Canllawiau, Dogfennu
Trawsgydymffurfio: adnabod a chofrestru defaid a geifr (SMR 8) (2025)
Crynodeb o'r rheolau ar adnabod a chofrestru defaid a geifr.
Lawrlwytho'r ddogfen: Maint ffeil 96 KB, Math o ffeil PDF
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Amcan y gofynion hyn yw cynnal system ar gyfer adnabod a chofrestru defaid a geifr ar gyfer eu holrhain yn rhwydd, yn enwedig pe bai clefyd yn taro. Rhaid i bawb sy’n cadw defaid a geifr, hyd yn oed rhai anwes, gadw at y gofynion hyn.
Y prif ofynion
Cofrestru
Rhaid i bawb sy’n cadw defaid a geifr:
- gofrestru fel ceidwad gyda swyddfa’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a sicrhau bod ei fanylion yn gywir
- nad ydynt wedi symud i’r rheolau CPH newydd, ofalu bod gan barseli tir sydd fwy na 5 milltir o’r prif ddaliad rif CPH dros dro (tCPH). Dylid cadw cofnodion ar wahân ar gyfer y daliad hwn. Ar gyfer ceidwaid sydd wedi symud i’r rheolau CPH newydd, gallwch gynnwys parseli tir sydd o fewn 10 milltir o’r prif ddaliad o dan yr un CPH fel rhan o’r newidiadau a ddaeth yn sgil y Prosiect CPH
Cewch fwy o wybodaeth yn Rhifau adnabod daliadau (CPH) a symudiadau da byw.
Tagio
Rhaid adnabod pob dafad a gafr:
- â dyfeisiau adnabod sydd wedi’u cymeradwyo gan DEFRA, cyn pen 6 mis ar ôl eu geni os ydyn nhw o dan system ddwys a 9 mis os ydyn nhw o dan system ysgafnach neu cyn iddyn nhw adael y daliad geni, pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf
- rhaid tagio ŵyn yn electronig, naill ai â thag lladd electronig sengl â rhif UK y ddiadell yn unig arno (os yw’r oen yn mynd yn syth i ladd-dy cyn cyrraedd ei 12 mis oed) neu EID llawn (dwy ddyfais adnabod – 1 tag electronig â rhif UK y ddiadell a rhif unigol arno a thag anelectronig ag union yr un rhifau)
- ar gyfer defaid sy’n cael eu cadw ar ôl eu 12 mis oed i fagu neu i’w hallforio’n fyw, rhaid rhoi EID llawn (dwy ddyfais adnabod – 1 tag electronig â rhif UK y ddiadell a rhif unigol arno a thag anelectronig ag union yr un rhifau)
- os ydy’r ddyfais adnabod , gan gynnwys tag EID, yn cael ei cholli neu’n annarllenadwy, rhaid rhoi un arall yn ei lle o fewn 28 diwrnod ar ôl sylwi ar y golled neu cyn i’r anifail adael y daliad, pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf
- peidiwch â newid na difrodi tagiau adnabod sydd wedi’u cymeradwyo
- cewch dynnu tag lladd sengl er mwyn cael rhoi EID llawn yn ei le ar oen rydych wedi penderfynu ei gadw ar ôl ei 12fed mis (e.e. i ymuno â’r ddiadell fagu). Rhaid cofnodi ei holl symudiadau gyda thystiolaeth yng nghofnod y ddiadell er mwyn gallu ei olrhain yn llawn gan groesgyfeirio’r hen rif adnabod â’r rhif adnabod newydd
- os caiff tag gwreiddiol ei golli, cewch dynnu unrhyw dag sydd ar ôl a rhoi tagiau newydd yn eu lle
- rhaid cofnodi tagiau cyfnewid sydd â rhif adnabod gwahanol yng nghofnod y ddiadell
- rhaid rhoi tagiau cyfnewid coch ar ddefaid rydych yn eu haildagio os nad ydyn nhw ar eu daliad geni
Cadw cofnodion
- cadw cofnod fferm cyfoes ar gyfer pob daliad a’i ddangos pan ofynnir amdano
- rhaid cwblhau stocrestr flynyddol o ddefaid a geifr ar 1 Rhagfyr, a’i chyflwyno i EIDCymru erbyn 31 Rhagfyr. Cofnodwch yr wybodaeth ar gofnodion y fferm erbyn 1 Ionawr.
- rhaid cofnodi’r tagiau cyfnewid sy’n cael eu defnyddio, a’u croesgyfeirio â’r rhifau gwreiddiol os medrir
- rhaid cofnodi manylion symudiadau defaid a geifr i ac o’r daliad. Bydd hynny’n cynnwys:
- y dyddiad symud
- nifer yr anifeiliaid sy’n cael eu symud
- i ble mae’r anifeiliaid yn mynd neu o ble y daethon nhw
- enw’r cludwr a rhif y cerbyd
- manylion llawn yr anifail
- os ydy’r anifail wedi’i eni cyn 31 Rhagfyr 2009 a heb yr EID llawn ac yn symud yn syth i ladd-dy i’w ladd, cewch gofnodi nifer yr anifeiliaid yn unig
- y daliad geni (rhif y ddiadell), blwyddyn geni a dyddiad tagio’r anifail a’i rif adnabod
- mis a blwyddyn pan fu farw
- y brid a’i enoteip (os ydych yn ei wybod)
- dylai ceidwad nodi, o 1 Medi 2018, bydd gofyn i geidwaid sy’n symud anifeiliaid rhwng daliadau gwahanol gofnodi manylion adnabod llawn yr anifeiliaid, hyd yn oed os nad yw’r perchennog yn newid
- bydd gofyn cofnodi’r manylion adnabod ar y ddogfen symud ac ar gofrestr y daliad
Dogfennau symud
- rhaid i’r eiddo derbyn lenwi adran 3 a rhoi gwybod i’r gronfa ddata symudiadau ganolog (ar-lein neu drwy bostio dogfen symud) o fewn 3 niwrnod ar ôl y symudiad
- rhaid cadw copïau o’r dogfennau symud am o leiaf dair blynedd
Archwiliadau maes
- gofalwch fod yr holl ddefaid a geifr wedi’u tagio’n gywir, yn unol â Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2015
- i ofalu bod cofnodion y ddiadell yn ateb y gofynion lleiaf
- i ofalu bod nifer y defaid a’r geifr ar y daliad yn cyfateb i’r nifer yn y cofnodion a’r stocrestr ddiweddaraf
- i ofalu bod y Dogfennau Symud (AML1) yn cael eu llenwi
- i weld bod cyfleusterau diogel ar gyfer trin anifeiliaid a help yn ystod yr archwiliad yn cael eu darparu
Gwybodaeth pellach
Am wybodaeth bellach gweler: