Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Amcan y gofynion hyn yw lleihau’r perygl o ledaenu clefydau moch, trwy reoli symudiadau a’u holrhain yn rhwydd. Rhaid i bawb sy’n cadw moch, hyd yn oed moch anwes, gadw at y gofynion hyn.

Y prif ofynion

Cofrestru

Bydd gofyn ichi gofrestru’ch manylion a’ch safle gyda swyddfa’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) o fewn mis ar ôl prynu’r moch neu ddechrau cadw moch. Dylech roi gwybod am unrhyw newidiadau o fewn mis ar ôl i’r newid ddigwydd, gan gynnwys rhoi gwybod iddyn nhw eich bod wedi rhoi’r gorau i gadw moch.

Tagio

Rhaid tagio’r moch cyn iddyn nhw adael y daliad mewn un o ddwy ffordd:

  • moch hyd at flwydd oed sy’n symud rhwng daliadau rhaid rhoi naill ai tag clust‘UK’cymeradwy neu datŵ (slapfarc ar y glust neu’r ysgwydd) gyda neu heb y llythrennau‘UK’, neu farc paent/slapfarc dros dro fydd o leia’n para hyd y daith. Ni chewch roi marc dros dro i symud mochyn i farchnad, lladd-dy neu sioe neu ei werthu i gymuned arall
  • moch blwydd oed neu fwy sy’n symud i/o farchnad neu ladd-dy – rhaid rhoi tag clust‘UK’cymeradwy neu datŵ (slapfarc ar glust neu ysgwydd) gyda neu heb y llythrennau‘UK’
  • ar foch y bwriedir eu hallforio bydd angen tag clust â’r rhagddodiad ‘UK’, marc y cenfaint, rhif yr anifail a’r ôlddodiad ‘GB’ arno NEU datŵ â’r rhagddodiad ‘UK’, marc y cenfaint, rhif yr anifail a’r ôlddodiad ‘GB’ arno.

Bydd y rheolau adnabod wedi’u torri os:

  • caiff y marciau adnabod ar y mochyn eu newid, eu dileu neu eu cyfnewid heb ganiatâd priodol
  • os caiff cais gan awdurdod i roi marc adnabod newydd erbyn amser penodol ei anwybyddu

Cadw cofnodion

Mae angen cofnodi’r manylion canlynol ar gofnod y fferm:

  • enw a chyfeiriad y person sy’n cadw’r cofnod
  • rhaid cadw cofnodion pob daliad moch yn gyfoes a’u cadw am o leiaf 3 blynedd ar ôl i chi roi’r gorau i gadw moch
  • rhaid cofnodi symudiadau moch i/o’r fferm o fewn 36 awr ar ôl y symudiad. Dylai gynnwys y dyddiad, nifer y moch, o ble ddaeth y moch neu i ble mae’r moch yn mynd, marciau adnabod a rhifau lot (moch sy’n dod o farchnad)
  • rhaid cofnodi uchafswm y moch sydd ar y daliad o leiaf unwaith bob blwyddyn
  • nodwch bob marwolaeth a sut rydych wedi cael gwared ar y carcas
  • rhaid bod y cofnodion hyn ar gael i archwilydd sy’n gofyn amdanynt eu gweld
  • cewch gadw’r cofnodion yn electronig

Dogfennau symud

  • rhowch wybod i’r gwasanaeth eAML2 (ar-lein neu swyddfa) cyn symud moch o’ch daliad. Dylech ddarparu’r holl wybodaeth y byddech wedi gorfod ei darparu cyn eu symud gan gynnwys marciau adnabod

Cadwch gopi o’r dogfennau symud a phrynu am o leiaf chwe mis.

Archwiliadau maes

Gofalwch fod:

  • y cofnodion ar gael ar gyfer eu harchwilio
  • sampl o’r moch yn gallu cael eu cyflwyno yn ddiogel ar gyfer archwiliad o’u tagiau adnabod
  • y dogfennau symud ar gael

Gwybodaeth pellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

  • Gwasanaeth Biwro eAML2 
  • Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion

neu gweler y daflen Trawsgydymffurfio: cysylltiadau defnyddiol (2024).