Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar y trefniadau rhyddhad ar gyfer gwaith adfer safle o dan rannau 2 a 3 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (DTGT).

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

DTGT/4000 Rhyddhadau: adfer safle

Mae hwn yn drosolwg o'r trefniadau ar gyfer rhyddhad ar gyfer gwaith adfer safle o dan ran 2 a 3 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (DTGT).

Mae'r dull a ddefnyddir ar gyfer TGT yn wahanol i rannau eraill o'r DU. Gan y bydd rhaid i chi, gweithredwr y safle tirlenwi (GST), gael ein cymeradwyaeth ni ar gyfer gwaith adfer safle cyn hawlio rhyddhad yn eich ffurflen dreth.

Nod y dull hwn yw rhoi sicrwydd ac eglurder i chi ac i ninnau er mwyn gallu cydymffurfio a diogelu rhag camddefnyddio trefniadau.

Dim ond ar gyfer gwarediadau mewn safleoedd tirlenwi wedi’u hawdurdodi y mae rhyddhadau ar gael.

DTGT/4110 Cais am ryddhad adfer safle

O dan adran 8, Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (DTGT), bydd defnyddio unrhyw ddeunydd ar gyfer gwaith adfer safle yn cael ei drin fel gwarediad trethadwy.

Mae TGT yn ddyledus ar bob deunydd sy’n cael ei ddefnyddio wrth adfer safle boed y deunydd:

  • wedi’i brynu ar gyfer y diben
  • wedi’i gael mewn rhyw fodd arall

Os bodlonir meini prawf penodol, gallwch hawlio rhyddhad ar gyfer defnyddio deunydd mewn gwaith adfer safle.

Rhaid i'r gwaith ddod o fewn y diffiniad o adfer safle. Mae hwn yn waith sy’n cael ei wneud ar safle tirlenwi wedi’i awdurdodi (neu ran ohono) er mwyn adfer yr ardal ar gyfer defnydd arall. 

Ar safle tirlenwi peryglus neu safle tirlenwi nad yw’n beryglus, lle mae angen gorchudd wedi’i beirianyddu yn gyffredinol am resymau amgylcheddol, gellir gwneud gwaith adfer safle uwchben y gorchudd yn unig.

Yn gyffredinol, nid yw'n ofynnol i safleoedd tirlenwi anadweithiol fod â gorchudd wedi’i beirianyddu am resymau amgylcheddol. Ond yn dilyn diwygiadau i’r ddeddfwriaeth ar 19 Gorffennaf 2019, efallai y byddant yn dal i allu dangos eu bod yn gwneud gwaith adfer safle.

Os ydych ond am storio deunydd ar gyfer adfer safle yn y dyfodol, bydd angen i chi wneud cais am fan nad yw at ddibenion gwaredu (NDA) fel y nodir yn DTGT/2030.

Deunydd cymwys

Mae’n rhaid hawlio'r rhyddhad mewn ffurflen dreth a bydd ond ar gael pan fydd y gwarediad y mae'n berthnasol iddo dim ond y cynnwys naill ai:

  • ddeunydd cymwys, neu
  • uwchbridd

Nid yw ar gael ar gyfer cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau, ac mae’n rhan o waith adfer, yr ydym wedi'i gymeradwyo.

Rydym yn ystyried bod uwchbridd yn cynnwys uwchbridd wedi'i weithgynhyrchu sy'n cynnwys deunydd organig lle mae ei angen ar gyfer cwblhau'r gwaith adfer safle, fel y nodir yn y drwydded amgylcheddol neu ganiatâd cynllunio i gefnogi plannu glaswellt, planhigion, llwyni neu goed.

Er mwyn cael rhyddhad adfer safle ar uwchbridd, rydym yn disgwyl i chi wneud y canlynol:

  • cydymffurfio'n llawn â gofynion y drwydded amgylcheddol berthnasol, a
  • bodloni safonau cydnabyddedig y diwydiant; er enghraifft:

Byddem yn disgwyl i uwchbridd, gan gynnwys uwchbridd sydd wedi’i weithgynhyrchu, boed wedi’i weithgynhyrchu ar neu oddi ar y safle, neu gyflyryddion pridd y gellir eu defnyddio, gydymffurfio â’r safonau fel sy'n ofynnol gan y drwydded a safonau'r diwydiant fel yr uchod.

