Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Amcan y gofynion hyn yw gwarchod cynefinoedd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol a diogelu anifeiliaid a phlanhigion gwyllt.

Y prif ofynion

Pob tir:

  • Peidiwch â phigo, casglu, torri, dadwreiddio na difetha’n fwriadol unrhyw blanhigion gwyllt sydd ar y rhestr ‘Rhywogaethau sy’n cael eu gwarchod gan Ewrop’ na’r rhestr ‘Rhywogaethau sy’n cael eu gwarchod yn genedlaethol’ e.e. clychau’r gog. (Mae’r planhigion ar y rhestr Ewropeaidd yn cael eu rhestru yn Atodlen 5 Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 ac mae’r rhywogaethau ar y rhestr genedlaethol (DU)  yn cael eu rhestru yn Atodlen 8 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981).
  • Peidiwch â lladd, anafu nac aflonyddu ar unrhyw anifeiliaid gwyllt sydd ar y rhestr ‘Rhywogaethau sy’n cael eu gwarchod gan Ewrop’ na’r rhestr ‘Rhywogaethau sy’n cael eu gwarchod yn genedlaethol’ na difrodi, difetha na chau eu llochesi (Mae’r anifeiliaid ar y rhestr Ewropeaidd yn cael eu rhestru yn Atodlen 2 Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 ac mae’r rhywogaethau ar y rhestr genedlaethol yn cael eu rhestru yn Atodlen 5 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981).

Tir mewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) neu ddarpar SoDdGA ac Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA):

  • Rhaid rhoi gwybod i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ymlaen llawn trwy lythyr am unrhyw gynnig i gynnal, peri neu ganiatáu gweithred benodedig sy’n debygol o niweidio’r budd gwyddonol mewn SoDdGA/ACA.
  • Rhaid cael caniatâd ysgrifenedig gan CNC cyn dechrau unrhyw weithred benodedig ar SoDdGA/ACA sydd wedi’i rhestru fel gweithred allai niweidio’r diddordeb arbennig. Er enghraifft: torri neu docio tyfiant, lladd gwair, llosgi, draenio, aredig neu drin y tir (e.e. llyfnu), gwasgaru gwrtaith neu galch, chwistrellu (gan gynnwys sbot-chwynnu), cwympo coed, codi pren marw a newid patrymau stocio a bwydo stoc. Os ceir caniatâd, rhaid cynnal pob gweithred yn unol â’r amodau a nodir yn y caniatâd a roddir.
  • Rhaid cydymffurfio ag unrhyw Rybudd neu Gytundeb Rheoli gan CNC sy’n ymwneud â nodweddion arbennig y SoDdGA/ACA.
  • Rhaid cydymffurfio ag amodau unrhyw Orchymyn Adfer gan Lys sy’n ymwneud â nodweddion arbennig y SoDdGA/ACA. 
  • Fel y perchennog, rhaid ichi roi gwybod i CNC os bydd y perchennog, tenant neu’r lês yn newid, hynny o fewn 4 wythnos i’r newid ddigwydd. 

Byddwch yn wedi mynd yn groes i’r SMR hwn:

  • Os bydd unrhyw rai o nodweddion arbennig y safle wedi’i ddifrodi neu ei ddifetha trwy fwriad neu esgeulustod, neu os terfir ar ffawna/fflora a warchodir sy’n nodwedd arbennig (mae’r gofyn hwn yn ymwneud hefyd â gweithgarwch sy’n digwydd y tu allan i’r SoDdGA/ACA ei hun ond sy’n esgor ar yr un canlyniadau).

Archwiliadau maes

  • I ofalu bod y weithred benodedig sy’n cael ei chynnal ar y SoDdGA/ACA yn cael ei chynnal yn unol â chaniatâd ysgrifenedig CNC.
  • I edrych i weld nad yw llochesi na mannau magu anifeiliaid sy’n cael eu gwarchod wedi’u cau, eu difrodi neu eu difetha.
  • I chwilio am arwyddion bod anifeiliaid sy’n cael eu gwarchod wedi’u tarfu, eu lladd neu eu hanafu’n anghyfreithlon.
  • I edrych i weld nad oes neb wedi pigo, casglu, torri, dadwreiddio na difetha’n fwriadol unrhyw blanhigion  sy’n cael eu gwarchod.

Arfer da

  • Cadwch at amodau unrhyw gytundeb amaethamgylcheddol.
  • Cydymffurfiwch â phob hysbysiad rheoli a roddir gan CNC.
  • Mae llawer o ACAoedd wedi’u dynodi hefyd yn SoDdGAoedd ac yn Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA). Rhaid cadw at yr holl amodau sy’n gysylltiedig â’r safleoedd hyn (SMR2).

Gwybodaeth pellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru

neu gweler y daflen Trawsgydymffurfio: cysylltiadau defnyddiol (2022) o fewn y pecyn hwn.