Daeth yr ymgynghoriad i ben 23 Ionawr 2012.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 262 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am glywed eich barn chi am y modd y bydd ymgymerwyr systemau dŵr a charthffosydd yn mabwysiadu carthffosydd a draeniau ochrol newydd sy'n cysylltu â'r rhwydwaith carthffosydd cyhoeddus.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Wedi i Reoliadau’r Diwydiant dŵr (Cynlluniau ar gyfer Mabwysiadu Carthffosydd Preifat) 2011 ddod i rym ar 1 Gorffennaf 2011 daeth yr ymgymerwyr dŵr a charthffosydd yn gyfrifol am y carthffosydd a draeniau ochrol preifat sy’n bodoli eisoes yng Nghymru a Lloegr ar 1 Hydref 2011. Bellach rydym yn awyddus i gyflwyno proses fabwysiadu orfodol a ategir gan safonau adeiladu gorfodol ar gyfer yr holl garthffosydd a draeniau ochrol newydd a adeiladir.
Byddwn yn cydweithio’n agos ag Adran yr Amgylchedd Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) i sicrhau bod safonau adeiladu Cymru yn gyson â’r rhai Lloegr rhag peri dryswch i ddatblygwyr a’r diwydiant dŵr yn y ddwy wlad.
Byddem yn croesawu eich barn am:
- Symud o’r drefn bresennol i drefniadau mabwysiadu newydd;
- Safonau adeiladu gorfodol ar gyfer carthffosydd a draeniau ochrol newydd;
- Rheoliadau drafft i sicrhau bod y broses fabwysiadu’n cael ei chwblhau; ac
- Asesiad Effaith ar gyfer y Safonau Adeiladu Gorfodol.