Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Amcan y gofynion hyn yw cynnal system ar gyfer adnabod a chofrestru defaid a geifr ar gyfer eu holrhain yn rhwydd, yn enwedig pe bai clefyd yn taro. Rhaid i bawb sy’n cadw defaid a geifr, hyd yn oed rhai anwes, gadw at y gofynion hyn.

Y prif ofynion

Cofrestru

Rhaid i bawb sy’n cadw defaid a geifr:

  • gofrestru fel ceidwad gyda swyddfa’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a sicrhau bod ei fanylion yn gywir
  • nad ydynt wedi symud i’r rheolau CPH newydd, ofalu bod gan barseli tir sydd fwy na 5 milltir o’r prif ddaliad rif CPH dros dro (tCPH). Dylid cadw cofnodion ar wahân ar gyfer y daliad hwn. Ar gyfer ceidwaid sydd wedi symud i’r rheolau CPH newydd, gallwch gynnwys parseli tir sydd o fewn 10 milltir o’r prif ddaliad o dan yr un CPH fel rhan o’r newidiadau a ddaeth yn sgil y Prosiect CPH

Cewch fwy o wybodaeth yn Rhifau adnabod daliadau (CPH) a symudiadau da byw.

Tagio

Rhaid adnabod pob dafad a gafr:

  • â dyfeisiau adnabod sydd wedi’u cymeradwyo gan DEFRA, cyn pen 6 mis ar ôl eu geni os ydyn nhw o dan system ddwys a 9 mis os ydyn nhw o dan system ysgafnach neu cyn iddyn nhw adael y daliad geni, pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf
  • rhaid tagio ŵyn yn electronig, naill ai â thag lladd electronig sengl â rhif UK y ddiadell yn unig arno (os yw’r oen yn mynd yn syth i ladd-dy cyn cyrraedd ei 12 mis oed) neu EID llawn (dwy ddyfais adnabod – 1 tag electronig â rhif UK y ddiadell a rhif unigol arno a thag anelectronig ag union yr un rhifau)
  • ar gyfer defaid sy’n cael eu cadw ar ôl eu 12 mis oed i fagu neu i’w hallforio’n fyw, rhaid rhoi EID llawn (dwy ddyfais adnabod – 1 tag electronig â rhif UK y ddiadell a rhif unigol arno a thag anelectronig ag union yr un rhifau)
  • os ydy’r ddyfais adnabod , gan gynnwys tag EID, yn cael ei cholli neu’n annarllenadwy, rhaid rhoi un arall yn ei lle o fewn 28 diwrnod ar ôl sylwi ar y golled neu cyn i’r anifail adael y daliad, pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf
  • peidiwch â newid na difrodi tagiau adnabod sydd wedi’u cymeradwyo
  • cewch dynnu tag lladd sengl er mwyn cael rhoi EID llawn yn ei le ar oen rydych wedi penderfynu ei gadw ar ôl ei 12fed mis (e.e. i ymuno â’r ddiadell fagu). Rhaid cofnodi ei holl symudiadau gyda thystiolaeth yng nghofnod y ddiadell er mwyn gallu ei olrhain yn llawn gan groesgyfeirio’r hen rif adnabod â’r rhif adnabod newydd
  • os caiff tag gwreiddiol ei golli, cewch dynnu unrhyw dag sydd ar ôl a rhoi tagiau newydd yn eu lle
  • rhaid cofnodi tagiau cyfnewid sydd â rhif adnabod gwahanol yng nghofnod y ddiadell
  • rhaid rhoi tagiau cyfnewid coch ar ddefaid rydych yn eu haildagio os nad ydyn nhw ar eu daliad geni
  • rhaid rhoi trydydd tag ar anifeiliaid sy’n cael eu hallforio. Bydd angen rhoi’r rhagddodiad cod gwlad ‘GB’ a rhif adnabod yr anifail ar y tag allforio

Cadw cofnodion

  • cadw cofnod fferm cyfoes ar gyfer pob daliad a’i ddangos pan ofynnir amdano
  • rhaid cwblhau stocrestr flynyddol o 1 Rhagfyr, a’i dychwelyd i’r cyfeiriad a nodir ar ffurflen y stocrestr a chofnodi’r wybodaeth ar gofnod y fferm erbyn 1 Chwefror
  • rhaid cofnodi’r tagiau cyfnewid sy’n cael eu defnyddio, a’u croesgyfeirio â’r rhifau gwreiddiol os medrir
  • rhaid cofnodi manylion symudiadau defaid a geifr i ac o’r daliad. Bydd hynny’n cynnwys:
    • y dyddiad symud
    • nifer yr anifeiliaid sy’n cael eu symud
    • i ble mae’r anifeiliaid yn mynd neu o ble y daethon nhw
    • enw’r cludwr a rhif y cerbyd
    • manylion llawn yr anifail
    • os ydy’r anifail wedi’i eni cyn 31 Rhagfyr 2009 a heb yr EID llawn ac yn symud yn syth i ladd-dy i’w ladd, cewch gofnodi nifer yr anifeiliaid yn unig
    • y daliad geni (rhif y ddiadell), blwyddyn geni a dyddiad tagio’r anifail a’i rif adnabod
    • mis a blwyddyn pan fu farw
    • y brid a’i enoteip (os ydych yn ei wybod)
  • dylai ceidwad nodi, o 1 Medi 2018, bydd gofyn i geidwaid sy’n symud anifeiliaid rhwng daliadau gwahanol gofnodi manylion adnabod llawn yr anifeiliaid, hyd yn oed os nad yw’r perchennog yn newid
  • bydd gofyn cofnodi’r manylion adnabod ar y ddogfen symud ac ar gofrestr y daliad

Dogfennau symud

  • rhaid i’r eiddo derbyn lenwi adran 3 a rhoi gwybod i’r gronfa ddata symudiadau ganolog (ar-lein neu drwy bostio dogfen symud) o fewn 3 niwrnod ar ôl y symudiad
  • rhaid cadw copïau o’r dogfennau symud am o leiaf dair blynedd

Archwiliadau maes

  • gofalwch fod yr holl ddefaid a geifr wedi’u tagio’n gywir, yn unol â Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2015
  • i ofalu bod cofnodion y ddiadell yn ateb y gofynion lleiaf
  • i ofalu bod nifer y defaid a’r geifr ar y daliad yn cyfateb i’r nifer yn y cofnodion a’r stocrestr ddiweddaraf
  • i ofalu bod y Dogfennau Symud (AML1) yn cael eu llenwi
  • i weld bod cyfleusterau diogel ar gyfer trin anifeiliaid a help yn ystod yr archwiliad yn cael eu darparu

Gwybodaeth pellach