Neidio i'r prif gynnwy

Mae Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, wedi cyhoeddi y bydd 14 o ysgolion yng Nghymru yn treialu darparu oriau ychwanegol y flwyddyn academaidd hon, gyda hyd at £2m ar gael i gefnogi'r cynllun.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd yr ysgolion cynradd ac uwchradd sy'n treialu'r amser ychwanegol yn cael cyllid i ddarparu pum awr ychwanegol o weithgareddau bob wythnos ar gyfer grwpiau o ddysgwyr, gan gynnig sesiynau celf, cerddoriaeth a chwaraeon er enghraifft, yn ogystal â sesiynau academaidd craidd.

Bydd y cynllun treialu yn canolbwyntio ar gefnogi disgyblion difreintiedig ac ysgolion yr effeithiwyd arnynt yn sylweddol yn ystod y pandemig. Mae'r cynlluniau wedi'u llywio gan fodelau rhyngwladol a chynigion a wnaed gan y Sefydliad Polisi Addysg. Cynhelir y gwaith ar y cyd â Grŵp Senedd Plaid Cymru fel rhan o'r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Bydd penaethiaid yn penderfynu ar yr hyn a gaiff ei ddarparu, a sut y caiff ei ddarparu, ym mhob ysgol yn ystod y cyfnod treialu, a fydd yn dechrau yn ystod tymor y gwanwyn ac yn rhedeg am gyfnod o hyd at 10 wythnos. Caiff anghenion lleol eu hystyried, a bydd y cyllid a roddir ar gyfer y cynllun treialu yn rhoi i ysgolion y pŵer i benderfynu a ydynt am gael cyflenwyr allanol i redeg y sesiynau os bydd angen, neu a fydd modd iddynt addasu gweithgareddau sydd eisoes ar waith, megis clybiau ar ôl ysgol.

Cadarnhaodd y Gweinidog hefyd y bydd trafodaethau yn cael eu cynnal â phobl ifanc a'u teuluoedd yn ogystal â staff addysg a busnesau dros y misoedd i ddod, er mwyn ceisio eu barn ar y syniad o ddiwygio dyddiadau tymor ysgolion o bosibl.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

Rydyn ni wedi ymrwymo i leihau anghydraddoldebau addysgol a gwella llesiant dysgwyr a staff.

Rydyn ni'n gwybod y gall cyrhaeddiad dysgwyr a'u llesiant, yn ogystal â'u cydberthnasau ehangach, wella os cânt eu cefnogi i fanteisio ar amrywiaeth ehangach o weithgareddau, gan gynnwys celf a chwaraeon, yn ogystal â gweithgareddau cymdeithasol a rhaglenni academaidd.

Rydyn ni'n cyllido'r ysgolion sy'n cymryd rhan yn y cynllun treialu i sicrhau y bydd modd iddynt ddarparu gweithgareddau cyffrous drwy gydol y diwrnod ysgol, a all helpu disgyblion i ddatblygu sgiliau personol a gwydnwch, a fydd eu hunain yn effeithio ar eu cyrhaeddiad academaidd. Byddwn yn gweithio'n agos gydag ysgolion ac awdurdodau lleol er mwyn gwerthuso'r effaith ar ddysgwyr a staff.

Dros y misoedd nesaf byddaf hefyd yn siarad â phobl ifanc, staff addysg, teuluoedd a phobl sy'n gweithio y tu hwnt i'r sector megis ym maes twristiaeth a'r gwasanaethau cyhoeddus, i geisio eu barn ar ddiwygio'r flwyddyn ysgol.

Drwy ddiwygio'r flwyddyn ysgol, efallai y bydd yn bosibl inni leihau effaith y gwyliau ysgol hir dros yr haf ar ddysgwyr, lleihau anghydraddoldebau addysgol a chefnogi llesiant dysgwyr a staff.