Rhaid i ffermwyr ddilyn y rheolau hyn os ydyn nhw'n gwneud cais am daliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol 2015.
Yn ogystal â newidiadau mân fel aildrefnu, ailenwi ac ailgategoreiddio safonau GAEC a rhai Gofynion Rheoli Statudol, mae’r newidiadau’n cynnwys y canlynol:
- Gwaherddir defnyddio plaladdwyr ar gyfer rheoli planhigion goresgynnol estron o fewn 2 metr i gwrs dŵr heb ganiatâd Cyfoeth Naturiol Cymru.
- Ni fydd wyneb garw bellach yn cyfrif fel gorchudd pridd rhwng y cynhaeaf ac 1 Mawrth. Os na fydd modd hau cnwd gorchudd, rhaid wrth fesurau eraill i rwystro’r pridd rhag erydu.
- Ni fydd gofyn cadw Cofnod Asesu Pridd mwyach, er ei bod yn dal i fod yn arfer da i wneud.
Caiff y gofyn i beidio â thrin tir o fewn 1 metr i wal gerrig, clawdd cerrig a ffens lechi ei ddileu. Ond bydd y gofyn hwnnw’n para mewn cysylltiad â pherthi (gwrychoedd), cloddiau pridd a chyrsiau dŵr ar bob darn o dir, gan gynnwys caeau llai na 2 hectar o faint. - Bydd cosb bob tro y bydd prawf TB yn hwyr o ddiwrnod neu fwy.
- Caiff y gofynion o ran gwneud silwair, storio silwair a thrin slyri a geir yn Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010 eu hymgorffori yn y Gofynion Rheoli Statudol sy’n ymwneud â thir mewn Parth Perygl Nitradau.
- Mae gofynion SMR3, Slwtsh Carthion ac SMRs 13-15 Rheoli Clwy’r Traed a’r Genau; Rhai Clefydau Anifeiliaid a’r Tafod Glas yn cael eu tynnu o’r safonau Trawsgydymffurfio.
Mae'n bwysig eich bod yn eu darllen yn ofalus rhag ichi gael eich cosbi.