Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

  1. Bydd Cyfraddau Treth Incwm Cymru (CTIC) yn cael eu gosod, bob blwyddyn, drwy benderfyniad a gaiff ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad) ar sail cynnig a wneir gan Weinidogion Cymru. Nid yw CTIC yn dreth ddatganoledig. Mae'n rhan o system treth incwm y DU a chaiff ei gweinyddu ochr yn ochr â gweddill y system treth incwm gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM).
  2. Gan fod agweddau penodol ar y systemau treth a budd-daliadau presennol yn rhyng-ddibynnol, bydd effaith ganlyniadol ar yr Adran Gwaith a Phensiynau yn sgil cyflwyno CTIC. Felly, mae'n rhaid i'r Adran Gwaith a Phensiynau sicrhau bod ei systemau a'i phrosesau'n barod i gydnabod CTIC pan gânt eu cyflwyno o fis Ebrill 2019.
  3. Mae Adran116J o Ddeddf Cymru 2014, 'Reimbursement of expenses', yn nodi “The Welsh Ministers may reimburse any Minister of the Crown or government department for administrative expenses incurred by virtue of this Chapter at any time after the passing of the Wales Act 2014 by the Minister or department.”
  4. Mae'r Atodiad hwn yn nodi'r trefniadau i Lywodraeth Cymru dalu costau'r newidiadau y mae angen eu gwneud i systemau gweinyddol a TG yr Adran Gwaith a Phensiynau yn sgil cyflwyno CTIC. Mae Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth arall yn ymdrin â'r trefniadau sydd ar waith rhwng Llywodraeth Cymru a CThEM i sefydlu a gweinyddu CTIC.

Cyfraddau Treth Incwm Cymru

  1. Mae Deddf Cymru 2014 ("Deddf 2014") yn rhoi'r pŵer i'r Cynulliad osod cyfradd sylfaenol, uwch ac ychwanegol treth incwm Cymru i'w chodi ar drethdalwyr Cymreig (fel y'u diffiniwyd yn adran 116E o Ddeddf 2014). Bydd CTIC yn dechrau o fis Ebrill 2019, y dyddiad a bennwyd gan Lywodraeth y DU. Cânt eu gweinyddu gan CThEM fel rhan o system treth incwm y DU gyfan a'u cymhwyso at incwm nad yw'n gynilion. Bydd y Cynulliad yn gallu gosod cyfraddau Cymru o sero i unrhyw nifer o geiniogau neu hanner ceiniogau yn y bunt. Bydd y cyfraddau hyn yn cael eu hychwanegu at bob un o brif fandiau cyfraddau'r DU ar ôl i ddeg ceiniog yn y bunt gael eu didynnu o bob cyfradd.

Diben yr Atodiad hwn

  1. Mae'r Atodiad hwn yn nodi'r trefniadau y mae Llywodraeth Cymru a'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cytuno arnynt er mwyn sicrhau bod budd-daliadau trethadwy a weinyddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a systemau TG cysylltiedig yn cydnabod ac yn rhyngweithio â CTIC er mwyn bod trethdalwyr yng Nghymru sy'n cael budd-daliadau yn parhau i dderbyn y swm cywir o fudd-daliadau a bod gwybodaeth gywir am drethi yn cael ei chofnodi at ddibenion CThEM. Mae'n nodi priod gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru a'r Adran Gwaith a Phensiynau mewn perthynas â'r agweddau hyn ar weithredu CTIC ac yn gosod fframwaith ar gyfer gwaith rhynglywodraethol ar y mater hwn. Nid oes ganddo rym cyfreithiol, ond mae'r ddwy Lywodraeth yn disgwyl iddo gael ei ddilyn.
  2. Mae'r trefniadau hyn yn adlewyrchu'r canlynol:
    • Y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a'r Cytundebau Atodol rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Gweinidogion Cymru, Gweinidogion yr Alban a Phwyllgor Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon
    • Nodiadau Canllaw Swyddfa'r Cabinet ar Ddatganoli
    • datganiad polisi cyllido Trysorlys EM, “Funding the Scottish Parliament, National Assembly for Wales and Northern Ireland Assembly”.

Dyddiad ac amseriad

  1. Daw'r Atodiad hwn a'r trefniadau a ddisgrifir ynddo i rym pan fo'r parti olaf yn dangos ei fod yn derbyn y trefniadau hynny drwy gyfnewid llythyrau. Nid oes i'r ddogfen hon ddyddiad dod i ben, ond bydd yn peidio â bod yn weithredol os diddymir CTIC. Gall y trefniadau gael eu dirwyn i ben drwy gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a'r Adran Gwaith a Phensiynau a chânt eu hadolygu ar gais y naill barti neu'r llall.

Uwch swyddogion cyfrifol ac adroddiadau Seneddol

  1. Ysgrifennydd Parhaol yr Adran Gwaith a Phensiynau yw'r Swyddog Cyfrifyddu sy'n bennaf cyfrifol am sicrhau bod y systemau TG a gweinyddol cywir ar waith er mwyn helpu i gyflwyno CTIC ar amser. Gall Pwyllgorau'r Cynulliad wneud cais i'r Adran Gwaith a Phensiynau drefnu bod uwch swyddog yn rhoi tystiolaeth a bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ystyried y ceisiadau hyn yn unol â chanllawiau Swyddfa'r Cabinet ar bresenoldeb swyddogion mewn Pwyllgorau o'r fath. Yr uwch swyddogion sy'n gyfrifol am y materion sydd wedi'u cynnwys yn yr Atodiad hwn yw Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru ar ran Llywodraeth Cymru a Tracy Leck, Dirprwy Gyfarwyddwr DWP Digital ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Rolau a chyfrifoldebau'r Adran Gwaith a Phensiynau a Llywodraeth Cymru

  1. Bydd trefniadau llywodraethu priodol ar waith gan yr Adran Gwaith a Phensiynau o hyd er mwyn sicrhau bod ei systemau TG, canllawiau staff perthnasol, ffurflenni a llythyrau cwsmeriaid yn cydymffurfio â darpariaethau CTIC yn Neddf 2014. Bydd y broses hon yn sicrhau ansawdd, yn adolygu cynnydd yn erbyn cerrig milltir ac yn sicrhau gwerth am arian mewn ffordd rynglywodraethol.
  2. Caiff Llywodraeth Cymru ei chynrychioli o fewn trefniadau llywodraethu mewnol yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer gweithredu CTIC a gall hefyd wneud cais i'r Adran Gwaith a Phensiynau gomisiynu adolygiad sicrwydd allanol ar draul Llywodraeth Cymru.  
  3. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gwneud y newidiadau angenrheidiol i lwyfannau TG sy'n rhyngwynebu â systemau treth y DU er mwyn eu galluogi i gydnabod y cod treth newydd yng Nghymru, sef "C". Ar yr un pryd a lle bo hynny'n briodol, caiff canllawiau staff a ffurflenni a llythyrau cwsmeriaid eu diwygio'n unol â hynny.
  4. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn datblygu ac yn profi'r system TG a'r system sydd ar waith i weinyddu CTIC gan ymgynghori â CThEM a Llywodraeth Cymru.
  5. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn anfonebu Llywodraeth Cymru am eitemau o wariant y cytunir arnynt, fel y nodir ym mharagraff 26 isod.
  6. Bydd Llywodraeth Cymru yn talu i'r Adran Gwaith a Phensiynau y symiau yr anfonebir yn eu cylch ar gyfer yr eitemau o wariant y cytunir arnynt, fel y nodir ym mharagraff 27 isod.
  7. Ni fydd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau unrhyw rôl i'w chwarae o ran pennu atebolrwydd unigolyn i dalu treth na rhoi cyhoeddusrwydd i CTIC heblaw am sicrhau, lle bo hynny'n briodol, bod deunydd cyfathrebu â chwsmeriaid yn nodi cyfradd Cymru.

