Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae pob aderyn gwyllt, ei wyau a’i nythod yn cael eu gwarchod dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd). Mae’n drosedd lladd, anafu neu ddal unrhyw aderyn gwyllt yn fwriadol; mae hyn yn cynnwys niweidio nythod, neu fod ag wyau neu adar gwyllt byw neu farw yn eich meddiant. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n rhoi Trwyddedau Cyffredinol a Thrwyddedau Penodol er mwyn cyflawni gweithgareddau penodol mewn perthynas ag adar gwyllt.

Mae’r SMR hwn yn effeithio’n fwy uniongyrchol ar ffermwyr sydd â thir mewn Ardal Gwarchodaeth Arbennig sy’n cynnig lloches i adar gwyllt.

Y prif ofynion

  • peidiwch â lladd, anafu na dal unrhyw aderyn gwyllt yn fwriadol neu’n ddi-hid (oni bai bod gennych drwydded gyffredinol neu drwydded benodol i wneud hynny, neu fod yr aderyn ar Atodlen 2 (adar y gellir eu lladd neu eu dal y tu allan i’r cyfnod gwaharddedig – y ‘Quarry List’ fel y’i gelwir)
  • peidiwch, yn fwriadol neu’n ddi-hid, â dinistrio nyth unrhyw aderyn gwyllt tra’i fod yn cael ei ddefnyddio neu wrth iddo gael ei adeiladu, oni bai’ch bod yn gwneud hynny dan drwydded gyffredinol neu drwydded benodol (nodwch y mesurau ychwanegol i warchod adar prin Atodlen 1 a ZA1)
  • peidiwch, yn fwriadol neu’n ddi-hid, â chaniatáu unrhyw aflonyddu ar aderyn Atodlen 1 tra’i fod yn adeiladu nyth neu tra bydd mewn nyth, ger nyth neu ar nyth sydd â wyau neu gywion ynddo (yn cynnwys amharu ar adar ifanc dibynnol)
  • peidiwch, yn fwriadol neu’n ddi-hid, â dinistrio nyth Eryr Euraid, Eryr Môr neu Walch y Pysgod (adran Atodlen ZA1) hyd yn oed os nad ydyn nhw’n defnyddio’r nyth
  • peidiwch â defnyddio dulliau graddfa fawr neu annethol o ddal neu ladd adar Atodlen 2, neu adar sydd ar drwydded gyffredinol. Mae’r dulliau hynny’n cynnwys maglau, trapiau, bachau, dyfeisiau parlysu trydanol, gwenwyn a bwâu croes
  • peidiwch â niweidio na dinistrio wyau unrhyw aderyn gwyllt yn fwriadol neu’n ddi-hid (oni bai’ch bod yn gwneud hynny o dan drwydded gyffredinol neu benodol)
  • ni ddylech fod ag unrhyw aderyn gwyllt, byw neu farw, neu ran ohono yn eich meddiant, gan gynnwys wyau (ac eithrio adar Atodlen 2 neu’r rhai sy’n dod o dan drwydded gyffredinol fel ag ddisgrifir uchod, y gellir eu dal o dan rai amgylchiadau
  • peidiwch â lladd na dal adar Atodlen 2 yn ystod y cyfnod gwaharddedig. Ni ddylid dal adar Atodlen 2 ar ddydd Sul mewn rhai siroedd yng Nghymru hyd yn oed y tu allan i’r cyfnod gwaharddedig. Ni ddylid lladd na dal ffesantod, petris, grugieir coch na grugieir du ar unrhyw ddydd Sul na dydd Nadolig

Ar gyfer tir sydd wedi’i ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) neu SoDdGA sydd dan gynnig neu Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA):

  • rhaid rhoi gwybod i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ymlaen llawn trwy lythyr am unrhyw gynnig i gynnal, peri neu ganiatáu gweithred benodedig sy’n debygol o niweidio’r budd gwyddonol mewn SoDdGA/ACA
  • rhaid cael caniatâd ysgrifenedig gan CNC cyn dechrau unrhyw weithred benodedig ar SoDdGA/ACA sydd wedi’i rhestru fel gweithred allai niweidio’r diddordeb arbennig. Er enghraifft: torri neu docio tyfiant, lladd gwair, llosgi, draenio, aredig neu drin y tir (e.e. llyfnu), gwasgaru gwrtaith neu galch, chwistrellu (gan gynnwys sbot-chwynnu), cwympo coed, codi pren marw a newid patrymau stocio a bwydo stoc. Os ceir caniatâd, rhaid cynnal pob gweithred yn unol â’r amodau a nodir yn y caniatâd a roddir
  • rhaid cydymffurfio ag unrhyw Rybudd neu Gytundeb Rheoli gan CNC sy’n ymwneud â nodweddion arbennig y SoDdGA/ACA
  • rhaid cydymffurfio ag amodau unrhyw Orchymyn Adfer gan Lys sy’n ymwneud â nodweddion arbennig y SoDdGA/ACA
  • fel perchennog, rhaid ichi roi gwybod i CNC os bydd y perchennog, neu’r denantiaeth neu’r les, yn newid, hynny o fewn 4 wythnos ar ôl i’r newid ddigwydd

Archwiliadau yn y maes

  • gofalu nad oes unrhyw waith adfer fel torri, plygu neu fondocio perthi yn cael ei wneud yn ystod y cyfnod gwaharddedig (gweler GAEC 7: Gwahardd torri/ tocio yn ystod tymor bridio a magu adar – rhwng 1 Mawrth a 31 Awst)
  • edrych a oes arwydd neu achos o wenwyno neu o ddulliau annethol o ddal/lladd adar
  • gofalu nad yw tir yn cael ei losgi pan allai fod nythod arno
  • cadarnhau os yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi trwyddedau i ganiatáu i weithgareddau penodol ddigwydd, er enghraifft atal clefydau rhag lledaenu neu atal niwed difrifol i dda byw

Arfer da

  • dylai hawlwyr â thir sydd wedi’i ddynodi fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a/neu dir sydd wedi’i ddynodi fel Ardal Cadwraeth Arbennig fod yn ymwybodol bod Gofyn Rheoli Statudol 3: Gwarchod Ffawna a Fflora hefyd yn berthnasol

Gwybodaeth pellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru

neu gweler y daflen Trawsgydymffurfio: cysylltiadau defnyddiol (2025) o fewn y pecyn hwn.

Trwyddedau penodol

Trwyddedau cyffredinol