Canllawiau ar ryddhad Treth Trafodiadau Tir (TTT) rhyddhad ar gyfer trafodiadau penodol sy’n ymwneud â thai cymdeithasol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Helpwch ni i wella'r canllawiau hyn

Cwblhewch ein harolwg byr er mwyn helpu i wella'r canllawiau hyn.

Trosolwg atodlen 15

(paragraff 1)

Mae’r atodlen hon yn darparu nifer o ryddhadau i gynyddu perchentyaeth:

  • trefniadau hawl i brynu
  • lesoedd rhanberchnogaeth
  • rhent i lesoedd rhanberchnogaeth
  • ymddiriedolaethau rhanberchnogaeth
  • rhent i ymddiriedolaethau rhanberchnogaeth
  • trefniadau rhent i forgais.

Yn ogystal â hyn, mae’r atodlen yn cynnwys rhyddhad ar gyfer caffaeliadau penodol gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

DTTT/7055 Rhyddhad hawl i brynu

(paragraff 2)

Y diffiniad o drafodiad hawl i brynu yw un ai:

  • gwerthu annedd am ddisgownt (neu roi les ar gyfer annedd am ddisgownt) gan gorff sector cyhoeddus perthnasol, neu
  • werthu annedd (neu roi les ar gyfer annedd) yn unol â hawl i brynu a gadwyd.

Y cyrff sector cyhoeddus perthnasol ar gyfer y rhyddhad hwn at ddibenion TTT yw:

  • Un o Weinidogion y Goron
  • Gweinidogion Cymru
  • Awdurdod tai lleol o fewn yr ystyr yn adran 1 o Ddeddf Tai 1985
  • Landlord cymdeithasol cofrestredig
  • Ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 1988
  • Corff plismona lleol o fewn yr ystyr yn Adran 101(1) o Ddeddf yr Heddlu 1996
  • Person a bennir at ddibenion y rhyddhad hwn mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

Mewn perthynas â gwerthu annedd neu roi les ar gyfer annedd a wneir yn unol â hawl i brynu a gadwyd, mae’r gwerthwr yn berson y gellir arfer yr hawl i brynu yn ei erbyn o dan Ran 5 o Ddeddf Tai 1985 yn rhinwedd adran 171A o’r Ddeddf honno. Y prynwr yw’r person cymwys sydd â’r hawl i brynu a gadwyd a’r annedd yw’r tŷ annedd cymwys mewn perthynas â’r prynwr.
 
Rhoddir y rhyddhad drwy ddarparu dulliau eraill o gyfrifo’r gydnabyddiaeth drethadwy.

Yn achos trafodiad hawl i brynu, nid yw’r rheolau sy’n ymwneud â chydnabyddiaeth ddibynnol yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddisgownt a ddarperir gan y gwerthwr. Felly nid yw’r gydnabyddiaeth drethadwy yn cynnwys unrhyw gydnabyddiaeth a fyddai’n daladwy pe byddai digwyddiad dibynnol yn digwydd (er enghraifft, yr angen i dalu’r swm gostyngol i’r gwerthwr).

Mewn trafodiad hawl i brynu, lle mae’r gwerthwr yn landlord cymdeithasol cofrestredig, ni fydd unrhyw grantiau prynu a ddarparwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 20 neu 21 o Ddeddf Tai 1996 mewn perthynas â gwaredu am ddisgownt gan y landlord cymdeithasol cofrestredig yn cael eu cynnwys wrth gyfrifo’r gydnabyddiaeth drethadwy.

Bydd Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 yn terfynu’r hawl i brynu, yr hawl i brynu a gadwyd a’r hawl i gaffael ar gyfer tenantiaid awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Yn achos cartrefi newydd, roedd yr hawliau hyn yn dod i ben ddau fis ar ôl i’r Bil gael Cydsyniad Brenhinol. Yn achos y stoc dai bresennol, bydd yr hawliau hyn yn cael eu diddymu o leiaf un flwyddyn ar ôl rhoi Cydsyniad Brenhinol (gweler http://gov.wales/topics/housing-and-regeneration/legislation/abolition-of-right-to-buy-and-associated-rights/?lang=cy)

DTTT/7056 Lesoedd rhanberchnogaeth

(paragraffau 3 i 9)

Les ranberchnogaeth – dewis triniaeth gwerth marchnadol lle gellir caffael buddiant rhydd-ddaliadol.

(paragraffau 3, 4 a 7)

Nid yw’r term “les ranberchnogaeth” wedi’i ddiffinio yn neddfwriaeth TTT.

Er mwyn cael budd o’r rheolau penodol ar gyfer dewis triniaeth gwerth marchnadol, rhaid bodloni pob un o’r amodau canlynol. Rhaid bod y les:

  • wedi’i rhoi un ai gan gorff cymwys neu’n unol â hawl i brynu a gadwyd
  • ar gyfer annedd
  • yn rhoi’r hawl i ddefnyddio’r annedd i’r lesddeiliad/tenant (neu lesddeiliaid/tenantiaid) a neb arall
  • yn darparu bod y lesddeiliad yn gallu caffael y rifersiwn
  • yn cael ei rhoi’n rhannol yn gydnabyddiaeth am rent ac yn rhannol yn gydnabyddiaeth am bremiwm, a bod y premiwm yn cael ei gyfrifo ar sail gwerth marchnadol yr annedd neu swm a gyfrifwyd ar sail y gwerth hwnnw
  • yn cynnwys datganiad o werth marchnadol yr annedd neu’r swm a gyfrifwyd ar sail y gwerth hwnnw.

Rhaid i’r trethdalwr hefyd wneud dewis dilys i reol y gwerth marchnadol gael ei chymhwyso at y caffaeliad.

Gall y trethdalwr ddewis triniaeth sy’n golygu mai’r gydnabyddiaeth drethadwy am roi’r les yw gwerth marchnadol yr annedd sydd wedi’i ddatgan yn y les ac y bydd y rhenti’n cael eu diystyru (fel cydnabyddiaeth ddigwyddiadol neu fel arall). Ar ben hynny, ni fydd y rheolau arferol ar gyfer pennu gwerth marchnadol yr eiddo a nodwyd yn adran 70 o DTTT yn gymwys.

Er mwyn i’r dewis o’r driniaeth hon fod yn ddilys, rhaid hysbysu ACC amdano yr un pryd â dychwelyd y ffurflen dreth (drwy hawlio’r cod rhyddhad perthnasol yn y ffurflen dreth). Ni ellir tynnu’r dewis yn ôl na’i ddiwygio ar ôl ei wneud. Fodd bynnag, os bydd angen, gellir hysbysu ACC am y dewis mewn ffurflen dreth ddiwygiedig.

Mae’r gydnabyddiaeth drethadwy am roi’r les i gael ei thrin fel pe bai heb gysylltiad ag unrhyw drafodiad cynyddu perchentyaeth neu drosglwyddo’r rifersiwn.

Pan fydd rifersiwn y les yn cael ei drosglwyddo i’r tenant, bydd y buddiant trethadwy hwnnw’n cael ei ryddhau rhag treth ar yr amod bod y dewis wedi’i wneud a bod unrhyw dreth sydd i’w chodi mewn perthynas â rhoi’r les wedi’i thalu’n llawn. Os nad yw dewis dilys wedi’i wneud, ni fydd y rifersiwn yn cael ei ryddhau rhag treth a byddai unrhyw TTT sy’n codi ar y trafodiad hwnnw’n daladwy.

Les ranberchnogaeth – dewis triniaeth gwerth marchnadol lle na ellir caffael buddiant rhydd-ddaliadol

(paragraffau 5 a 7)

Mae rhyddhad ar gael hefyd ar gyfer caffael lesoedd rhanberchnogaeth lle nad yw’r lesddeiliad/tenant yn gallu caffael y rhydd-ddaliad, er enghraifft caffael fflat mewn bloc o fflatiau.

Er mwyn cael budd o’r rheolau penodol ar gyfer dewis triniaeth gwerth marchnadol, rhaid bodloni pob un o’r amodau canlynol. Rhaid bod y les:

  • wedi’i rhoi un ai gan gorff cymwys neu’n unol â hawl i brynu a gadwyd
  • ar gyfer annedd
  • yn rhoi’r hawl i ddefnyddio’r annedd i’r lesddeiliad/tenant (neu lesddeiliaid/tenantiaid) a neb arall;
  • yn darparu bod y lesddeiliad/tenant (neu lesddeiliaid/tenantiaid), ar ôl talu swm, yn gallu ei gwneud yn ofynnol bod telerau’r les yn cael eu newid fel y bydd y rhent sy’n daladwy o dan y les yn cael ei ostwng
  • yn cael ei rhoi’n rhannol yn gydnabyddiaeth am rent ac yn rhannol yn gydnabyddiaeth am bremiwm, a bod y premiwm yn cael ei gyfrifo ar sail y premiwm y gellid ei gael ar y farchnad agored am les a roddwyd ar yr un telerau, heblaw y dylai swm y rhent fod y lleiaf sy’n daladwy ac nid y rhenti gwirioneddol sy’n daladwy, neu swm a gyfrifwyd ar sail y premiwm hwnnw
  • yn cynnwys datganiad o’r isafswm rhent ac o’r premiwm y gellir ei gael ar y farchnad agored neu’r swm a gyfrifwyd ar sail y premiwm hwnnw.

Effaith y rheolau hyn yw, os dewisir triniaeth gwerth marchnadol, mai’r gydnabyddiaeth drethadwy fydd swm y premiwm a fyddai’n daladwy pe na byddai rhenti heblaw’r isafswm rhent (er enghraifft, rhenti tir) yn daladwy. Felly swm y gydnabyddiaeth drethadwy fydd gwerth y premiwm ar y farchnad agored, yn hytrach na’r premiwm gwirioneddol a dalwyd a gwerth unrhyw renti sy’n daladwy. 

Rhaid i’r trethdalwr wneud dewis dilys i reol y farchnad agored gael ei chymhwyso at y caffaeliad.

Gall y trethdalwr ddewis triniaeth sy’n golygu mai’r gydnabyddiaeth drethadwy am roi’r les yw gwerth marchnadol y premiwm sydd wedi’i ddatgan yn y les ac y bydd y rhenti’n cael eu diystyru (fel cydnabyddiaeth ddigwyddiadol neu fel arall). Ar ben hynny, ni fydd y rheolau arferol ar gyfer pennu gwerth marchnadol yr eiddo a nodwyd yn adran 70 o DTTT yn gymwys.

Er mwyn i’r dewis o’r driniaeth hon fod yn ddilys, rhaid hysbysu ACC amdano yr un pryd â dychwelyd y ffurflen dreth (drwy hawlio’r cod rhyddhad perthnasol yn y ffurflen dreth). Ni ellir tynnu’r dewis yn ôl na’i ddiwygio ar ôl ei wneud. Fodd bynnag, os bydd angen, gellir hysbysu ACC am y dewis mewn ffurflen dreth ddiwygiedig.

Mae’r gydnabyddiaeth drethadwy am roi’r les i gael ei thrin fel pe bai heb gysylltiad ag unrhyw drafodiad cynyddu perchentyaeth yn y dyfodol.

Les ranberchnogaeth – trafodiadau cynyddu perchentyaeth

(paragraff 6)

Pan fydd yn prynu cartref drwy les ranberchnogaeth (boed hynny lle mae rifersiwn rhydd-ddaliadol ar gael neu beidio), mae’n bosibl y bydd y trethdalwr yn gallu prynu cyfrannau neu fuddiannau ychwanegol yn yr eiddo.

Bydd trafodiad cynyddu perchentyaeth yn digwydd lle mae hawl gan lesddeiliad/tenant, ar ôl talu swm o arian, i’w gwneud yn ofynnol bod telerau’r les yn cael eu hamrywio fel bod y rhent sy’n daladwy yn gostwng, a bod y lesddeiliad/tenant wrth wneud hynny’n caffael buddiant ychwanegol yn yr eiddo yn ychwanegol at yr hyn y mae’n berchen arno eisoes. Yn achos eiddo sydd â rifersiwn rhydd-ddaliadol, bydd hyn yn golygu bod y lesddeiliad/tenant yn caffael buddiant mwy yn y rhydd-ddaliad ac, yn achos eiddo lesddaliadol, fod telerau’r les yn cael eu newid i adlewyrchu’r premiwm ychwanegol a dalwyd.

Os gwneir dewis, yna bydd unrhyw drafodiadau cynyddu perchentyaeth yn cael eu rhyddhau rhag treth, ar ôl gwneud hawliad, os yw unrhyw dreth a oedd yn daladwy ar y trafodiad cyntaf wedi’i thalu.

Os na wnaed dewis, yna bydd y trafodiad yn cael ei ryddhau rhag treth, ar ôl gwneud hawliad, os nad yw cyfanswm y buddiant sy’n cael ei ddal gan y lesddeiliad/tenant yn fwy nag 80% o’r buddiant sy’n destun i’r les ranberchnogaeth. Wedi i’r buddiant y mae’r lesddeiliad/tenant yn berchen arno gyrraedd 80% neu fwy, ni ellir cynnwys hawliad am ryddhad yn ffurflen dreth y lesddeiliad/tenant a rhaid cynnwys hunanasesiad o unrhyw dreth sy’n daladwy.

Ar gyfer lesoedd preswyl, nid yw rhent yn ystyriaeth drethadwy. Mae hyn yn golygu, pan fydd trethdalwr yn dod yn rhan o les rhanberchnogaeth heb fwriad i gynyddu ei gyfran neu ei ddiddordeb yn yr eiddo, efallai y bydd yn gallu sicrhau sefyllfa dreth fwy ffafriol drwy ddewis talu’r TTT ar y premiwm mae’n ei dalu, yn hytrach na gwneud dewis yn ôl gwerth y farchnad. Y nodir uchod, ni ellir tynnu dewis yn ôl unwaith mae wedi’i wneud, fodd bynnag, os oes angen, gellir ei wneud i ACC ar ffurflen wedi’i diwygio.

Os nad yw’r trafodiad cynyddu perchentyaeth yn hysbysadwy, yna nid oes angen dychwelyd ffurflen dreth i ACC. Os yw’r trafodiad cynyddu perchentyaeth yn hysbysadwy, yna rhaid dychwelyd ffurflen dreth a hawlio rhyddhad.

Lesoedd rhanberchnogaeth – heb ddewis

Mae rhoi’r les a’r holl drafodiadau cynyddu perchentyaeth – yn cynnwys y rheini sy’n cael eu rhyddhau rhag treth – yn ‘drafodiadau cysylltiol’.
 
Pennir y TTT sydd i’w chodi ar drafodiadau cynyddu perchentyaeth sy’n fwy nag 80% ar sail cyfanswm y gydnabyddiaeth a roddwyd am yr holl drafodiadau cysylltiol.

Os nad yw’r trafodiad cynyddu perchentyaeth yn codi buddiant y lesddeiliad/tenant i 80% neu fwy, os nad yw’r trafodiad yn hysbysadwy, nid oes angen dychwelyd ffurflen dreth i ACC. Lle bydd y trafodiad cynyddu perchentyaeth yn peri bod y lesddeiliad/tenant yn berchen ar fuddiant o 80% neu fwy, rhaid dychwelyd ffurflen dreth gan ddilyn y rheolau ar drafodiadau cysylltiol.

Rhent i les ranberchnogaeth – y swm y codir treth arno

(paragraff 8)

Ystyr cynllun rhent i les ranberchnogaeth yw cynllun lle mae corff cymwys yn rhoi contract meddiannaeth ar gyfer annedd i berson neu bersonau a’r corff cymwys hwnnw wedyn yn rhoi les ranberchnogaeth ar gyfer yr annedd i’r un person neu bersonau.

Mae i gontract meddiannaeth yr ystyr a roddir iddo yn Rhan 2 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.

Nid yw trafodiadau rhwng y corff cymwys a’r person neu bersonau (neu unrhyw un ohonynt) o dan y cynlluniau hyn yn cael eu trin fel trafodiadau cysylltiol. Mae hyn yn cynnwys:

  • rhoi’r contract meddiannaeth,
  • rhoi les ranberchnogaeth, ac
  • unrhyw drafodiad tir arall (e.e. opsiwn) a wneir o dan y cynllun.

Mae’r ffaith bod y person neu bersonau’n meddiannu’r annedd o dan y contract meddiannaeth yn cael ei diystyru wrth bennu’r dyddiad y mae rhoi’r les ranberchnogaeth yn cael effaith. Mae hyn yn golygu, hyd yn oed os yw’r person yn meddiannu’r annedd o dan gontract meddiannaeth ar ôl cyfnewid contractau ond cyn rhoi’r les ranberchnogaeth, mai’r dyddiad cael effaith fydd y dyddiad y rhoddwyd y les ranberchnogaeth. Felly ni fydd y rheolau ar gyflawni’n sylweddol yn gymwysadwy beth bynnag os yw’r person eisoes yn meddiannu’r eiddo o dan gontract meddiannaeth pan fydd contractau ar gyfer y les ranberchnogaeth yn cael eu cyfnewid.

DTTT/7057 Diffinio

(paragraff 9)

Cyrff cymwys yw:

  • awdurdod tai lleol o fewn yr ystyr yn adran 1 o Ddeddf Tai 1985
  • cymdeithas dai o fewn yr ystyr a roddir yn Neddf Tai 1985, neu
  • ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 1988.

Bydd les yn cael ei rhoi’n unol â hawl i brynu a gadwyd pan yw:

  • y lesydd/gwerthwr yn berson y gellir arfer yr hawl i brynu (o dan Ran 5 o Ddeddf Tai 1985) yn ei erbyn yn rhinwedd adran 171A o’r Ddeddf honno
  • y lesddeiliad/prynwr (neu lesddeiliaid/prynwyr) yn berson(au) cymwys at ddibenion yr hawl i brynu a gadwyd, a
  • bod y les ar gyfer annedd sy’n dŷ annedd cymwys mewn perthynas â’r lesddeiliad/prynwr.

Mae i ‘person cymwys’ (‘qualifying person’) a ‘tŷ annedd cymwys’ (‘qualifying dwelling-house’) yr ystyron a roddir iddynt yn adran 171B o Ddeddf Tai 1985.

DTTT/7058 Ymddiriedolaethau rhanberchnogaeth

(paragraffau 10 i 17)

Mae rhyddhad, drwy ddarparu rheolau sy’n darparu ar gyfer y gydnabyddiaeth a roddir ar gyfer cynlluniau rhanberchnogaeth a rhent i ranberchnogaeth penodedig sy’n ymwneud ag ymddiriedolaethau rhanberchnogaeth, i’w gyfrifo mewn ffordd wahanol i’r prif reolau ar gyfer TTT.

Ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: ystyr

(paragraffau 10 a 11)

Ymddiriedolaeth ranberchnogaeth yw ymddiriedolaeth tir, o fewn yr ystyr a roddir iddi yn adran 1 o Ddeddf Ymddiriedolaethau Tir a Phenodi Ymddiriedolwyr 1996, sy’n bodloni’r amodau canlynol:

  • Mae eiddo’r ymddiriedolaeth yn annedd yng Nghymru
  • Rhaid i un o fuddiolwyr yr ymddiriedolaeth fod yn gorff cymwys (‘y landlord cymdeithasol’)
  • Rhaid i delerau’r ymddiriedolaeth:
    • ddarparu y caiff un neu ragor o fuddiolwyr unigol (‘y prynwr’), a neb arall, ddefnyddio eiddo’r ymddiriedolaeth fel ei unig neu brif breswylfa
    • ei gwneud yn ofynnol i’r prynwr wneud taliad cychwynnol (‘y cyfalaf cychwynnol’) i’r landlord cymdeithasol,
    • ei gwneud yn ofynnol i’r prynwr wneud taliadau ychwanegol (‘taliadau cyfwerth â rhent’) i’r landlord cymdeithasol ar ffurf taliadau digolledu o dan adran 13(6)(a) o Ddeddf Ymddiriedolaethau Tir a Phenodi Ymddiriedolwyr 1996
    • galluogi’r prynwr i wneud taliadau ychwanegol eraill (“taliadau caffael ecwiti”) i’r landlord cymdeithasol
    • pennu buddiannau llesiannol cychwynnol y landlord cymdeithasol a’r prynwr ar sail y cyfalaf cychwynnol
    • pennu swm, sy’n gyfwerth neu’n gysylltiedig â gwerth marchnadol yr annedd, y bydd y cyfalaf cychwynnol yn cael ei gyfrifo ar ei sail, a
    • darparu y bydd buddiant llesiannol y prynwr yn eiddo’r ymddiriedolaeth yn cynyddu, a buddiant llesiannol y landlord cymdeithasol yn lleihau (neu’n cael ei ddiddymu), wrth i daliadau caffael ecwiti gael eu gwneud.

Yn achos ymddiriedolaethau rhanberchnogaeth, mae ‘annedd’ yn cynnwys:

  • adeilad sy’n cael ei adeiladu neu ei addasu i’w ddefnyddio fel annedd
  • tir sydd i’w ddefnyddio at y diben o adeiladu annedd
  • tir sydd neu a fydd yn ardd neu diroedd ar gyfer annedd.

Yn achos ymddiriedolaethau rhanberchnogaeth, ystyr ‘corff cymwys’ yw:

  • awdurdod tai lleol o fewn yr ystyr a roddir yn adran 1 o Ddeddf Tai 1985
  • cymdeithas dai o fewn yr ystyr a roddir yn Neddf Cymdeithasau Tai 1985, neu
  • ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 1988.

Yn achos ymddiriedolaethau rhanberchnogaeth, ‘y prynwr’ yw:

  • yr unigolyn/unigolion a enwyd yn brynwr o dan yr amodau ar gyfer y rhyddhad hwn, ac nid y landlord cymdeithasol nac unrhyw fuddiolwr arall, sydd i’w drin fel prynwr/prynwyr eiddo’r ymddiriedolaeth.

Yn ogystal â hyn, nid yw’r rheolau arferol ar gyfer pennu gwerth marchnadol yr eiddo a nodwyd yn adran 70 o DTTT yn gymwys.  

Ymddiriedolaethau rhanberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadol

(paragraff 12)

Mae’r prynwr sy’n caffael buddiant mewn annedd sy’n cael ei dal o dan ymddiriedolaeth ranberchnogaeth yn gallu dewis triniaeth gwerth marchnadol yn debyg i hwnnw ar gyfer les ranberchnogaeth.

Gan fod y rheolau’n darparu nad yw’r diffiniad o werth marchnadol yn adran 70 i’w ddefnyddio ar gyfer y rhyddhad hwn, dylid cyfrifo’r gwerth marchnadol ar sail meddiant gwag.

Mae’r dewis yn ddi-alw’n-ôl felly, ar ôl ei wneud, ni ellir ei newid, hyd yn oed drwy ddiwygiad (neu ddiwygiad pellach) i’r ffurflen dreth.

Gwneir y dewis yn y ffurflen trafodiad tir a gyflwynir mewn perthynas â datgan yr ymddiriedolaeth ranberchnogaeth drwy ddangos y gwerth marchnadol fel y gydnabyddiaeth a chofnodi’r cod rhyddhad perthnasol. Fodd bynnag, os bydd angen, gellir hysbysu ACC am y dewis mewn ffurflen ddiwygiedig.

Yr effaith o wneud dewis dilys yw:

  • mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer datgan yr ymddiriedolaeth ranberchnogaeth fydd y swm a bennwyd yn nhelerau’r ymddiriedolaeth, sy’n gyfwerth neu’n gysylltiedig â gwerth marchnadol yr eiddo, y cyfrifwyd y cyfalaf cychwynnol ar ei sail
  • y bydd taliadau cyfwerth â rhent yn cael eu diystyru.

Ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: trafodiadau cynyddu perchentyaeth a throsglwyddo buddiant wedi i ymddiriedolaeth ddod i ben

(paragraffau 13 a 14)

Ar yr amod bod dewis dilys wedi’i wneud a bod unrhyw dreth sydd i’w chodi mewn perthynas â datgan yr ymddiriedolaeth ranberchnogaeth wedi’i dalu:

  • mae taliadau caffael ecwiti (cynyddu perchentyaeth), a’r cynnydd o ganlyniad i hynny ym muddiant llesiannol y prynwr, a’r
  • buddiant yn eiddo’r ymddiriedolaeth a drosglwyddir i’r prynwr wedi i’r ymddiriedolaeth ddod i ben

yn cael eu rhyddhau rhag treth.

Ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: trin taliadau ychwanegol pan na wneir dewis

(paragraffau 14, 15 ac 16 )

Os nad yw’r prynwr yn dewis triniaeth gwerth marchnadol, codir TTT ar ddatgan yr ymddiriedolaeth ranberchnogaeth ar y sail bod y cyfalaf cychwynnol yn cael ei drin fel cydnabyddiaeth ar wahân i rent a bod taliadau cyfwerth â rhent yn cael eu trin fel taliadau rhent.

Mae taliadau caffael ecwiti a’r cynnydd o ganlyniad iddynt ym muddiant llesiannol y prynwr yn cael eu rhyddhau rhag treth os nad yw buddiant llesiannol y prynwr, yn dilyn y cynnydd, yn fwy nag 80% o gyfanswm y buddiant llesiannol yn eiddo’r ymddiriedolaeth.

Gellir codi TTT ar daliadau o’r fath ac unrhyw gynnydd sy’n eu dilyn, ar ôl y cynnydd:

  • os yw buddiant llesiannol y prynwr yn fwy nag 80% o gyfanswm y buddiant llesiannol yn eiddo’r ymddiriedolaeth, neu
  • os yw buddiant yn eiddo’r ymddiriedolaeth yn cael ei drosglwyddo i’r prynwr wedi i’r ymddiriedolaeth ddod i ben.

At y diben o bennu swm y dreth sydd i’w godi ar ddatgan yr ymddiriedolaeth ranberchnogaeth, bydd y datganiad yn cael ei drin fel fe bai heb gysylltiad ag:

  • unrhyw daliad caffael ecwiti neu unrhyw gynnydd o ganlyniad iddo ym muddiant llesiannol y prynwr yn eiddo’r ymddiriedolaeth, nac
  • unrhyw fuddiant yn eiddo’r ymddiriedolaeth a drosglwyddir i’r prynwr ar ôl dod â’r ymddiriedolaeth i ben.

Bydd taliad caffael ecwiti, lle nad yw dewis wedi’i wneud, yn cael ei ryddhau rhag treth os nad yw’r buddiant hwnnw, yn dilyn y cynnydd ym muddiant llesiannol y prynwr, yn fwy nag 80% o gyfanswm y buddiant llesiannol yn eiddo’r ymddiriedolaeth.

Os nad yw’r trafodiad cynyddu perchentyaeth yn codi buddiant y lesddeiliad/tenant i 80% neu fwy, yna os nad yw’r trafodiad yn hysbysadwy ni fydd angen dychwelyd ffurflen dreth i ACC.  Lle mae’r trafodiad cynyddu perchentyaeth (neu’r buddiant llesiannol a drosglwyddir i’r prynwr ar ôl dod â’r ymddiriedolaeth i ben) yn peri bod y prynwr yn berchen ar fuddiant o 80% neu fwy, yna rhaid dychwelyd ffurflen dreth gan ddilyn y rheolau ar drafodiadau cysylltiol.

Rhent i ymddiriedolaeth ranberchnogaeth; y swm y codir treth arno

(paragraff 17)

Ystyr ‘cynllun rhent i ymddiriedolaeth ranberchnogaeth’ yw cynllun lle gall person neu bersonau ddod yn fuddiolwr (‘y prynwr’) o dan ymddiriedolaeth ranberchnogaeth gyda chorff cymwys (‘y landlord cymdeithasol’) a lle mae’r corff hwnnw’n rhoi contract meddiannaeth i’r person neu bersonau hynny ar gyfer yr annedd.

Mae i gontract meddiannaeth yr ystyr a roddir iddo yn Rhan 2 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.

Nid yw trafodiadau rhwng y corff cymwys a’r person neu bersonau (neu unrhyw un ohonynt) o dan y cynlluniau hyn i’w trin fel trafodiadau cysylltiol. Mae hyn yn cynnwys:

  • rhoi’r contract meddiannaeth
  • rhoi les ranberchnogaeth, ac
  • unrhyw drafodiad tir arall (e.e. opsiwn) a wneir o dan y cynllun.

Mae’r ffaith bod y person neu bersonau’n meddiannu’r annedd o dan y contract meddiannaeth yn cael ei diystyru wrth bennu’r dyddiad y mae datgan yr ymddiriedolaeth ranberchnogaeth yn cael effaith. Mae hyn yn golygu, hyd yn oed os yw’r person yn meddiannu’r annedd o dan gontract meddiannaeth, yn rhan o’r cynllun rhent i ymddiriedolaeth ranberchnogaeth, ond cyn datgan yr ymddiriedolaeth ranberchnogaeth, mai’r dyddiad cael effaith fydd y dyddiad y cafodd yr ymddiriedolaeth ei datgan. Felly ni fydd y rheolau ar gyflawni’n sylweddol yn gymwysadwy beth bynnag os yw’r person eisoes yn meddiannu’r eiddo o dan gontract meddiannaeth pan fydd trefniadau’r cynllun ymddiriedolaeth ranberchnogaeth yn cael eu cytuno neu eu rhoi ar waith.

DTTT/7059 Rhent i forgais

(paragraff 18)

Ystyr trafodiad rhent i forgais yw:

  • trosglwyddo annedd i berson
  • rhoi les ar gyfer annedd i berson

lle mae’r person hwnnw’n arfer hawl i gaffael ar delerau rhent i forgais o dan Ran 5 o Ddeddf Tai 1985.

Y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yw’r pris a fyddai’n daladwy am:

  • drosglwyddo’r annedd i’r person (lle mai trosglwyddiad yw’r trafodiad)
  • rhoi les ar gyfer yr annedd i’r person (lle mai rhoi’r les yw’r trafodiad)

wedi’i gyfrifo’n unol ag Adran 126 o Ddeddf Tai 1985 lle mae’n gymwys i drafodiadau rhent i forgais.

Felly rhoddir y rhyddhad drwy ddarparu dull arall o gyfrifo’r gydnabyddiaeth drethadwy.

DTTT/7060 Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau penodol gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig

(paragraff 19)

Mae rhyddhad ar gael ar gyfer trafodiad tir lle mae’r prynwr yn landlord cymdeithasol cofrestredig, a bod un o’r amodau canlynol wedi’i fodloni:

  • bod y landlord cymdeithasol cofrestredig yn cael ei reoli gan ei denantiaid
  • bod y gwerthwr yn gorff cymwys, neu
  • fod cymhorthdal cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i ariannu’r trafodiad.

Mae landlord cymdeithasol cofrestredig yn cael ei reoli gan ei denantiaid os yw mwyafrif aelodau’r bwrdd yn denantiaid sy’n meddiannu eiddo y mae’r landlord cymdeithasol cofrestredig yn berchen arno ac yn ei reoli.

Ar gyfer y rhyddhad hwn, ystyr aelod o’r bwrdd yw:

  • os yw’n gwmni, un o gyfarwyddwyr y cwmni
  • os yw’n gorff corfforaethol a’i fusnes yn cael ei reoli gan ei aelodau, un o’r aelodau hynny
  • os yw’n gorff o ymddiriedolwyr, un o’r ymddiriedolwyr hynny, neu
  • fel arall, aelod o’r pwyllgor rheoli neu gorff arall sy’n gyfrifol am reoli busnes y landlord cymdeithasol cofrestredig.

Nid oes rhaid i’r trafodiad gael ei ariannu’n llwyr gan y cymhorthdal. Fodd bynnag, er mwyn i’r rhyddhad hwn fod yn gymwys, rhaid i’r cymhorthdal cyhoeddus fod ar ffurf unrhyw grant neu gymorth ariannol:

  • a wneir neu a roddir ar ffurf dosbarthiad o dan Adran 25 o Ddeddf y Loteri Genedlaethol etc. 1993
  • a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Adran 18 o Ddeddf Tai 1996 (grantiau tai cymdeithasol), neu
  • o dan Adran 126 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (cymorth ariannol ar gyfer adfywio a datblygu).

Ar gyfer y rhyddhad hwn, ystyr corff cymwys yw:

  • landlord cymdeithasol cofrestredig
  • ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 1988
  • cyngor sir neu fwrdeistref sirol a gyfansoddwyd o dan Adran 21 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
  • cyngor sir neu fwrdeistref sirol a gyfansoddwyd o dan Adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
  • Gweinidogion Cymru.

Bydd y rhyddhad, pan gaiff ei hawlio, yn gyfwerth â swm y TTT a fyddai’n daladwy fel arall.