Bydd cymunedau a busnesau ar draws y Cymoedd yn elwa ar wasanaeth bysiau newydd y tu allan i oriau cyn hir. Ariennir y cynllun peilot hwn gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r cynllun peilot, a fydd yn cael ei gynnal am flwyddyn, a'r opsiwn o gael estyniad am ail flwyddyn, wedi ei ddatblygu trwy Dasglu'r Cymoedd Llywodraeth Cymru ac wedi'i gynllunio i ddarparu trafnidiaeth fforddiadwy a dibynadwy i bobl sy'n gweithio sifftiau. Mae hefyd yn rhan o waith ehangach Llywodraeth Cymru sy'n edrych ar y ffordd orau y gall gwasanaethau trafnidiaeth cymunedol wasanaethu gweithwyr a'r rheini sy'n ceisio cael gwaith, drwy gyflwyno 'system hyblyg o deithio i'r gwaith'.
Yn siarad cyn Cymdeithas Rheolwyr Cwmnïau Bysiau Lleol ywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi:
“Mae ein Cynllun Cyflogadwyedd a'r gwaith a wneir drwy Dasglu'r Cymoedd yn ei gwneud yn glir bod cael gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd da, gan gynnwys trafnidiaeth ddibynadwy, yn hanfodol i ddileu'r rhwystrau rhag cael gwaith.
“Mae'r cynllun peilot hwn ar gyfer bysiau y tu allan i oriau wedi'i ddatblygu gyda chymorth y bobl leol hynny a fydd yn elwa'r mwyaf arno. Bydd y cynllun yn llunio rhan o amrywiaeth o gynlluniau peilot sy'n cael eu cynllunio i bennu beth sy'n gweithio orau i'r rheini sy'n chwilio am wasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus gwell i'r gwaith, yn enwedig os byddan nhw'n gweithio patrymau sifft. Ynghyd â'r cynlluniau peilot £1m ar gyfer bysiau ar ffurf 'Uber' yr oedden ni wedi’u cyhoeddi yn gynharach y mis hwn, mae'n rhan o'n gwaith ehangach i ddatblygu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus sy'n fwy hyblyg ac ymatebol ar hyd a lled Cymru.
“Bydd y cynlluniau peilot hyn hefyd yn cyfrannu'n uniongyrchol at Cymru'n Gweithio, swyddogaeth newydd Gyrfa Cymru a fydd yn darparu cymorth symlach a mwy hygyrch i helpu unigolion sy'n chwilio am waith. Mae'n cynnig cyfle pwysig i gyfuno cyngor sydd wedi'i dargedu at bobl sy'n chwilio am waith lleol a gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus gwell sydd wedi'i deilwra. Rwy'n hyderus y bydd ein ffordd gyfunol o weithio'n helpu i wneud gwahaniaeth lle y mae'r galw mwyaf amdano.”
Bydd y cynllun peilot ar gyfer bysiau y tu allan i oriau yn gwasanaethu cymunedau yn y Maerdy, Glynrhedynog, Blaenllechau, Tylorstown, Pontygwaith a'r cyffiniau, ac yn teithio i naill ai Trefforest neu Ystad Diwydiannol Nantgarw neu ardal Pont-y-clun / Llantrisant. Daw'r cynllun yn sgil y sylw sydd wedi'i roi ar drafnidiaeth fel rhan o Dasglu'r Cymoedd Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am Dasglu'r Cymoedd:
“Cafodd trafnidiaeth ei nodi'n un o'r prif flaenoriaethau yn ymgynghoriad Tasglu'r Cymoedd, a oedd yn dangos yn glir mai sefyllfa bresennol y gwasanaeth bysiau yn ôl nifer yw un o'r prif rwystrau rhag cael gwaith.
“Ar hyn o bryd, nid oes gwasanaeth bysiau na threnau sy'n galluogi unigolyn i ddechrau'r gwaith am 6am neu fynd adref ar ôl i sifft gwaith orffen am 10pm er enghraifft, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni roi sylw iddo os ydyn ni o ddifrif ynghylch cynyddu nifer y swyddi a rhoi hwb i gyflogaeth leol.
“Mae'r cynlluniau peilot hyn yn cynnig ateb penodol i'r Cymoedd, ac felly rwy'n mawr obeithio y byddan nhw'n gwneud gwahaniaeth. Byddwn i’n annog unrhyw un sy'n meddwl y byddai'r gwasanaeth hwn o fudd iddyn nhw neu i rywun y maen nhw'n ei adnabod i ddefnyddio'r gwasanaeth a rhoi adborth – bydd hynny'n hanfodol os ydyn ni am weld yr effeithiau hir dymor y dymunwn ni eu gweld yn y cynlluniau peilot hyn.”
Wrth ddatblygu'r cynlluniau peilot hyn a'u llwybrau teithio, mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio â chyflogwyr a gweithwyr lleol a'r Adran Gwaith a Phensiynau. Sicrhawyd y bydd y gwasanaeth hefyd yn hygyrch i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â'r Adran Gwaith a Phensiynau, drwy Ganolfan Byd Gwaith yng Nghymru, ac â chyflogwyr a chymunedau yn y Cymoedd, i weld a fyddai opsiynau ar raddfa fach ar gyfer trafnidiaeth hyblyg sy'n rhoi sylw i waith sifft yn annog mwy o bobl i gael swyddi.
Bydd y cynllun peilot yn dechrau o fis Mai 2019 ymlaen, a bydd rhagor o fanylion am yr amserlenni a'r llwybrau ar gael o'r Ganolfan Gwaith.