Effaith gweithredu CTIC ar systemau TG a gweinyddol yr Adran Gwaith a Phensiynau

  1. Yr Adran Gwaith a Phensiynau fydd yn gyfrifol o hyd am sicrhau bod y systemau TG a gweinyddol cywir ar waith er mwyn helpu i gyflwyno CTIC ar amser.
  2. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn hysbysu Llywodraeth Cymru am gynlluniau, amserlenni, costau amcangyfrifedig, risgiau a chynnydd ac yn ymgynghori â hi yn eu cylch. Pan fo opsiynau ar gyfer datblygu a diwygio systemau o'r fath, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn trafod y rhain, ynghyd â chost, risg, effeithlonrwydd, effeithiolrwydd neu ffactorau sy'n effeithio ar gwsmeriaid, â Llywodraeth Cymru cyn i opsiwn gael ei ddewis.
  3. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn uwchraddio ac yn profi holl feysydd busnes yr Adran Gwaith a Phensiynau y bydd CTIC yn effeithio arnynt. Bydd yn gwneud hyn drwy gyflenwyr TG a gontractiwyd ac yn unol â'i hymarfer datblygu TG arferol.
  4. Bydd Llywodraeth Cymru yn cael ei hysbysu am gostau newid tryloyw pob rhan o'r system TG, yn amodol ar unrhyw reolau ynglŷn â chyfrinachedd yng nghontractau'r Adran Gwaith a Phensiynau.
  5. Bydd Llywodraeth Cymru yn cael cyfle i adolygu cynlluniau ar gyfer profion TG a chanlyniadau'r profion hynny.
  6. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn datblygu systemau nad ydynt yn rhai TG ar gyfer holl feysydd busnes yr Adran Gwaith a Phensiynau y bydd CTIC yn effeithio arnynt. Bydd yn gwneud hyn yn unol â'i hymarfer arferol
  7. Caiff dadansoddiad o'r costau a'r gweithgareddau disgwyliedig ar gyfer newidiadau i'r system TG a systemau nad ydynt yn rhai TG ei rannu â Llywodraeth Cymru cyn yr eir i gostau o'r fath.
  8. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau a Llywodraeth Cymru yn craffu ar gostau sy'n gysylltiedig â'r system TG a systemau nad ydynt yn rhai TG er mwyn sicrhau gwerth am arian. Os bydd gan Lywodraeth Cymru unrhyw bryderon am gost eitem benodol na ellir eu datrys drwy gyd-drafod, gall Llywodraeth Cymru – neu'r Adran Gwaith a Phensiynau ar ran Llywodraeth Cymru – ofyn am asesiad annibynnol o'r costau amcangyfrifedig dan sylw. Bydd Llywodraeth Cymru yn talu'r holl gostau sy'n gysylltiedig â'r asesiad annibynnol. Caiff unrhyw gontractau neu gostau a gaiff eu cadarnhau ar ôl i'r Atodiad hwn ddod i rym yn cael eu trafod a'u cytuno ymlaen llaw â Llywodraeth Cymru.

Gweithrediadau parhaus

  1. Ar ôl i newidiadau TG gael eu gwneud er mwyn cyflwyno CTIC, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnal ei systemau TG a gweinyddol fel y bydd CTIC yn parhau i weithredu'n effeithiol o ran gweinyddu budd-daliadau.

Arian

  1. Pan fo'r Adran Gwaith a Phensiynau yn codi tâl am ei gwasanaethau, mae'n gwneud hynny (yn unol â pholisi Trysorlys EM) ar gost economaidd lawn darparu'r gwasanaeth, gan geisio nodi'n glir sut y'i cyfrifwyd. Mae'r gost economaidd lawn yn seiliedig ar y costau cyflog cyfartalog ar gyfer y radd berthnasol yn ogystal â gorbenion fesul pen, fel blwydd-daliadau. Pan fo trydydd partïon yn mynd i gostau o dan gontract, gan gynnwys cyflenwr TG yr Adran Gwaith a Phensiynau, codir am y rhain ar sail cost.
  2. Bydd Llywodraeth Cymru yn talu costau y mae'n fodlon yr aethpwyd iddynt yn gyfan gwbl ac yn angenrheidiol o ganlyniad i gyflwyno CTIC.
  3. Unwaith y caiff newidiadau eu gwneud i systemau TG yr Adran Gwaith a Phensiynau er mwyn cydnabod CTIC fel y'u cyflwynwyd yn Neddf Cymru 2014 fel y'i diwygiwyd, ni fydd unrhyw wariant blynyddol ychwanegol er mwyn cynnal y newidiadau hyn.
  4. Bydd Llywodraeth Cymru a'r Adran Gwaith a Phensiynau yn talu'r costau fel y nodir isod:

    Costau a delir gan Lywodraeth Cymru – bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn anfonebu a bydd Llywodraeth Cymru yn talu am y canlynol:

    • Costau cyfalaf a chostau eraill sy'n gysylltiedig â gwneud newidiadau TG i systemau'r Adran Gwaith a Phensiynau a chostau atodol (h.y. nad ydynt yn ymwneud â TG) sy'n ymwneud â chanllawiau staff a ffurflenni a llythyrau cwsmeriaid sy'n ofynnol o ganlyniad i gyflwyno CTIC.
    • Os bydd cyflenwyr yn cymryd mwy o amser ac yn defnyddio mwy o ddeunyddiau na'r amcangyfrifon y cytunwyd arnynt, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn trafod â Llywodraeth Cymru gan ddisgwyl y bydd Llywodraeth Cymru yn talu'r costau hyn os aethpwyd i'r costau ychwanegol hyn yn gyfan gwbl ac yn angenrheidiol o ganlyniad i gyflwyno CTIC ac nid yn sgil gwall ar ran y cyflenwyr.

    Costau a ddygir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau – ni fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn codi tâl am y canlynol:

    • Cost newidiadau i systemau TG yr Adran Gwaith a Phensiynau lle nad oes angen gwneud darpariaeth benodol ar gyfer CTIC
    • Materion yn ymwneud â chyflenwyr sy'n dod o dan warantiadau contract yr Adran Gwaith a Phensiynau
    • Cost newidiadau i'r systemau TG pan na ellir yn rhesymol gostio'r agweddau sy'n ymwneud â CTIC ar wahân.

Anfonebu

  1. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn anfonebu Llywodraeth Cymru am gostau mewn ôl-daliadau chwarterol. Bydd Llywodraeth Cymru yn talu'r Adran Gwaith a Phensiynau o fewn 30 diwrnod i ddyddiad yr anfoneb, neu o fewn 30 diwrnod i dderbyn yr anfoneb os bydd oedi o fwy na 5 diwrnod rhwng dyddiad yr anfoneb a'r dyddiad y daw i law.
  2. Gall yr Adran Gwaith a Phensiynau a Llywodraeth Cymru gytuno ar drefniadau eraill ar gyfer taliadau Chwarter 4 er mwyn sicrhau bod y taliadau'n cael eu gwneud yn ystod y flwyddyn ariannol briodol.

Datrys anghydfod

  1. Yn y lle cyntaf, dylid uwchgyfeirio materion i Fwrdd Rhaglen Cymru ac os na chânt eu datrys, dylid eu huwchgyfeirio i Gyd-bwyllgor y Trysorlysoedd.

Rhannu gwybodaeth

  1. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn rhoi gwybodaeth i Lywodraeth Cymru a fydd yn galluogi Gweinidogion Cymru a swyddogion i gyflawni eu dyletswyddau mewn perthynas ag atebolrwydd y Cynulliad.

Cyfyngiadau

  1. Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn gweithredu yn unol â chyfyngiadau cyfreithiol cyfrinachedd cwsmeriaid, Deddf Diogelu Data 1998 a'i deddfwriaeth olynol, a Deddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992.