Canllawiau ar ryddhad Treth Trafodiadau Tir ar gyfer caffaeliadau gan gyrff cyhoeddus a chyrff iechyd.
Cynnwys
Helpwch ni i wella'r canllawiau hyn
DTTT/7092 Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau gan gyrff cyhoeddus
(paragraff 1 o Atodlen 20)
Gellir hawlio rhyddhad rhag TTT mewn perthynas a thrafodiad tir a wnaed lle rhoddir effaith i ad-drefnu:
- gan neu o dan ddeddfiad
- lle mae’r prynwr a’r gwerthwr yn gyrff cyhoeddus, a
- lle mae’r trafodiad tir wedi’i wneud wrth ymgymryd â’r ad-drefnu hwnnw, o ganlyniad iddo neu mewn cysylltiad ag ef.
Gellir hawlio rhyddhad hefyd mewn achosion lle mae Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn i beri bod rhyddhad ar gael a bod y naill neu’r llall o bartïon y trafodiad yn gorff cyhoeddus.
Ystyr ‘ad-drefnu’ yw newidiadau sy’n ymwneud ag unrhyw un neu’r cyfan o’r canlynol:
- sefydlu, diwygio neu ddiddymu un neu ragor o gyrff cyhoeddus
- creu, newid neu ddileu swyddogaethau sydd i’w cyflawni gan un neu ragor o gyrff cyhoeddus, neu
- drosglwyddo swyddogaethau o un corff cyhoeddus i un arall.
DTTT/7093 Cyrff cyhoeddus at ddibenion y rhyddhad
Mae’r canlynol yn gyrff cyhoeddus at ddibenion y rhyddhad hwn:
Llywodraeth a’r Senedd
- Gweinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru, a Chwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru
- Un o Weinidogion y Goron
- Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Llywodraeth leol
- cyngor sir neu fwrdeistref sirol a gyfansoddwyd o dan adran 21 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
- cyngor sir neu gyngor dosbarth a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
- Cyngor un o fwrdeistrefi Llundain.
Iechyd
- Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
- Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
- Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 neu adran 25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006.
Eraill
- Unrhyw awdurdod arall sydd yn awdurdod cynllunio lleol o fewn yr ystyr a roddir yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
- Panel cynllunio strategol a sefydlwyd o dan adran 60D o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004
- Person a bennir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau.
Yn achos yr holl bersonau a enwir a’r endidau a restrir fel cyrff cyhoeddus, mae unrhyw gwmni y mae ei holl gyfranddaliadau’n eiddo i gorff cyhoeddus ac unrhyw is-gwmni sydd o dan berchnogaeth lwyr cwmni o’r fath hefyd yn cael eu trin fel cyrff cyhoeddus at ddibenion y rhyddhad hwn.
DTTT/7094 Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau gan gyrff penodol y gwasanaeth iechyd
(paragraff 2 o Atodlen 20)
Mae trafodiad tir yn cael ei ryddhau rhag TTT os yw’r prynwr yn un o’r canlynol:
- Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006
- Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006
- Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006
- Person a bennir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau.