Canllawiau ar ryddhad atgyfansoddi a chaffael y Dreth Trafodiadau Tir.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Helpwch ni i wella'r canllawiau hyn

Cwblhewch ein harolwg byr er mwyn helpu i wella'r canllawiau hyn.

DTTT/7071 Rhyddhad atgyfansoddi

(paragraff 2 atodlen 17)

Mae'r rhyddhad hwn yn caniatáu trosglwyddo tir ac adeiladau rhwng dau gwmni fel rhan o drosglwyddo ymgymeriad yn gyfnewid am gyfranddaliadau, lle nad oes newid perchnogaeth, heb orfod talu'r Dreth Trafodiadau Tir o gwbl.

Enghraifft o atgyfansoddi cwmnïau yw pan fydd cwmni'n penderfynu rhannu busnes sy'n bodoli’n barod, sy'n cael ei gynnal gan un cwmni, yn ddau fusnes, sydd wedyn yn cael eu cynnal gan ddau gwmni.

Mae’n rhaid tynnu rhyddhad yn ôl, ac mae'n rhaid asesu’r trafodiad tir ar y cyfraddau Treth Trafodiadau Tir priodol, os yw rhai pethau'n digwydd.

Wrth gaffael y cyfan neu ran o'r ymgymeriad - hynny yw, rhan o'r busnes - sy'n perthyn i gwmni arall (y cwmni targed), yn unol â chynllun ar gyfer atgyfansoddi'r cwmni targed, caiff y cwmni caffael - hynny yw, y cwmni sy'n caffael y cwmni targed - ymgymryd â thrafodiad tir fel rhan o'r cynllun hwnnw, neu mewn cysylltiad â hynny.

Lle mae'r ddau amod yn cael eu bodloni, mae rhyddhad oddi wrth y Dreth Trafodiadau Tir ar gael.

Amod cyntaf

  • mae’r gydnabyddiaeth ar gyfer y caffaeliad yn llwyr neu’n rhannol ar ffurf dyroddi cyfranddaliadau anatbrynadwy yn y cwmni caffael, ac
  • mae'n rhaid i'r cyfranddaliadau gael eu dyroddi i holl gyfranddalwyr y cwmni targed.

Pan fo’r gydnabyddiaeth yn rhannol ar ffurf dyroddi cyfranddaliadau anatbrynadwy, ni fodlonir yr amod hwn oni bai bod gweddill y gydnabyddiaeth yn llwyr ar ffurf ysgwyddo neu gyflawni rhwymedigaethau’r cwmni targed gan y cwmni caffael (er enghraifft, y cwmni sy'n caffael yn ysgwyddo dyledion y cwmni targed).

Ail amod

Ar ôl caffael:

  • mae cyfranddalwyr y cwmni caffael i gyd yn gyfranddalwyr yn y cwmni targed, ac mae cyfranddalwyr y cwmni targed i gyd yn gyfranddalwyr yn y cwmni caffael
  • yn achos pob cyfranddaliwr, mae cyfran y cyfranddaliadau sy'n cael eu dal mewn un cwmni yr un fath (neu mor agos â phosibl at fod yr un fath) â chyfran y cyfranddaliadau sy'n cael eu dal yn y cwmni arall.

Yr unig amser pan nad oes yn rhaid i'r cyfranddaliadau gydweddu'n union yw pan nad oes digon o gyfranddaliadau mewn un cwmni i ganiatáu i'r cyfranddalwyr gydweddu eu cyfranddaliadau â’r cyfranddaliadau yn y cwmni arall. Yn yr achos hwn, mae unrhyw warediad rhesymol o'r cyfranddaliadau i ganiatáu cyfatebiaeth mor agos â phosibl yn dderbyniol (ond dim ond i'r graddau bod rheolaeth un cwmni yr un fath â rheolaeth y cwmni arall).

Gall sefyllfa o'r fath godi lle mae gan y cwmni targed ragor o gyfranddaliadau na'r cwmni caffael. Er enghraifft, os oes gan y cwmni caffael 100 o gyfranddaliadau, ond bod gan y cwmni targed 1000 o gyfranddaliadau (gyda thri chyfranddaliwr - un yn dal 334 a dau yn dal 333 o gyfranddaliadau), yna byddai'r cyfranddaliad yn y cwmni caffael (34, 33 a 33) mor agos â phosibl at gyfranddaliad yn y cwmni targed, er bod gan y cyfranddaliwr gyda 34 o gyfranddaliadau fuddiant cynyddol yn y cwmni caffael o'i gymharu â'i fuddiant yn y cwmni targed.

Mae'r cyfeiriad at gyfranddalwyr yn golygu nad yw'r rhyddhad ar gael oni bai fod gan y cwmni targed gyfalaf cyfranddaliadau. Mae'n dilyn felly nad yw'r rhyddhad ar gael, er enghraifft, lle mae'r targed neu'r cwmni caffael yn gwmni cyfyngedig trwy warant, neu pan nad oes ganddo gyfalaf cyfranddaliadau, neu pan fydd yn gymdeithas anghorfforedig.

Mae unrhyw gyfranddaliadau y mae'r cwmni targed neu'r cwmni caffael yn berchen arnynt ei hunan, fel cyfranddaliadau trysorlys a gafwyd o ganlyniad i brynu cyfranddaliadau'n ôl, i'w trin fel rhai wedi eu canslo at ddibenion y rhyddhad hwn. Gan hynny, ni chaiff y cwmni ei drin fel un sy'n berchen ar gyfranddaliadau ynddo'i hun.

Dylid nodi bod y rhyddhad yn ddarostyngedig i'r rheol gwrthweithio osgoi trethi.

DTTT/7072 Rhyddhad caffael

(paragraff 3 atodlen 17)

Wrth brynu ymgymeriad llwyr neu rannol mewn cwmni arall (y cwmni targed) gall y cwmni caffael (y cwmni sy'n caffael y cwmni targed) wneud trafodiad tir fel rhan o drosglwyddo’r ymgymeriad a brynwyd, neu mewn cysylltiad â hynny.

Mae'n gymwys pan fo eiddo’n cael ei drosglwyddo fel rhan o gaffael ymgymeriad mewn cwmni arall yn gyfnewid am gyfranddaliadau a dim mwy na 10% o arian parod.

Pan fodlonir y tri amod, mae’r Dreth Trafodiadau Tir yn daladwy mewn cysylltiad â'r trafodiad tir, ar gyfradd o 0.5%.

Mae’n rhaid tynnu rhyddhad yn ôl, ac mae'n rhaid asesu’r trafodiad tir ar y cyfraddau Treth Trafodiadau Tir priodol, os yw rhai pethau'n digwydd.

Amod cyntaf

Y gydnabyddiaeth ar gyfer y caffaeliad yn llwyr neu’n rhannol ar ffurf dyroddi cyfranddaliadau anatbrynadwy yn y cwmni caffael. Mae'n rhaid dyroddi'r cyfranddaliadau hyn i'r:

  • cwmni targed, neu
  • unrhyw gyfranddalwyr sydd gan y cwmni targed, neu’r cyfan ohonynt.

Pan fo’r gydnabyddiaeth yn rhannol ar ffurf dyroddi cyfranddaliadau anatbrynadwy, ni fodlonir yr amod hwn oni bai bod gweddill y gydnabyddiaeth yn llwyr ar ffurf:

  • arian parod heb fod uwchlaw 10% o werth nominal y cyfranddaliadau anatbrynadwy a ddyroddwyd ar gyfer y trafodiad
  • y cwmni caffael yn ysgwyddo neu’n cyflawni rhwymedigaethau’r cwmni targed, neu 
  • y ddau beth hyn.

Ail amod

Ni ddylai'r cwmni caffael fod yn gysylltiedig ag unrhyw gwmni arall sy'n rhan o drefniadau gyda'r cwmni targed sy'n ymwneud â'r cyfranddaliadau a ddyroddwyd i'r cwmni targed o ganlyniad i drosglwyddo'r ymgymeriad.

Trydydd amod

Mae’n rhaid i'r ymgymeriad neu ran o ymgymeriad yn y cwmni targed a gaffaelir beidio â bod yn fasnach sy'n bennaf neu'n gyfan gwbl yn delio â buddiannau trethadwy fel prif weithgaredd.

Mae'r cyfeiriad at gyfranddalwyr yn golygu nad yw'r rhyddhad ar gael oni bai fod gan y cwmni targed gyfalaf cyfranddaliadau. Mae'n dilyn felly nad yw'r rhyddhad ar gael, er enghraifft, lle mae'r targed neu'r cwmni caffael yn gwmni cyfyngedig trwy warant, neu pan nad oes ganddo gyfalaf cyfranddaliadau, neu pan fydd yn gymdeithas anghorfforedig.

Dylid nodi bod y rhyddhad yn ddarostyngedig i'r rheol gwrthweithio osgoi trethi.

DTTT/7073 Tynnu'n ôl rhyddhad atgyfansoddi a rhyddhad caffael

(paragraff 5 atodlen 17)

Pan fydd rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael wedi cael ei hawlio ar ryddhad trosglwyddiad tir, caiff ei dynnu'n ôl os bydd rheolaeth y cwmni caffael yn newid:

  • cyn diwedd cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau ar y dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn dod i rym, neu
  • ar drywydd, neu mewn cysylltiad â, threfniadau a wnaed cyn diwedd cyfnod o dair blynedd, gan ddechrau ar y dyddiad y mae’r trafodiad sy'n destun rhyddhad yn dod i rym

ac, ar yr adeg y mae rheolaeth dros y cwmni caffael yn newid, mae’r cwmni hwnnw neu gwmni cyswllt perthnasol yn dal buddiant trethadwy:

  • a gaffaelwyd gan y cwmni caffael o dan y trafodiad perthnasol, neu 
  • sy'n deillio o'r buddiant trethadwy a gaffaelwyd gan y cwmni caffael o dan y trafodiad perthnasol (er enghraifft, os cafodd prif les ei gaffael o dan y trafodiad tir perthnasol, byddai gwrthdroi is-les a roddwyd o'r prif les hwnnw yn fuddiant trethadwy sy'n deillio o'r buddiant trethadwy gwreiddiol), ac,
  • nad yw buddiant trethadwy wedi ei drosglwyddo wedi hynny am ei werth marchnadol drwy drafodiad trethadwy lle’r oedd rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael ar gael mewn perthynas ag ef, ond nas hawliwyd hynny.

Mae rheolaeth dros gwmni’n newid pan fydd y cwmni'n dod dan reolaeth:

  • unigolyn gwahanol
  • nifer gwahanol o unigolion
  • dau neu ragor o unigolion nad yw o leiaf un ohonynt yr unigolyn, neu’n un o’r unigolion, a oedd â rheolaeth dros y cwmni yn flaenorol.

Caiff rhyddhad atgyfansoddi a rhyddhad caffael ei dynnu'n ôl:

  • os bydd rheolaeth y cwmni caffael yn newid o fewn tair blynedd i'r trafodiad
  • os oes trefniadau wedi eu sefydlu o fewn y cyfnod hwnnw sy'n arwain at newid yn y rheolaeth ar ôl y cyfnod o dair blynedd.

DTTT/7074 Esemptiadau i dynnu'n ôl rhyddhad atgyfansoddi a rhyddhad caffael

(paragraff 6 atodlen 17)

Ni chaiff rhyddhad atgyfansoddi na rhyddhad caffael ei dynnu'n ôl lle mae rheolaeth y cwmni caffael yn newid o ganlyniad i:

  • drafodiad cyfranddaliadau a wnaed yn unol â'r rheolau sy'n ymwneud â thrafodiadau mewn cysylltiad ag ysgariad neu ddiddymu partneriaeth sifil
  • trafodiad cyfranddaliadau a wnaed yn unol â'r rheolau sy'n ymwneud ag amrywio gwarediadau testamentaidd, ac ati
  • trosglwyddiad rhyng-grŵp esempt. Ystyr ‘trosglwyddiad rhyng-grŵp esempt’ yw trosglwyddo cyfranddaliadau sy’n dod i rym yn sgil offeryn sydd wedi ei esemptio rhag treth stamp yn rhinwedd trosglwyddo cyfranddaliadau rhwng cwmnïau cysylltiol yn sgil adran 42 o Ddeddf Cyllid 1930 neu Adran 11 o Ddeddf Cyllid (Gogledd Iwerddon) 1954. Fodd bynnag, gellir tynnu rhyddhad yn ôl yn dilyn trosglwyddiad dilynol heb ei esemptio
  • trosglwyddo cyfranddaliadau i gwmni arall lle mae rhyddhad caffael cyfranddaliadau’n berthnasol. Darperir 'rhyddhad caffael cyfranddaliadau' gan adran 77 Deddf Cyllid 1986.  Fodd bynnag, gellir tynnu rhyddhad yn ôl yn dilyn trosglwyddiad dilynol heb ei esemptio
  • bod credydwr benthyciad yn cael ei drin, neu'n peidio â chael ei drin, fel rheolwr y wmni, a bod y rhai eraill yr ystyriwyd eu bod yn rheoli'r cwmni cyn i'r credydwr benthyciadau gael ei drin yn y modd hwnnw, yn parhau i gael ei ystyried fel rheolwr, neu a fyddai'n cael ei drin fel rheolwr.

Fel y nodir uchod mae dau esemptiad yn berthnasol, sy'n golygu nad yw'r rhyddhad yn cael ei dynnu'n ôl, ond mae trosglwyddiad heb ei esemptio yn dilyn o fewn y cyfnod o dair blynedd, ac mae darpariaethau sy'n sicrhau bod y rhyddhad yn cael ei dynnu'n ôl bryd hynny.

DTTT/7075 Tynnu’n ôl rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael yn achos trosglwyddiad dilynol nad yw’n esempt

(Paragraff 7 Atodlen 17)

Mae dau achos lle gall digwyddiad dilynol arwain at dynnu’r rhyddhad atgyfansoddi neu gaffael yn ôl yn llawn neu'n rhannol.

Achos 1 - trosglwyddiad rhyng-grŵp esempt

Lle mae hawliad wedi cael ei hawlio, ac na chafodd ei dynnu'n ôl, ar y sail bod trosglwyddiad rhyng-grŵp esempt wedi digwydd ond:

  • mae cwmni sy'n dal cyfranddaliadau yn y cwmni caffael (neu sy'n deillio o gyfranddaliadau sy'n gysylltiedig â'r trosglwyddiad rhyng-grŵp esempt) yn peidio â bod yn aelod o'r un grŵp â'r cwmni targed yn dilyn hynny, ac mae'r digwyddiad hwnnw'n digwydd cyn diwedd tair blynedd, gan ddechrau gyda’r dyddiad y daw’r trafodiad sy'n destun rhyddhad i rym, neu sy'n digwydd ar ôl y dyddiad hwnnw ond sydd mewn cysylltiad â threfniadau a wnaed o fewn y cyfnod hwnnw o dair blynedd, a
  • bod y cwmni caffael, neu gwmni cysylltiedig perthnasol, yn dal buddiant trethadwy a gaffaelwyd drwy drafodiad a fu'n destun rhyddhad, neu sy'n deillio o fuddiant trethadwy o'r fath, ac nad yw buddiant trethadwy wedi ei drosglwyddo wedi hynny am ei werth marchnadol drwy drafodiad trethadwy yr oedd rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael ar gael mewn perthynas ag ef, ond nas hawliwyd.

Achos 2 - cymhwyso rhyddhad caffael cyfranddaliadau

Pan fydd rhyddhad wedi cael ei hawlio, ac na chafodd ei dynnu'n ôl, ar y sail bod newid rheolaeth wedi digwydd yn achos y cwmni caffael o ganlyniad i drosglwyddiad y mae rhyddhad caffael cyfranddaliadau’n berthnasol, ond:

  • mae rheolaeth y cwmni arall yn newid pan fo'r cwmni hwnnw'n dal cyfranddaliadau a drosglwyddir iddo drwy’r trosglwyddiad lle mae rhyddhad caffael cyfranddaliadau'n cael ei gymhwyso, neu unrhyw gyfranddaliadau sy'n deillio o'r cyfranddaliadau a drosglwyddwyd a, cyn diwedd y tair blynedd, gan ddechrau ar ddyddiad y daw’r trafodiad a oedd yn destun rhyddhad i rym, neu sy'n digwydd ar ôl y dyddiad hwnnw ond sy'n gysylltiedig â threfniadau a wnaed o fewn y cyfnod tair blynedd hwnnw, a
  • bod y cwmni caffael, neu gwmni cysylltiedig perthnasol, yn dal buddiant trethadwy a gaffaelwyd drwy drafodiad a fu'n destun rhyddhad, neu sy'n deillio o fuddiant trethadwy o'r fath, ac nad yw buddiant trethadwy wedi ei drosglwyddo wedi hynny am ei werth marchnadol gan drafodiad trethadwy yr oedd rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael ar gael mewn perthynas ag ef, ond nas hawliwyd.

Yr effaith yw tynnu rhyddhad yn ôl pan allai'r buddiant trethadwy a oedd gan y cwmni targed yn wreiddiol ddod dan reolaeth rhywun y tu allan i'r grŵp (er nad oes yn rhaid i hynny ddigwydd) o ganlyniad i gwmni a oedd yn y grŵp yn wreiddiol (ac sy'n dal cyfranddaliadau yn y cwmni caffael) yn gadael y grŵp.

DTTT/7076 Tynnu’n ôl rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael yn achos trosglwyddiad dilynol nad yw’n esempt

(Paragraff 7 Atodlen 17)

Caiff rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael mewn perthynas â'r trafodiad tir perthnasol (neu gyfran briodol ohono) ei dynnu'n ôl a bydd y Dreth Trafodiadau Tir yn daladwy.

Pan fo angen tynnu rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael yn ôl, mae swm y rhyddhad a dynnir yn ôl yn dibynnu ar:

  • y buddiant trethadwy a gafodd y prynwr ar y dyddiad y daeth y trafodiad tir gwreiddiol i rym
  • y buddiant trethadwy a gadwodd y prynwr (ac unrhyw gwmni cysylltiedig perthnasol) pan ddigwyddodd yr hyn a arweiniodd at dynnu’r rhyddhad yn ôl.

Effaith tynnu'r rhyddhad yn ôl yw trethu'r buddiant trethadwy sydd gan y prynwr o hyd (ac unrhyw gwmni cysylltiedig perthnasol) fel pe na bai rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael wedi cael ei hawlio.

Y Dreth Trafodiadau Tir sy'n daladwy yw'r hyn a fyddai wedi bod yn daladwy mewn perthynas â'r trafodiad tir gwreiddiol lle hawliwyd rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael.

Cyfrifir y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad ar werth marchnadol y buddiant trethadwy a drosglwyddwyd yn sgil y trafodiad tir gwreiddiol.

Caiff hyn ei addasu pan na fydd y buddiant trethadwy a gedwir gan y prynwr (ac unrhyw gwmni cysylltiedig perthnasol) ar y pryd y caiff y rhyddhad atgyfansoddi neu’r rhyddhad caffael ei dynnu'n ôl yr un fath â'r buddiant trethadwy a drosglwyddwyd gan y trafodiad tir gwreiddiol.

Yn yr achos hwn, y Dreth Trafodiadau Tir sy'n daladwy yw’r hyn a fyddai wedi bod yn daladwy mewn perthynas â chyfran briodol o'r trafodiad tir gwreiddiol yr hawliwyd rhyddhad ar ei gyfer.

