Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ers dechrau pandemig COVID-19 yn 2020, mae'r Arolwg Cenedlaethol wedi cael ei gynnal dros y ffôn yn hytrach nag wyneb yn wyneb fel o'r blaen. Rhwng mis Gorffennaf 2021 a mis Ionawr 2022, gwnaethom dreialu adran ddilynol ar-lein. Cwblhaodd is-sampl o tua 2,000 o ymatebwyr set ychwanegol o gwestiynau, ar ôl cwblhau'r adran dros y ffôn. Os nad oedd pobl yn gallu neu os oeddent yn amharod i ateb ar-lein, fe wnaethant gwblhau'r adran ychwanegol gyda chyfwelydd dros y ffôn.

Mae rhai canlyniadau o flynyddoedd blaenorol wedi'u cynnwys i roi cyd-destun. Fodd bynnag, oherwydd y gwahaniaeth yn y modd y cynhaliwyd y cyfweliad a'r newid gwirioneddol posibl oherwydd y pandemig, dylid bod yn ofalus wrth wneud cymariaethau uniongyrchol.

Gwasanaethau a chyfleusterau lleol

Gofynnwyd i bobl pa wasanaethau a chyfleusterau oedd ar gael yn eu hardal leol (Siart 1). Y gwasanaethau mwyaf cyffredin a gofnodwyd yw cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus (dywedodd 88% fod ganddynt y rhain), siopau (88%), a thafarndai/bwytai (85%). Dywedodd 3% nad oes ganddynt unrhyw wasanaethau na chyfleusterau yn eu hardal leol, canlyniad tebyg i'r adeg pan ofynnwyd y cwestiwn hwn ddiwethaf yn 2018-19.

Image
Siart far yn dangos canran y bobl sy’n dweud bod ganddynt fynediad at wasanaethau a chyfleusterau lleol.

Mae pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn llai tebygol o ddweud bod ganddynt fynediad at yr holl wasanaethau hyn. Er enghraifft, mae 76% o bobl mewn ardaloedd gwledig yn dweud bod ganddynt gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus o gymharu â 94% o bobl mewn ardaloedd trefol. Mae 7% o bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn dweud nad oes ganddynt unrhyw un o'r cyfleusterau na'r gwasanaethau hyn.

Nid yw cyfran y bobl sydd â mynediad at y rhan fwyaf o wasanaethau wedi newid ers i'r cwestiwn hwn gael ei ofyn ddiwethaf yn 2018-19, ac eithrio sinemâu (a ddisgynnodd o 22% yn 2018-19 i 17% yn 2021) a chlybiau ieuenctid (i lawr o 26% i 18%). Mae’n bosibl mai’r rheswm am y gostyngiadau hyn yw gan bod y lleoedd hyn wedi cau yn barhaol dros y pandemig.

Newid yn yr hinsawdd: ymddygiad amgylcheddol

82%

o bobl yn dweud eu bod yn ymgymryd ag o leiaf un o chwe ymddygiad sy'n dda i'r amgylchedd

Gofynnwyd i bobl am chwe math o ymddygiad amgylcheddol, ac a ydynt yn gwneud y pethau hyn fel rhan o'u bywyd bob dydd (Siart 2). Yna gofynnwyd iddynt pam eu bod yn gwneud y pethau hyn.

Image
Siart far yn dangos canran y bobl sy’n dilyn ymddygiadau amgylcheddol: lleihau’r defnydd o ynni yn y cartref, prynu llai o bethau newydd sbon, osgoi neu leihau teithiau yn y car, osgoi neu fwyta llai o gig, osgoi neu leihau teithiau ar awyren, ac osgoi neu fwyta llai o gynnyrch llaeth.

Roedd 26% o'r bobl a oedd yn ymgymryd ag o leiaf un o'r chwe ymddygiad amgylcheddol hyn yn dweud mai newid yn yr hinsawdd oedd y prif reswm dros wneud hynny. Roedd pobl â chymwysterau ar lefel gradd neu uwch (36%) yn fwy tebygol o nodi newid yn yr hinsawdd fel y rheswm dros yr ymddygiad, na'r rhai heb unrhyw gymwysterau (13%).

