Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol rhwystrau rhag ymgysylltu: ymgysylltu â goroeswyr o grwpiau amrywiol (crynodeb)
Nod y gwaith ymchwil hwn oedd archwilio beth sy’n rhwystro goroeswyr camdriniaeth o boblogaethau amrywiol, a rhai o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol, rhag ymgysylltu â rhaglenni fel fforymau goroeswyr a chymryd rhan ynddynt.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Nodau a methodoleg yr ymchwil
Nod y gwaith ymchwil hwn oedd archwilio beth sy’n rhwystro goroeswyr camdriniaeth o boblogaethau amrywiol, a rhai o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol, rhag ymgysylltu â rhaglenni fel fforymau goroeswyr a chymryd rhan ynddynt. Roedd hefyd yn anelu at ganfod atebion ar gyfer pob un o'r rhwystrau a godwyd drwy ymgysylltu â goroeswyr amrywiol yn ogystal â chyda gwasanaethau proffesiynol.
Yn dilyn gweithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, creodd Llywodraeth Cymru Strategaeth Genedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2016-2021. Yn hwn, roedd Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau y byddai lleisiau goroeswyr yn llywio eu gwaith, ac y byddai fframwaith ymgysylltu cenedlaethol, cynaliadwy yn cael ei sefydlu. Er mwyn creu'r fframwaith hwn, cynhaliwyd cyfres o brosiectau ymchwil, y cyntaf i ganfod sut mae goroeswyr yn dymuno ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, a'r ail i werthuso cynllun peilot o ran sefydlu panel goroeswyr. Nod Cam Un y prosiect oedd clywed barn ynghylch gwaith ymgysylltu a rhwystrau, a’r hyn y mae angen ei wneud er mwyn ymgysylltu â goroeswyr sy’n ddynion, LHDTC+, anabl, o leiafrifoedd ethnig gan gynnwys Sipsiwn a Theithwyr Roma, neu oroeswyr sy’n hŷn (65+), neu’n iau (18 i 24).
Yna, yn ystod Cam Dau y prosiect, cynhaliwyd cynllun peilot yn 2019 o fforwm goroeswyr. Er bod y peilot yn llwyddiant, gyda 12 o oroeswyr yn bresennol i ddechrau, roedd yr aelodau'n grŵp cymharol unffurf o oroeswyr gwyn, heterorywiol, Prydeinig. Er mai naratif amlycaf trais a cham-drin yw cam-drin domestig a gyflawnir yn erbyn menywod gan ddynion, nid dyma'r unig brofiad, ac felly dylai fforwm goroeswyr adlewyrchu hyn.
O ystyried yr uchod, a chydnabod nad oedd y cynllun peilot gwreiddiol ar gyfer y fforwm goroeswyr yn gynhwysol o ran amrywiaeth, gwnaed argymhelliad yn adroddiad Cam Dau y dylai tîm polisi Trais a Cham-drin ystyried ymgysylltu ymhellach â sefydliadau rhanddeiliaid i ddeall y rhwystrau rhag ymgysylltu, yn benodol ar gyfer goroeswyr ymylol (sef rhai amrywiol a heb gynrychiolaeth ddigonol). Er y cynhaliwyd gwaith ymgysylltu yng Ngham Un, mae'r diffyg cynrychiolaeth ar ôl rhoi argymhellion ar waith yn awgrymu y gallai fod rhwystrau ychwanegol. Ers Cam Un, bu pandemig byd-eang hefyd, a allai fod wedi effeithio ar ddewisiadau a sgiliau ymgysylltu.
Felly, cyn creu'r Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, a dod i benderfyniadau terfynol ar sut y byddai fframwaith goroeswyr yn cael ei gynnal yn y dyfodol, nod yr adroddiad hwn oedd archwilio a deall y rhwystrau sy’n wynebu goroeswyr trais a cham-drin a sut y gellir eu goresgyn, cyn cyflwyno argymhellion ar gyfer unrhyw waith ymgysylltu â goroeswyr a wneir gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol.
