr (W Cyf) yw am fod y gwerthwr wedi gadael y grŵp o ganlyniad i drafodiad cyfranddaliadau mewn cwmni arall (T Cyf).

Byddai hyn yn berthnasol hefyd pe bai S Cyf, yn hytrach na gwerthu’r holl gyfranddaliadau yn T Cyf, ond yn gwerthu digon o gyfranddaliadau fel na fyddai’n berchen mwyach ar 75% ohonynt ac felly ni fyddai T Cyf (na W Cyf) wedi’u grwpio mwyach.

DTTT/7068 Trosglwyddiadau busnes penodol ac ati gan gymdeithasau cydfuddiannol: Rhyddhad grŵp heb ei dynnu’n ôl

(paragraff 11)

Ni chaiff rhyddhad grŵp ei dynnu’n ôl os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • pan fo trosglwyddiad perthnasol o fusnes neu ymrwymiad
  • cyn dyddiad y trosglwyddiad hwnnw, bu trafodiad tir y gwnaed hawliad am ryddhad grŵp y dreth trafodiadau tir mewn perthynas ag ef (y ‘trafodiad a ryddheir’), ac
  • o ganlyniad i’r trosglwyddiad perthnasol, mae prynwr y trafodiad a ryddheir yn peidio â bod yn yr un grŵp â’r gwerthwr cyn diwedd y tair blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae'r trafodiad a ryddheir yn cael effaith (neu yn unol â’r trefniadau a wnaed cyn diwedd y cyfnod hwnnw).

DTTT/7069 Adennill rhyddhad grŵp

(paragraff 13)

Unwaith y mae’r dreth trafodiadau tir sy’n daladwy o ganlyniad i dynnu rhyddhad grŵp yn ôl wedi’i phenderfynu (boed drwy dreigl amser neu gau ymholiad neu fel arall), cyfrifoldeb y cwmni caffael yw’r atebolrwydd i dalu'r dreth.

Os nad yw treth o’r fath (neu unrhyw ran ohoni) wedi’i thalu o fewn cyfnod o chwe mis i’r dyddiad y daeth yn daladwy, mae posib adennill y swm heb ei dalu gan bersonau eraill.

Y personau y gellir adennill y dreth trafodiadau tir ganddynt:

  • cwmni a oedd, ar unrhyw adeg berthnasol, yn aelod o’r un grŵp â’r cwmni caffael ac a oedd uwchlaw iddo yn strwythur y grwp. At y dibenion hyn:
    • ystyr adeg berthnasol yw unrhyw adeg rhwng y dyddiad y mae’r trafodiad perthnasol yn cael effaith a’r dyddiad newid rheolaeth ac yn rhinwedd hynny mae treth yn drethadwy, ac
    • mae cwmni (A Cyf) uwchlaw cwmni arall (B Cyf) o fewn strwythur grŵp os yw B Cyf (neu gwmni arall sydd uwchlaw B Cyf yn strwythur y grŵp) yn is-gwmni 75% o A Cyf;
  • unrhyw berson a oedd, ar unrhyw adeg berthnasol, yn gyfarwyddwr â rheolaeth dros y cwmni caffael neu gwmni â rheolaeth dros y cwmni caffael. At y dibenion hyn:
    • ystyr adeg berthnasol yw unrhyw adeg rhwng y dyddiad y mae’r trafodiad perthnasol yn cael effaith a’r dyddiad newid rheolaeth ac yn rhinwedd hynny mae treth yn drethadwy
    • ystyr cyfarwyddwr (mewn perthynas â chwmni) yw’r ystyr a nodir yn adran 67(1) Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 ac mae’n cynnwys unrhyw berson sy’n dod o dan adran 452(1) Deddf Treth Gorfforaeth 2010
    • ystyr cyfarwyddwr rheoli (mewn perthynas â chwmni) yw cyfarwyddwr y cwmni sydd â rheolaeth ar y cwmni yn unol ag adrannau 450 a 451 Deddf Treth Gorfforaeth 2010.

Er mwyn galluogi adennill o’r fath, rhaid cyflwyno hysbysiad i’r person yr adenillir y dreth ganddo.

DTTT/7070 Rhyddhad grŵp: Tynnu’n ôl: Adennill gan bersonau eraill

(paragraff 14 Atodlen 16)

(paragraff 9 Atodlen 17)

I alluogi adennill o’r fath, rhaid cyflwyno hysbysiad i’r person yr adenillir y dreth ganddo. Bydd yr hysbysiad yn cyflawni’r canlynol:

  • gofyn am i’r swm o dreth sydd heb ei dalu gael ei dalu o fewn 30 diwrnod i gyflwyno’r hysbysiad
  • rhaid ei gyflwyno cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad pryd penderfynwyd yn derfynol ar y dreth
  • rhaid iddo nodi swm y dreth i’w thalu gan y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo
  • rhaid ei drin fel pe bai’n asesiad o’r dreth sy’n ddyledus gan y person y’i cyflwynwyd iddo
  • bydd yn cael effaith ar gyfer adennill y dreth ac unrhyw log ar y dreth heb ei thalu a hefyd at ddibenion apeliadau.

Pan fydd person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo wedi talu'r dreth (a’r llog), mae gan y person hwnnw hawl gyfreithiol i adennill y swm a dalwyd ganddo gan y cwmni caffael (fel y prynwr).