Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae tîm polisi VAWDASV yn Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Rhaglen Ymchwil Fewnol (IRP) Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru i gynnal ymchwil er mwyn edrych ar y rhwystrau sy'n atal goroeswyr o grwpiau amrywiol a heb gynrychiolaeth ddigonol rhag cymryd rhan mewn prosiectau ymgysylltu. Nod yr ymchwil yw darganfod a deall y rhwystrau sy'n atal poblogaethau amrywiol rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu, a pha strategaethau y gellid eu rhoi ar waith i oresgyn y rhain.

Fel rhan o'r ymchwil, bydd yr IRP yn casglu gwybodaeth drwy grwpiau ffocws ar-lein, ac yn cynnig arolwg ar-lein i'r rhai sy’n methu neu sydd ddim yn dymuno mynychu grŵp ffocws. Ni fydd y grwpiau ffocws yn gymysg, felly dim ond pobl eraill sy'n uniaethu â'ch grŵp amrywiol chi fydd yno, ynghyd â’r ymchwilydd, a gweithiwr proffesiynol hefyd o bosibl sy'n gweithio gyda goroeswyr o'ch grŵp. Bydd y cwestiynau a ofynnir yn y grwpiau ffocws a’r arolwg yr un fath, gyda’r grwpiau ffocws yn caniatáu lle i ehangu a chwestiynau dilynol, a’r arolwg yn caniatáu i’r cyfranogwyr fod yn anhysbys.

Llywodraeth Cymru yw rheolydd y data ar gyfer y gwaith ymchwil. Bydd yr IRP yn dileu data personol cyn ysgrifennu'r adroddiad, ac ni fydd yn darparu data y gellir eu hadnabod yn bersonol i eraill yn Llywodraeth Cymru oni bai i chi ofyn i ni wneud hynny.

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hon yn gyfan gwbl wirfoddol. Er hynny, mae eich barn a'ch profiadau'n bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Mae fersiwn gryno o'r ddogfen hon hefyd ar gael ar yr un dudalen we y daethoch o hyd i'r hysbysiad preifatrwydd hwn.

Pa ddata personol a ddelir gennym, ac o ble yr ydym yn cael yr wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (UK GDPR) fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod.

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu dolen at ffurflen mynegi diddordeb i gymryd rhan mewn grŵp ffocws drwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru a thrwy sefydliadau eraill. Bydd dolen i’r arolwg sy'n ymdrin â'r un materion yn cael ei rhannu'n ddiweddarach.

Os ydych yn dymuno cymryd rhan mewn grŵp ffocws bydd angen i chi lenwi ffurflen mynegi diddordeb gyda'ch manylion cyswllt a'ch dewisiadau ar gyfer cymryd rhan fel y gall yr ymchwilydd gysylltu â chi i drafod y prosiect ac unrhyw bryderon diogelwch sydd gennych, ac yna anfon gwahoddiad atoch i'r grŵp ffocws. Bydd y ffurflen hefyd yn gofyn am y wybodaeth ganlynol:

  • Enw
  • Y grŵp(au) amrywiol yr ydych yn uniaethu â hwy
  • Manylion Cyswllt:
    • Cyfeiriad e-bost
    • Rhif ffôn
    • Cyfeiriad post

Bydd y trafodaethau yn ystod y grŵp ffocws ond yn ymwneud â'ch grŵp(au) amrywiol a'r rhwystrau/atebion ar gyfer cymryd rhan.

Er y bydd y tîm ymchwil yn gwybod eich enw, bydd gennych yr opsiwn i ddefnyddio ffugenw ar gyfer y grŵp ffocws, a byddwch hefyd yn cael diffodd eich camera fel na fydd neb yn gweld eich wyneb. Bydd hyn yn golygu na fydd yn hawdd i gyfranogwyr eraill y grŵp ffocws eich adnabod.

Rydym yn awyddus i recordio'r grwpiau ffocws am resymau gweithredol. Byddwn yn egluro hyn wrthych cyn i'r cyfweliad ddechrau, a bydd gennych gyfle i ddweud wrthym os nad ydych chi'n fodlon i'r drafodaeth gael ei recordio. Bydd y drafodaeth ond yn cael ei recordio os bydd pob aelod o'r grŵp yn fodlon i hyn ddigwydd. Os caiff grwpiau ffocws eu recordio, caiff data personol eu dileu wrth drawsgrifio. Bydd y deunydd sydd wedi ei recordio yn cael ei ddileu cyn gynted â bod y broses wedi ei chwblhau. Os na fydd trafodaethau'n cael eu recordio, ni chaiff data personol eu cynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig sy'n cael eu paratoi yn ystod neu yn dilyn y cyfweliadau.