Cyn i unrhyw ddata gael eu casglu, cynhaliwyd adolygiad o lenyddiaeth ar y rhwystrau a wynebir gan grwpiau amrywiol a rhai heb gynrychiolaeth ddigonol. Roedd hyn wedyn yn llywio methodoleg yr astudiaeth bresennol gyda goroeswyr amrywiol. Y bwriad yn wreiddiol oedd cynnal grwpiau ffocws gyda goroeswyr, wedi'u grwpio yn ôl nodweddion gwarchodedig, a fyddai hefyd yn cynnwys gweithwyr proffesiynol o sefydliadau cymorth perthnasol. Oherwydd heriau o ran recriwtio pobl i gymryd rhan, cynhaliwyd cyfweliadau lled-strwythuredig gyda phedwar o oroeswyr ochr yn ochr â saith cyfweliad gyda chynrychiolwyr o sefydliadau ar gyfer goroeswyr. Casglwyd yr holl ddata ansoddol ar-lein gan ddefnyddio Microsoft Teams. Er mwyn ehangu cyfranogiad, cynhaliwyd arolwg gan ddefnyddio platfform SmartSurvey i archwilio rhwystrau rhag cymryd rhan a sylwadau ar gyfansoddiad fforwm goroeswyr yn y dyfodol. Casglwyd gwybodaeth ddemograffig hefyd. Rhoddodd cyfanswm o 13 o gyfranogwyr wybodaeth am y rhwystrau a brofwyd a sut y gellir eu goresgyn.
Prif ganfyddiadau
Y casgliad cyntaf i'w nodi o'r canfyddiadau yw eu bod yn adleisio’r rhwystrau a wynebir gan oroeswyr amrywiol wrth geisio cael mynediad at wasanaethau cymorth ar ôl dioddef trais a cham-drin. Felly, gellir defnyddio atebion a gynigiwyd yn y prosiect hwn fel sail ar gyfer lleihau'r rhwystrau a wynebir wrth geisio mynediad at wasanaethau cymorth.
Tra gall mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd yn y canfyddiadau, yn benodol ynghylch ymddiriedaeth, mynd i'r afael ag ofn dial gan y gymuned, gwahanol strategaethau recriwtio, gwella hygyrchedd, a chydnabod pob math o gamdriniaeth a chynnig amrywiaeth o ddulliau i ymgysylltu, yn gwella amrywiaeth ymhlith y rhai sy’n cymryd rhan mewn grwpiau ymgysylltu, gall pob un o'r rhain hefyd fod o fudd i bob goroeswyr. Felly, gall cymryd camau i oresgyn y rhwystrau hyn wella'r gronfa gyffredinol o oroeswyr ar gyfer unrhyw brosiect ymgysylltu, yn hytrach na dim ond cynnwys yr 'un hen leisiau' fel y cyfeirir atynt yn y canfyddiadau.
Roedd y canlyniadau data sylfaenol yn cefnogi canfyddiadau’r adolygiad llenyddiaeth ynghylch drwgdybio ymchwilwyr ac unrhyw “awdurdod”, ac ofn gwahanol fathau o ddial. Nid oes gan oroeswyr amrywiol ffydd y bydd cymryd rhan yn newid dim, nid ydynt yn credu y caiff unrhyw sylwadau ac ati eu cymryd o ddifrif, neu maen nhw’n poeni y byddant yn goddef am gymryd rhan mewn prosiectau. Er mwyn unioni hyn, mae angen i ymchwilwyr / hwyluswyr gymryd camau i ennyn ymddiriedaeth cymunedau a chyfranogwyr, ac i ymgysylltu â phorthgeidwaid a darparu gwybodaeth amdanynt eu hunain a'r prosiect, fel y gall goroeswyr wneud penderfyniad cytbwys.
Codwyd dulliau safonol o recriwtio a samplu hefyd yn y llenyddiaeth a’r data sylfaenol, gan ffafrio recriwtio ehangach a mwy hyblyg er mwyn ymgysylltu â phoblogaethau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Dylai prosesau recriwtio ar gyfer cynlluniau ymgysylltu â goroeswyr ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, a dylent hefyd ddefnyddio grwpiau goroeswyr presennol a sefydliadau eraill sy’n ymddwyn fel porthgeidwaid i helpu i gael gwell amrywiaeth.
Esboniodd rhai a gymerodd ran yn yr astudiaeth hon hefyd sut mae diffyg gwybodaeth am amrywiaeth a mathau gwahanol o drais a cham-drin i'r naratif mwyaf arferol, yn rhwystrau rhag cymryd rhan, gan y gellir gwneud i’r bobl hynny deimlo'n 'llai teilwng' o gymharu â goroeswyr eraill, ac nad yw eu profiadau'n bwysig.
Cyfeirir at hygyrchedd fel rhwystr i grwpiau amrywiol. Dylai pob gwaith ymgysylltu gael ei gynllunio gyda hygyrchedd mewn golwg, yn ddelfrydol gan ymgynghori â phobl anabl, pobl hŷn a grwpiau lleiafrifoedd ethnig, i sicrhau bod unrhyw broblemau sy'n ymwneud â ffactorau corfforol, digidol ac iaith yn cael eu nodi.
Dywedodd goroeswyr nad oeddent am fod ar wahân i bobl ag ethnigrwydd a rhywioldeb gwahanol, a rhannodd goroeswyr amrywiol a gafodd eu cyfweld y ffaith eu bod yn hoffi bod ymhlith goroeswyr o gefndiroedd eraill fel y gallant ddysgu safbwyntiau gwahanol. Fodd bynnag, rhannodd y goroeswyr hyn brofiadau blaenorol o wahaniaethu a rhagfarn ar ran cydgyfranogwyr, sydd wedi bod yn rhwystr rhag iddynt ymgysylltu, a byddai angen ymdrin â hyn cyn i unrhyw grwpiau cymysg gychwyn. O ran a ddylid cynnal grwpiau cymysg o safbwynt rhyw a rhywedd, nododd y rhan fwyaf o wasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau 'gan ac ar gyfer' goroeswyr LHDTC+ a goroeswyr gwrywaidd, yr angen i wahanu, gan fod y naratif mwyaf arferol, sef dioddefwr benywaidd a chyflawnwr gwrywaidd, yn aml yn cael mwy o sylw na phrofiadau eraill.
Cydnabu goroeswyr a gwasanaethau bryder ynghylch cynnwys goroeswyr traws+ mewn grwpiau benywaidd a gwrywaidd, mewn rhai achosion wrth i oroeswyr benywaidd boeni y gallant fod yn gyflawnwyr, ond hefyd oherwydd yr ofn am les y goroeswyr traws+ rhag cael eu bwlio neu brofi voyeuriaeth. Felly, bydd cael rheol lem o ddau grŵp (un benywaidd ac un gwrywaidd) yn eithrio llawer o fewn y grŵp LHDTC+ amrywiol sy’n cael ei dan-gynrychioli. Er mwyn datrys hyn, gellir cynnig grwpiau ychwanegol i oroeswyr LDHTC+ os byddai'n well ganddynt, ond ni ddylai'r rhain fod yn orfodol ac ni ddylid eu gorfodi ar oroeswyr.
Argymhellion
Argymhellion allweddol
Dylai gwaith ymgysylltu gynnwys amrywiaeth o ddulliau gweithredu, gan gynnwys grwpiau corfforol, grwpiau /cyfweliadau rhithwir, a chronfa ar-lein o oroeswyr, y gellir darparu arolygon dienw iddynt ar gyfer sicrhau cyfranogiad ehangach.
Dylid darparu grwpiau (yn enwedig grwpiau corfforol) i fenywod a dynion ar wahân. Dylai unrhyw ddarpar gyfranogwyr sy'n datgelu hunaniaeth traws+ gael yr opsiwn o fod mewn grŵp traws+ penodedig (neu gael cynnig cymryd rhan mewn cyfweliadau). Dylai'r rhai sy'n LHD+ gael cynnig grŵp wedi'i neilltuo ar gyfer goroeswyr LHD+, os byddai'n well ganddynt.
