Mae’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (TGT) yn cael ei thalu pan fydd gwastraff yn cael ei waredu i dirlenwi a chodir y dreth yn ôl pwysau.
Awdurdod Cyllid Cymru sy’n casglu'r dreth a defnyddir yr arian i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Fe wnaeth y Dreth Gwarediadau Tirlenwi ddisodli’r dreth dirlenwi yng Nghymru o fis Ebrill 2018. Os oes gennych chi ymholiadau ar y Dreth Dirlenwi yng Nghymru hyd at ac yn cynnwys 31 Mawrth 2018, cysylltwch â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud rhywfaint o waith ar y Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar ran yr Awdurdod Cyllid.
Faint byddwch chi'n talu?
Llywodraeth Cymru sy’n pennu cyfraddau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.
Sut mae talu
Dylid cyflwyno ffurflen Treth Gwarediadau Tirlenwi ar-lein. Yn gyntaf mae’n rhaid i chi gofrestru eich sefydliad gydag Awdurdod Cyllid Cymru i ddod yn weithredwr tirlenwi awdurdodedig, ac yna gofrestru i gael cyfrif ar-lein.
I gofrestru, ewch i’n tudalen Sut i gofrestru ar gyfer Treth Gwarediadau Tirlenwi (TGT).
Os ydych chi wedi cofrestru’n barod a’ch bod chi’n awyddus i ffeilio ffurflen, ewch i’n tudalen Ffeilio Treth Gwarediadau Tirlenwi Ar-lein.