Mae hwn yn dweud wrth weithredwyr safleoedd tirlenwi beth sydd raid iddynt ei wneud wrth dderbyn gronynnau mân gwastraff ar safle er mwyn cymhwyso am y gyfradd is o dreth. Mae hyn yn cynnwys archwiliadau cyn derbyn, holiadur cyn derbyn a phrawf Colled wrth Danio. Mae’r prawf Colled wrth Danio yn brawf labordy i benderfynu ar gynnwys organig y deunydd.
Dogfennau
Manylion
Mae gronynnau mân yn ddeunydd a gynhyrchir gan broses trin gwastraff mecanyddol. Gallant ddod o’r canlynol:
- gwastraff anadweithiol sy’n gymwys am y gyfradd is o dreth
- deunydd organig sy’n dod o dan y gyfradd safonol o dreth, neu
- gwastraff cymysg.
Dim ond gronynnau mân anorfod sy’n cynnwys ychydig iawn o ddeunydd organig sy’n gymwys am y gyfradd is o dreth. Dilynwch y gweithdrefnau hyn i wneud yn siŵr bod y gronynnau mân rydych chi’n eu derbyn yn cymhwyso am y gyfradd is o dreth ac nad oes gormod o ddeunydd organig ynddynt.