Mae’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn cael ei thalu pan fydd gwastraff yn cael ei waredu i dirlenwi a chodir y dreth yn ôl pwysau.
Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) sy’n casglu'r dreth a defnyddir yr arian i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Fe wnaeth y TGT ddisodli’r dreth dirlenwi yng Nghymru o fis Ebrill 2018. Os oes gennych chi ymholiadau ar y Dreth Dirlenwi yng Nghymru hyd at ac yn cynnwys 31 Mawrth 2018, cysylltwch â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud rhywfaint o waith ar y TGT ar ran yr ACC.
Faint byddwch chi'n talu
Llywodraeth Cymru sy’n pennu cyfraddau’r TGT.
Sut mae talu
Dylid cyflwyno ffurflen TGT ar-lein.
Yn gyntaf mae’n rhaid i chi gofrestru eich sefydliad gydag ACC i ddod yn weithredwr tirlenwi awdurdodedig, ac yna gofrestru i gael cyfrif ar-lein.
I gofrestru, ewch i’n tudalen sut i gofrestru ar gyfer Treth Gwarediadau Tirlenwi.
Os ydych chi wedi cofrestru’n barod a’ch bod chi’n awyddus i ffeilio ffurflen, ewch i’n tudalen ffeilio Treth Gwarediadau Tirlenwi ar-lein.