Y gyfran briodol yw ffracsiwn gwerthoedd marchnad y buddiannau trethadwy a gedwir gan y cwmni caffael (fel prynwr) ac unrhyw gwmni cysylltiedig perthnasol ar adeg tynnu'r rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael yn ôl, a gaiff ei gyfrifo drwy gyfeirio at y dyddiad y daeth y trafodiad tir perthnasol i rym, ac mewn perthynas â gwerth marchnad y buddiannau trethadwy a gafwyd gan y cwmni caffael (fel prynwr) ar y dyddiad y daeth y trafodiad tir perthnasol i rym.

DTTT/7077 Adennill rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael

(Paragraff 8 Atodlen 17)

Unwaith y bydd y Dreth Trafodiadau Tir sy'n daladwy o ganlyniad i dynnu rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael yn ôl wedi cael ei phennu (boed trwy gyfnod o amser neu gau ymholiad neu fel arall), cyfrifoldeb y cwmni caffael yw’r atebolrwydd i dalu'r dreth.

Pan na thelir treth o'r fath (neu unrhyw ran ohoni) o fewn cyfnod o 6 mis i'r dyddiad y daeth y dreth yn daladwy, mae modd adennill y swm na thalwyd gan bobl eraill.

Y sawl y caniateir adennill y Dreth Trafodiadau Tir oddi arnynt yw:

  • cwmni a oedd, ar unrhyw adeg berthnasol, yn aelod o’r un grŵp â’r cwmni caffael ac a oedd uwchlaw iddo yn strwythur y grŵp. At y dibenion hyn:
    • ystyr ‘adeg berthnasol’ yw unrhyw adeg rhwng y dyddiad y mae’r trafodiad perthnasol yn dod i rym a’r dyddiad newid rheolaeth sy’n golygu bod treth i’w chodi yn ei sgil, ac 
    • mae cwmni (A Cyf) uwchlaw cwmni arall (B Cyf) mewn strwythur grŵp os yw B Cyf, neu gwmni arall sydd uwchlaw B Cyf yn strwythur y grŵp, yn is-gwmni 75% i A Cyf
  • unrhyw un a oedd, ar unrhyw adeg berthnasol, yn gyfarwyddwr â rheolaeth dros y cwmni caffael neu’n gwmni â rheolaeth dros y cwmni caffael. At y dibenion hyn:
    • ystyr ‘adeg berthnasol’ yw unrhyw adeg rhwng y dyddiad y mae’r trafodiad perthnasol yn dod i rym a’r dyddiad newid rheolaeth sy’n golygu bod treth i’w chodi yn ei sgil
    • mae i ‘cyfarwyddwr’, mewn perthynas â chwmni, yr ystyr a roddir iddo yn adran 67(1) o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003, ac mae’n cynnwys unrhyw un sydd o fewn adran 452(1) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010
    • ystyr ‘cyfarwyddwr â rheolaeth’, mewn perthynas â chwmni, yw un o gyfarwyddwyr y cwmni sydd â rheolaeth drosto yn unol ag adrannau 450 a 451 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010.

DTTT/7078 Tynnu’n ôl rhyddhad atgyfansoddi a rhyddhad caffael - adennill gan unigolyn arall

(Paragraff 9 Atodlen 17)

Er mwyn galluogi camau adennill o'r fath, rhaid cyflwyno hysbysiad i'r sawl y ceisir adennill y dreth ganddo. Mewn perthynas â’r hysbysiad:

  • bydd yn mynnu bod swm y dreth na thalwyd yn cael ei dalu o fewn 30 diwrnod i roi’r hysbysiad
  • mae’n rhaid ei gyflwyno cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad pan benderfynwyd ar y dreth yn derfynol
  • rhaid iddo nodi swm y dreth y bydd gofyn i’r unigolyn sy'n ei dderbyn ei dalu
  • bydd gofyn ei drin fel pe bai'n asesiad, a bod y dreth yn ddyledus gan yr unigolyn sy'n ei dderbyn
  • bydd yn fodd o adennill y dreth ac unrhyw log ar y dreth na thalwyd, a hefyd at ddibenion apeliadau.

Pan fydd y sawl y cyflwynwyd hysbysiad iddo wedi talu'r dreth (a’r llog), mae gan yr unigolyn hwnnw hawl gyfreithiol i adennill y swm a dalwyd gan y cwmni caffael (fel prynwr).

DTTT/7079 Diffiniadau

Mae'r diffiniadau a ganlyn yn berthnasol:

  • mae cwmnïau'n gysylltiedig os oes gan un reolaeth dros y llall, neu os yw'r ddau yn cael eu rheoli gan unigolyn neu unigolion eraill. Mae ‘rheolaeth’ i’w ddiffinio yn unol ag adrannau 450 a 451 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010
  • mae ‘trefniadau’ yn cynnwys unrhyw gynllun, unrhyw gytundeb neu unrhyw ddealltwriaeth, pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio
  • mae cwmni cysylltiedig perthnasol at ddibenion tynnu’n ôl rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael, yn gwmni:
    • sydd dan reolaeth y cwmni caffael yn union cyn bod rheolaeth dros y cwmni hwnnw’n newid, ac 
    • y mae rheolaeth drosto yn newid o ganlyniad i’r newid yn rheolaeth y cwmni sy'n caffael
  • mae i ‘credydwr benthyciadau’ yma yr ystyr a roddir yn adran 453 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010
  • mae cyfranddaliadau anatbrynadwy yn golygu cyfranddaliadau na ellir eu hadbrynu
  • mae trafodiad sy'n destun rhyddhad yn golygu trafodiad sy'n cael ei ryddhau rhag treth yn sgil hawlio rhyddhad atgyfansoddi, neu lle mae treth yn drethadwy ar y gyfradd a ddarperir ar gyfer rhyddhad caffael
  • mae i 'masnach’ yma yr ystyr a roddir yn adran 1119 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010.

Ystyr ymgymeriad

Mae'r term 'ymgymeriad' yn cyfeirio at fusnes, masnach neu fenter y cwmni targed sy'n cael ei drosglwyddo i'r cwmni caffael (ac sydd wedyn yn cael ei gynnal heb ei newid yn sylweddol). Er mwyn i ymgymeriad ddigwydd, mae'n ddealledig bod yn rhaid cynnal rhywfaint o fusnes.

Busnes

Mae'r Awdurdod Cyllid o'r farn bod 'busnes' yn cynnwys 'pob masnach, galwedigaeth neu gyflogaeth', felly mae 'busnes' yn derm eang iawn sy'n cynnwys bron pob gweithgaredd cyffredin, ac mae'n llawer ehangach na 'masnach' neu 'broffesiwn' yn unig.

Mae cynnal busnes fel arfer yn galw am rywfaint o weithgarwch o du'r sawl sy'n ei wneud (cyfieithiad o eiriau’r Arglwydd Diplock yn achos American Leaf Blending Co. v Cyfarwyddwr Cyffredinol y Cyfrin Gyngor, 1978).

Gall gynnwys busnes o wneud buddsoddiadau lle mae'r buddsoddiadau hyn yn cael eu 'rheoli'n weithredol'. Fel y dywedodd y Comisiynydd Arbennig yn achos Martin & Another v CIR (SPC5/1995): ‘The mere receipt of rents from let property owned by an individual ‘raises no presumption that he is carrying on a business’ [per Lord Diplock in American Leaf], but where it can be shown that there is a continuing activity on what seems... to have been sound business principles …’it is likely that'…mere ownership or mere investment…’ may have become a business.

Rhan o ymgymeriad

Mae'r cwestiwn ynghylch a yw'r asedau a drosglwyddir yn rhan o ymgymeriad y cwmni targed yn gwestiwn o ffaith i raddau helaeth. Os yw'r hyn sy'n cael ei drosglwyddo yn gallu bodoli ar ei ben ei hun fel 'busnes' hyfyw, yna gallai fod yn rhan o ymgymeriad, ond nid yw rhannu asedau neu fuddsoddiadau yn unig yn debygol o fod yn ddigonol.