Neidio i'r prif gynnwy

Rhaid i ffermwyr ddilyn y rheolau hyn os ydyn nhw'n gwneud cais am daliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r rheolau Trawsgydymffurfio wedi'u diweddaru. Mae hyn yn dilyn cyflwyno Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 i fynd i'r afael â llygredd amaethyddol yng Nghymru. 

Cafodd Taflen Ffeithiau Gofynion Rheoli Statudol (SMR) 1 a rhannau perthnasol y Safonau Dilysu Trawsgydymffurfio eu newid i adlewyrchu’r gofynion newydd ar 1 Ebrill 2021. 

Gofalwch eich bod yn gyfarwydd â’r gofynion a sut y gallan nhw effeithio ar fusnes eich fferm.

Ceir rhagor o wybodaeth yng nghanllawiau’r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol sydd ar gael ar https://llyw.cymru/llygredd-fferm.

Mae'r rheoliadau’n gymwys i holl dir Cymru. Ceir cyfnodau pontio ar gyfer rhai gofynion, ar dir nad oedd yn rhan o Barth Perygl Nitradau (NVZ) o’r blaen. Bydd gofynion ychwanegol yn gymwys i holl dir Cymru o 1 Ionawr 2023 i 1 Awst 2024.

Rydym hefyd wedi diweddaru'r taflenni ffeithiau canlynol, ac adrannau perthnasol Safonau Dilysu Trawsgydymffurfio, eu diweddaru ar gyfer 2021. Mae'r rhain yn adlewyrchu newidiadau mewn gofynion, arfer da ac yn egluro geiriad. 

  • SMR 8: adnabod defaid a geifr. Rydym wedi diweddaru'r ddolen i Ganllaw i Geidwaid Defaid a Geifr 2018.    
  • SMR 10: cyfyngiadau ar ddefnyddio cynhyrchion diogelu planhigion (PPP). Mae’r diffiniad o PPP wedi cael ei egluro. Rydym wedi diweddaru'r adran Arfer Da. Mae hyn yn cynnwys cymwysterau, offer taenu ac amodau tywydd. Rydym wedi cynnwys dolenni ychwanegol i ganllawiau. Mae'r rhain yn ymwneud ag archwilio offer a chofnodion trin.   
  • SMR 11: safonau lles i amddiffyn lloi. Egluro’r gofynion mewn perthynas â  rhwymo, dimensiynau llociau lloi a bwydo lloi. Mae arferion da mewn perthynas â llaeth bwydo sy’n dod o wartheg wedi’u heintio â TB yn cael eu hegluro. 
  • SMR 12: safonau lles i amddiffyn moch: Mae’r gofynion mewn perthynas â thylciau, rhwymo  a thocio cynffonau yn cael eu hegluro.  
  • SMR 13: safonau lles i amddiffyn anifeiliaid a gedwir at ddibenion Ffermio. Mae’r safonau wedi cael eu diweddaru i gadarnhau arferion da.
  • GAEC 6: diogelu pridd a deunydd organig. Mae’r gofynion ar gyfer cynnal Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol yn cael eu hegluro i gynnwys prosiectau ailstrwythuro ar ddaliadau gwledig, gan gynnwys tir comin. 
  • GAEC 7: nodweddion y dirwedd. Mae’r gofyniad i amddiffyn pob pwll dŵr i’w atal rhag draenio neu rhag cael ei lenwi’n rhannol yn cael ei egluro. Mae’r Diffiniad o Nodweddion y Dirwedd yn cael ei ehangu i gynnwys Glaswelltir Parhaol Amgylcheddol Sensitif.

Dogfennau