Os penderfynoch gymryd rhan yn yr arolwg, ni fydd cwblhau'r arolwg yn golygu cofnodi eich cyfeiriad e-bost na'ch cyfeiriad IP. Er y bydd yr arolwg yn gofyn pa grŵp(iau) amrywiol rydych chi'n uniaethu â nhw, ynghyd â'ch barn ar rwystrau/atebion ar gyfer cymryd rhan, ni fydd yn gofyn am unrhyw wybodaeth a fydd yn golygu bod modd eich adnabod. Mae’r arolwg yn gwbl ddienw. Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth adnabyddadwy mewn unrhyw gwestiynau testun agored yna caiff hyn ei ddileu pan fyddwn yn lawrlwytho'r data.

Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data?

Ein tasg gyhoeddus, hynny yw arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru, yw'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r wybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn. Mae rhai o'r data y byddwn yn eu casglu yn cael eu galw'n ‘ddata categori arbennig’ (er enghraifft y grŵp(iau) amrywiol rydych chi’n uniaethu â nhw, fel cyfeiriadedd rhywiol ac ethnigrwydd), a'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw ei bod at ddibenion ystadegol neu ymchwil.  

Dewis yr unigolyn yn llwyr yw p'un a i gymryd rhan yn y gwaith ymchwil hwn ai peidio. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir gweithredu arni ynghylch ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r Llywodraeth. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn y prosiect hwn, er enghraifft, ar gyfer:

  • Cynnig ffyrdd gwahanol i Lywodraeth Cymru ymgysylltu â phoblogaethau amrywiol a phoblogaethau heb gynrychiolaeth ddigonol
  • Dylanwadu ar waith cynllunio ymchwil a gwerthuso yn dyfodol

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Bydd data personol a ddarperir i Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw ar weinydd diogel, ac ar gyfer y prosiect hwn mae ffolder wedi'i greu sydd â mynediad cyfyngedig i'r tîm ymchwil uniongyrchol yn unig. Bydd eich manylion cyswllt ac unrhyw ddata personol y byddwch yn dewis eu darparu yn cael eu storio yn y ffolder cyfyngedig hwn. Ni fydd ymchwilwyr yn darparu unrhyw wybodaeth bersonol wrth gyflwyno adroddiadau am ganfyddiadau i'r tîm polisi.

Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio rhaglen feddalwedd Smart Survey i gynnal arolygon. Rydym wedi sicrhau bod Smart Survey yn cydymffurfio â'r UK GDPR. Mae hefyd yn bodloni'n disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd (e.e. mae’r data yn cael eu prosesu o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd).

Bydd yr holl ddata a gesglir drwy'r gwaith ymchwil hwn yn cael ei gadw mewn fformat dienw. Ni fydd yn cynnwys eich manylion cyswllt, a bydd unrhyw wybodaeth mewn atebion penagored a allai arwain at adnabod person yn cael ei dileu. Bydd IRP yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys gwybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod unrhyw unigolyn sydd wedi cymryd rhan.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?

Bydd unrhyw ddata personol nad ydynt eisoes wedi eu dileu wrth brosesu’r data yn cael eu dileu gan y tîm ymchwil dri mis wedi i’r adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi. Mae hynny'n cynnwys eich manylion cyswllt.

Hawliau'r Unigolyn

O dan yr UK GDPR, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu fel rhan o'r ymchwil hon. Yn benodol, mae gennych yr hawl:

  • I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun
  • I ofyn inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • I wrthwynebu neu gyfyngu unrhyw brosesu (o dan amgylchiadau penodol)
  • I'ch data gael eu 'dileu' (o dan amgylchiadau penodol)
  • I gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Dyma fanylion cyswllt  Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 or 0303 123 1113.
Gwefan

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (UK GDPR), cysylltwch â enw e-bost Rhiannon Maniatt

Dyma'r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ
E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru

 

Crynodeb o'r hysbysiad preifatrwydd

Mae'r prosiect hwn yn ceisio darganfod beth yw'r rhwystrau i oroeswyr camdriniaeth o grwpiau amrywiol rhag ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, a sut y gellid eu goresgyn.