Gwneud cais

Mae'n rhaid i chi wneud cais ysgrifenedig a chael ein cymeradwyaeth ni ar gyfer gwaith adfer. Mae’n rhaid gwneud y cais cyn i'r gwaith adfer ddechrau. Ni allwn awdurdodi gwaith adfer sydd wedi’i ddechrau cyn i'r cais gael ei gyflwyno.

Ar ôl gwneud y cais, nid oes angen i chi aros am ein cymeradwyaeth cyn dechrau ar y gwaith.

Rydym yn deall efallai y byddwch am fanteisio ar dywydd da neu fod deunydd addas ar gael. Fodd bynnag, mae dechrau ar y gwaith cyn i ni roi ein cymeradwyaeth ar eich risg eich hun. Ni allwn warantu y bydd y cais yn cael ei gymeradwyo.

Y dystiolaeth sydd ei hangen i gefnogi'r cais

Mae'n rhaid i chi roi:

  • rhif trwydded amgylcheddol neu rif cyfeirnod y caniatâd cynllunio ar gyfer y safle
  • ffynhonnell y deunydd cymwys
  • tystiolaeth o sut mae'r deunydd cymwys yn bodloni'r safonau gofynnol
  • manylion unrhyw ddeunydd sydd eisoes yn ei le
  • Cynlluniau CQA a/neu Fanylebau
  • Tystiolaeth fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymeradwyo’r Cynlluniau CQA a/neu’r cynllun Manylebau
  • pwysau (tunelli) y deunydd adfer sydd ei angen
  • map diweddar o'r safle sy'n dangos y cam nesaf/ardal/cell sydd i'w adfer
  • arwynebedd y cam sy’n cael ei adfer (m2)
  • y dyddiadau dechrau a gorffen disgwyliedig ar gyfer naill ai: adfer y safle yn llawn neu adfer y safle’n rhannol (rhif cam/cell) yn unol â'r Cynllun CQA sydd wedi’i gymeradwyo
  • sut y cyfrifwyd tunelledd, megis cyfaint, ffactorau trosi cyfaint i fàs a lleihad neu ffactorau swmpuso
  • y dyfnder lleiaf sydd ei angen
  • tystiolaeth yn esbonio sut mae’r rhain wedi’u defnyddio wrth gyfrifo

Rhaid i ni fod yn fodlon a byddwn ond yn cymeradwyo'r swm angenrheidiol o ddeunydd sydd ei angen er mwyn cydymffurfio â'r drwydded neu’r caniatâd sy'n ymwneud â'r safle. Dim ond y deunydd hwn fydd yn cael ei ryddhau.

Nid yw adfer tirlenwi yn cynnwys codi lefelau er mwyn bodloni tirffurf sydd wedi’i gymeradwyo dan reolaeth gynllunio. Fel arfer, mae'n rhaid i chi sicrhau cyfuchliniau, a chwymp draeniau yn ystod y gwaith gwaredu. Mae hyn yn ofynnol yn ôl y cynllun cyfuchliniau cyn neu ôl-sefydlogi yn eich trwydded tirlenwi.

Bydd rhaid talu treth ar ddeunydd sydd dros ben sy’n cael ei ddefnyddio.

DTGT/4120 Ceisiadau ACC am ragor o wybodaeth

Pan dderbynnir cais am waith adfer safle, gallwn roi hysbysiad ysgrifenedig yn gofyn am ragor o wybodaeth gennych er mwyn penderfynu ar y cais.

Byddwn yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i chi o fewn 30 diwrnod gan ddechrau ar y diwrnod y byddwn yn derbyn y cais. Bydd hyn:

  • yn dweud wrthych erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid darparu'r wybodaeth
  • o leiaf 30 diwrnod yn dechrau gyda'r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad

Gall y ddau ohonom gytuno i ymestyn y cyfnodau amser hyn.

DTGT/4130 Penderfyniad ACC

Mae'n rhaid i ni roi hysbysiad ysgrifenedig o'n penderfyniad i chi o fewn 30 diwrnod gan ddechrau ar:

  • y diwrnod yr ydym yn derbyn y cais, neu
  • os ydym wedi gofyn am fwy o wybodaeth:
    • y diwrnod yr ydym yn derbyn y wybodaeth, neu
    • y diwrnod y mae'r cyfnod ar gyfer darparu'r wybodaeth yn dod i ben

Efallai y bydd y ddau ohonom yn cytuno i ymestyn y cyfnodau amser hyn.

Penderfyniad ACC ddim wedi ei wneud o fewn y cyfnodau amser y cytunwyd arnynt

Os na fyddwn yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'n penderfyniad o fewn y cyfnodau amser hyn, dylech drin hyn fel pe baem wedi cymeradwyo gwneud y gwaith adfer fel y nodir yn y cais. O'r adeg y ydych yn gwneud y cais tan y dyddiad cwblhau.

Os ydych chi'n anhapus gyda'n penderfyniad, gallwch:

Mae angen i chi wneud hyn o fewn 30 diwrnod i'r dyddiad y byddwn yn rhoi ein llythyr penderfyniad treth. 

Os ydych yn gofyn am adolygiad o'n penderfyniad, ni allwch apelio i'r tribiwnlys hyd nes y bydd ein hadolygiad wedi'i gwblhau.

DTGT/4140 Cymeradwyaeth ACC

Mae'n rhaid i ni roi hysbysiad i chi sy'n nodi ein penderfyniad a manylion y gymeradwyaeth.

Gall y gymeradwyaeth ymwneud â:

  • rhan o'r gwaith neu’r gwaith i gyd a ddisgrifir yn y cais i adfer safle
  • gwaith a wnaed cyn neu ar ôl rhoi’r gymeradwyaeth (neu'r ddau)

Gall fod yn ddiamod neu'n ddibynnol ar amodau, er enghraifft, gall amod ei gwneud yn ofynnol i weithredwr safle tirlenwi roi adroddiad diweddaru i ni ynglŷn â chyflawni'r gwaith.

DTGT/4150 Amrywio’r gymeradwyaeth

Cais gan Weithredwr Safle Tirlenwi (GST)

Pan fydd caniatâd i adfer safle wedi’i roi, gallwch wneud cais ysgrifenedig i ni amrywio'r gymeradwyaeth. Rhaid i chi roi'r rhesymau dros ofyn am amrywiad ac unrhyw dystiolaeth i'w gefnogi.

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom er mwyn penderfynu a fyddwn yn amrywio’r gymeradwyaeth neu ar ba delerau i amrywio'r gymeradwyaeth, mae’r cyfnodau amser wedi’u nodi yn DTGT/4120. Mae'n rhaid i ni roi hysbysiad i chi o'n penderfyniad ar y cais am amrywiad.

Mae'r cyfnodau amser wedi'u nodi yn DTGT/4030.

ACC yn cymell amrywiad

Gallwn ninnau hefyd amrywio cymeradwyaeth os ydym yn fodlon ei fod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y gymeradwyaeth ond yn ymwneud â gwaith adfer sy'n ofynnol dan amod trwydded amgylcheddol neu ganiatâd cynllunio sy'n gysylltiedig â'r safle.

Mae'n rhaid i ni roi hysbysiad ysgrifenedig i chi sy'n nodi manylion yr amrywiad.

Nid yw amrywio cymeradwyaeth yn effeithio ar y gwaith adfer a wnaed yn unol â'r gymeradwyaeth cyn iddi gael ei hamrywio.

DTGT/4160 Canlyniadau torri gofynion sy’n gysylltiedig ag adfer safle

Os bydd deunydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer adfer safle heb ein cymeradwyaeth ni fydd rhyddhad ar y deunydd hwnnw.

Pan roddir cymeradwyaeth, bydd y rhyddhad ond ar gael pan fydd yn rhan o waith adfer a wneir yn unol â'r gymeradwyaeth honno, a phan fydd yn bodloni'r holl ofynion eraill a nodir yn:

  • Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017
  • Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (DCRhT)

Er enghraifft, cadw a chynnal cofnodion er mwyn sicrhau ffurflen dreth gywir a chyflawn.

Gallwn gynnal asesiad ar gyfer treth os byddwn yn credu bod treth wedi’i cholli, yn benodol lle mae rhyddhad sy’n ymwneud â threth ddatganoledig wedi'i hawlio neu ei roi sydd, neu sydd wedi datblygu i fod, yn ormodol.

Hefyd, gallwch wynebu cosbau o dan DCRhT, fel cosbau am anghywirdebau mewn ffurflenni treth ac am beidio â thalu treth.