Dylai hwyluswyr sesiynau ymgysylltu fod yn weithwyr proffesiynol sy'n nodi eu bod yn perthyn i grŵp/grwpiau amrywiol. Byddai hyn yn annog goroeswyr amrywiol a rhai heb gynrychiolaeth ddigonol i gymryd rhan a hefyd i fynegi barn yn y fforwm.
Dylid sicrhau bod hygyrchedd yn cael sylw ym mhob gwaith ymgysylltu, gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i: sicrhau bod unrhyw adeiladau a ddefnyddir yn hygyrch ac yn hawdd teithio iddynt; bod cyfarwyddiadau neu hyfforddiant clir yn cael eu darparu ar gyfer fforymau rhithwir; bod iaith glir a syml yn cael ei defnyddio ym mhob dogfen; a bod opsiynau wedi'u cynnwys er mwyn i'r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg allu cyfrannu. Hefyd, dylid gofyn i bawb a fydd yn cymryd rhan a oes ganddynt unrhyw anghenion o ran hygyrchedd wrth gysylltu â nhw am y tro cyntaf.
Rhagor o argymhellion
Yn hytrach na chreu fforwm goroeswyr cwbl newydd, dylid ymdrechu i ymgysylltu â grwpiau goroeswyr sy'n bod eisoes a all fwydo i fframwaith goroeswyr ehangach Llywodraeth Cymru.
Mae angen rhoi digon o amser i ymgysylltu â goroeswyr amrywiol a rhai heb gynrychiolaeth ddigonol cyn iddynt gytuno i gymryd rhan. Byddai dull ymgysylltu sy’n defnyddio aelodaeth dreigl yn helpu gyda hyn, gan y byddai hynny'n caniatáu'r amser i ennyn ymddiriedaeth cymunedau amrywiol ar gyfer pob cohort newydd o oroeswyr.
Er y bydd defnyddio gwahanol opsiynau o fudd i grwpiau amrywiol, dylid defnyddio grwpiau corfforol, wyneb yn wyneb ar gyfer prif sesiynau'r fforwm, yn enwedig lle mae pynciau'n sensitif, fel y gellir sicrhau diogelwch.
Mae angen esbonio manylion y gwaith ymgysylltu’n llawn a chlir i oroeswyr cyn cychwyn ymgysylltu, gan gynnwys canlyniadau ymarferol sy'n sensitif i amser; yr hyn a ddisgwylir gan y goroeswyr; unrhyw ôl-effeithiau posibl; a'r hyn a wneir gyda'r canlyniadau, er mwyn iddynt allu gwneud dewis clir a chytbwys ynghylch cymryd rhan.
Dylid darparu'r holl ddogfennau mewn amrywiaeth o fformatau yn Gymraeg a Saesneg, gan gynnwys rhai mewn iaith syml eglur ac mewn sain. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y rhai sy’n llai llythrennog yn gallu ymgysylltu.
Ar gyfer y gronfa ar-lein o oroeswyr, dylid darparu dogfennau mewn amrywiaeth o ieithoedd, sydd wedi'u prawfddarllen gan rai â gwybodaeth am y sector i sicrhau bod y cyd-destun yn gywir. Bydd hyn yn helpu'r rhai nad ydynt yn siarad Saesneg i roi mewnbwn drwy arolygon ar-lein.
Dylid cynnal grwpiau corfforol mewn adeiladau sydd â hygyrchedd da; gan gynnwys lifftiau a rampiau, toiledau i'r anabl, parcio digonol a lleoedd parcio i’r anabl, a chysylltiadau da â thrafnidiaeth gyhoeddus.
Lle defnyddir grwpiau neu gyfweliadau rhithwir, mae angen i hwyluswyr sicrhau bod gan gyfranogwyr fynediad at dechnoleg briodol, a hefyd eu bod wedi cael digon o hyfforddiant ar sut i ddefnyddio'r dechnoleg i allu cymryd rhan.
Manylion cyswllt
Awduron: Maniatt, R. a Coates, J.
Safbwyntiau’r ymchwilwyr sy’n cael eu mynegi yn yr adroddiad yma, ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli safbwyntiau Llywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
E-bost: rhyf.irp@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 42/2022
ISBN digidol 978-1-80364-210-9