Bydd grwpiau ffocws ar-lein yn cael eu defnyddio i gasglu'r wybodaeth hon i wneud cais bydd angen i chi lenwi ffurflen mynegi diddordeb a rhoi eich manylion cyswllt. Yna gall yr ymchwilydd gysylltu â chi i drafod y prosiect a sicrhau eich bod yn deall sut y bydd pethau'n gweithio.

Ni fydd y grwpiau ffocws yn gymysg, felly dim ond pobl eraill sy'n uniaethu â'ch grŵp amrywiol chi fydd yn bresennol, ynghyd â’r ymchwilydd, a gweithiwr proffesiynol o bosibl sy'n gweithio gyda goroeswyr o'ch grŵp.

Os nad ydych yn medru neu’n dymuno cymryd rhan mewn grŵp ffocws yna gallwch roi eich barn drwy arolwg.

Pa ddata fydd gennym?

Os byddwch yn dymuno cymryd rhan mewn grŵp ffocws yna byddwn yn gofyn i chi roi'r data personol canlynol i ni fel y gallwn gysylltu â chi am y grwpiau ffocws:

  • Enw
  • Cyfeiriad e-bost
  • Cyfeiriad post neu
  • Rhif ffôn

Os byddwch yn cymryd rhan yn yr arolwg, ni fydd angen i chi roi eich enw nac unrhyw fanylion cyswllt.

Yn y grwpiau ffocws a'r arolwg, byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth ynghylch pa grŵp(iau) amrywiol rydych chi'n uniaethu â nhw, sy'n dod o dan 'data categori arbennig' yn y gyfraith.

Os dymunwch, gallwch ddefnyddio ffugenw ar gyfer y grŵp ffocws, a gallwch hefyd ddiffodd eich camera fel nad oes unrhyw un yn gweld eich wyneb.

Os bydd pawb yn y grŵp yn hapus, bydd y drafodaeth yn cael ei recordio fel y gallwn drawsgrifio yr hyn a ddwedwyd. Bydd y recordiad sain gwreiddiol wedyn yn cael ei ddileu. Bydd unrhyw fanylion y gellid eu defnyddio i'ch adnabod yn cael eu tynnu o'r trawsgrifiad.

Pam ydym yn casglu’r data hyn? (Sail gyfreithlon)

Rydym yn casglu'r data hwn fel y gallwn wneud ein gwaith yn Llywodraeth Cymru, ac rydym yn casglu eich hunaniaeth mewn grŵp amrywiol at ddibenion ymchwil.

Mae eich cyfranogiad yn gwbl wirfoddol ac os byddwch yn newid eich meddwl, cysylltwch â Rhiannon ar yr e-bost isod.

Drwy gynnal yr ymchwil hon, gobeithio y byddwn yn gallu dod o hyd i ffyrdd o gynnwys grwpiau amrywiol ym mhrosiectau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Bydd yr holl wybodaeth a gesglir yn cael ei chadw ar gyfrifiaduron diogel, gyda ffeiliau na ellir ond eu cyrchu gan yr ymchwilydd a'i thîm. Bydd eich enwau a'ch manylion cyswllt hefyd yn cael eu diogelu gan gyfrinair.

Bydd canfyddiadau'r prosiect yn cael eu cyhoeddi mewn adroddiad ar wefan Llywodraeth Cymru, ond ni fydd unrhyw un yn gallu eich adnabod chi na'r hyn a ddwedoch.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?

Bydd eich manylion yn cael eu dileu dri mis ar ôl i'r adroddiad ar gyfer y prosiect hwn gael ei gyhoeddi.

Eich hawliau

Mae gennych hawliau sy'n eich galluogi i ofyn am gael gweld pa wybodaeth sydd gennym amdanoch, cywiro unrhyw wallau a gwrthwynebu yr hyn rydym yn ei wneud.

Gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Dyma fanylion cyswllt  Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF.
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â e-bost Rhiannon Maniatt

Gweler y manylion ar gyfer cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ

E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru.