Neidio i'r prif gynnwy

Rhaid i ffermwyr ddilyn y rheolau hyn os ydyn nhw'n gwneud cais am daliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol 2024.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym am gadw trwch y rheolau Trawsgydymffurfio fel ag yr oedden nhw yn 2023, ond rydym wedi diweddaru Taflenni Ffeithiau canlynol 2020 a'r adrannau perthnasol yn y Safonau Dilysadwy er mwyn nodi newidiadau yn y gofynion, yr arferion gorau ac i wella'r geiriad:

  • SMR 1: diogelu dŵr
    Taflen ffeithiau a Safonau Gwiriadwy wedi'u diweddaru i adlewyrchu'r gofynion sy'n berthnasol i bob tir o 1 Ionawr 2024 o dan Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Mae'r newidiadau'n cynnwys y gofyniad i beidio â bod yn fwy na 170kg o Nitrogen yr hectar o'r holl tail da byw ar draws yr holl ddaliad, oni bai eu bod yn ymgymryd â'r dull Rheoli Maetholion Uwch a chyflwyno hysbysiad i CNC erbyn 31 Mawrth 2024. 

    Bydd gofynion ychwanegol yn berthnasol i bob tir o 1 Awst 2024, fel rhan o'r cyfnod pontio y cytunwyd arno ar gyfer tir nad oedd gynt mewn Parth Perygl Nitradau (NVZ). 

    Sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â:
    • y gofynion
    • sut maent yn berthnasol i'ch busnes fferm

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021: canllawiau i ffermwyr a rheolwyr tir.

  • SMR 2: adar gwyllt 
    Taflen ffeithiau a Safonau Gwiriadwy wedi'u diweddaru i gynnwys gofynion sy'n berthnasol i dir sydd wedi'i ddynodi'n:
    • Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
    • SoDdGA arfaethedig
    • Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA)
       
  • SMR 3: cadwraeth ffawna a flora
    Taflen ffeithiau wedi'i diweddaru i gynnwys dolenni i ddeddfwriaeth berthnasol ac egluro gofynion. Safonau Gwiriadwy wedi'u diwygio i gyfeirio at SoDdGA ac maent yn cwmpasu Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop (anifeiliaid gwyllt)

  • SMR 4: cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid
    Taflen ffeithiau a Safonau Gwiriadwy wedi'u diweddaru i egluro gofynion sy'n berthnasol i gynhyrchwyr llaeth amrwd
     
  • SMR 10: cyfyngiadau ar ddefnyddio Cynhyrchion Diogelu Planhigion (PPP)
    Dolenni i ganllawiau perthnasol wedi'u diweddaru
     
  • SMR 11: safonau lles lloi
    Dolenni i ganllawiau perthnasol wedi'u diweddaru
     
  • SMR 12: safonau lles moch
    Dolenni i ganllawiau perthnasol wedi'u diweddaru
     
  • SMR 13: safonau lles ar gyfer anifeiliaid fferm
    Dolenni i ganllawiau perthnasol wedi'u diweddaru

Dogfennau