Nid ‘cyfyngu ar effeithiau newid yn yr hinsawdd’ oedd y rheswm mwyaf cyffredin dros wneud unrhyw un o'r gweithgareddau hyn.  Fodd bynnag, rhoddwyd y rheswm hwn gan gyfran sylweddol o bobl a oedd yn: hedfan llai, lleihau'r defnydd o ynni gartref, neu fwyta llai o gig. Dywedodd 29% o bobl sy'n gwneud llai o deithiau mewn awyrennau mai cyfyngu ar effeithiau newid yn yr hinsawdd oedd eu prif reswm dros wneud hynny. Roedd 25% o'r rhai sy'n defnyddio llai o ynni a 22% sy'n bwyta llai o gig hefyd yn nodi mai’r prif reswm dros wneud hynny oedd y newid yn yr hinsawdd. Mae'n werth nodi bod 62% o bobl sy'n dweud eu bod wedi lleihau'r defnydd o ynni yn y cartref wedi gwneud hynny oherwydd y gost. (Gofynnwyd y cwestiynau hyn cyn y cynnydd diweddar mewn prisiau ynni).

Trwsio ac ailddefnyddio

Mae 92% o bobl naill ai wedi gwerthu neu roi eitemau yn ystod y 12 mis blaenorol. Mae menywod (94%) yn fwy tebygol o wneud hyn na dynion (89%). Mae'r rhan fwyaf o ddulliau gwerthu neu roi eitemau wedi gweld cynnydd yn eu defnydd ers i'r cwestiynau gael eu gofyn ddiwethaf yn 2018-19, ac eithrio gwerthiannau cist car (gostyngiad o 7% i 5%).

Mae 67% o bobl naill ai wedi derbyn neu brynu eitemau ail-law yn ystod y 12 mis diwethaf, mae hyn yn gynnydd o 57% yn 2018-19. O'r grŵp hwn, mae pobl o dan 45 oed yn fwy tebygol o ddod o hyd i eitemau o wefannau fel eBay neu gan deulu a ffrindiau na phobl mewn grwpiau oedran hŷn. Pobl 65 oed a throsodd yw'r grŵp sydd fwyaf tebygol o ddod o hyd i eitemau ail-law o siopau elusen. (Tabl 1).

Tabl 1: Pobl sy’n derbyn eitemau ail-law neu wedi’u defnyddio, fesul ffynhonnell a grŵp oedran
  Grŵp oedran
Ffynhonnell eitemau ail-law 16 i 44 45 i 64 65+
Wedi prynu nwyddau neu eitemau ail law o siopau elusen 49% 62% 75%
Wedi prynu eitemau ail law drwy arwerthiant cist car  7% 9% 8%
Wedi prynu eitemau ail law drwy wefannau fel eBay neu Gumtree 70% 59% 24%
Wedi defnyddio Freecycle, Freegle, Furniture Reuse Network ac ati i roi eitemau ail law i bobl 5% 8% 4%
Wedi prynu neu dderbyn nwyddau neu eitemau ail law oddi wrth ffrindiau / teulu / cymdogion 54% 49% 36%
Wedi prynu neu dderbyn eitemau ail law mewn ffordd arall 11% 13% 7%

Nodyn: Dim ond pobl sydd wedi derbyn eitemau ail-law a gynrychiolir yn y tabl. Mae’n bosibl eu bod wedi dod o hyd i fwy nag un eitem ac mewn mwy nag un lle, felly mae'r cyfansymiau'n fwy na 100%.

Ffynhonnell: Treial ar-lein Arolwg Cenedlaethol Cymru 2021-22

Mae 40% o bobl wedi trwsio eitem o'r cartref yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae 43% o bobl wedi trwsio neu newid dillad dros yr un cyfnod. O'r rhai sydd wedi trwsio eitemau cartref, mae 59% yn dweud eu bod hefyd yn ceisio lleihau nifer yr eitemau newydd sbon y maent yn eu prynu. Roedd patrwm tebyg ar gyfer addasu dillad, lle mae 62% o bobl sydd wedi trwsio neu newid dillad hefyd yn ceisio prynu llai o eitemau newydd.

Gwirfoddoli

29%

o bobl yn gwirfoddoli gyda chlybiau neu sefydliadau

Cynyddodd cyfran y bobl sy'n gwirfoddoli i 29%, o 26% yn 2019-20. Mae canlyniadau'r arolwg ar-lein yn dangos bod 32% o ddynion yn gwirfoddoli, o'i gymharu â 25% o fenywod, mae hyn yn wahanol i 2019-20, pan nad oedd unrhyw wahaniaeth mewn cyfraddau gwirfoddoli rhwng dynion a menywod. Unwaith eto, dylid ystyried unrhyw gymariaethau yng ngoleuni'r pandemig, a'r newid yn y dull o gwblhau ar-lein.

Image
Siart far yn dangos canran y bobl a wirfoddolodd a pha fath o wirfoddoli a wnaed: sefydliadau elusennol, clybiau chwaraeon, grwpiau crefyddol, ysgolion neu grwpiau pobl ifanc, grwpiau celf, grwpiau amgylcheddol, grwpiau tenantiaid/preswylwyr neu grwpiau gwarchod cymdogaeth, grwpiau pensiynwyr, a chlybiau neu sefydliadau eraill.

Mae pobl sy'n teimlo ymdeimlad cryf o gymuned yn eu hardal leol yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwirfoddoli (32%) na phobl nad ydynt yn teimlo'r ymdeimlad hwnnw o gymuned (gyda 23% yn gwirfoddoli).

Mae 31% o bobl sy'n nodi bod eu hiechyd cyffredinol yn dda neu’n dda iawn yn gwirfoddoli, o'i gymharu â 13% sy'n dweud bod ganddynt iechyd gwael neu wael iawn. Mae'r berthynas rhwng iechyd cyffredinol a gwirfoddoli yn gymhleth: er enghraifft, gall iechyd gwael fod yn rhwystr rhag gallu gwirfoddoli, ond gallai gwirfoddoli hefyd fod o fudd i iechyd y bobl sy'n gwneud hynny.

Lles meddyliol (WEMWBS)

Gofynnwyd i bobl am eu lles meddyliol. Caiff y canlyniadau eu sgorio gan ddefnyddio Graddfa Llesiant Meddwl Warwick Edinburgh (WEMWBS), sef graddfa o 14 cwestiwn hunan-asesu gyda sgoriau yn amrywio o 14 i 70. Mae sgôr uwch (58 i 70) yn awgrymu lles meddyliol uchel, tra bod sgorio 44 neu is yn awgrymu bod ganddynt les meddyliol isel. Mae sgorio rhwng 45 a 57 yn awgrymu bod gan y person les meddyliol canolig.

Yn gyffredinol, y sgôr WEMWBS yw 49. Mae hyn yn is nag yn 2018-19, pan mai 51 oedd y sgôr gyfartalog. Gellir egluro'r gostyngiad hwn drwy effeithiau'r pandemig ond dylid hefyd ystyried y newid yn y dull wrth gymharu'r canlyniadau. Mae gan 30% o bobl lesiant isel, mae gan 54% lesiant canolig, ac mae gan 16% lesiant uchel.

Image
Siart yn dangos sgôr cymedrig WEMWBS, wedi’u trefnu yn ôl iechyd cyffredinol a adroddwyd gan y bobl eu hunain. Wedi’u plotio ar gyfer 2018-19 a 2020-21.

Ar gyfartaledd, mae gan bobl iau sgoriau is: mae gan bobl rhwng 25 a 44 oed sgôr o 47, o'i gymharu â sgôr o 52 ar gyfer pobl dros 75 oed. Mae gan bobl sy'n disgrifio eu hiechyd cyffredinol fel gwael neu wael iawn sgôr o 39, sgôr is nag ar gyfer pobl â gwell iechyd cyffredinol. Mae'r cysylltiad rhwng oedran ac iechyd yn dangos yr un duedd ag yn 2018-19, ond gyda sgoriau cyfartalog is ym mhob categori (Siart 4).

Mae gan bobl sy'n dweud eu bod yn unig hefyd les meddyliol is ar gyfartaledd (39) na'r rhai sydd weithiau'n unig (53) neu byth yn unig (49).

Cosbi plant yn gorfforol

Daeth cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru ar 21 Mawrth 2022. Casglwyd y canlyniadau a gyflwynwyd yma o fis Gorffennaf 2021 i fis Ionawr 2022, cyn i'r gyfraith hon ddod i rym.

Gofynnwyd i rieni a rhai nad oeddent yn rhieni am eu barn ar smacio plant ac a oeddent yn cytuno neu'n anghytuno ei fod weithiau'n angenrheidiol (Siart 5).

Image
Siart yn dangos faint sy’n cytuno gyda’r datganiad “Rwy’n teimlo bod weithiau angen smacio plentyn”. Wedi’u plotio ar gyfer 2019-20 a 2021-22.

Bu newid mewn agweddau ers i'r cwestiwn hwn gael ei ofyn yn 2019-20. Yn 2019-20 dywedodd 35% o bobl bod weithiau angen smacio plentyn, o'i gymharu â 25% nawr. Mae'r gyfran sy'n anghytuno'n gryf bod weithiau angen smacio plant wedi codi i 40% (o 30% yn 2019-20).

