Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi wedi lansio'r estyniad diweddaraf i wasanaeth bws TrawsCymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

TrawsCymru yw rhwydwaith bws pellter maith Cymru sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac sy'n cynnwys nifer o lwybrau, a bydd y diweddaraf yn cysylltu Aberystwyth a Chaerfyrddin a Port Talbot cyn parhau i Gaerdydd.

Cyn diwedd y llynedd, cyhoeddodd Ken Skates gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol i'w galluogi i gyflwyno pecyn o welliannau i'r cysylltiadau bws a choets TrawsCymru sy'n cysylltu Aberystwyth a Chaerfyrddin, Abertawe a Chaerdydd.

Yn dilyn adborth gan deithwyr, mae'r gwasanaeth wedi cyflwyno coets fodern sydd â llawr uchel addas ar gyfer cadeiriau olwyn ar y gwasanaeth pellter hir dyddiol rhwng Aberystwyth a Chaerdydd, fydd yn cynnig taith fwy cyfforddus i deithwyr pellter hir, wedi'i ategu gan lwybr byrrach fydd yn cynnig amseroedd teithio cyflymach uniongyrchol o un lle i'r llall.

Bydd y gwasanaeth yn cynnig coets pellter hir mwy cyfforddus gyda seddau steil coets, toiled a WiFi am ddim.

Hefyd, bydd Tocyn Dydd TrawsCymru yn ddilys ar y gwasanaeth, fel y gall bobl ymweld â Chaerdydd am y diwrnod o Aberystwyth a dychwelyd am £10 (oedolion) a £7 (pobl ifanc). Hefyd, mae'r cerdyn teithio'n rhatach yng Nghymru yn ddilys ar gyfer y gwasanaeth hwn.

Bydd y gwasanaeth coets hwn hefyd yn galw yng Nghyfnewidfa Rheilffyrdd a Bysiau Port Talbot yng ngorsaf Parkway.

Bydd cyswllt bws T1S TrawsCymru hefyd yn cael ei gadw rhwng Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan, Caerfyrddin ac Abertawe gyda teithiau byr rhwng Caerfyrddin, Cross Hands ac Abertawe yn cael eu rhedeg drwy'r dydd (yn ystod yr wythnos a dydd Sadwrn)

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:

"Yn 2016, pan ddechreuodd y llwybr hwn, ein bwriad oedd nid yn unig parhau y gwasanaeth hollbwysig hwn, ond ei gryfhau.

"Rydym wedi gwrando ar deithwyr ac wedi cyflwyno coetsys ar y llwybr allweddol hwn, ac wedi llwyddo i leihau amseroedd teithio yn sylweddol. Yn ogystal â'r arhosiad ychwanegol ym Mhort Talbot, bydd y gwasanaeth hwn yn ychwanegu gwerth at gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus sydd eisoes yn hanfodol yn ôl ac ymlaen o gefn gwlad Cymru, gan roi mwy o ddewis i deithwyr ar y llwybr strategol allweddol hwn."

Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth T1C gan gynnwys amserlen, pan fydd ar gael, i'w weld ar www.trawscymru.info (dolen allanol).