Dywed 32% o ddynion a 20% o fenywod fod weithiau angen smacio plentyn. Mae 84% o bobl 16 i 24 oed yn dweud nad oes angen smacio plant byth o'i gymharu â 42% o bobl 75 oed a throsodd.

Gofynnwyd i rieni a rhai nad ydynt yn rhieni sy'n credu y gallai fod weithiau angen smacio plentyn, o dan ba amodau y byddent yn ei hystyried yn briodol i riant smacio plentyn (Siart 6).

Image
Siart far wedi’i stacio yn dangos pa mor barod yw pobl i smacio plentyn mewn pedair sefyllfa: i stopio plentyn rhag niweidio ei hun; i stopio plentyn rhag niweidio eraill; i stopio ymddygiad gwyllt; fel cosb am gamymddwyn.

Mae 29% o bobl sydd bellach yn credu nad oes byth angen smacio plentyn yn dweud eu bod wedi newid eu meddyliau dros y blynyddoedd ac yn flaenorol yn credu y gallai fod yn briodol mewn rhai sefyllfaoedd.

Gamblo

61%

o bobl 18 oed a throsodd yn dweud eu bod yn cymryd rhan mewn rhyw fath o gamblo

Gofynnwyd i bobl 18+ oed a oeddent yn gamblo ai peidio ac, os oeddent, pa fathau o weithgarwch yr oeddent yn gwario arian arno. Loterïau a chardiau crafu yw'r math mwyaf cyffredin o gamblo a gofnodwyd: mae 56% o bobl yn dweud eu bod wedi prynu'r rhain yn ystod y 12 mis diwethaf; nid oedd y ffigurau'n amrywio yn ôl rhyw. Fodd bynnag, mae mwy o ddynion (14%) na menywod (5%) yn dweud eu bod yn betio ar-lein neu'n chwarae gemau ar-lein am arian.

Mae pobl sy'n adrodd am les meddyliol uchel yn llai tebygol o ddweud eu bod yn gamblo na'r rhai sydd â lles meddyliol canolig neu isel. Mae 52% o bobl â sgôr WEMWBS uchel yn dweud eu bod yn gamblo o gymharu â 64% o'r rhai â sgôr isel neu ganolig. Dywedodd 59% o bobl â chredoau crefyddol eu bod wedi cymryd rhan mewn rhyw fath o gamblo o gymharu â 64% o bobl heb unrhyw grefydd benodol.

Gofynnwyd hefyd i bobl a gymerodd ran mewn gweithgareddau gamblo pa mor aml yr oeddent yn gamblo (Siart 7). Mae 64% o bobl sy'n gamblo yn dweud eu bod yn gwneud hynny'n amlach nag unwaith y mis. Mae dynion yn fwy tebygol na menywod o ddweud eu bod yn gamblo o leiaf unwaith yr wythnos.

Image
Siart far yn dangos pa mor aml y mae pobl yn gamblo, wedi’i rhannu yn ôl rhyw.

Mae 95% o bobl yn dweud nad ydynt byth yn betio mwy nag y gallant fforddio ei golli, ac mae'r un gyfran yn dweud nad ydynt byth yn mynd yn ôl i geisio ennill yr arian y maent wedi'i golli. Mae 99% o bobl yn dweud nad ydyn nhw'n teimlo: bod ganddynt broblem gyda gamblo; bod gamblo yn achosi unrhyw broblemau iechyd; neu fod gamblo yn achosi problemau ariannol.

Dinasyddiaeth fyd-eang

11%

wedi gwneud tri neu fwy o'r canlynol er mwyn helpu gyda materion byd-eang: rhoi neu godi arian, ymgyrchu, gwirfoddoli, neu newid yr hyn y maent yn ei brynu.

Gofynnodd yr Arolwg Cenedlaethol, am y tro cyntaf, i bobl pa weithgareddau yr oeddent wedi'u gwneud i helpu gyda materion rhyngwladol fel tlodi, hawliau dynol, rhyfel, ffoaduriaid, neu newid yn yr hinsawdd (gofynnwyd y cwestiynau hyn cyn y rhyfel yn Wcráin).

Mae 31% o bobl yn dweud eu bod wedi rhoi arian yn y tri mis blaenorol i helpu gyda materion byd-eang. Y materion mwyaf cyffredin y mae pobl yn rhoi arian ar eu cyfer yw tlodi rhyngwladol (21%) ac i gefnogi ffoaduriaid (15%). Dywed 36% o fenywod eu bod yn rhoi arian, o'i gymharu â 26% o ddynion.

Mae 17% o bobl yn dweud eu bod wedi ymgyrchu dros faterion rhyngwladol yn ystod y 12 mis diwethaf i helpu gyda materion byd-eang ac mae 5% yn dweud eu bod wedi gwirfoddoli. Mae 11% o bobl yn ymgyrchu dros faterion hawliau dynol a 10% yn erbyn newid yn yr hinsawdd, tra bod 2% yn gwirfoddoli i atal tlodi a 2% i helpu ffoaduriaid.

Mae 54% yn dweud eu bod wedi newid yr hyn y maent yn ei brynu oherwydd materion byd-eang. Mae pobl o dan 75 oed yn fwy tebygol o fod wedi newid yr hyn y maent yn ei brynu (57%) na'r rhai 75 oed a throsodd (34%). Pobl rhwng 25 a 44 oed oedd y grŵp a oedd fwyaf tebygol o fod wedi gwneud newidiadau i'r hyn y maent yn ei brynu (63%).

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn arolwg ffôn sampl ar hap parhaus, ar raddfa fawr, sy'n cynnwys pobl ledled Cymru. Dewisir cyfeiriadau ar hap, ac anfonir gwahoddiadau drwy'r post, yn gofyn am ddarparu rhif ffôn ar gyfer y cyfeiriad. Gellir darparu'r rhif ffôn drwy borth ar-lein, llinell ymholiadau ffôn, neu'n uniongyrchol i rif ffôn symudol y cyfwelydd ar gyfer yr achos hwnnw. Os na ddarperir rhif ffôn, gall cyfwelydd alw yn y cyfeiriad a gofyn am rif ffôn. 

Er bod y dull galwadau ffôn wedi bod yn llwyddiannus, nid oedd yn bosibl gofyn am sawl modiwl dros y ffôn gan nad oeddent yn ddelfrydol ar gyfer y dull casglu hwn. Er enghraifft, mae rhai cwestiynau sensitif yn cael eu hateb yn well yn breifat (mae hyn hefyd yn lleihau rhagfarn dymunoldeb cymdeithasol) tra bod cwestiynau eraill yn cael eu heithrio am eu bod yn rhy hir i'w darllen dros y ffôn.

Cynhaliwyd y treial ar-lein rhwng mis Gorffennaf 2021 a mis Ionawr 2022 ac roedd yn sampl ar hap o bobl a oedd wedi cwblhau'r arolwg ffôn, wedi'i haenu gan yr awdurdod lleol. Llwyddwyd i gynnal 1,965 o gyfweliadau ar-lein: 89% o'r holl bobl y gofynnwyd iddynt gwblhau'r adran ar-lein. (Cwblhaodd 20% o'r rhain yr adran ar-lein dros y ffôn gyda chyfwelydd.)

Mae siartiau manwl a thablau canlyniadau ar gael yn ein dangosydd canlyniadau rhyngweithiol.  I gael gwybodaeth ynglŷn â chasglu’r data a’r fethodoleg, gweler yr adroddiad ansawdd a thechnegol.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy'n dangos cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau .

Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo'r safonau'n cael eu hadfer.

Cadarnhawyd y byddai'r ystadegau hyn yn parhau i gael eu dynodi fel Ystadegau Gwladol ym mis Gorffennaf 2020 yn dilyn asesiad cydymffurfio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (llythyr cadarnhad). Y tro diwethaf i'r ystadegau hyn gael eu hasesu’n llawn (adroddiad llawn) yn erbyn y Cod Ymarfer oedd yn 2013.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau drwy, er enghraifft:

  • darparu dadansoddiadau manylach yn y dangosydd canlyniadau
  • diweddaru pynciau'r arolwg yn flynyddol i sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu anghenion polisi sy'n newid
  • parhau i wneud dadansoddiad atchweliad yn rhan safonol o'n hallbynnau, i helpu defnyddwyr i ddeall yn well gyfraniad ffactorau penodol at ganlyniadau o ddiddordeb

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021. yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016. Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn casglu gwybodaeth ar gyfer 15 o'r dangosydd cenedlaethol.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol, a gallai byrddau gwasanaeth cyhoeddus eu defnyddio yn eu hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Scott Armstrong
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: arolygon@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SB 11/2022